Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

9.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

10.

Cofnodion: pdf eicon PDF 105 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2019 fel cofnod cywir yn amodol ar y diwygiad canlynol:

 

Cofnodi ymddiheuriadau'r Cynghorydd M Sykes.

11.

Trosglwyddo ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anabledd. (Llafar)

Cofnodion:

Darparodd Chris Francis, Prif Arweinydd Datblygu a Chomisiynu Busnes y diweddaraf ar lafar i'r pwyllgor.

 

Cynhaliwyd digwyddiad ymgynghori rhiant/disgybl ar 3 Gorffennaf 2019, lle'r oedd oddeutu 45 o bobl yn bresennol gyda chymysgedd o rieni/gofalwyr y mae eu plant eisoes wedi bod drwy'r broses drosglwyddo a phobl eraill y mae ganddynt blant llawer iau a oedd am wybod mwy am y broses. 

 

Dechreuodd y digwyddiad gyda chyflwyniad gan Swyddfa'r Comisiynydd Plant o'r enw 'Don't Hold Back.'

 

Yna bu'r grwpiau trafod yn trafod 3 phrif gwestiwn:

 

1.              Beth yw'r hyn y gallwn ni ei ddysgu o'ch profiadau, beth yw'r hyn sy'n gweithio'n dda a'r hyn nad yw'n gweithio'n dda?

2.              Beth yw eich dyheadau ar gyfer y dyfodol?

3.              Sut gallwn ni gyflawni'r dyheadau hynny?

 

Wrth adolygu'r adborth cychwynnol, roedd yn amlwg bod y rheini a ymatebodd yn teimlo eu bod wedi gwrando ar eu barn ac wedi rhoi cyfle iddynt ddarparu adborth. Yn ogystal, clywsant gan bobl nad oeddent wedi clywed ganddynt o'r blaen.  Byddai'r adborth yn cael ei adolygu'n llawn a bydd adroddiad yn cael ei ddrafftio i'w gylchredeg i gynghorwyr erbyn diwedd y mis.

 

Yn ogystal, cynhaliwyd dwy sesiwn ymgynghori ychwanegol arall; un yn ysgol Pen y Bryn ac un yn y 'Grŵp Cymysg'.

 

Fel rhan o'r broses derbyniwyd cais gan y Grŵp Arweinyddiaeth Rhiant/Plentyn i arafu cynnydd y darn hwn o waith fel y gallent fod yn rhan annatod o'r broses gynllunio. O ganlyniad, trefnwyd digwyddiad cynllunio ar gyfer hwyrach y mis hwn lle gallai'r rheini/gofalwyr sydd â diddordeb ddod i gymryd rhan mewn sesiynau/gweithgareddau ychwanegol.

 

Yn ogystal, esboniodd y Prif Arweinydd Datblygu a Chomisiynu Busnes fod y Fforwm Rheini/Gofalwyr yn dal i fod yn ei gyfnod cychwynnol ac ni fyddai'n swyddogol tan ddiwedd mis Medi eleni. Ar hyn o bryd nid oes cohort llawn o aelodau i ymgysylltu â hwy, felly roedd hyn yn ffactor ychwanegol i'r awdurdod ei ystyried. Awgrymwyd amserlen fwy realistig ar gyfer y protocol drafft o fis Ionawr.

 

Cadarnhaodd hefyd y byddent yn ymgynghori â chynifer o bobl ifanc/blant â phosib, gyda 5/6 ysgol wedi'u nodi yn barod.  Mae llawer o'r gwaith sydd ar waith yn yr Adran Addysg ar hyn o bryd o ganlyniad i ddeddfwriaeth newydd sy'n cael ei chyflwyno yn 2020, a fyddai'n achosi goblygiadau sylweddol i'r cyngor a'r grŵp penodol hwn sydd o oedran trosglwyddo. Byddai angen rhoi cynlluniau datblygu ar waith ar gyfer pobl ifanc hyd at 25 oed.   

 

Os yw'r pwyllgor yn cytuno â'r estyniad awgrymedig, byddai'r cynllun ymgynghori'n dod i ben erbyn diwedd mis Hydref. Y bwriad fyddai creu grŵp ffocws er mwyn cydgynhyrchu'r protocol newydd.  Byddai digwyddiadau eraill hefyd yn cael eu cynnal rhwng nawr a diwedd mis Ionawr 2020, mewn pryd ar gyfer y ddogfen bolisi newydd.  Byddai hefyd angen cynnal arolwg ar-lein i gyrraedd y teuluoedd hynny sydd heb ddweud eu barn eto.

 

Unwaith y bydd y ddogfen bolisi wedi'i drafftio, yr ail gam fydd ei rhoi ar waith, dan arweiniad cynllun rhoi ar waith.

 

Roedd y Cadeirydd yn cydnabod y sail resymegol dros y cais am arafu'r broses gan fod y protocol diwethaf wedi'i lunio gan swyddogion o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth berthnasol, heb fewnbwn y defnyddwyr gwasanaeth.  Fodd bynnag, roedd angen i'r darn hwn o waith gael ei gwblhau gan yr awdurdod a gwerthfawrogwyd ei fewnbwn.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Gwahodd swyddog o'r Grŵp Arweinyddiaeth Rhiant/Plentyn i fod yn bresennol yn y cyfarfod ar 18 Medi 2019 i amlinellu rôl y grŵp ac i ddarparu mwy o wybodaeth i'r pwyllgor;

2)              Gwahodd y pwyllgor i'r digwyddiad lansio ym mis Medi.

12.

Ymagwedd Strategol at fodelau comisiynu. (Cyflwyniad)

Cofnodion:

Rhoddodd Simon Jones, Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol, gyflwyniad a oedd yn amlinellu’r canlynol:

 

Roedd yn rhaid i Gyngor Abertawe fodloni gofynion statudol newydd o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

Gweithredu gwelliannau cynaliadwy i gyflawni amcanion lles pobl Abertawe o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;

                 i greu darpariaeth ôl-16 drwy wasanaethau dan arweiniad defnyddwyr a mwy o ddefnydd o fodelau busnes cymdeithasol newydd (Pt2, a16)

                 Roedd hefyd yn gofyn bod awdurdodau lleol yn cynnwys pobl wrth ddylunio a chynllunio gwasanaethau.

 

Yn ogystal, roedd yn gysylltiedig ag Ymrwymiad Polisi Rhif 104 Cyngor Abertawe -

Ymyrryd yn y farchnad darparwyr gofal cymdeithasol ac archwilio sut y gallai ehangu darpariaeth gwasanaethau a gynhelir gan y cyngor. Yn benodol byddwn yn gweithio gyda’r sectorau gofal cymdeithasol a phreswyl i sicrhau, lle mai darpariaeth yw'r dewis olaf, fod yna amrywiaeth o gyflenwyr, gan gynnwys darparwyr nid er elw, ar y cyd a menter gymdeithasol.

 

Meini Prawf Llwyddiant (Olrhain i fis Ebrill 2019)

Ø    Mabwysiadu Strategaethau Comisiynu mewn perthynas â grwpiau o gleientiaid sydd wedi nodi anghenion y boblogaeth a'r ddarpariaeth gwasanaethau sydd ei hangen.

Ø    Adolygiadau gwasanaeth a datblygu'r farchnad yn gysylltiedig â'r Strategaethau Comisiynu hynny

 

Byddai'r gwaith a wneir gan PDP Pobl yn cynnwys edrych ar:

                 Gyfleoedd ar gyfer modelau cyflawni gofal a chefnogaeth newydd

                 Adnoddau arbenigedd/cefnogi sydd ar gael

                 Comisiynu strategol - model cyfredol

                 Newidiadau y mae eu hangen i ymagwedd Abertawe

 

Amlinellodd y gwahanol ddiffiniadau a darparodd gysylltiadau ag adroddiadau/arweiniad lle y bo'n briodol:

 

1.        Micro-fentrau

            Adroddiad - Micro- fentrau: Small enough to care? Gan Brifysgol Brimingham

            https://www.birmingham.ac.uk/research/activity/micro-enterprises/

2.        Community Catalysts

            https://www.communitycatalysts.co.uk/

3.        Cydweithfeydd

            https://socialcare.wales/cms_assets/hub-downloads/Co-            operatives_delivering_social_care_and_support.pdf

4.        Canolfan Cydweithredol Cymru

            https://wales.coop/co-operatives-for-care/

5.        Eraill:

Fforwm Gwerth Cymdeithasol

Taliadau Uniongyrchol a rennir

Menter Gymdeithasol

 

Roedd rhai o’r heriau allweddol o ran gofal cymdeithasol yn cynnwys:

                 Cyflawni canlyniadau lles ar gyfer dinasyddion

                 Diogelu ein pobl fwyaf diamddiffyn

                 Cynyddu galw ar gyfer gofal cartref

                 Cyfleoedd cyfyngedig o ofal/adnoddau ar gael

                 Oedi wrth drosglwyddo gofal

                 Defnydd o daliadau uniongyrchol

                 Technolegau newydd - cynnig ffyrdd newydd o wneud pethau

 

Rhai buddion posib o ran cyflwyno gofal iechyd a gofal cymdeithasol drwy fodelau newydd:

Ø    Arloesedd wrth gyflwyno gwasanaethau: Beth? Pam? Pwy?

Ø    Mwy o ddewis

Ø    Cost-effeithlonrwydd gwell;

Ø    Perchnogaeth staff well;

Ø    Llai o drosiant staff;

Ø    Llai o fiwrocratiaeth;

Ø    Mwy o ailfuddsoddi o ran elw;

Ø    Arallgyfeirio ffrydiau incwm y tu hwnt i'r sector cyhoeddus; a

Ø    Mwy o weithio mewn partneriaeth.

 

Enghreifftiau ymarferol:

1.              Solva Care yn Sir Benfro

https://www.solvacare.co.uk/

2.        Prosiect 'Somerset Micro-enterprise'

            https://www.somerset.gov.uk/social-care-and-health/somerset-micro-enterprise-project/

 

Cydgynhyrchu:

"Mae angen i fodelau comisiynu newydd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol gydnabod cyfraniad ac adnoddau sylweddol unigolion a chymunedau nad ydynt yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd, gan eu cefnogi i gymryd rhan weithgar yn y gwasanaethau a thu hwnt i wella canlyniadau iechyd a llesiant, a chefnogi newid cynaliadwy.” 

(New Economics Foundation, Deall y Ddeddf, Gofal Cymdeithasol Cymru)

Mae cydgynhyrchu'n elfen allweddol o ymagwedd Abertawe at Gomisiynu Strategol.

 

Ardal Ffocws:

Achos 'pen' - yr wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer gwneud penderfyniadau yn y dyfodol/buddsoddiad/buddion

Achos 'y galon' - straeon bywyd go iawn am lwyddiant, enghreifftiau ac atebion

Achos 'dwylo' - adeiladu ar allu/partneriaethau y mae eu hangen er mwyn gwneud newidiadau

https://www.health.org.uk/sites/default/files/HeadHandsAndHeartAssetBasedApproachesInHealthCare.pdf

 

Efallai bydd y pwyllgor am ganolbwyntio ar un neu fwy o'r agweddau hyn ac am gynnwys rhanddeiliaid eraill:

Ø    Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe

Ø    Ein tîm masnachol

 

Byddai'r pwyllgor yn ystyried y canlynol fel cwmpas y gwaith dros y chwe mis nesaf:

Ø    Ymagwedd y cyngor at gomisiynu strategol (mis Medi 2019);

Ø    Modelau newydd o ofal a chefnogaeth - cyfleoedd i wneud pethau'n wahanol (mis Hydref/Tachwedd 2019);

Ø    Newidiadau angenrheidiol i ymagwedd gomisiynu Abertawe er mwyn gweithredu modelau newydd (mis Rhagfyr 2019);

Ø    Polisi - datganiad o egwyddorion (erbyn mis Ionawr/Chwefror 2020).

 

Swyddogion y cyngor a fyddai'n arwain y darn hwn o waith yw Jane Whitmore, Rheolwr Partneriaeth a Chomisiynu a Peter Field, Prif Swyddog Atal, Lles a Chomisiynu.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol am ei gyflwyniad llawn gwybodaeth. 

 

Trafododd y pwyllgor sut byddai’n parhau â'r eitem, o ystyried cymhlethdod y pwnc gan gofio nad oes llawer o ymchwil wedi'i gwneud hyd yn hyn a byddent yn 'dechrau o'r newydd'. 

 

Roedd y trafodaethau'n cynnwys:

Ø    Llais y dinasyddion;

Ø    Ystyried dechrau cynllun peilot;

Ø    Ystyried edrych ar unigrwydd/arwahanrwydd yn y boblogaeth hŷn drwy ganolbwyntio ar les;

Ø    Beth yw'r gwasanaeth a gyflwynir ar hyn o bryd? A oedd unrhyw fylchau?  Yr hyn y gellid ei wella?;

Ø    Mwy o alw ar amser swyddogion;

Ø    Ymgysylltu â'r trydydd sector;

Ø    Problem o ran cael gofalwyr yn ward y Castell;

Ø    Efallai bydd angen mwy o weithdai yn ychwanegol at y pwyllgorau misol.

 

Penderfynwyd:   

 

1)              Y pwyllgor i ystyried canolbwyntio ar arwahanrwydd/unigrwydd yn yr henoed;

2)              Y pwyllgor i dderbyn cyflwyniad ar ymagwedd y cyngor at gomisiynu strategol yn ei gyfarfod nesaf ar 18 Medi 2019.

13.

Cynllun Gwaith 2019-2020.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2018-2019.

 

Penderfynwyd diwygio'r Cynllun Gwaith canlynol o ganlyniad i'r trafodaethau a gafwyd yng Nghofnod Rhif 11 a 12:

 

1)              Gwahodd swyddog o'r Grŵp Arweinyddiaeth Rhiant/Plentyn i fod yn bresennol yn y cyfarfod ar 18 Medi 2019 i amlinellu rôl y grŵp ac i ddarparu mwy o wybodaeth i'r pwyllgor (Trawsnewidiad);

2)              Y pwyllgor i dderbyn cyflwyniad ar ymagwedd y cyngor at gomisiynu strategol yn ei gyfarfod nesaf ar 18 Medi 2019.