Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

21.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

22.

Cofnodion: pdf eicon PDF 105 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 19 Medi 2018 fel cofnod cywir.

23.

Trosglwyddo - Sut mae trosglwyddo'n gweithio ar hyn o bryd ar draws y System Iechyd, Gofal Cymdeithasol ac Addysg, gan ganolbwyntio'n arbennig ar brofiad y dinesydd. (Cyflwyniad)

Cofnodion:

Darparwyd cyflwyniad ar drosglwyddo gan y Prif Arweinydd Datblygu a Chomisiynu Busnes ynghyd â Rheolwr Prosiect y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd - Sut mae trosglwyddo’n gweithio ar hyn o bryd ar draws y system iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg, gan ganolbwyntio'n arbennig ar brofiad y dinesydd.

 

 

Amlinellodd y gwahanol fathau o drosglwyddo:

 

                  Pobl sy’n gadael gofal a phobl ifanc ddiamddiffyn eraill;

                  Pobl ifanc sy’n symud o’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd i’r Gwasanaethau i Oedolion a'r broses ar gyfer symud o un i'r llall;

                  O addysg orfodol;

 

Esboniwyd yr ysgogwyr deddfwriaethol a pholisi diweddaraf a'r awgrym i'r PDP (Pwyllgor Datblygu Polisi) ganolbwyntio ar Anableddau Dysgu o ganlyniad i‘r canlynol:

 

                  Byddai'r ysgogwyr deddfwriaethol a pholisi diweddaraf yn newid ein cyfrifoldebau i'r grŵp hwn.

                  Nid yw ein trefniadau presennol wedi cael eu hadolygu'n systematig ers amser hir, e.e. mae'r protocol trosglwyddo rhwng y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaethau i Oedolion yn ddyddiedig 2011.

                  Nid oes fforwm amlasiantaeth penodol ar gyfer trafod anabledd plant a materion trosglwyddo. Yn ddiweddar, mae swyddogion wedi bod yn ystyried ffurfio grŵp strategol newydd (y Grŵp Cynnig Lleol) a byddai'n werthfawr rhoi mandad a phwrpas clir iddo o'r PDP.

                  Mae pecynnau gofal i gefnogi unigolion ag anabledd dysgu fel arfer ymysg y rhai drutaf. Mae hyn yn wir ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, Addysg a’r Gwasanaethau i Oedolion.

 

Eglurodd yr hyn yr ydym eisoes yn ei wybod am farn pobl ifanc a theuluoedd sydd yn y sefyllfaoedd hyn gan ddarparu manylion am ganfyddiadau'r Comisiynydd Plant yn ei hadroddiad ar drosglwyddo, "Peidiwch â dal yn ôl", ynghylch:

 

                  Canfyddiadau’r Comisiynydd ar arwahanrwydd cymdeithasol;

                  Canfyddiadau’r Comisiynydd ar lais y person ifanc;

                  Canfyddiadau'r Comisiynydd ar farn rhieni;

                  Canfyddiadau'r Comisiynydd ar farn pobl ifanc;

                  Canfyddiadau'r Comisiynydd ar yr hyn y mae rhieni ei eisiau.

 

Trafododd y pwyllgor:

 

                  Beth dylai cwmpas ei waith fod?

                  Pa garfan o bobl ifanc ddylem ni ganolbwyntio arni?

                  Pa gynnyrch gorffenedig a chanlyniadau yr hoffem eu gweld?

 

Roedd sylwadau'r pwyllgor yn cynnwys:

 

                  Y rhwystrau i'r newidiadau y mae angen eu gweithredu;

                  Cyfle delfrydol i'r pwyllgor gymryd rhan wrth helpu i lunio'r protocol diwygiedig;

                  Fel rhan o'r adolygiad, gallem hefyd ystyried darparu hyfforddiant, pwysleisio'r broses ar gyfer y rhai sy'n cyrraedd 18 oed, ac yna ar ôl 18 oed, ystyried ehangu'r cyfleuster Eiriolaeth Annibynnol ar gyfer pob person ifanc oni bai ei fod yn datgan yn benodol nad yw am gael un ac adolygu'r broses bob blwyddyn.

                  Eglurhad bod adroddiad y Comisiynydd Plant yn adroddiad Cymru gyfan ac nid oedd yn hysbys pa % o'r sylwadau a dderbyniwyd oedd yn ymwneud ag Abertawe;

                  Mae'r Gwasanaethau Plant yn cwrdd â’r Gwasanaethau i Oedolion ond efallai y byddant am ystyried gwahodd cydweithwyr o Iechyd, CAMHS, Addysg, ac ati. Fodd bynnag, ni all timau Iechyd Meddwl Oedolion yn y Bwrdd Iechyd gymryd rhan yn y camau cynllunio nes bod plentyn yn 17 oed a 9 mis (yn sgîl arweiniad), a all fod yn broblem i'n Gwasanaethau i Oedolion pan fyddant yn ceisio cynllunio ar gyfer dyfodol person ifanc. Mae trafodaeth wedi dechrau er mwyn ceisio cynorthwyo gyda'r mater hwn;

                  Cynhaliwyd ymgynghoriad helaeth â rhieni/gofalwyr a phlant/pobl ifanc y llynedd ond nid oedd yn benodol i "drosglwyddo";

                  Mae barn y plant/bobl ifanc yn wahanol i farn rhieni/gofalwyr - mae ganddynt flaenoriaethau gwahanol;

                  Felly, mae'n bwysig cael barn y rhieni a'r plant/bobl ifanc am yr hyn y mae ei angen arnynt yn y broses benodol hon a dylid ei adlewyrchu mewn unrhyw brotocol diwygiedig;

                  Bu rhai trafodaethau cychwynnol yn y Grŵp Gofalwyr sy’n Rhieni ac roedd y sylwadau'n adleisio'r rhai a amlinellwyd yn adroddiad y Comisiynydd Plant. Yn ogystal, roedd y grŵp am fod yn rhan o'r broses asesu a chynllunio;

                  Gall rhai plant a phobl ifanc ddiamddiffyn gael eu hynysu mewn cymdeithas;

                  Mae rhai rhieni/gofalwyr yn poeni am yr hyn a fydd yn digwydd "ar ôl fy amser i";

                  A ai ydym mewn sefyllfa i gynnwys y rhai hynny â materion trawsryweddol? Nid oes llawer o gefnogaeth ar hyn o bryd;

                  A ellid elwa o ddysgu/arfer da awdurdodau lleol eraill.

 

Penderfynwyd:

 

1.               Y bydd Cadeirydd yn cwrdd â'r Prif Arweinydd Datblygu a Chomisiynu Busnes a Rheolwr Prosiect y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd i ystyried cwmpas y gwaith ymhellach;

2.               Y gallai'r garfan o bobl ifanc ganolbwyntio ar bobl ifanc o ganol eu harddegau i ganol eu hugeiniau;

3.               Y gallai'r cynnyrch gorffenedig a’r canlyniadau gynnwys:

a.               Ymgymryd ag ymgynghoriad o "safbwynt Abertawe" â phlant/pobl ifanc a rhiant/gofalwyr yn unigol a chyda'i gilydd - felly rydym yn canolbwyntio ar agwedd "Profiad y Dinesydd";

b.               Adolygu'r Protocol Trosglwyddo Plant a Phobl Ifanc sydd ag Anableddau Dysgu a’r Cylch Gorchwyl rhwng y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaethau i Oedolion;

c.               Gwahodd cynrychiolydd o'r Bwrdd Iechyd i fod yn rhan o’r grŵp amlasiantaeth.

24.

Cynllun Gwaith 2018-2019. pdf eicon PDF 93 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2018-2019.

 

Penderfynwyd nodi’r Cynllun Gwaith ar gyfer 2018-2019.