Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad
a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) - Deall Goblygiadau ACE i Ddinasyddion. PDF 874 KB Cofnodion: Cyflwynodd Simon
Jones, Swyddog Gwella Perfformiad a Strategaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol,
gyflwyniad PowerPoint er mwyn deall goblygiadau am brofiad niweidiol yn ystod
plentyndod i ddinasyddion. Roedd y cyflwyniad yn amlygu cefndir o’r hyn a ystyrir yn brofiad niweidiol
yn ystod plentyndod a rhoi diffiniad ohono. Manylodd ar nifer yr oedolion yng
Nghymru sydd wedi dioddef o bob math o brofiad niweidiol yn ystod plentyndod,
nifer y dinasyddion yr effeithir arnynt, y risg i ddinasyddion, ei effaith ar
les dinasyddion a sut gallem ystyried ymdrin â hwn ar gyfer ein dinasyddion
mewn modd gwahanol drwy: Ø
Ffyrdd
eraill o edrych ar fynediad at wasanaethau/anghenion/llwybrau/rolau cefnogi; Ø
Cefnogi meddylfryd system gyfan o ran gwasanaethau
cyhoeddus - yn bresennol, comisiynir gwasanaethau i ymdrin â phroblem unigol
e.e. cefnogi tenantiaid, atgyfeirio disgyblion,
cefnogi teuluoedd; Ø
Y
cyfle i rwydweithio gyda sefydliadau yn Abertawe sy'n ymwybodol o brofiadau
niweidiol yn ystod plentyndod. Ø
Y
cyfle i nodi mannau diogel; Ø
Hyrwyddo
'caredigrwydd'/ymwybyddiaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar bob
drws blaen/pwynt mynediad sy'n wynebu’r cyhoedd; Ø
Gall
trafod profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, wneud gwahaniaeth i
ddinasyddion ynddo’i hun. Sefydlwyd hwb cefnogi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn 2017 gan
Cymru Well Wales er mwyn mynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod
plentyndod a'u heffaith yng Nghymru drwy ymagwedd system gyfan a gyrru
cyflawni’r weledigaeth ar y cyd ar gyfer Cymru, sef i fod yn arweinydd byd mewn
atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Roedd y
trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol: - ·
Cydnabod
bod y Llywodraeth bellach yn amlygu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod; ·
Hyfforddiant
iechyd a diogelwch i athrawon ar sut i ymdrin â phlant sydd â materion iechyd
meddwl; ·
Yr
angen i nodi a mesur y ffactorau er mwyn ceisio 'torri'r gylchred'; ·
Gellid hefyd ystyried bwlio mewn ysgolion yn brofiad
niweidiol yn ystod plentyndod - mae angen cysondeb mewn ysgolion ar sut i nodi
achosion ac ymdrin â nhw; ·
Camau
amrywiol i'w hystyried: o
Cyn
genedigaeth; o
Y
1000 o ddiwrnodau cyntaf; o
Pontio
i ysgol uwchradd o
Trosglwyddo
i oedolaeth ·
Mae hyn wedi bod yn mynd rhagddo am nifer o flynyddoedd,
nid yw'n cysyniad newydd. ·
Mae
angen gweithio mewn partneriaeth gyda'r Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd etc; ·
Ystyried
canolbwyntio ar rieni a ddaw'n rhieni am y tro cyntaf - er mwyn ceisio torri'r
gylchred; ·
Mae
gwaith eisoes ar waith drwy wasanaethau Dechrau'n Deg, Amddiffyn Plant, Tîm am
y Teulu; ·
Ystyried
cael 'Datganiad o Ddiben', megis datganiad caredigrwydd er mwyn ei wreiddio yn
ein diwylliant; ·
Efallai gellid cynnwys 'ychwanegiad' at y strategaeth
diogelu/yr hyfforddiant sy'n orfodol i'r holl staff - cyfrifoldeb pawb yw
cynnwys gwybodaeth am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod; ·
Ailadroddwyd
mai gwasanaethau mamolaeth ac ymwelwyr iechyd oedd y bobl allweddol a allai
nodi achosion ar gam cynnar; ·
Angen
cynyddu ymwybyddiaeth pawb o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod; ·
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru eisoes yn cynnal llawer o
waith ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod - mae fframwaith profiadau
niweidiol yn ystod plentyndod yn bodoli; ·
Yn
ddiweddar, cofrestrodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe i Raglen
Gydweithredol y 1000 Diwrnod Cyntaf; ·
Mae cost uchel iawn i wasanaethau cyhoeddus trwy gydol
bywyd rhywun sydd wedi cael profiad niweidiol yn ystod plentyndod, sydd eto'n amlygu’r angen am ymyrraeth gynnar. Diolchodd y
Cadeirydd i Swyddog Gwella Perfformiad a Strategaeth y Gwasanaethau
Cymdeithasol am ei gyflwyniad. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r
cyflwyniad; 2)
Yn y
cyfarfod nesaf ar 19 Medi 2018 bydd y pwyllgor yn ystyried: a.
Y
fframwaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod; b. Cysyniad y 'Datganiad o Ddiben'. |
|
Cynllun Gwaith 2018-2019. PDF 93 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2018-2019. Penderfynwyd: 1)
Y
dylid nodi'r cynllun gwaith; 2)
Yn y
cyfarfod a drefnir ar gyfer 19 Medi 2018 dylid ystyried: Profiadau niweidiol yn
ystod plentyndod - i ba
raddau, o ran profiad niweidiol yn ystod plentyndod, y mae'r cyngor yn barod i: ·
Dderbyn
gwybodaeth ynglŷn â’r fframwaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod; · Ystyried 'Datganiad o Ddiben'. |