Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a
llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 20
Mehefin 2018 fel cofnod cywir. |
|
Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) - Deall Goblygiadau ACE i Ddinasyddion. · Lles-Fframwaith Strategaeth (Cyflwyniad); ·
Adborth ar
yr Hyb Cymorth ACE – Digwyddiad Dysgu a Rennir (Llafar). Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth
y Gwasanaeth Dysgwyr Diamddiffyn gyflwyniad ar Les - Fframwaith Strategaeth
sy'n ymwneud â'r ymagwedd strategol at les plant a phobl ifanc a oedd yn
cynnwys cydnabod effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Amlinellodd y
cefndir, y diffiniad o les, y weledigaeth, yr egwyddorion a'r model hyrwyddo,
meithrin a chefnogi graddedig a'r Fframwaith Lles. Awgrymodd fod y
pwyllgor yn cymryd ymagwedd fwy trosgynnol o ran lles, yn hytrach na
chanolbwyntio'n unig ar ymagwedd profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Awgrymodd y
pwyllgor y pwyntiau canlynol: ·
Mynegwyd
pryder ein bod i'w gweld yn canolbwyntio ar blant yn unig, er bod profiadau
trawmatig yn gallu effeithio ar blant pan fyddant yn oedolion; ·
Mae
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe wedi cyhoeddi ei Gynllun Lles - mae angen
i ni ei gysylltu â'n partneriaid, e.e. yr Heddlu, y gwasanaeth iechyd, y
trydydd sector; ·
Mae
gwaith eisoes yn mynd rhagddo gydag 'Ysgolion sy'n Parchu Hawliau'; ·
Amlygwyd
enghraifft o hyfforddiant ar iechyd meddwl plant a oedd yn dangos ar sleidiau
ymennydd plentyn wedi'i ysgogi'n dda o'i gymharu ag ymennydd plentyn nad yw
wedi'i ysgogi'n dda; ·
Mae
angen i bob athro, llywodraethwr a staff fod yn ymwybodol o'r hyfforddiant sylfaenol. Mae'r mwyafrif o ysgolion yn gwneud hyn ond
nid yw'n gyson; ·
Mae
angen ymagwedd amlasiantaeth - gellir nodi'r mwyafrif
o'r plant hyn gan eu hysgolion felly dylid nodi'r rheiny sydd wedi cael
profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn gynnar; ·
2
fath o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod - y rheiny y gellir eu rhagweld
a'r rheiny nad oes modd eu rhagweld; ·
Y
gwasanaethau mwyaf addas ar gyfer nodi achosion cynnar fyddai drwy gydweithwyr
mewn gwasanaethau mamolaeth ac iechyd e.e. ymwelwyr iechyd; ·
Hefyd,
mae problem fawr gyda gofalwyr sy'n oedolion ifanc - nid ydynt yn ystyried bod bod yn ofalwr ifanc sy'n oedolyn yn enghraifft o brofiad
niweidiol yn ystod plentyndod; ·
Byddai'n
dda gallu atal plant sy'n dioddef o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod rhag
cael yr un problemau pan fyddant yn oedolion. Nododd Simon
Jones, Swyddog Gwella Perfformiad a Strategaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol,
fod Hwb Cefnogi Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod sydd â chynrychiolwyr
yn y gwasanaeth iechyd, yr Heddlu a'r trydydd sector y gellir ei ddefnyddio os
bydd angen. Nododd Pennaeth y
Gwasanaeth Dysgwyr Diamddiffyn mai'r opsiwn a ffefrir
oedd i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod fod yn rhan o'r Strategaeth Lles
gyda ffrwd waith o gwmpas profiadau niweidiol yn ystod plentyndod er mwyn
datblygu sgiliau megis hyfforddi'r hyfforddwr.
Gallai fod cynllun gweithredu wedi hynny i ddatblygu ymwybyddiaeth o
brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar draws y Gwasanaethau Cymdeithasol ac
Addysg er mwyn cwmpasu camau gweithredu fel rhan o'r ffrwd waith a fyddai'n
cyfrannu at y Strategaeth Lles ehangach.
Byddai hefyd yn nodi lle gwnaed cynnydd. Ystyriodd y
pwyllgor a ddylid parhau â'r Cynllun Gwaith fel y cytunwyd arno'n
flaenorol neu a oes angen ei newid ychydig er mwyn cefnogi'r 'Is-grŵp
Ymddwyn yn Dda' er mwyn datblygu'r Strategaeth Lles ehangach. Cytunodd y
pwyllgor y dylid canolbwyntio ar ganlyniad cyraeddadwy, megis canolbwyntio ar
sicrhau bod ymagwedd gyson ar gyfer pob aelod o staff, llywodraethwr, athro a chynghorydd
mewn perthynas â hyfforddiant sy'n gysylltiedig â phrofiadau niweidiol yn ystod
plentyndod. Gallai'r pwyllgor
hefyd gael ei ddiweddaru am cynnydd y Strategaeth Lles fel y bo angen. Diolchodd y
Cadeirydd i Bennaeth y Gwasanaeth Dysgwyr Diamddiffyn am ei gyflwyniad. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r
cyflwyniad; 2) Y bydd Simon Jones, Swyddog Gwella Perfformiad a Strategaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn bresennol yn y cyfarfod nesaf i ystyried ymhellach oblygiadau i ddinasyddion o ran profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. |
|
Cynllun Gwaith 2018-2019. PDF 93 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2018-2019. Penderfynwyd y dylid nodi'r Cynllun Gwaith. |