Agenda, penderfyniadau a cofnodion drafft

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

49.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Datganodd y Cynghorydd H Lawson gysylltiad personol â Chofnod Rhif 51 “Diweddariad Rhaglenni Cyflogadwyedd.”

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorydd H Lawson gysylltiad personol â Chofnod 51, "Y Diweddaraf am y Rhaglenni Cyflogadwyedd".

50.

Cofnodion: pdf eicon PDF 484 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 23 Chwefror 2022 fel cofnod cywir.

51.

Cyngor Abertawe - Darpariaeth Cyflogadewyedd. (Llafar).

Elliott Williams

Penderfyniad:

Nodwyd y diweddariad.

Cofnodion:

Darparodd Elliott Williams, Rheolwr Cyllid Allanol, ddiweddariad ar lafar am y rhaglenni cyflogadwyedd:

 

·                    Cafwyd cynnydd yn nifer y cyfeiriadau ar gyfer pobl â rhwystrau i gyflogaeth trwy gael gwared ar rai o'r rhwystrau hynny a rhoi cefnogaeth ychwanegol ar waith.

·                    Sicrhawyd £700,000 trwy'r Gronfa Adfywio Cymunedol ar gyfer y prosiect peilot "Llwybrau at Waith" a gynhelir nes mis Mehefin;

·                    Cymeradwywyd y cais ar gyfer y Gronfa Adfywio Economaidd, a fyddai'n hybu llwyddiant y prosiect "Kickstart". Byddai hyn yn cefnogi lleoliadau gwaith a thâl amrywiol yn y cyngor a fyddai'n dechrau ym mis Ebrill/Mai;

·                    Byddai'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn archwilio darpariaeth cyflogadwyedd yn y dyfodol ac yn darparu cyfleoedd i ystyried yr hyn a fyddai'n cael ei ariannu a'i ddatblygu ar ôl cyllid Ewropeaidd.

·                    Cyhoeddwyd arweiniad cyn lansio ym mis Chwefror a chynhaliwyd trafodaethau anffurfiol gyda phartneriaid cyn cyflwyno cais. Disgwylir y prosbectws llawn yn hwyrach yn y gwanwyn.

 

Darperir diweddariadau mwy cynhwysfawr ar bopeth uchod yn y misoedd nesaf.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Rheolwr Cyllid Allanol am yr holl gefnogaeth a ddarparodd i'r Pwyllgor Datblygu Polisi.

52.

Datblygu Strategaeth Wirfoddoli Cyngor Abertawe. (Diweddariad Llafar)

Anthony Richards

Penderfyniad:

Nodwyd y diweddariad.

Cofnodion:

Darparodd Anthony Richards, Rheolwr Datblygu Strategaeth Tlodi a'i Atal ddiweddariad llafar mewn perthynas â datblygiad Strategaeth Gwirfoddoli Cyngor Abertawe.

 

·                    Sefydlwyd Gweithgor o swyddogion ar draws y cyngor, a gaiff ei hwyluso gan y Gwasanaeth Trechu Tlodi, ac maent yn cynnal cyfarfodydd yn gyson er mwyn cydgynhyrchu'r Strategaeth Gwirfoddoli;

·                    trefnwyd i gynnal y cyfarfod cyntaf yn hwyrach ym mis Mawrth. Byddant yn gweithio'n agos gyda Chyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (CGGA) a phartneriaid Bae'r Gorllewin i sicrhau bod datblygiad strategaeth y cyngor yn cyd-fynd â'r Strategaeth Ranbarthol, sydd hefyd yn cael ei datblygu;

·                    byddai'r Gweithgor yn sefydlu'r broses ac yn cydgynhyrchu'r Strategaeth ar y cyd â'r rhanddeiliaid allweddol ac yn defnyddio'r holl gysylltiadau perthnasol gyda gwirfoddolwyr presennol a'r rheini sydd â diddordeb mewn bod yn wirfoddolwr er mwyn llywio datblygiad y strategaeth;

·                    Sefydlir pecyn cymorth hefyd ynghyd â dogfen y strategaeth, a fydd yn nodi'r adnoddau sydd ar gael i wasanaethau ar draws y cyngor i sicrhau ymagwedd gyson mewn perthynas â chynnal cyfleoedd i wirfoddolwyr.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Rheolwr Datblygu Strategaeth Tlodi a'i Atal a Phennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion am eu holl waith ac edrychodd ymlaen at dderbyn rhagor o ddiweddariadau yn y flwyddyn ddinesig newydd.

53.

Strategaeth Gofalwyr Ifanc. (Diweddariad Llafar)

Gavin Evans

Penderfyniad:

Nodwyd y diweddariad.

Cofnodion:

Rhoddodd Gavin Evans, Prif Swyddog Cymorth Cynnar, Partneriaeth a Phobl Ifanc ddiweddariad llafar ar y Strategaeth Gofalwyr Ifanc:

 

·                    Roedd gwaith gyda'r Gweithgor Gofalwyr Ifanc i gydgynhyrchu'r cynllun gweithredu/strategaeth yn parhau;

·                    cadarnhawyd cyllid trwy'r Gronfa Buddsoddi Rhanbarthol am flwyddyn arall;

·                    o ganlyniad i'r pandemig dros y ddwy flynedd diwethaf, roedd y Gofalwyr Ifanc wedi blaenoriaethu'r gwaith ar gyfer Diwrnod Gweithredu ar gyfer Gofalwyr Ifanc. Daeth dros 100 o bobl i'r digwyddiad mawr i ddathlu'r diwrnod, a gynhaliwyd ar 16 Mawrth yn Neuadd Brangwyn. Y thema oedd "Gweithredu ar Unigedd". Dosberthir ffotograffau a gohebiaeth yn dilyn y digwyddiad yn fuan.

·                    Bydd dau gyfarfod nesaf y Gweithgor Gofalwyr Ifanc yn canolbwyntio ar gyfuno'r holl waith a wnaed hyd yn hyn mewn perthynas â llunio'r cynllun gweithredu.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Swyddog am y diweddariad ac edrychodd ymlaen at ragor o ddiweddariadau yn ystod blwyddyn ddinesig 2022-2023.

54.

Cynllun Gwaith 2021-2022. pdf eicon PDF 216 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith a oedd yn amlinellu'r gwaith a wnaed yn ystod 2021-2022.

 

Diolchodd i'r Pwyllgor a'r holl swyddogion a oedd wedi cyfrannu am eu cefnogaeth dros y flwyddyn ddiwethaf.