Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd y dylid cymeradwyo a llofnodi Cofnodion y
Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2022 fel cofnod cywir
yn amodol ar y geiriad yng Nghofnod 43 "Cynllun Gwaith 2021-2022" yn
cael ei ddiwygio fel a ganlyn: “Penderfynwyd cymeradwyo'r Cynllun Gwaith yn amodol ar……” |
|
Arweiniad Asesiad Ariannol (ar gyfer taliadau'r gwasanaethau Cymdeithasol) Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Rhoddodd Amy Hawkins,
Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau i Oedolion gyflwyniad ar y Canllawiau Asesu
Ariannol ar gyfer Taliadau'r Gwasanaethau Cymdeithasol Amlinellodd y
Polisi Codi Tâl cyffredinol (Gwasanaethau Cymdeithasol) a oedd yn ddogfen
eithaf hir ac nad oedd yn hawdd i'r cyhoedd ei defnyddio. Felly, roedd y ddogfen Canllawiau Asesu
Ariannol yn cael ei llunio i'w ategu. Byddai'r Canllawiau Asesu Ariannol Drafft yn
cynnwys gwybodaeth am: •
Y
broses •
Yr
wybodaeth sydd ei hangen •
Treuliau
cyffredinol •
Treuliau
sy'n gysylltiedig ag anabledd •
Symiau
statudol •
Symiau
isafswm incwm Byddai hefyd yn
amlinellu manylion am: •
Godi
ffïoedd am wasanaethau gofal a chefnogaeth •
Gwasanaethau
heb unrhyw ffïoedd •
Adolygu
ffïoedd •
Asesiad
personol •
Uchafswm
ffïoedd Amlinellodd yr hyn
a oedd ac nad oedd wedi'i gynnwys: E.e. Incwm a rhai
budd-daliadau Isafswm incwm ar
ôl codi'r ffi 'Hawl sylfaenol'
ar gyfer costau byw Isafswm incwm =
'hawl sylfaenol' + 35% + 10% o'r swm hwnnw ar gyfer gwariant sy'n gysylltiedig
ag anabledd Isafswm incwm
Abertawe 51 (Mae gan Abertawe 51 o gategorïau gwahanol) Er mwyn gwneud y
ddogfen ganllaw mor hawdd i'w defnyddio â phosib, roedd gwasanaethau eraill yn
helpu i'w datblygu, sef: •
Tîm
Gwaith Cymdeithasol •
Fforwm
Taliadau Uniongyrchol •
Fforwm
Rhieni a Gofalwyr •
Pwyllgor
Datblygu Polisi Pobl Eglurodd Pennaeth
Dros Dro’r Gwasanaethau i Oedolion mai dyma ddechrau'r broses ac yr ymgynghorir
â grwpiau a phartneriaid eraill, cyn i'r fformatau terfynol gael eu cyhoeddi, a
fyddai'n cynnwys fersiynau dwyieithog a “hawdd eu darllen”. Gofynnodd y
Pwyllgor gwestiynau amrywiol, yr ymatebwyd iddynt gan Bennaeth Dros Dro’r
Gwasanaethau i Oedolion. Diolchodd y Cadeirydd i Bennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion am y cyflwyniad manwl. |
|
Diweddariad ar y Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc. (Diweddariad Llafar) Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Rhoddodd Katie Spendiff, Cydlynydd Polisi a Phartneriaethau Hawliau y
diweddaraf ar lafar ar: Gynllun Hawliau Plant Cyngor Abertawe: ·
Ers y lansiad, roedd
gwaith wedi parhau i bennu dangosyddion perfformiad ar gyfer sut beth oedd
gwneud hawliau'n realiti mewn ffordd ymarferol, a sut y gellid eu mesur. Roedd
y Rhwydwaith Hawliau Plant wedi dechrau'r broses o gydgynhyrchu
a fyddai'n parhau drwy ddau weithgor ar wahân hyd at fis Ebrill 2022. Byddai un
grŵp yn canolbwyntio ar Gyfranogiad a Grymuso, a'r llall ar Ymgorffori,
Atebolrwydd a Chydraddoldeb. ·
Roedd y Tîm Partneriaeth a
Chyfranogaeth wedi hwyluso 30 aelod o'r Rhwydwaith Hawliau Plant i ystyried sut
olwg allai fod ar bob un o’r pum egwyddor a’r dangosyddion perfformiad hynny.
Byddai'r wybodaeth hon yn bwydo i'r ddau weithgor uchod gyda'r bwriad o gael
drafft cyntaf o'r Cynllun Gweithredu erbyn 1 Ebrill 2022. ·
Byddai gwaith yn parhau i
sicrhau bod y Cynllun Hawliau Plant yn cael ei ategu a'i alinio â gwaith Dinas
Hawliau Dynol a gwaith yr Asesiad Lles. Pleidleisio yn 16 oed: ·
Roedd pobl ifanc 16 ac 17
oed bellach yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiadau sydd i ddod ac roedd pobl
ifanc 14 oed a throsodd yn gymwys i gofrestru i bleidleisio. Roedd prosiect
cydweithredol gyda’r Gwasanaethau Democrataidd a'r Adran Addysg wedi dechrau
gyda thendr yn cael ei ddyfarnu i MAD Abertawe (Cerddoriaeth, y Celfyddydau a
Dylunio), gan weithio gydag ysgolion uwchradd i ddatblygu fideo cyfryngau cymdeithasol
o'r enw "dy bleidlais, dy ddyfodol" i hyrwyddo pleidleisio yn 16 oed,
newidiadau yn y gyfraith sy'n galluogi pobl ifanc i bleidleisio, pleidleisio
fel hawl ddemocrataidd a gwybodaeth am sut i gofrestru i bleidleisio. ·
Roedd ymgyrch recriwtio
Llysgenhadon Pleidleisio yn 16 ar y gweill gyda 7 ysgol uwchradd eisoes wedi
enwebu eu llysgenhadon ieuenctid a'u rôl fyddai hyrwyddo ac annog eu cyfoedion
i gofrestru i bleidleisio ar gyfer yr etholiadau sydd i ddod. Byddai
llysgenhadon yn cael eu cefnogi mewn ysgolion a lleoliadau ieuenctid i hyrwyddo
pleidleisio yn 16 oed a chofrestru i bleidleisio. Roedd y prosiect Llysgenhadon
Pleidleisio yn 16 oed yn brosiect cydweithredol rhwng y Gwasanaethau
Democrataidd, y Tîm Partneriaeth a Chyfranogaeth ac Ysgolion Uwchradd. ·
Roedd pecyn adnoddau'n
cael ei ddatblygu i gefnogi llysgenhadon i annog cofrestru i bleidleisio
ymhlith eu cyfoedion, gan gynnwys posteri, deunydd hyrwyddo, cyfleoedd i
gofrestru mewn pleidleisiau yn ystod amser ysgol, sesiynau ymgynnull,
cynlluniau gwersi i ysgolion eu defnyddio a bathodynnau 'Mae eich pleidlais yn
bwysig' i ddisgyblion. Roedd bathodynnau 'Llysgennad' a phinau
ysgrifennu hefyd wedi'u prynu er mwyn hyrwyddo hawl pobl ifanc i bleidleisio yn
yr etholiadau sydd i ddod. ·
Byddai gwaith yn parhau
gyda llysgenhadon yn ystod hanner tymor a byddent yn cael eu cefnogi yn eu
lleoliad rhwng 1 Mawrth a hanner tymor y Pasg. ·
Roedd posteri ynghylch
cofrestru a'r newidiadau i bleidleisio yn 16 oed wedi'u dylunio. Byddai'r rhain yn cael eu rhannu a'u hyrwyddo
mewn lleoliadau yng nghanol y ddinas yn ogystal ag mewn adeiladau cymunedol. LHDTC+ ·
Roedd pecynnau Equali-tea wedi'u dosbarthu i bob ysgol uwchradd yng
Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe.
Roedd y Tîm Partneriaeth a Chyfranogaeth wedi treulio dau ddiwrnod llawn
yn hwyluso'r pecyn mewn ysgolion uwchradd a oedd wedi gofyn am gymorth i
addysgu'r pecyn yn ystod gwersi ABCh. ·
Roedd y Bwrdd Diogelu Iau
hefyd yn hwyluso 3 sesiwn – 1) gyda CMET yn Abertawe (yn enwedig gweithgor y
Bwrdd a oedd yn edrych ar gydraddoldeb a diffyg gwahaniaethu), 2) gyda Bwrdd
Magu Plant Corfforaethol CNPT, a 3) gyda Bwrdd Diogelu Plant Bae'r Gorllewin.
Cynhaliwyd y sesiynau hyn rhwng 1 a 23 Chwefror. Diogelwch Menywod Ifanc: ·
Roedd y Tîm Partneriaeth a
Chyfranogaeth, mewn partneriaeth â Datblygu Chwaraeon, i fod i lansio'r sesiwn
'Us Girls' gyntaf wedi'i hanelu'n benodol at fenywod
14-18 oed ddydd Iau 24 Chwefror. Roedd y sesiwn hon yn rhan o brosiect ehangach
Us Girls ond roedd wedi'i neilltuo'n unigryw i
ferched hŷn, a byddai'n canolbwyntio ar ddiogelwch personol. Byddai'r
sesiwn hanner diwrnod yn cael ei rhannu'n dair adran: -
sesiwn ragflas chwaraeon
(yn seiliedig ar faterion a godwyd am gyfleoedd penodol menywod ifanc i wneud
gweithgarwch corfforol); -
sesiwn JUDO arbenigol (yn
seiliedig ar gais am sgiliau ar gyfer diogelwch personol a hunanamddiffyn), a; -
sesiwn ymgynghori i
ymchwilio ymhellach i ganfyddiadau gwaith diogelwch y menywod ifanc er mwyn
nodi'r camau nesaf. Roedd cyfle wedi
codi i gysylltu â ParkLives i hwyluso sesiynau 'Couch
to 5k' penodol i fenywod ifanc (yn debyg i'r troeon iechyd) lle gallai ParkLives/Datblygu Chwaraeon/Tîm Partneriaeth a
Chyfranogaeth hwyluso sesiynau rhedeg diogel ac arbennig i fenywod ifanc. ·
Cyllid y Faner Borffor ar
gyfer economi ddiogel gyda'r hwyr i fenywod ifanc/16 oed ac yn hŷn a fu'n
gweithio yn economi gyda'r hwyr Wind Street a Chanol y Ddinas.
Byddai'r cyllid yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hyfforddiant ar gyfer
ymdrin â phobl sy'n agored i niwed a dangos llwybrau diogel i'r rheini a oedd
yn gweithio mewn tafarndai a bwytai. Gwrando ar ddysgwyr: ·
Crëwyd Cymuned Dysgu
Proffesiynol Llais y Disgybl (athrawon ysgol uwchradd) i weithio gyda
disgyblion i ddatblygu 'Maniffesto llais y disgybl'. Byddai dysgwyr yn pennu
materion sy'n bwysig iddynt ac yn llunio maniffesto i Gyngor Abertawe ymateb
iddo a gweithredu arno yn ystod y misoedd nesaf. Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau amrywiol, a atebwyd yn unol â hynny gan y
Cydlynydd Polisi a Phartneriaethau Hawliau. Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog am y diweddariad manwl ac awgrymodd y
byddai rhai o'r materion a godwyd yn bynciau diddorol i'r Pwyllgor Datblygu
Polisi Pobl eu hystyried yn eu Cynllun Gwaith ar gyfer 2022-2023. |
|
Cynllun Gwaith 2021-2022. PDF 216 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2021-2022. Penderfynwyd nodi'r Cynllun Gwaith diwygiedig. |