Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Datganodd y Cynghorydd Ceri Evans gysylltiad personol â Chofnod Rhif 40 “Diweddariad Rhaglenni Cyflogadwyedd.” Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Datganodd y Cynghorydd Ceri Evans gysylltiad personol â Chofnod 40, "Y Diweddaraf am y Rhaglenni Cyflogadwyedd". |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 22 Rhagfyr 2021 fel cofnod cywir. |
|
Darpariaeth Rhaglenni Cyflogadewyedd. PDF 181 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd y diweddariad. Cofnodion: Cyflwynodd Nia
Pugh, Prif Swyddog Cyllid Allanol, adroddiad ar ran Elliott Williams, Rheolwr
Cyllid Allanol, i roi'r diweddaraf am y Rhaglenni Cyflogadwyedd i'r Pwyllgor
Datblygu Polisi Pobl. Roedd yr adroddiad
yn rhoi trosolwg o’r rhaglenni cyflogadwyedd, sgiliau a hyfforddiant allweddol
a oedd yn cael eu darparu gan Gyngor Abertawe, ac yn rhoi crynodeb o'r
cyflawniadau hyd yma, gan amlygu'r cyfleoedd a'r heriau ar gyfer y dyfodol y
dylid eu hystyried wrth ddatblygu prosiectau olynol a sicrhau cyllid ar eu
cyfer, a chyllid yn dilyn gadael yr UE. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau amrywiol, ac atebodd y Prif Swyddog Cyllid Allanol yn briodol
iddynt. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Swyddogion am yr adroddiad a'r diweddariad, a gofynnwyd iddynt
roi diweddariad pellach yn y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 23 Mawrth 2022. Penderfynwyd y bydd y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl yn derbyn diweddariad pellach yn eu cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 23 Mawrth 2022. |
|
Diweddariad ar y Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc. (Diweddariad Llafar) Penderfyniad: Gohiriwyd. Cofnodion: Gohiriwyd yr
eitem tan y cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gyfer 23 Chwefror 2022. |
|
Strategaeth Gofalwyr Ifanc. (Diweddariad Llafar) Penderfyniad: Nodwyd y diweddariad. Cofnodion: Rhoddodd
Gavin Evans, Prif Swyddog Cymorth Cynnar, Partneriaeth a Phobl Ifanc
ddiweddariad llafar ar y Strategaeth Gofalwyr Ifanc. Esboniodd ei bod
wedi bod yn gyfnod prysur iawn ar gyfer y gwasanaeth. Atgoffodd y Pwyllgor fod y
YMCA wedi bod yn llwyddiannus wrth gomisiynu ein gwasanaeth Gofalwyr
Ifanc. Yn ystod cyfnod y
gaeaf roeddent wedi gallu defnyddio ychydig o'r arian Gaeaf Llawn Lles ynghyd â
thri llinyn o gyllid Gofal Integredig (CGI) ar gyfer y flwyddyn bresennol. Roedd hyn wedi arwain at benodi tri aelod o
staff ychwanegol a'r gallu i gynnal nifer o wahanol prosiectau i gefnogi'r
gofalwyr ifanc a'u teuluoedd. Roeddent wedi
gallu ariannu 2 fws mini i helpu gyda'r cludiant a ddefnyddir ar gyfer y
sesiynau clwb ieuenctid wythnosol ar ddydd Mercher. Defnyddiwyd yr
arian hefyd ar gyfer sesiynau lles wythnosol bob dydd Sadwrn. Roedd y sesiynau hyn yn cael eu harwain gan y
gofalwyr ifanc. Cynhaliwyd nifer
o gyrsiau preswyl ar gyfer y gofalwyr ifanc, gyda 4 o gyrsiau ychwanegol wedi'u
trefnu hyd at ddiwedd mis Mawrth 2022. Roeddent wedi bod
yn ôl i ysgolion yn cynnal sesiynau wyneb yn wyneb amrywiol gyda'r gofalwyr
ifanc, ac mae rhagor o ysgolion bellach yn cymryd rhan yn y sesiynau amser
cinio hyn. Parhaodd y Fforwm
Gofalwyr Ifanc i gwrdd yn fisol ac i helpu gyda'r gwaith ynghylch y Strategaeth
Gofalwyr Ifanc. Hysbysodd y Prif
Swyddog y Pwyllgor y cynhelir Diwrnod Gweithredu ar gyfer Gofalwyr Ifanc ar 16
Mawrth 2022, gyda'r thema'n canolbwyntio ar 'Fynd i'r Afael â Theimlo'n
Ynysig'. Roedd y Fforwm Gofalwyr Ifanc
wedi trefnu digwyddiad a fyddai'n cael ei gynnal yn y YMCA, ac wedi gwahodd y
Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl. Byddai'r Fforwm Gofalwyr Ifanc yn cwrdd ar
ddiwedd y mis i gynllunio ar gyfer y digwyddiad a byddai manylion pellach yn
cael eu hanfon ymlaen i'r Pwyllgor. Roedd y broses o
roi cardiau adnabod ar waith yn datblygu'n dda. Sefydlwyd cynllun
Grant Gofalwyr Ifanc lle'r oedd modd i ofalwyr ifanc wneud cais am grant o hyd
at £200. Roedd y Fforwm Gofalwyr Ifanc
wedi bod yn rhan o oruchwylio penderfyniadau'r cynllun hwnnw, a galluogi ar
gyfer dyrannu grantiau i'r gofalwyr ifanc a'u teuluoedd. Roedd y wefan a'r
podlediad yn parhau i gael eu rhoi ar waith nes diwedd y flwyddyn ariannol. Er bod y ffocws
wedi canolbwyntio ar wneud y defnydd mwyaf o’r cymorth y gellir ei roi i'r
gymuned gofalwyr ifanc, un o'r pryderon oedd yr ansicrwydd mawr ynghylch cyllid
ar ôl 31 Mawrth. Byddai hyn yn golygu na
fyddai'r rhaglenni Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles yn gallu parhau y flwyddyn
nesaf. O ran y
ddarpariaeth, byddai'r tri llinyn o gyllid CGI yn dod i ben ac er bod y
rhanbarth wedi canolbwyntio ar ddyrannu cyllid drwy'r gaeaf, ni chafwyd unrhyw
gyfathrebu ffurfiol ynghylch y cyllid amgen a fyddai ar gael y flwyddyn nesaf. Byddai hyn yn golygu bod tri allan o'r pedwar
aelod o staff "mewn perygl". Aeth ymlaen i
ddweud fodd bynnag y byddai llinyn arall o gyllid ar gael drwy'r Gronfa
Buddsoddi Rhanbarthol (CBRh) newydd a fyddai'n cymryd lle'r cyllid CGI, ond
roedd yn dal i aros am fanylion pellach.
Byddai rhan o'r cyllid hwn yn cefnogi'r Fforwm Gofalwyr Ifanc, felly
gallai gael effaith enfawr ar y gwaith a wneir gyda'r Strategaeth Gofalwyr
Ifanc. Cynhaliwyd tri chyfarfod gyda'r
Fforwm Gofalwyr Ifanc a gobeithiwyd y byddai'r gwaith hwn yn cael ei orffen ym
mis Mawrth, gyda'r nod o rannu eu barn gyda'r rheolwyr strategol allweddol a'r
Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl. Fodd
bynnag, pwysleisiodd y gallai'r llinell amser gael ei heffeithio o ganlyniad
i'r materion ariannol a amlinellwyd. Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau amrywiol, ac atebodd y swyddogion yn
briodol iddynt. Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am y diweddariad. |
|
Cynllun Gwaith 2021-2022. PDF 124 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd, yn amodol ar ddiwygiadau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2021-2022. Penderfynwyd cymeradwyo'r cynllun gwaith, yn amodol ar y
diwygiad(au) calynol: 23 Chwefror 2022 Ychwanegu ·
Cynllun Hawliau
Plant a Phobl Ifanc - Diweddariad Llafar. 23 Mawrth 2022 Ychwanegu ·
Y
Diweddaraf am y Rhaglenni Cyflogadwyedd a'r · Diweddaraf am y Strategaeth Gofalwyr Ifanc |