Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

33.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Datganodd y Cynghorydd Ceri Evans gysylltiad personol â Chofnod Rhif 35 “Darpariaeth Gyflogadwyedd Cyngor Abertawe.”

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorydd Ceri Evans gysylltiad personol â Chofnod Rhif 35 “Darpariaeth Cyflogadwyedd Cyngor Abertawe.”

34.

Cofnodion: pdf eicon PDF 237 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2021 fel cofnod cywir.

35.

Cyngor Abertawe - Darpariaeth Cyflogadewyedd. (Diweddariad Llafar)

Penderfyniad:

Nodwyd y diweddariad.

Cofnodion:

Rhoddodd Elliott Williams, y Rheolwr Cyllid Allanol, ddiweddariad llafar ar Ddarpariaeth Cyflogadwyedd Cyngor Abertawe fel a ganlyn gan y bu rhai newidiadau sylweddol:

 

·                    Cynllun Kickstart

 

Byddai'r rhaglen hon yn dod i ben yn fuan ac er na ellid hysbysebu unrhyw raglenni newydd o fis Rhagfyr 2021, gellid llenwi lleoliadau presennol tan fis Mawrth 2022 o hyd.  Mae'r rhaglen wedi bod yn llwyddiannus tu hwn, gyda thros 60 o leoliadau.

 

O ganlyniad i raglen Kickstart, roedd gwaith yn mynd rhagddo i ymchwilio i weld a ellid datblygu prosiect dilynol tebyg ac a fyddai'n dibynnu ar gyflwyno cais am grant i Gronfa Adferiad Economaidd Abertawe.

 

Y gobaith yw y byddai hyn yn caniatáu mwy o hyblygrwydd o ran cymhwysedd yr unigolion hynny a allai gael mynediad at y ddarpariaeth fel y gallai fod ar gael i bob categori oedran, a chynyddu hyd oriau contract ar gyfer pob lleoliad, yn ogystal â darparu cefnogaeth bersonoledig a mentora.

 

·                    Llwybrau at Waith

 

Cyflwynwyd cais cydweithredol llwyddiannus i Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU ym mis Ebrill/Mai eleni. Byddai'r prosiect yn cynnig cefnogaeth cyn-ymgysylltu, cefnogaeth cyflogadwyedd, cymorth sgiliau, yn hyrwyddo sgiliau digidol, clybiau swyddi a byddai'n darparu ymagwedd fwy hyblyg at gyflogadwyedd.  Byddai'r cynllun yn cynnwys 6 phartner cyflwyno, gan gynnwys YMCA, Barnardo’s, Coleg Gŵyr Abertawe, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe a 'Gwersylloedd Technoleg'.  Y gobaith oedd datblygu llwybrau pwrpasol, gan gynnwys llwybrau digidol at gyflogaeth.

 

Roedd yn werth nodi y byddai Llwybrau at Waith yn gynllun peilot 6 mis, ond byddai'n darparu cyfle i weithio gyda'r partneriaid i fesur sut y gallai darpariaeth gael ei siapio a'i phrofi cyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf mewn perthynas â'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Allanol y byddai'n darparu diweddariad manylach yn y cyfarfod nesaf.

36.

Strategaeth Gofalwyr Ifanc. (Diweddariad Llafar)

Penderfyniad:

Gohiriwyd y diweddariad.

Cofnodion:

Gohiriwyd y diweddariad.

37.

Cynllun Gwaith 2021-2022. pdf eicon PDF 124 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2021-2022.

 

Penderfynwyd nodi'r Cynllun Gwaith diwygiedig.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu cefnogaeth barhaus a dymunodd Nadolig Llawen iawn i bawb.