Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2021 fel cofnod cywir. |
|
Diweddariad ar y Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc. (Diweddariad Llafar) Penderfyniad: Nodwyd y diweddariad. Cofnodion: Rhoddodd Katie
Spendiff, Cydlynydd Hawliau Plant, y diweddaraf ar lafar ar y Cynllun Hawliau
Plant a Phobl Ifanc. Roedd yr
ymgynghoriad ar y cynllun Hawliau Plant a'r blaenoriaethau ar gyfer plant a
phobl ifanc wedi dod i ben ac roedd adroddiad wedi'i gymeradwyo gan y cyngor ym
mis Tachwedd. Roedd 20 Tachwedd
yn nodi Diwrnod Byd-eang y Plant a 32ain pen-blwydd Confensiwn y Cenhedloedd
Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP).
Roedd pecyn adnoddau wedi'i ddosbarthu i bob ysgol a sefydliad o fewn y
Rhwydwaith Hawliau Plant yn Abertawe i nodi'r digwyddiad. Roedd nifer o
weithdai wedi'u trefnu ar gyfer y rhwydwaith hawliau plant ac ar gyfer plant a
phobl ifanc mewn perthynas â'r cynllun gweithredu ar gyfer cyfranogiad a chydraddoldeb. Lluniwyd chwe
thema allweddol, gyda'r mwyaf yn canolbwyntio ar y ddwy thema ddiogelu
ganlynol: 1.
Cydraddoldeb
i gymuned LGBTQ pobl ifanc - sy'n cael ei hystyried gan y Bwrdd Diogelu Pobl Ifanc Rhanbarthol. Roedd pecyn adnoddau, a ddatblygwyd gan 26 o
bobl ifanc, wedi'i argraffu a'i lansio ar gyfer pob ysgol yng Nghastell-nedd,
Port Talbot ac Abertawe, a ariannwyd gan Fwrdd Diogelu Bae'r Gorllewin. 2.
Diogelwch
menywod ifanc mewn mannau cyhoeddus - roedd gwaith amrywiol yn mynd rhagddo o ran diogelwch menywod ifanc yn
Abertawe gan gynnwys gwaith gyda Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu De
Cymru i gynnal fforymau. Roedd gweithgor
bach a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o ysgolion, yr Awdurdod Addysg, y ganolfan
cam-drin domestig, yr Heddlu, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Freedom
Leisure ac Adran Chwaraeon Cyngor Abertawe wedi dechrau. Gweithio gyda'r Uned Trais Domestig a'r Heddlu ynghylch "Diwrnod
Rhuban Gwyn" i ddatblygu adnoddau addysgol o ran yr hyn y gallai dynion
ifanc ei wneud i helpu i ddiogelu menywod ifanc a'u cadw'n ddiogel. Roedd 37 o bobl ifanc wedi cymryd rhan mewn sgyrsiau lleol i drafod y
materion a'r hyn y gellid ei wneud mewn perthynas â diogelwch menywod ifanc. ·
Pleidleisio
yn 16 oed - penodwyd
swyddog yn rhan-amser yn ddiweddar i gefnogi'r Tîm Gwasanaethau Democrataidd i
ymgysylltu â phleidleiswyr, gan gynnwys pobl ifanc mewn perthynas â gofynion
Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Roedd gwaith yn mynd rhagddo
gyda Swyddfa'r Comisiynwyr Plant i gynyddu ymwybyddiaeth o'r gallu i gofrestru
i bleidleisio, i ddeall y broses bleidleisio a ble a sut i gael gafael ar
wybodaeth. ·
Gwarchod
yr amgylchedd lleol a newid yn yr hinsawdd – roedd pobl ifanc wedi cysylltu â phenaethiaid,
Canolfan yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru. Byddai fforwm yn cael ei gynnal ym mis Ionawr
i bennu blaenoriaethau er mwyn diogelu'r amgylchedd/mannau lleol. Dinas Hawliau Dynol –
roedd gwaith wedi mynd rhagddo i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc yn y gymuned,
ysgolion a grwpiau cymunedol. Roedd y Cynghorydd Gibbard wedi ymweld ag
ysgolion i siarad â phlant a phobl ifanc am yr hyn y gallai ei olygu i fod yn
Ddinas Hawliau Dynol. Hyd yn hyn, roedd 93 o blant a phobl ifanc o 7 ysgol
gynradd a 2 ysgol uwchradd wedi cymryd rhan gyda 4 ysgol arall yn cymryd rhan
yn ail wythnos mis Rhagfyr. Dywedodd y Cydlynydd Hawliau Plant y
byddai holl waith y fforwm yn canolbwyntio ar gydgynhyrchu gyda'r plant a'r
bobl ifanc. Diolchodd y Cadeirydd i'r Cydlynydd Hawliau Plant am y diweddariad a mynegodd ei fod yn edrych ymlaen at dderbyn diweddariadau pellach maes o law. |
|
Datblygu Strategaeth Wirfoddoli Cyngor Abertawe. (Diweddariad Llafar) Penderfyniad: Nodwyd y diweddariad. Cofnodion: Rhoddodd Amy
Hawkins, Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau i Oedolion, gyda chefnogaeth Anthony
Richards, Rheolwr Strategaeth a Datblygu Tlodi a'i Atal, yr wybodaeth
ddiweddaraf am ddatblygu Strategaeth Gwirfoddoli Cyngor Abertawe. Amlinellodd
Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion y gwaith rhanbarthol a oedd wedi
symud ymlaen a oedd yn cynnwys adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd yn ystod y pandemig gan gynnwys y cynnydd mewn gwirfoddolwyr, eu
cefnogaeth a'r arfer da gan gynnwys hyrwyddo'r adnoddau ar gyfer gwirfoddoli. Fel rhan o'r
ffocws ehangach ar y rhanbarth o amgylch pwysau'r gaeaf a sut rydym yn cysylltu
gwirfoddolwyr â chymorth o amgylch pwysau'r gaeaf, cynhaliwyd digwyddiad o'r
enw "Posibiliadau ar gyfer Pobl" yr wythnos flaenorol gyda nifer o
bartneriaid gan gynnwys y cyngor a'r Bwrdd Iechyd Lleol ynghyd â phreswylwyr, y
sector cyhoeddus a phreifat a'r gymuned i ystyried sut y gellid lleihau'r galw
ar y gwasanaethau statudol gyda gwaith yn mynd rhagddo ar sawl syniad
cadarnhaol a awgrymwyd. Yn ogystal, roedd
gwaith ar sut rydym yn cefnogi gwirfoddolwyr mewn cartrefi gofal a throi
gwirfoddoli'n yrfa hefyd yn mynd rhagddo. Eglurodd y Rheolwr
Strategaeth a Datblygu Tlodi a'i Atal fod adborth cadarnhaol wedi dod i law gan
swyddogion ac Aelodau'r Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl yn y gweithdy a
gynhaliwyd ym mis Hydref. Roedd yr
adborth hwnnw'n cael ei ddefnyddio i gynllunio'r sesiynau gweithdy eraill a
grybwyllir uchod a byddai'r gweithgor hwnnw hefyd yn ystyried ffyrdd y gellid cydgynhyrchu'r Strategaeth. Cynhaliwyd
trafodaethau i sicrhau bod cyllidebau ar waith gyda'r timau cynnal perthnasol o
fewn y cyngor mewn perthynas â threuliau etc. i sicrhau bod egwyddorion craidd
gwirfoddoli yn cael eu hymgorffori ledled yr Awdurdod. Roedd ymchwil
wedi'i gwneud gyda Strategaethau Gwirfoddoli Awdurdodau Lleol eraill a
derbyniwyd adborth o ran llunio'r hyn y byddai'r gweithgor yn ei ystyried er
mwyn datblygu'r Strategaeth ar gyfer Abertawe. Amlinellwyd yr
amserlenni, a oedd yn destun diwygio: ·
Byddai
sesiynau'r Gweithgor yn cael eu cynnal yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror; ·
Byddai
Strategaeth ddrafft yn cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl ym
mis Chwefror; ·
Ymgynghoriad
cyhoeddus ar y strategaeth ddrafft am o leiaf bedair wythnos. ·
Yn
dilyn ymgynghoriad, byddai gwaith ar y broses Asesu Effaith Integredig yn cael
ei wneud i lywio'r Strategaeth derfynol. Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu diweddariad addysgiadol. |
|
Strategaeth Gofalwyr Ifanc. (Diweddariad Llafar) Penderfyniad: Gohiriwyd y
diweddariad. Cofnodion: Y diweddaraf
wedi'i ohirio i'r cyfarfod nesaf. |
|
Cynllun Gwaith 2021-2022. PDF 123 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd yn
amodol ar drafodaeth ynghylch yr eitemau i'w cynnwys ar yr agenda ar gyfer
cyfarfod 22 Rhagfyr 2021. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2021-2022. Penderfynwyd cymeradwyo'r Cynllun Gwaith yn amodol ar
drafodaeth ynghylch yr eitemau i'w cynnwys ar yr agenda ar gyfer cyfarfod 22
Rhagfyr 2021. |