Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

21.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

22.

Cofnodion: pdf eicon PDF 246 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 22 Medi 2021 fel cofnod cywir.

23.

Diweddariad ar y Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc. (Diweddariad Llafar)

Penderfyniad:

Gohiriwyd

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem i'r cyfarfod nesaf oherwydd salwch.

24.

Datblygu Strategaeth Wirfoddoli Cyngor Abertawe. (Diweddariad Llafar)

Penderfyniad:

Nodwyd y diweddariad.

Cofnodion:

Esboniodd y Cadeirydd fod gweithdy wedi cael ei gynnal cyn y Pwyllgor heddiw.

 

Yn absenoldeb Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, darparodd Julia Manser, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe ddiweddariad ar lafar fel a ganlyn:

 

·                    Roedd Amy Hawkins wedi cyflwyno'r gweithdy ac roedd James Mullin, Swyddog Datblygu Trechu Tlodi wedi darparu gwybodaeth a oedd yn ymwneud ag arfer gorau;

·                    Roedd Strategaethau Gwirfoddoli wedi'u sefydlu'n llwyddiannus mewn Awdurdodau Lleol eraill gan gynnwys Sir Fynwy;

·                    Roedd llawer o swyddogion ar draws yr Awdurdod yn gyfrifol am reoli gwirfoddolwyr fel y rheini mewn Addysg, Diwylliant, Canolfan Ddydd St John's, Llyfrgelloedd, etc;

·                    Byddai cronfa ddata yn dod â'r holl wybodaeth ynghyd mewn un lle;

·                    Byddai'r Strategaeth yn darparu canllawiau cyson a oedd, hyd yma, wedi'u darparu ar sail ad-hoc;

·                    Byddai gweithgor yn cael ei sefydlu i lywio'r Strategaeth.

 

Roedd sylwadau ychwanegol gan y pwyllgor yn cynnwys:

 

·                    Dylai'r broses gael ei rheoli'n ofalus;

·                    Roedd angen sicrhau bod 'gwerth' ar gyfer y gwirfoddolwyr yn ogystal â'r Awdurdod;

·                    Cydnabod bod sbectrwm eang o wirfoddolwyr ffurfiol ac anffurfiol yn ogystal â'r rheini a oedd wedi gwirfoddoli ar sail tymor hir;

·                    Gallai gwirfoddolwyr ddefnyddio cofnodion hyfforddi i gael gwaith yn y dyfodol;

·                    Mater diogelu ac yn bwysig i'r rheini sy'n gwirfoddoli gyda phobl ddiamddiffyn/plant;

·                    Cyfranogaeth y gymuned/cyngor tref/cymdeithas preswylwyr?

 

Diolchodd y Cadeirydd i Julia Manser am y diweddariad a gofynnodd, os oedd gan unrhyw Gynghorydd ddiddordeb mewn mynd i'r Gweithgor, ei fod yn hysbysu naill ai Julia Manser neu James Mullin.

25.

Strategaeth Gofalwyr Ifanc. (Diweddariad Llafar)

Penderfyniad:

Nodwyd y diweddariad.

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad ar ran Gavin Evans, Prif Swyddog Cymorth Cynnar, Partneriaeth a Phobl Ifanc:

 

Cynhaliwyd cyfarfod arall o'r Fforwm Gofalwyr Ifanc i drafod sut y gallent gynorthwyo gyda'r Strategaeth Gofalwyr Ifanc.

 

O ganlyniad, roeddent wedi gwneud cais am gyllid y byddent yn ei ddefnyddio ar gyfer penwythnos preswyl cyn y Nadolig.  Yna byddent yn ymgynghori â Gofalwyr Ifanc eraill ac o bosib yn defnyddio Diwrnod Gofalwyr Ifanc tua diwedd Ionawr 2022 fel y diwrnod lansio.

 

Byddai'r Cadeirydd yn cysylltu â'r Prif Swyddog Cymorth Cynnar, Partneriaeth a Phobl Ifanc ynghylch aelod o'r Pwyllgor hefyd yn cymryd rhan yn Niwrnod Gofalwyr Ifanc.

26.

Cynllun Gwaith 2021-2022. pdf eicon PDF 122 KB

Penderfyniad:

Nodwyd yn amodol ar ychwanegu’r eitemau canlynol:

 

24 Tachwedd 2021

 

·         Datblygu Strategaeth Wirfoddoli Cyngor Abertawe. (Diweddariad) (Update);

·         Strategaeth Gofalwyr Ifanc. (Diweddariad).

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2021-2022.

 

Penderfynwyd nodi'r Cynllun Gwaith yn amodol ar ychwanegu'r canlynol:

 

24 Tachwedd 2021

 

·                    Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc;

·                    Strategaeth Gwirfoddoli Cyngor Abertawe (Diweddariad);

·                    Strategaeth Gofalwyr Ifanc (Diweddariad).