Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Datgelu cysylltiadau – Oliver James and Alyson Pugh

2.

Tystiolaeth gan gynrychiolwyr sefydliadau pdf eicon PDF 45 KB


10.30am  Sesiwn un:

·       Andrew Davies, Noddfa Ddigartref Abertawe

·       Natalie Hamlyn, Shelter Cymru

 

11.30am  Sesiwn dau:

·       Karen Grunhut, Crisis

·       Karl Bresnan, Dinas Fechan The Wallich

·       Mathew Morgan, Caer Las

·       Sean Stillman, Zac’s Place

 

 

Adroddiadau a gyflwynwyd cyn y cyfarfod:

·       Janet Keauffling, Nyrs Ddigartrefedd, Bwrdd Iechyd

·       Karen Grunhut, Crisis

·       Karl Bresnan, Dinas Fechan The Wallich

·       Mathew Morgan, Caer Las

·       Thom Lynch, Matthew’s House

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynhaliwyd dwy sesiwn er mwyn derbyn tystiolaeth gan gynrychiolwyr o sefydliadau perthnasol ar yr hyn y gall y cyngor ei wneud er mwyn mynd i'r afael â digartrefedd yn Abertawe.  Derbyniodd y gweithgor atebion i nifer o gwestiynau.

 

Beth sy'n gweithio'n dda yn Abertawe?

 

  • Mae Opsiynau Tai yn darparu gwasanaeth arbennig ac mae'n hawdd cael mynediad iddo
  • Mae'r cyngor yn defnyddio'r Gronfa Atal Digartrefedd yn dda
  • Mynediad da i nyrs i'r digartref sy'n darparu gwasanaethau hanfodol.  Fodd bynnag, mae pryder bod y Bwrdd Iechyd yn ceisio arbed arian ac y bydd yn cael gwared ar y swydd hon gan nad ydyw'n deall ei phwysigrwydd.
  • Mae rhai isadrannau'n dangos arfer rhagorol, e.e. gwasanaethau cefnogi tenantiaid sydd wedi meithrin cysylltiadau da â gwasanaethau digartrefedd eraill
  • Mae gwaith cydweithredol gyda'r cyngor yn dda iawn
  • Mae'r ffaith bod gweithgor digartrefedd yn dod â phawb at ei gilydd er mwyn trafod y mater yn beth da

 

Beth yw'r bylchau yn y ddarpariaeth?

 

  • Mae gan nifer o bobl ddigartref anghenion cymhleth neu niferus gan gynnwys iechyd meddwl ac mae'n anodd sicrhau bod ganddynt gefnogaeth. Nid oes gan nifer o'r unigolion hyn sgiliau bywyd sylfaenol ac mae angen cefnogaeth barhaus arnynt am amser hir. Nid oes person yn y cyngor na'r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am yr unigolion yma nac yn asesu eu hanghenion. Mae tai'n bwysig ond mae'n hanfodol i'r unigolion gael cefnogaeth barhaus trwy gydol eu bywydau
  • Mae hefyd yn anodd sicrhau cefnogaeth ar gyfer pobl sy'n hunan-niweidio, menywod a phobl nad oes ganddynt fynediad i gronfeydd cyhoeddus.
  • Mae pobl yn cael eu rhyddhau o'r carchar heb unrhyw le i fynd iddo. Dylent dderbyn cyngor gan swyddogion prawf ar dai etc. cyn gadael y carchar, yna derbyn cefnogaeth barhaus a chyngor pan gânt eu rhyddhau.
  • Peth pwysig sydd ei angen yw canolfan ddydd lle gall pobl ddigartref aros yn ystod y dydd, siarad â phobl sy'n deall y sefyllfa a chael mynediad i wasanaethau megis cyfleusterau ymolchi.
  • Nid oes braidd dim tai ar gael ar gyfer cyplau digartref. Nid yw gwelyau brys ar gael iddynt a rhentu preifat yw'r unig ffordd arall ar wahân i fyw ar y strydoedd.
  • Nid oes digon o lety lle ceir cefnogaeth arbenigol yn Abertawe ar gyfer unigolion ag anghenion niferus megis camddefnyddio sylweddau, afiechyd meddwl ac alcoholiaeth. Mae pryder mawr ynghylch tai gwlyb nad ydynt yn diwallu anghenion alcoholigion. 
  • Mae angen mwy o dai cymdeithasol yn Abertawe. Mae angen aros am amser hir amdanynt ac nid yw'r prisiau rhentu'n realistig.

 

 

Beth sydd ddim yn gweithio'n dda iawn?

  • Mae Porth yn system ganolog ar gyfer hostelau. Dyma'r lle cyntaf y caiff unigolion sydd angen help eu cyfeirio ato a gallant gael eu cyfeirio at sefydliadau eraill. Fodd bynnag, mae'n anodd i gysylltu â nhw ac nid yw'n cael ei rheoli mor dda ag y dylai gael ei rheoli. Mae rhai sefydliadau'n teimlo bod rhain yn dewis eu hoff lety â chefnogaeth. Mae angen swyddog Porth llawn amser sydd ar gael ar bob adeg er mwyn goruchwylio popeth a sicrhau cysondeb sydd, yn ddelfrydol, yn cydweithio gydag Opsiynau Tai. 
  • Mae'r trothwy ar gyfer derbyn cefnogaeth gan y gwasanaethau cymdeithasol a'r gwasanaethau iechyd meddwl mor uchel fel nad oes nifer o bobl ddigartref a diamddiffyn sydd angen cefnogaeth arbenigol yn ei derbyn
  • Ceir problemau wrth i Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a Cheidwaid canol y ddinas symud pobl ddigartref o ganol Abertawe. Mae angen ffordd newydd o fynd i'r afael â gorfodi.
  • Mae digartrefedd yn cynyddu drwy'r amser, ac mae llawer o arian yn cael ei wario arno ond nid yw hyn yn datrys y problemau
  • Ymddangosir bod y polisi digartrefedd yn un sy'n ymateb i argyfwng. Mae'n bwysig cael ymagwedd unedig ar draws asiantaethau ac adrannau amrywiol
  • Mae nifer o grwpiau bach wedi'u sefydlu ar Facebook etc., sydd am helpu pobl ddigartref. Fodd bynnag, nid yw'r rhain yn cael eu cydlynu na'u monitro.  Mae'n hollol ar hap. Mae angen gweithio'n galed er mwyn cydlynu'r gwaith da hwn.
  • Mae'r system yn gymhleth iawn. Os gallwn wella'r cyd-drefniant gallai hyn stopio pobl rhag llithro drwy'r bylchau.

 

Beth gall y cyngor ei wneud er mwyn gwella sefyllfa ddigartrefedd Abertawe?

 

  • Mae angen buddsoddi mewn Siop dan yr Unto fel St Matthew's cyn iddi gau.  Mae'n hanfodol i ni sefydlu canolfan ddydd dda a fyddai'n arbed arian i'r cyngor ac asiantaethau eraill - byddai popeth dan yr unto, saith niwrnod yr wythnos.
  • Mae angen cael opsiynau gan ddarparwyr sy'n cynnwys pecynnau wedi'u teilwra (ac yn fwy hyblyg) ar gyfer unigolion
  • Mae Tai'n Gyntaf yn ddefnyddiol ar gyfer tai a chyngor 
  • Mae perthynas dda rhwng grwpiau gwirfoddol yn Abertawe ond mae angen gweithwyr tebyg i rai CAL nad ydynt yn canolbwyntio ar ddaearyddiaeth yn gynnar yn y bore a chyda'r nos pan nad oes asiantaethau eraill ar gael
  • Mae gan gynllun porth Caerdydd agweddau positif (a rhai negyddol) a gallai Abertawe ddysgu ganddynt.

 

Caiff y dystiolaeth a gasglwyd yn y cyfarfod hwn ei defnyddio er mwyn paratoi cwestiynau i ofyn i Aelod y Cabinet a'r swyddogion perthnasol yng nghyfarfod nesaf y gweithgor ar 12 Mehefin.

 

Camau Gweithredu:

 

  • Gwahodd cynrychiolydd o'r Bwrdd Iechyd i gyfarfod nesaf y gweithgor, yn bennaf, y Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl neu rywun a all ateb cwestiynau gan y gweithgor am faterion iechyd meddwl mewn perthynas â phobl ddigartref
  • Gwahodd Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion i gyfarfod nesaf y gweithgor er mwyn ateb cwestiynau gan y gweithgor.