Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynnwys 1 Protocol yr Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd Faer 2 Sut mae Cynghorwyr a Swyddogion yn ymdrin ag Ymgeiswyr Cynllunio 3 Teitl yr Arglwydd Faer neu'r Dirprwy Arglwydd Faer mewn Gohebiaeth i Gynghorwyr 4 Mynediad gan Aelodau'r Cyhoedd i Ystafelloedd Pleidiau Gwleidyddol ac Ardaloedd Eraill i Gynghorwyr |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Protocol yr Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd Faer 1 Cyflwyniad 1.1 Ar 22 Mawrth
1982, cyflwynodd EM y Frenhines Elizabeth II freinlythyrau i ddinas Abertawe
gan godi statws y Maer i statws Arglwydd Faer.
Bu Awdurdod Unedol Dinas a Sir Abertawe a sefydlwyd ar 1 Ebrill 1996 yn
llwyddiannus drwy gael statws y Ddinas a'r Arglwydd Faer wedi eu hailgyflwyno
ar 29 Mawrth 1996. 1.2 Dangosir
geiriad go iawn y breintlythyrau isod: “Elizabeth the Second by the Grace of God of
the United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland and of our other
Realms and Territories Queen Head of the Commonwealth Defender of the Faith To
all to whom these presents shall come, Greeting.Know ye that our will and
pleasure is and We do hereby declare and ordain that from and after the date of
these presents the Mayor of the City of Swansea and his successors in office
shall be styled entitled and called LORD MAYOR OF SWANSEA And we do hereby
authorise and empower the Mayor of the City of Swansea and his successors in
office henceforth at all times to assume and use and to be called and to be
named by the style title and appellation of Lord Mayor of Swansea and to enjoy
and use all and singular the rights privileges and advantages to the degree of
a Lord Mayor in all things duly and or right belonging. In witness whereof we have caused these our
letters to be made patent. Witness
Ourself at Westminster the twenty second day of March in the thirty first year
of our reign”. 1.3 Mae protocol yr Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd Faer
yn ceisio cynnwys pob agwedd ar gymhwyster, enwebu ac ymddygiad yr Arglwydd
Faer/y Dirprwy Arglwydd Faer. 1.4 Rhoddir dogfen 'Protocolau ac Arweiniad Dinesig' i bob
Arglwydd Faer/ Dirprwy Arglwydd Faer. Darperir y ddogfen gan Swyddfa'r Arglwydd
Faer ac fe'i cynhelir gan y rheolwr Marchnata Dinesig a Chorfforaethol. 2 Cymhwyster i
fod yn Arglwydd Faer/Ddirprwy Arglwydd Faer 2.1 Ar gyfer y cyfnod y caiff Arglwydd Faer/Dirprwy Arglwydd
Faer ei ethol, rhaid iddo barhau'n gynghorydd Dinas a Sir Abertawe. 2.2 O'r eiliad y mae'r person hwnnw'n gorffen bod yn
gynghorydd Dinas a Sir Abertawe, mae hefyd yn gorffen bod yn Arglwydd
Faer/Dirprwy Arglwydd Faer yn awtomatig. 2.3 Os caiff yr Arglwydd Faer/Dirprwy Arglwydd Faer presennol
ei atal neu ei atal yn rhannol rhag bod yn gynghorydd gan y Pwyllgor Safonau,
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a/neu Banel Dyfarnu Cymru ni fydd yn
cyflawni unrhyw un o ddyletswyddau'r Arglwydd Faer/Dirprwy Arglwydd Faer. 3 Meini prawf ar
gyfer enwebu Arglwydd Faer a Dirprwy Arglwydd Faer 3.1 Mae'n RHAID i gynghorwyr fodloni'r meini prawf
canlynol cyn cael eu henwebu'n Ddirprwy Arglwydd Faer/Arglwydd Faer: a)
Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer swydd yr Arglwydd Faer a'r Dirprwy
Arglwydd Faer fod yn aelodau sy'n gwasanaethu ar y cyngor a chanddynt yr hyd
gwasanaeth hwyaf (Atodiad A1). Sylwer: Os caiff
ymgeisydd ei atal neu ei atal yn rhannol rhag bod yn gynghorydd, yna nid yw'n
bodloni'r meini prawf ar yr adeg honno. 3.2 Bydd Pennaeth y
Gwasanaethau Democrataidd yn hysbysu arweinwyr y pleidiau gwleidyddol a'u
dirprwyon drwy e-bost a yw'r ymgeisydd(wyr) yn bodloni'r meini prawf. 4 Cyfanswm Hyd Gwasanaeth
Cynghorwyr 4.1 Caiff
cynghorwyr eu hethol i swydd Dirprwy Arglwydd Faer ac Arglwydd Faer yn
seiliedig ar gyfanswm hyd eu gwasanaeth gyda Chyngor Dinas a Sir Abertawe a'i
awdurdodau blaenorol. Mae Atodiad A1 (Y Rhestr) yn
amlygu “Cyfanswm hyd gwasanaeth cynghorwyr gyda Dinas a Sir Abertawe a phob un
o'i awdurdodau blaenorol” (Fel yr oedd ar y dyddiad a argraffwyd ar Atodiad A1). 4.2 Bydd gwasanaeth
cydamserol ar fwy nag un o awdurdodau blaenorol Cyngor Dinas a Sir Abertawe yn
cyfrif fel un cyfnod o wasanaeth h.y. Os
oedd cynghorydd yn Aelod Etholedig gyda Chyngor Bwrdeistref Dyffryn Lliw a
Chyngor Sir Gorllewin Morgannwg yn ystod 1990-1994, 4 blynedd yn unig fyddai'n
cael eu cyfrif tuag at gyfanswm hyd gwasanaeth cynghorydd yn ystod y cyfnod
hwnnw. 4.3 Os yw
cynghorydd wedi torri'i wasanaeth â Dinas a Sir Abertawe neu unrhyw un o'i
awdurdodau blaenorol, yna caiff amser pob cyfnod o wasanaeth eu hadio er mwyn
cadarnhau cyfanswm hyd y gwasanaeth. Am
fanylion cyfnod(au) gwasanaeth cynghorwyr gyda Dinas a Sir Abertawe a'i
awdurdodau blaenorol, ewch i www.abertawe.gov.uk/cynghorwyr 4.4 Os yw
cynghorydd wedi crynhoi gwasanaeth gydag awdurdod arall, yna ni chyfrifir yr
amser hwnnw gan nad yw'r amser wedi'i dreulio'n cynrychioli pobl Cyngor Dinas a
Sir Abertawe. 4.5 Anrhydeddir
cynghorydd unwaith â'r teitl Dirprwy Arglwydd Faer/Arglwydd Faer. 4.6 Os oes gan ddau
neu fwy o gynghorwyr yr un hyd gwasanaeth, penderfynir ar yr enwebiad fel a
ganlyn: a)
Rhwng y cynghorwyr dan sylw; b)
Bydd y cynghorwyr dan sylw yn bwrw coelbren. 5 Gweithdrefn ar gyfer
enwebu Arglwydd Faer/Dirprwy Arglwydd Faer 5.1 Unwaith yr ystyrir
bod cynghorydd yn bodloni meini prawf i'w enwebu'n Arglwydd Faer/Ddirprwy
Arglwydd Faer, dyma fydd y weithdrefn: a)
Bydd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn ymgynghori
ag arweinwyr pleidiau gwleidyddol a'u dirprwyon (y mae gan bob ohonynt bleidlais)
drwy e-bost i benderfynu a yw ymgeisydd(wyr) yn briodol. Penderfynir a yw ymgeisydd yn briodol ar sail
unigol. Gall ystyriaethau gynnwys a
ganfuwyd bod ymgeisydd wedi torri'r Côd Ymddygiad, a oedd y toriad yn un
difrifol a pha gosb a roddwyd, os cafwyd un.
Mae ystyriaethau eraill yn cynnwys a gafwyd y cynghorydd yn euog o
drosedd ddifrifol neu a yw wedi pledio'n euog iddo; b)
Os ceir penderfyniad unfrydol fod yr
ymgeisydd(wyr) yn briodol, cyflwynir adroddiad i'r cyngor; c)
Os nad oes penderfyniad unfrydol, yna gelwir
cyfarfod o Weithgor y Cyfansoddiad (GyC) ynghyd. Bydd GyC yn ystyried
priodoldeb yr ymgeisydd(wyr) a phenderfynu pa gamau gweithredu i'w cymryd yn
seiliedig ar y protocol. 6 Prawf
Priodoldeb 6.1 Mae'r Prawf Priodoldeb yn ceisio penderfynu ar
briodoldeb ymgeisydd(wyr) a enwebir ar gyfer rôl y Dirprwy Arglwydd Faer a'r
Arglwydd Faer. Mae'n fesur o'u
priodoldeb ar yr adeg honno. Gall
cwestiynau gan Weithgor y Cyfansoddiad gynnwys a yw'r ymgeisydd(wyr) yn destun
unrhyw ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas ag
unrhyw achos o dorri'r Côd Ymddygiad, unrhyw gosbau a roddwyd, unrhyw achos
llys neu unrhyw fater arall y mae'n ei ystyried yn berthnasol. 6.2 Gan ddibynnu ar ganlyniad paragraff 6.1 uchod, gall
Gweithgor y Cyfansoddiad glywed sylwadau gan yr ymgeisydd cyn gwneud
penderfyniad terfynol. 6.3 Amlinellir pwerau
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Phanel Dyfarnu Cymru yn Atodiad B1 i'r adroddiad hwn. 6.4 Os ystyrir nad yw ymgeisydd yn briodol ar gyfer rôl
yr Arglwydd Faer neu'r Dirprwy Arglwydd Faer, caiff ei roi ar "y
rhestr" yn unol â'u hynafedd a byddant yn destun Prawf Priodoldeb yn y
rownd ganlynol o enwebiadau ar gyfer Arglwydd Faer/Dirprwy Arglwydd Faer. 7 Adroddiad Gweithgor y
Cyfansoddiad i'r cyngor 7.1 Bydd Gweithgor
y Cyfansoddiad yn cyflwyno adroddiad i'r cyngor a fydd yn argymell yr ymgeisydd
priodol ar gyfer rôl y Dirprwy Arglwydd Faer/yr Arglwydd Faer i'r cyngor. Bydd yr
adroddiad yn enwebu un cynghorydd ar gyfer rôl y Dirprwy Arglwydd Faer ac un
cynghorydd ar gyfer rôl yr Arglwydd Faer. 7.2 Mewn blwyddyn
lle ceir Etholiad Llywodraeth Leol, bydd trydydd neu bedwerydd
argymhelliad sy'n ceisio penderfyniad i enwi'r 5 cynghorydd nesaf a fydd yn
gymwys os na chaiff yr enwebiadau cychwynnol eu hail-ethol. Penodir y 5 cynghorydd ychwanegol yn unol â'r
protocol. 7.3 Pan gaiff
cynghorydd ei ethol i swydd Dirprwy Arglwydd Faer, yna byddai'r person hwnnw'n
dod yn Arglwydd Faer yn y flwyddyn ddinesig ganlynol, yn amodol ar y Prawf
Priodoldeb. 8 Rôl y cyngor 8.1 Bydd y cyngor
yn derbyn adroddiad Gweithgor y Cyfansoddiad ynghylch enwebiadau ar gyfer
Arglwydd Faer a Dirprwy Arglwydd Faer.
Bydd yn ystyried a ddylid derbyn argymhellion Gweithgor y Cyfansoddiad
neu beidio. 8.2 Mewn blwyddyn
pan gynhelir Etholiad Llywodraeth Leol, gofynnir i'r cyngor dderbyn
enwebiadau ar gyfer y 5 cynghorydd nesaf dan y protocol hwn er mwyn cael safle
syrthio'n ôl awtomatig os na fydd yr enwebiadau cychwynnol yn cael eu
hail-ethol. Byddai'r syrthio'n ôl
awtomatig yn golygu y bydd y cynghorydd nesaf cymwys a fu'n destun y Prawf
Priodoldeb gan Weithgor y Cyfansoddiad ac a basiodd y prawf yn cael ei ethol i
swydd Arglwydd Faer/Dirprwy Arglwydd Faer yn ôl yr angen. 8.3 Os na fydd y
cyngor yn derbyn argymhellion Gweithgor y Cyfansoddiad, dylid gohirio'r mater
tan naill ai gyfarfod cyffredinol y cyngor neu gyfarfod arbennig y cyngor er
mwyn i Weithgor y Cyfansoddiad ystyried y prawf priodoldeb ar gyfer y cynghorydd
nesaf ar y rhestr yn seiliedig ar hyd ei wasanaeth. 9 Gohirio Cyfnod yn y
Swydd 9.1 Gall cynghorydd
ofyn i'w gyfnod yn y swydd gael ei ohirio am unrhyw gyfnod o amser neu hyn yn
oed am gyfnod amhenodol o amser. Fodd
bynnag, rhaid i'r fath gais gael cefnogaeth y rhan fwyaf o arweinwyr y pleidiau
gwleidyddol. Os bydd nifer cyfartal yn
cefnogi ac yn gwrthwynebu, bydd Gweithgor y Cyfansoddiad yn ystyried y mater. 9.2 Unwaith y bydd
cynghorydd wedi cwblhau'r cyfnod a ohiriwyd, cânt eu rhoi yn ôl ar y Rhestr
Hynafedd yn unol â'u hynafedd. Bydd yn
dilyn y person nesaf ar y rhestr i fod yn Ddirprwy Arglwydd Faer ond ni
chaniateir iddo gymryd lle'r person nesaf ar y rhestr os yw'r cyfnod tan yr
amser dethol nesaf yn llai na 6 mis. 10 Teitl
a Chadwyn Swydd yr Arglwydd Faeres/Cydymaith yr Arglwydd Faer/y Dirprwy
Arglwydd Faeres/Cydymaith y Dirprwy Arglwydd Faer 10.1 Rhoddir Teitl a Chadwyn Swydd yr
Arglwydd Faeres/Cydymaith yr Arglwydd Faer/y Dirprwy Arglwydd Faeres/Cydymaith y
Dirprwy Arglwydd Faer mewn Cyfarfod Seremonïol o'r cyngor yn flynyddol. 10.2 Gall unrhyw berson arall fynd gyda'r
Arglwydd Faer/Dirprwy Arglwydd Faer i unrhyw ymrwymiadau dinesig y byddai'r un
cwrteisi a blaenoriaeth yn cael eu cynnig iddynt, fodd bynnag, ni ellir gwisg0
Cadwyn y Swydd. 11 Ymddygiad yr Arglwydd
Faer/Dirprwy Arglwydd Faer yn ystod ei Gyfnod yn y Swydd 11.1 Os codir
amheuaeth ynghylch ymddygiad yr Arglwydd Faer/Dirprwy Arglwydd Faer yn ystod ei
gyfnod yn y swydd, dylid dweud wrth y Prif Weithredwr, y Swyddog Monitro,
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ac Arweinydd y Blaid Wleidyddol berthnasol
am yr ymddygiad. 11.2 Fodd bynnag, os
gall yr ymddygiad honedig arwain at ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru mewn perthynas ag unrhyw achos o dorri'r Côd Ymddygiad, unrhyw
gosbau a roddir, unrhyw achos llys neu fater arall yr ystyrir ei fod yn
berthnasol, yna dylai'r achwynydd gyfeirio'r mater at Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru neu'r heddlu, fel y bo'n briodol. 11.3 Caiff yr honiad
ei drosglwyddo i Weithgor y Cyfansoddiad er mwyn iddo ystyried a oes angen iddo
gymryd camau yn ei gylch ar unwaith. Dylai'r grŵp ystyried y pwynt y tybir
bod pobl yn ddieuog ac ni ddylai wneud unrhyw benderfyniadau i rwystro'r sail
honno o'r gyfraith. Fodd bynnag, gall Gweithgor y Cyfansoddiad benderfynu ar
unrhyw gosb briodol yn seiliedig ar y Prawf Priodoldeb yn dilyn canlyniad
ymchwiliad yr Ombwdsmon neu'r Heddlu (os oes un). 12 Atal o Swydd fel
Cynghorydd 12.1 Os caiff
cynghorydd ei atal rhag cyflawni'i swydd fel cynghorydd am gyfnod ei amser yn
dilyn achos o dorri Côd Ymddygiad Cynghorwyr, rhaid dilyn y camau gweithredu
canlynol: a)
Ni fyddai cynghorydd sydd wedi'i atal, ei atal yn rhannol
neu ei anghymwyso'n bodloni'r meini prawf i fod yn Arglwydd Faer/Ddirprwy
Arglwydd Faer mwyach, a byddai felly'n gadael y swydd yn awtomatig. b)
Caiff y mater ei gyfeirio'n awtomatig at Weithgor y
Cyfansoddiad er mwyn iddo ystyried a ddylid penodi Arglwydd Faer, Dirprwy
Arglwydd Faer etc. newydd. 13 Ymddygiad
Cydymaith yr Arglwydd Faer/Cydymaith y Dirprwy Arglwydd Faer/Yr Arglwydd
Faeres/Dirprwy Arglwydd Faeres yn ystod ei Chyfnod yn y Swydd 13.1 Os codir
amheuaeth ynghylch ymddygiad Cydymaith
yr Arglwydd Faer/Cydymaith y Dirprwy Arglwydd Faer/yr Arglwydd Faeres/y Dirprwy
Arglwydd Faeres yn ystod ei chyfnod yn y swydd, dylid dweud wrth y Prif
Weithredwr, y Swyddog Monitro, Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ac
Arweinydd y Blaid Wleidyddol berthnasol am yr ymddygiad. 13.2 Caiff unrhyw
honiad ei drosglwyddo i Weithgor y Cyfansoddiad er mwyn iddo ystyried a oes
angen iddo gymryd camau yn ei gylch ar unwaith. Gallai camau gweithredu gynnwys
atal yr unigolyn am gyfnod o amser neu geisio penderfyniad gan y cyngor i
ddiswyddo'r unigolyn. Atodiad
A1 Cyfanswm Hyd Gwasanaeth
Cynghorwyr yn Ninas a Sir Abertawe a phob un o'i awdurdodau blaenorol (21.05.2018).
Atodiad
B1 Pwerau
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Phanel Dyfarnu Cymru 1
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystyried
cwynion ynghylch aelodau awdurdodau lleol yng Nghymru sydd wedi torri'r Côd
Ymddygiad. Mae'r Ombwdsmon yn ymchwilio
i'r fath gwynion o dan ddarpariaethau Rhan 111 Deddf Llywodraeth Leol 2000 a'r
Gorchmynion Perthnasol a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y Ddeddf
honno. Os bydd yr Ombwdsmon yn
penderfynu y dylid ymchwilio i gŵyn, mae pedwar casgliad a nodir o dan
Adran 69 Deddf Llywodraeth Leol 2000 y gall yr Ombwdsmon ddod iddynt: a)
Nid oes tystiolaeth y torrwyd Côd Ymddygiad yr awdurdod; b)
Nid oes angen cymryd camau gweithredu mewn perthynas â'r
materion a oedd yn destun yr ymchwiliad; c)
Dylid cyfeirio'r mater at Swyddog Monitro'r awdurdod er
mwyn i'r Pwyllgor Safonau ystyried y mater; ch) That the matter be referred to the
President of the Adjudication Panel for Wales for adjudication by a tribunal
(this generally happens in more serious cases). 2
Yn amgylchiadau c) ac ch) uchod, mae'n ofynnol i'r
Ombwdsmon gyflwyno adroddiad ar yr ymchwiliad i'r Pwyllgor Safonau neu
Dribiwnlys Panel Dyfarnu Cymru, a'u cyfrifoldeb hwy yw ystyried y dystiolaeth a
ganfuwyd gan yr Ombwdsmon, ynghyd ag unrhyw amddiffyniad a gynigir gan yr aelod
dan sylw. Eu penderfyniad hwy hefyd yw penderfynu a fu toriad ac, os felly, pa
gosb (os unrhyw un) y dylid ei rhoi. 3
Y gosb uchaf y gall y Pwyllgor Safonau ei rhoi yw
atal aelod am 6 mis. Wrth
ystyried a yw cynghorydd neu aelod cyfetholedig wedi methu cydymffurfio â Chôd
Ymddygiad perthnasol yr awdurdod, gall hefyd benderfynu ar y canlynol: a)
Nid oes angen cymryd camau gweithredu o ran y methiant
hwnnw; b)
Dylid ceryddu'r cynghorydd neu'r aelod cyfetholedig
(ceryddir yr aelod dan sylw yn gyhoeddus); c)
Dylid atal cynghorydd neu aelod cyfetholedig neu ei atal
yn rhannol rhag bod yn aelod o'r awdurdod hwn am gyfnod o hyd at chwe mis. 4
Y cyfnod mwyaf y gall Tribiwnlys Panel Dyfarnu
benderfynu arni yw atal person rhag y swydd am 5 mlynedd. Gall y tribiwnlys: a)
Atal person neu ei atal yn rhannol rhag bod yn gynghorydd
neu'n aelod cyfetholedig o'r awdurdod perthnasol dan sylw am gyfnod o hyd at
flwyddyn, neu, os yw'n fyrrach, weddill cyfnod y person hwnnw yn y swydd; b)
Anghymwyso person am fod neu ddod (boed trwy etholiad neu
fel arall) yn gynghorydd yn yr awdurdod perthnasol hwnnw neu unrhyw awdurdod
perthnasol arall am gyfnod nad yw'n fwy na 5 mlynedd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Sut mae cynghorwyr a swyddogion yn ymdrin â cheisiadau cynllunio 1 Cyflwyniad 1.1 Mae'r system
gynllunio'n cynnwys gwneud penderfyniadau am ddatblygiad tir a'r defnydd ohono
er budd ehangach y cyhoedd, yn unol â darpariaethau'r Cynllun Datblygu, oni bai
fod ystyriaethau cynllunio hanfodol sy'n nodi fel arall yn bwysicach na hyn. 2 Rôl Cynghorwyr 2.1 Cynghorwyr sy'n
penderfynu ar Bolisi Cynllunio'r cyngor. Rhaid iddynt lynu wrth
ddarpariaethau'r Côd Ymddygiad yn ystod proses y
cynllun datblygu. Mae'n hanfodol eu bod yn arfer eu cyfrifoldebau eu hunain i
ddatgan unrhyw gysylltiadau personol megis perchnogaeth tir neu fuddiannau
busnes y gall y broses o baratoi cynlluniau effeithio arnynt. 2.2 Pan fydd
aelodau o'r Pwyllgor Cynllunio yn penderfynu ar gais cynllunio, byddant yn: a)
Gweithredu'n deg ac yn
agored; b)
Ystyried pob cais â meddwl
agored; c)
Pwyso a mesur yr holl
faterion perthnasol yn ofalus; ch) Penderfynu ar bob
cais yn ôl ei haeddiant; d)
Osgoi cyswllt gormodol â
phartïon â diddordeb; dd)
Sicrhau bod y rhesymau
dros eu penderfyniadau wedi'u nodi'n glir. 2.3 Nid yw aelodau nad ydynt yn rhan o'r Pwyllgor Cynllunio
wedi'u rhwymo gan reolau cyn penderfynu ac yn gyffredinol, maent yn rhydd i: a)
Drafod unrhyw gais
cynllunio ag ymgeisydd a/neu grŵp lobïo; b)
Mynd i unrhyw gyfarfod a
drefnwyd gan ymgeisydd a/neu grŵp lobïo; c)
Mynd i gyfarfod Cyngor
Tref/Cymuned a siarad ynddo; ch) Trosglwyddo
gwybodaeth berthnasol am gais i'r swyddog cynllunio; d)
Ceisio gwybodaeth gan y
swyddog cynllunio. 2.4 Rhaid iddynt
lynu wrth y Côd Ymddygiad i Aelodau ar bob adeg ac ni
allant ddylanwadu'n amhriodol ar swyddogion cynllunio. 3 Rôl Swyddogion 3.1 Swyddogaeth
swyddogion yw cynghori a chynorthwyo cynghorwyr o ran materion polisi cynllunio
a phenderfynu ar geisiadau cynllunio drwy: a)
Roi cyngor di-duedd a
phroffesiynol; b)
Sicrhau y rhoddir yr holl
wybodaeth sy'n angenrheidiol er mwyn gwneud penderfyniad; c)
Darparu dadansoddiad clir
a chywir o'r materion; ch) Asesu'r cais yn
erbyn polisïau cynllun datblygu'r cyngor a'r holl ystyriaethau pwysig eraill; d)
Rhoi argymhelliad clir; dd)
Gweithredu penderfyniadau
cynghorwyr mewn pwyllgorau neu yn y cyngor. 4 Lobïo 4.1 Mae'n gyffredin
iawn i ymgeiswyr neu bartïon eraill â diddordeb ddymuno trafod datblygiad
arfaethedig â chynghorwyr cyn iddynt benderfynu ar gais cynllunio. 4.2 Gall hyn helpu
dealltwriaeth cynghorwyr o'r problemau a'r pryderon sy'n gysylltiedig â
chais. Fodd bynnag, i osgoi peryglu eu
sefyllfa cyn iddynt dderbyn yr holl wybodaeth berthnasol, bydd aelodau'r
Pwyllgor Cynllunio yn: a)
Osgoi cwrdd ag ymgeisydd
neu ymgeisydd posib ar eu pennau eu hunain cyhyd ag y bo modd; b)
Osgoi ei gwneud hi’n
hysbys a yw'n cefnogi neu'n gwrthwynebu'r cynnig; c)
Cyfyngu eu hymateb i roi
cyngor ar weithdrefnau; ch) Peidio â rhoi pwysau ar swyddogion i wneud argymhelliad penodol yn eu
hadroddiad; d)
Cyfarwyddo lobïwyr neu'r
sawl sy'n gwrthwynebu swyddogion cynllunio a fydd yn cynnwys cyfeiriad at eu
barn lle bo'n berthnasol yn eu hadroddiad; dd)
Dweud wrth Bennaeth
Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas neu Aelod y Cabinet am unrhyw lobïo. 4.3 Lle bydd cynghorydd yn teimlo bod ei amhleidioldeb wedi'i
beryglu, bydd angen iddo benderfynu a ddylai ddatgan cysylltiad personol a
thynnu'n ôl o'r broses benderfynu. 4.4 Nid yw bod yn aelod o Gyngor Tref/Cymuned sydd wedi
mynegi barn ar y cais yn peri gwrthdaro ar yr amod bod yr aelod yn cadw meddwl
agored. Bydd Swyddog Monitro'r cyngor yn
rhoi cyngor ar a ddylid datgan cysylltiad mewn achosion o amheuaeth. 5 Trafodaethau ag
ymgeiswyr posib 5.1 Anogir cyfarfodydd
cyn cyflwyno cais ag ymgeiswyr posib, ond er mwyn osgoi unrhyw
gamddealltwriaeth yn hyn o beth, bydd y rhain fel arfer ar lefel swyddogion a: a)
Lle byddant yn cynnwys
aelodau'r Pwyllgor Cynllunio, byddant mewn fforwm a ragnodir at y diben; b)
Bydd o leiaf ddau swyddog,
gan gynnwys Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas neu ei gynrychiolydd, yn
mynd i gyfarfodydd a allai fod yn ddadleuol; c)
Gwneir nodyn o'r
drafodaeth a'i roi ar ffeil a bydd ar gael i'r cyhoedd ei weld ar yr adeg
briodol; ch) Eglurir yn y fath gyfarfodydd mai barn bersonol a dros dro'n seiliedig ar y
Cynllun Datblygu’n unig y gellir ei rhoi, ac ni ellir gwneud unrhyw
benderfyniadau a fyddai'n rhwymo neu fel arall yn peryglu'r Pwyllgor Cynllunio
neu'r cyngor. 6 Penderfyniadau
sy'n groes i argymhelliad swyddog 6.1 O bryd i'w gilydd, bydd aelodau'r pwyllgorau cynllunio
neu'r cyngor yn anghytuno â chyngor proffesiynol a roddir gan y Pennaeth
Cynllunio ac Adfywio. 6.2 Yn y fath achosion, nodir y rhesymau dros wrthod
argymhelliad y swyddog yn glir a'i gofnodi yng nghofnodion y cyfarfod. Os bydd
apêl yn erbyn y fath benderfyniad, bydd swyddogion yn cefnogi'r aelodau
perthnasol wrth baratoi tystiolaeth ar
gyfer yr apêl. 7 Ymweliadau Safle 7.1 Gall ymweliadau
safle fod yn ddefnyddiol i nodi nodweddion cynnig a
all fod yn anodd eu cyfleu mewn adroddiad ysgrifenedig, ond gallant
oedi'r penderfyniad ar gais. 7.2 Lle y bo'n
briodol fodd bynnag, aelod ward bydd fel arfer yn gofyn am y rhain ar adeg galw
cais i bwyllgor; neu 7.3 Cânt eu hawdurdodi
gan y pwyllgor perthnasol neu gan Bennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas neu ei
gynrychiolydd, mewn ymgynghoriad â chadeirydd y pwyllgor perthnasol; 7.4 Fel arfer,
cynhelir yr ymweliadau safle rhwng cyhoeddi agenda'r pwyllgor a'r cyfarfod
pwyllgor. 8 Ceisiadau cynllunio gan
gynghorwyr a swyddogion y cyngor 8.1 Pan gaiff cais
ei gyflwyno gan unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r broses gynllunio, bydd yr aelod
neu'r swyddog yn gwneud y canlynol: a)
Hysbysu Pennaeth Cynllunio
ac Adfywio'r Ddinas a Swyddog Monitro'r cyngor; b)
Ni fydd yn ymwneud â
phrosesu nac yn penderfynu ar y cais. 8.2 Bydd Pennaeth
Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas yn sicrhau y penderfynir ar yr holl geisiadau yn
y cyfarfod pwyllgor ac nid dan bwerau dirprwyedig. 9 Ceisiadau cynllunio gan
y cyngor 9.1 Mae angen
caniatâd cynllunio ar y cyngor i wneud neu awdurdodi gwaith datblygu ar dir y
mae'n berchen arno. Caiff y ceisiadau hyn eu trin yn yr un ffordd â'r rhai gan
ymgeiswyr preifat. 10 Cwynion 10.1 Gellir codi
unrhyw faterion neu bryderon sy'n codi o'r Côd
Ymarfer gyda'r aelod perthnasol o'r Cabinet sy'n gyfrifol am gynllunio, y
Cyfarwyddwr Corfforaethol (Lleoedd) neu Bennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. 10.2 Mae system gwyno ffurfiol ar waith gan y cyngor y gellir ei defnyddio os oes angen a'i chyrchu drwy'r ddolen ganlynol: https://www.abertawe.gov.uk/article/7327/Gwneud-Cwyn 10.3 Gellir cysylltu
â Thîm Cwynion y Cyngor drwy ffonio 01792 63 7345. 10.4 Gellir cyfeirio
materion ynghylch camweinyddiaeth at Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn y cyfeiriad isod: ·
1
Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ ·
0300
790 0203 ·
holwch@ombwdsmon-cymru.org.uk |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Teitl Arglwydd Faer neu Ddirprwy Arglwydd Faer mewn Gohebiaeth gan Gynghorwyr 1 Cyflwyniad 1.1 Mae'r protocol hwn yn rhoi arweiniad i gynghorwyr ar ddefnyddio'r teitl
Arglwydd Faer neu Ddirprwy Arglwydd Faer yn eu gohebiaeth. Ystyrir bod torri'r protocol hwn yn achos o
dorri'r Côd Ymddygiad Aelodau. Felly, os caiff ei dorri, dylid dweud wrth
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. 2 Arwyddair Personol
a/neu Arfbais Ddinesig 2.1 Ni chaniateir i'r Arglwydd Faer, y Dirprwy Arglwydd Faer na chynghorwyr
ddefnyddio arwyddair personol neu ddefnyddio neu ddiwygio'r Arfbais Ddinesig
mewn gohebiaeth. 3 Defnyddio'r teitl
Arglwydd Faer neu Ddirprwy Arglwydd Faer 3.1 Ni chaniateir y defnydd o'r teitl Arglwydd Faer neu Ddirprwy Arglwydd
Faer mewn gohebiaeth bersonol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Mynediad gan Aelodau'r Cyhoedd i Ystafelloedd Pleidiau Gwleidyddol ac Ardaloedd Eraill i Gynghorwyr 1 Cyflwyniad 1.1 Mae'r protocol hwn yn rhoi arweiniad i gynghorwyr ar fynediad i aelodau'r
cyhoedd i Ystafelloedd Pleidiau Gwleidyddol ac ardaloedd eraill
cynghorwyr. Ystyrir bod torri'r protocol
hwn yn achos o dorri'r Côd Ymddygiad Aelodau. Felly, os bydd toriad, dylid dweud wrth
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. 1.2 Er bod mynediad i ystafelloedd wedi'i amlinellu isod, ni ddylid caniatáu
i aelodau'r cyhoedd ddefnyddio cyfarpar TGCh y cyngor
nac unrhyw gyfleuster arall y mae protocolau eraill y cyngor yn ei
wahardd. Caniateir y defnydd o ffonau'r
cyngor yn ardaloedd y cynghorwyr ond gyda chaniatâd cynharach y cynghorydd yn
unig. Rhaid i'r fath ddefnydd fod yn
gymedrol, yn angenrheidiol ac yn briodol. 2 Mynediad gan
Aelodau'r Cyhoedd i Ystafelloedd Pleidiau Gwleidyddol ac Ardaloedd Eraill i
Gynghorwyr 2.1 Ni fydd arweinwyr pleidiau gwleidyddol/dirprwy arweinwyr pleidiau
gwleidyddol yn gyfrifol am benderfynu a ddylid caniatáu i aelodau o'r cyhoedd
fod heb oruchwyliaeth yn eu Hystafelloedd Pleidiau Gwleidyddol. 2.2 Cynghorir arweinwyr pleidiau gwleidyddol/dirprwy arweinwyr gwleidyddol i
ystyried a oes gan yr aelod o'r cyhoedd reswm cyfiawn dros gael ei wahodd i'r
Ystafell Pleidiau Gwleidyddol neu beidio. 2.3 Bydd arweinydd perthnasol y blaid wleidyddol/dirprwy arweinydd perthnasol
y blaid wleidyddol yn gyfrifol am gadw trefn ar ystafelloedd eu pleidiau
gwleidyddol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gohebiaeth Cynghorwyr 1. Cyflwyniad 1.1 Mae'r protocol
hwn yn rhoi arweiniad i gynghorwyr ar ddefnyddio logos. delweddau personol
a/neu liwiau pleidiau gwleidyddol/grwpiau gwleidyddol yn eu gohebiaeth. 1.2 Ni ddylai cynghorwyr
ddefnyddio cyfleusterau ac adnoddau'r cyngor, gan gynnwys penawdau llythyrau a
gohebiaeth arall i hyrwyddo'u grŵp gwleidyddol na dibenion eu plaid
wleidyddol. 1.3 Ystyrir bod
torri'r protocol hwn yn achos o dorri'r Côd Ymddygiad
Aelodau. Rhaid dweud wrth Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru am unrhyw doriad o'r fath. 2. Plaid
Wleidyddol/Enwau/Lliwiau/Logos a/neu Ddelweddau Personol Grwpiau Gwleidyddol
Cynghorwyr 2.1 Ni fydd y
cyngor yn gallu argraffu na chaniatáu i'w offer/gyfleusterau gael eu defnyddio
i argraffu (neu gyhoeddi) gohebiaeth ar gyfer cynghorwyr sy'n cynnwys eu plaid
wleidyddol/enwau /lliwiau/logos grwpiau gwleidyddol a/neu ddelweddau personol. 3. Posteri
Cymorthfeydd Cynghorwyr 3.1 Caniateir
posteri cymorthfeydd cynghorwyr a argraffwyd gan y cyngor ar yr amod eu bod
naill ai'n cael eu hargraffu gan ddefnyddio'r lliwiau corfforaethol neu mewn du
a gwyn. 3.2 Caniateir llun
lliw o'r cynghorydd ar gyfer posteri cymorthfeydd y cynghorydd; fodd bynnag, ni
chaniateir logo/enw'r blaid/grŵp gwleidyddol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Protocol Ymateb i Ohebiaeth Cynghorwyr 1. Cyflwyniad 1.1 Mae'r llyfryn "Gwasanaethau Cwsmeriaid - Canllawiau i staff" yn amlinellu'r canllawiau ymateb i geisiadau cwsmeriaid. Nid yw'r canllawiau hyn yn gwahaniaethu rhwng aelodau'r cyhoedd a chynghorwyr. Mae'r protocol hwn yn gwahaniaethu rhwng cynghorwyr a'r cyhoedd. 2. Ceisiadau am Wasanaeth 2.1 Weithiau, mae'n
debygol y bydd cynghorydd yn mynd at swyddog yn uniongyrchol er mwyn gwneud
cais am wasanaeth (e.e. adrodd am olau stryd diffygiol, gofyn am apwyntiad
etc.) Ar y fath achlysuron, nid yw'r
protocol yn berthnasol. Bydd y swyddog
yn trosglwyddo'r Cais am Wasanaeth i'r is-adran berthnasol ac ymdrinnir ag ef
yn y ffordd arferol. 3. Canllawiau Ymateb i Geisiadau Cynghorwyr 3.1
Mae'r
canllawiau hyn yn berthnasol i bob math o ohebiaeth (ysgrifenedig neu lafar)
gan gynnwys y rhai a dderbynnir yn y Gymraeg. 3.2 Os gellir rhoi
ymateb o fewn 5 niwrnod gwaith clir, nid oes angen cydnabod bod y cais wedi'i
dderbyn. 3.3
Lle nad yw hyn yn bosib (e.e. oherwydd cymhlethdod),
anfonir cydnabyddiaeth o fewn y 5 niwrnod gwaith clir. Gall y gydnabyddiaeth fod yn llythyr
ysgrifenedig neu'n e-bost a rhaid iddi gynnwys y rhesymau dros yr oedi ac
amserlen realistig ar gyfer yr ymateb. 3.4 Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol i bob math o ohebiaeth (ysgrifenedig neu lafar) gan gynnwys y rhai a dderbynnir yn y Gymraeg. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Personal Safety - Councillors Guide |