Rhif | Eitem | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynnwys |
|||||||||||||||||
Swyddfa'r Cabinet a'r Gwasanaethau Democrataidd Mae Swyddfa’r Cabinet yn cyflawni rôl cynorthwy-ydd personol i Aelodau (Gweithrediaeth) y Cabinet. Mae Tîm y Gwasanaethau Democrataidd (GD) yn darparu cefnogaeth weinyddol gyffredinol i bob cynghorydd anweithredol. |
|||||||||||||||||
Gohebiaeth 1
Fel rhan o raglen Abertawe Gynaliadwy - Yn Addas i'r
Dyfodol, mae cynghorwyr ac aelodau cyfetholedig wedi dod yn fwy
hunangynhaliol. Yn sgîl
yr agenda hunanwasanaeth, mae cynghorwyr wedi croesawu TG, meddalwedd
gysylltiedig a system daliadau Oracle. 2
Disgwylir i gynghorwyr reoli eu negeseuon e-byst, eu
dyddiadur a'u gohebiaeth eu hunain. Os
bydd angen unrhyw gefnogaeth arnynt, gall y Tîm Hyfforddiant ddarparu
hyfforddiant mewn rhai meysydd. 3
Gall Swyddfa’r Cabinet/Tîm y GD gynorthwyo â
phrawf-ddarllen dogfennau ar gais. 4
Gall Swyddfa’r Cabinet/Tîm y GD anfon pyst cyffredinol
nad ydynt yn wleidyddol ar gyfer gwaith ward etholiadol cynghorwyr. Fodd bynnag, disgwylir i gynghorwyr deipio'u
llythyrau eu hunain er gall y timau gynorthwyo â fformatio. Bydd Swyddfa’r Cabinet/Tîm y GD yn trefnu i
lythyrau gael eu hargraffu drwy DesignPrint, ond telir am unrhyw gostau plygu
neu bostio o gyllideb gymunedol cynghorwyr unigol. 5
Ni all Swyddfa’r Cabinet/Tîm y GD ymdrin â gohebiaeth
sy'n wleidyddol, yn cynnwys gwybodaeth y gellid ei hystyried yn enllibus neu
sy'n bersonol. |
|||||||||||||||||
Dyddiadur Cyrff y Cyngor 1 Gellir gweld Dyddiadur Cyrff y Cyngor ar-lein yn http://www.swansea.gov.uk/councildiary 2 Bydd Swyddfa’r Cabinet yn cynorthwyo wrth reoli dyddiaduron ar gyfer Aelodau'r Cabinet. Disgwylir i'r holl gynghorwyr ac aelod cyfetholedig eraill reoli eu dyddiaduron eu hunain. |
|||||||||||||||||
Ystafelloedd Pleidiau Gwleidyddol 1 Gan ddibynnu ar faint Plaid Wleidyddol, mae'n
debygol y clustnodir ystafell ar ei chyfer.
Darperir yr ystafelloedd â'r eitemau canlynol: ·
Blwch llythyrau lle gadewir
eich agendâu, a'ch post etc. er mwyn i chi eu casglu; ·
Cyfrifiadur(on) personol; ·
Ffôn(au); ·
Cyfleusterau storio (2 ddrâr
cabinet ffeilio fesul cynghorydd) ·
Celfi swyddfa. |
|||||||||||||||||
Cerdyn Adnabod (ID) 1 Mae'n rhaid i gynghorwyr wisgo'u cerdyn adnabod drwy'r amser. Mae'r cerdyn hwn yn caniatáu mynediad i'r Ganolfan Ddinesig a Neuadd y Ddinas. 2 Os nad yw eich cerdyn adnabod yn caniatáu mynediad i chi, ewch i http://www.swansea.gov.uk/staffnet/replacementflexicard. 3 Os ydych yn colli'ch cerdyn neu wedi'i roi yn y lle anghywir, hysbyswch Swyddfa’r Cabinet/Tîm y GD ar unwaith. Bydd yr adran AD yn "blocio'r" cerdyn i sicrhau na chaiff ei ddefnyddio gan unrhyw un arall. Gellir archebu un newydd y bydd yn rhaid i'r cynghorydd dalu amdano (£5 ar hyn o bryd). 4 Gellir cael cardiau adnabod dros dro gan Dîm y GD ond rhaid eu dychwelyd ar yr un diwrnod cyn gadael yr adeilad. |
|||||||||||||||||
Derbyn Post/Agendâu etc. Bookmark 6 1
Caiff
post sy'n cyrraedd, gan gynnwys agendâu ar gyfer cyfarfodydd y cyngor, ei
ddosbarthu'n ddyddiol a'i adael mewn blychau llythyrau a ddarperir i bob
cynghorydd. 2
Ar hyn o bryd mae'r
awdurdod yn darparu gwasanaeth dosbarthu post i'r holl gynghorwyr ar nos Wener;
fodd bynnag, gofynnir i gynghorwyr wneud ymdrech i gasglu unrhyw agendâu/bost
yn uniongyrchol o'u blychau llythyrau er mwyn lleihau costau. 3
Mae nifer o gynghorwyr
wedi dewis peidio â defnyddio'r gwasanaeth dosbarthu post. Maent wedi dewis casglu agendâu eu hunain a
defnyddio'r ap Modern.gov i lawrlwytho fersiynau electronig o'r agendâu. Caiff agendâu eu hanfon yn uniongyrchol at
bob cynghorydd drwy e-bost. Mae gwe-dudalennau'r cynghorwyr, democratiaeth ac
etholiadau ar gael i'w gweld yn https://democracy.swansea.gov.uk/uuCoverPage.aspx?bcr=1&LLL=1
. 4
Os ydych am ddewis peidio
â derbyn y Gwasanaeth Dosbarthu Post, hysbyswch Swyddfa’r Cabinet/Tîm y GD. |
|||||||||||||||||
E-bostio a Thâl Post 1 Cynghorir cynghorwyr i ddefnyddio gohebiaeth electronig
lle bynnag y bo modd. Gall yr awdurdod
anfon post ar ran cynghorwyr; fodd bynnag, ar gyfer swmp o bost, didynnir y
gost o gyllideb gymunedol y
cynghorwyr. 2 Ni fydd Swyddfa’r Cabinet/Tîm y GD yn argraffu'r holl
e-byst i gynghorydd. Fodd bynnag, gellir
trefnu hyfforddiant er mwyn addysgu cynghorydd sut i wneud hyn. |
|||||||||||||||||
Microwefan Cynghorwyr (SharePoint) Mae offeryn ar-lein "microwefan" penodol i gynghorwyr ar gael i ddangos gwybodaeth ddefnyddiol i gynghorwyr. |
|||||||||||||||||
Cefnogaeth Weinyddol 1 Bydd y ddau dîm
yn ateb ymholiadau ffôn cyffredinol gan aelodau'r cyhoedd, a'u cyfeirio lle y
bo'r angen at y cynghorydd perthnasol neu'n darparu manylion cyswllt yr Aelod
Cynulliad/Aelod Seneddol. 2 Bydd y ddau dîm
yn gweithredu fel pwynt cyswllt canolog i gynghorwyr am eu hymholiadau
cyffredinol ar gyfer adrannau ac yn darparu gwybodaeth am gysylltiadau
swyddogion mewn adrannau gwasanaeth. |
|||||||||||||||||
Gwasanaethau Llungopïo, Ffacsio a Sganio 1
Mae dyfeisiau amlswyddogaethol ar gael mewn lleoliadau
allweddol ledled yr awdurdod. Darperir
cyfrif argraffydd i bob cynghorydd y gellir cael mynediad ato drwy gerdyn
adnabod y cynghorydd. Sylwer na
chaniateir argraffu deunydd personol. 2
Mae'r dyfeisiau amlswyddogaethol hefyd yn cynnwys
cyfleuster sganio er mwyn sganio dogfennau a'u hanfon drwy e-bost. |
|||||||||||||||||
Cefnogaeth TGCh 1
Gellir cysylltu â Desg
Wasanaeth TGCh mewn dwy ffordd. 01792 63 6900 neu ict.servicedesk@swansea.gov.uk. |
|||||||||||||||||
Hyfforddiant 1
Bydd yr awdurdod yn hysbysu cynghorwyr o gyfleoedd
hyfforddiant neu'n trefnu hyfforddiant ar eu cyfer a fydd yn cynnwys cyrsiau,
seminarau, cynadleddau a hyfforddiant sefydlu i bob cynghorydd a hyfforddiant
arall yn amodol ar argaeledd adnoddau/cyllidebol. |
|||||||||||||||||
Cefnogaeth Cymorthfeydd Wardiau Etholiadol 1
Bydd yr awdurdod yn talu ffi resymol am logi cymhorthfa,
ar ôl i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gytuno ar hyn ymlaen llaw. 2
Dylid anfon anfonebau am gymorthfeydd ymlaen at Dîm y GD
yn fisol neu'n chwarterol ac erbyn diwedd mis Mawrth y flwyddyn ariannol
berthnasol ar gyfer eu prosesu. 3
Gall posteri sy'n dangos manylion cymorthfeydd gael eu hargraffu
i'w dosbarthu yn y ward etholiadol. |
|||||||||||||||||
Gwe-dudalennau 1
Cynghorir cynghorwyr i fanteisio ar yr adran
"Amdanoch Chi" ar wefan y cyngor am ei bod yn rhoi cyfle i chi
amlygu'ch diddordebau etc. Mae'r
wybodaeth i'w chael yn www.abertawe.gov.uk/cynghorwyr. |
|||||||||||||||||
Ystafell Gyfarfod Cynghorwyr 1 Ystafell Gyfarfod Cynghorwyr yw Ystafell 235, Neuadd y Ddinas. Mae lle i 12 i 14 o bobl eistedd o gwmpas y bwrdd. 2 Caiff yr ystafell ei neilltuo ar sail y cyntaf i'r felin a chyfyngir slotiau cyfarfodydd i 2 awr. Ni chaniateir archebion grŵp oni bai eu bod at ddiben megis cyfarfod plaid wleidyddol rheolaidd. Bydd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn gweithredu protocol defnydd rhesymol ar gyfer yr ystafell. 3 Gellir archebu drwy ffonio Tîm y Gwasanaethau Democrataidd (GD) ar 01792 63 6923 neu e-bostio democratiaeth@abertawe.gov.uk. |
|||||||||||||||||
Rhestr Gyswllt Mwy o Wybodaeth
|