Rhif | Eitem |
---|---|
Content 2 Cyflogau, Lwfansau a Threuliau Cynghorwyr 4 Hepgor Cyflog a/neu Lwfansau 5 Dyletswyddau Cymeradwy/Busnes Swyddogol 6 Teithio 9 Teithio mewn Car Cronfa/Wedi'i Hurio 15 Teithio Dramor, Arian Tramor a Chyfathrebiadau Busnes sy'n ymwneud â'r Cyngor 16 Hawlio 18 Buddiannau, Rhoddion a Lletygarwch Cynghorwyr 19 Treth Incwm 20 Cyfraniadau Yswiriant Gwladol 21 Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 22 Yswiriant |
|
Cyflwyniad 1
Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) sy'n penderfynu ar
ad-dalu cynghorwyr yn flynyddol. Er nad yw cynghorwyr ac aelodau cyfetholedig yn
weithwyr cyflogedig, i'r rhan fwyaf o ddibenion cânt eu had-dalu yn yr un
ffordd â gweithwyr cyflogedig. 2
Mae'r ddogfen hon yn rhoi gwybodaeth ymarferol i gynghorwyr ac aelodau
cyfetholedig am gyflogau, lwfansau a threuliau. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch
â Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, Swyddfa'r Cabinet, y Gwasanaethau
Democrataidd neu'r gyflogres. 3 Gellir dod o hyd
i fwy o wybodaeth
ac arweiniad yn: i) Atodlen
Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau; ii) www.abertawe.gov.uk/teithioathreuliau; iii) Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW). |
|
Cyflogau, Lwfansau a Threuliau Cynghorwyr 1
Mae Atodlen
Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau yn amlinellu'r taliadau a wneir i
gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig fel a bennwyd gan Banel Annibynnol Cymru ar
Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW). 2 Mae Polisi Lwfansau TGCh y Cynghorwyr - Mai 2017 a'r Tu Hwnt (Hyperlink) yn nodi'r lwfansau a bennwyd gan y cyngor gyda'r bwriad o gefnogi gwaith y cynghorwyr a'r aelodau cyfetholedig. 3
Rhaid i gynghorwyr hawlio treuliau drwy system
Oracle yr awdurdod. Dylai aelodau cyfetholedig gyflwyno'u ceisiadau'n
ysgrifenedig drwy'r Gwasanaethau Democrataidd. www.swansea.gov.uk/staffnet/mileageandexpenses 4
Gall cynghorwyr/aelodau cyfetholedig hawlio treuliau
teithio wrth ymgymryd â dyletswydd gymeradwy/busnes swyddogol (Gweler Atodlen
Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau am ddiffiniad). 5
Presenoldeb mewn Cyfarfodydd. Mae'n rhaid i
gynghorwyr lofnodi'r Llyfr Presenoldeb a dylent wirio'r cofnodion cyhoeddedig i
sicrhau y cofnodir eu presenoldeb. Os yw'r cofnod yn anghywir dylai'r
Cynghorydd roi gwybod i'r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod nesaf. Er
hwylustod cyfeirio, mae gofyn i gynghorwyr brintio'u henw ynghyd â'u llofnod. 6
Cynrychiolaeth ar Gyrff Allanol. Ni all unrhyw gynghorydd hawlio am
gyfarfodydd 'Cyrff Allanol' oni bai mai ef yw'r cynrychiolydd a enwir neu'r
dirprwy a enwir. Wrth hawlio am bresenoldeb mewn Cyrff
Allanol, cyfrifoldeb y cynghorydd yw darparu tystiolaeth ddigonol o bresenoldeb
mewn cyfarfodydd yr hawlir amdanynt. 7
Enghreifftiau lle NA
fyddai cyfarfodydd yn ddyletswydd gymeradwy: ·
Gwleidyddol, Grŵp Gwleidyddol, Materion
Preifat/Cyfarfodydd Personol; ·
Cyfarfodydd Adran Etholiadol lle nad yw swyddogion yn
bresennol; ·
Gwahoddiad i achlysur; ·
Cyfarfodydd llywodraethwyr ysgolion
(oni bai mai chi yw Cynrychiolydd yr Awdurdod Lleol (ALl). Mae'n bosib y
gallech hawlio treuliau gan yr ysgol. |
|
Ad-dalu Costau Gofal 1
Gellir
gweld gwybodaeth mewn perthynas ag Ad-dalu Costau Gofal yn Atodlen
Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau. 2
Er mwyn i gynghorwyr/aelodau cyfetholedig dderbyn
ad-daliad, rhaid iddynt gwblhau'r ffurflen hawlio Ad-dalu Costau Gofal, y mae'n
rhaid atodi derbynneb oddi wrth y gofalwr iddi. Mae'r dogfennau hyn ar gael yma. |
|
Teithio 1
Mae'n rhaid i gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig fod yn
ymwybodol o'r angen i ddewis dull cost effeithiol o deithio. Mae hyn yn golygu
mai Teithio Dosbarth Economi fydd y safon ar gyfer teithio ar drên, mewn car
neu awyren neu ddull arall o deithio.
Gall y Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Adran 151 ganiatáu
dosbarth teithio amgen mewn amgylchiadau eithriadol yn unig. 2 Os bydd cynghorydd neu aelod cyfetholedig am dalu am ddosbarth teithio uwch, gall wneud hynny, ar yr amod ei fod yn talu'r gwahaniaeth mewn pris o'r dosbarth economi. |
|
Teithio ar drên 1
Ni all cynghorwyr
ddefnyddio gwasanaeth teithio dosbarth cyntaf ar drên oni bai eu bod wedi
cyflwyno achos busnes gwirioneddol yn ysgrifenedig (e-bost o ddewis) at
Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd. Bydd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
yn adolygu'r cais mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 ac yn penderfynu'n unol
â hyn. 2
Bydd angen caniatâd
ysgrifenedig (e-bost o ddewis) gan y Deiliad Cyllideb/Pennaeth Gwasanaeth a fydd
yn talu am y daith ar y trên cyn i'r swyddogion perthnasol archebu tocyn. 3
Dylai Swyddfa’r Cabinet
neu Dîm y Gwasanaethau Democrataidd wneud yr holl archebion am docynnau trên y
tu hwnt i Gaerdydd ar ran cynghorwyr/aelodau cyfetholedig. Lle bynnag y bo modd,
telir costau drwy ddefnyddio cerdyn prynu corfforaethol yr awdurdod. Os nad oes
modd defnyddio'r cerdyn prynu, dylid defnyddio prosesau archebu a thalu safonol
y cyngor. 4
Os caiff y digwyddiad a arweiniodd
at yr angen am deithio ar y trên ei ganslo neu ni all y cynghorydd fynd iddo
mwyach, caiff y gost y bu'n rhaid i'r awdurdod ei thalu ei phriodoli i'r
cynghorydd hwnnw, ac adroddir wrth y cyngor amdani yn yr adroddiad
"Lwfansau a Threuliau Cynghorwyr" blynyddol. 5
Gellir prynu Cardiau
Rheilffordd i gynghorwyr sy'n teithio ar fusnes y cyngor os yw'n lleihau'r
gost i'r cyngor. Mae'n rhaid i'r cynghorydd roi'r holl ddogfennaeth
angenrheidiol ar gyfer y cerdyn rheilffordd i Dîm y Gwasanaethau Democrataidd/Swyddfa’r
Cabinet a fydd yn prynu'r tocyn trên ar ran y cynghorydd. Gellir rhoi ad-daliad am docynnau sy'n cael
eu prynu'n breifat os ystyrir bod hynny'n fuddiol i'r cyngor. Os bydd
cynghorydd yn colli'r cerdyn rheilffordd a brynwyd gan yr awdurdod, y
cynghorydd fydd yn gorfod talu am gerdyn newydd. 6
Prynwyd Cerdyn Oyster i gynghorwyr ei ddefnyddio i deithio ar y tiwb yn
Llundain yn lle gorfod prynu Cardiau Rheilffordd dyddiol at y diben hwn. Gall
Tîm y GD/Swyddfa’r Cabinet ychwanegu arian at y Cerdyn Oyster
yn ôl y galw. Os bydd cynghorydd yn colli'r Cerdyn Oyster
a brynwyd gan yr awdurdod, bydd yn rhaid iddo dalu'r hyn sy'n weddill ar y
cerdyn er mwyn i'r awdurdod brynu cerdyn newydd. 7
Os bydd cynghorydd yn
dymuno ad-dalu unrhyw arian sy'n ddyledus ganddo i'r awdurdod mewn perthynas â
theithio h.y. tocynnau a ganslwyd, taliad ychwanegol am daith dosbarth cyntaf
neu dalu am Gerdyn Rheilffordd neu Gerdyn Oyster
coll, RHAID talu gydag arian parod neu drwy siec sy'n daladwy i 'Dinas a Sir
Abertawe' (ni chaniateir didynnu o'ch cyflog). |
|
Teithio mewn Car Preifat 1
Mae'n rhaid i gynghorwyr ystyried y dull mwyaf effeithlon
a chost-effeithiol o deithio cyn defnyddio'u ceir eu hunain. Dylent geisio'r cydweddiad gorau rhwng y defnydd effeithlon o
amser, ad-daliad costau sy'n deg a'r defnydd darbodus o adnoddau cyhoeddus.
Cyfrifir pellterau gan ddefnyddio gwefan Cynllunio Llwybrau'r RAC. <http://route.rac.co.uk/> 2
Bydd cynghorwyr yn gorfod talu'n bersonol am gost taith: ·
ar gyfer teithiau uniongyrchol rhwng eu cartref a'u
gweithle; ·
Wrth fynd i unrhyw leoliad ar gyfer digwyddiad nad yw'n
ymwneud â'r cyngor; ·
Wrth ymgymryd â dyletswyddau eu ward etholiadol; 3
Bydd yr awdurdod yn cadw rhestr o bellterau ar gyfer y
teithiau amlaf neu'r mwyaf arferol y mae pob cynghorydd yn mynd arnynt (fel
arfer yn ôl ac ymlaen i'r Ganolfan Ddinesig). Caiff y rhestr ei hadolygu a'i
diweddaru yng nghyfarfod blynyddol cyntaf y cyngor ar ôl etholiad. Ar gyfer yr
holl geisiadau milltiredd a wiriwyd gan ddefnyddio Cynllunydd Llwybrau'r RAC,
caiff pellterau eu talgrynnu i fyny neu i lawr i'r filltir agosaf. 4
Ceisiadau Milltiredd o Weithle Preifat Cynghorwyr
(ac eithrio cyfeiriad cymwys) 5
Uchafswm y lwfans am deithiau o weithle cynghorydd i
leoliad dyletswydd gymeradwy fydd y swm y byddai'r cynghorydd wedi'i hawlio pe
bai'n teithio o'i gartref. 6
Ymweliadau
Safle - Disgwylir i gynghorwyr ddefnyddio'r cludiant a ddarperir i fynd ar
ymweliadau safle. Os bydd y pellter i Neuadd y Ddinas yn fwy na'r milltiredd
i'r Ymweliad Safle, gellir defnyddio car a hawlio milltiroedd ar gyfer y daith
fyrrach honno. Rhaid egluro hyn ar y ffurflen hawlio. Dylai cynghorwyr deithio
gyda'i gilydd lle bynnag y bo modd. Nodyn:
Ni ellir hawlio milltiredd os darperir cludiant oni bai fod Pennaeth y
Gwasanaethau Democrataidd wedi cytuno ar hyn ymlaen llaw, a hynny'n
ysgrifenedig. 7
Ad-delir costau teithiau awdurdodedig ar y
cyfraddau milltiredd cymeradwy a bennwyd gan yr IRPW. 8
Ar gyfer teithiau dros gyfanswm o 150 o filltiroedd (o bwynt
cychwyn Neuadd y Ddinas, Abertawe SA1 4PE), dylai'r cynghorydd ystyried y
dull cludiant mwyaf ariannol ymarferol ac economaidd sydd ar gael. Os bydd
y cynghorydd hwnnw'n dewis defnyddio'i gerbyd ei hun, byddai'n derbyn cost y
dull cludiant mwyaf ariannol ymarferol ac economaidd ar gyfer y daith
honno. Os yw'n teithio y tu allan i
ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, gwiriwch drefniadau teithio
gyda Swyddfa’r Cabinet/Tîm y GD cyn y daith oherwydd efallai bydd yn rhatach i
deithio ar y trên. 9
Caiff mân-gostau (e.e. tanwydd, tollau, ffioedd
fferïau a pharcio) eu had-dalu yn amodol ar gyflwyno derbynebau a chwblhau
ffurflen hawlio/Oracle. Mae'n ofynnol i
gynghorwyr/aelodau cyfetholedig gadw derbynebau TAW ar gyfer tanwydd am gyfnod
o 7 mlynedd ar gyfer yr holl geisiadau milltiredd at ddiben archwiliad posib
gan CThEM. Rhaid i ddyddiadau ar dderbynebau ddangos
cyfnod y cais. 10
Os bydd cynghorwyr yn defnyddio cerbyd preifat pan
fyddant ar fusnes y cyngor, dylent sicrhau bod ganddynt yswiriant cerbyd cyfun
sy'n cynnwys defnydd busnes a chymudo'n benodol. Ni fydd yr awdurdod yn gallu
cefnogi cynghorydd yn ariannol os bydd damwain heb yswiriant cyfun. |
|
Teithio mewn Car Cronfa/Wedi'i Hurio 1
Gall cynghorwyr a swyddogion hurio cerbyd Dosbarth B
(math Ford Focus o gerbyd ar hyn o bryd). Gellir hurio car mwy o faint gan ddibynnu ar
y pellter a deithir a nifer y teithwyr a fydd yn y car. Rhaid cael caniatâd ysgrifenedig (e-bost)
ymlaen llaw i hurio car mwy gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd. Mae gwybodaeth am Geir Cronfa ar gael ar Staffnet yma. |
|
Teithio mewn Tacsi 1
Caniateir ceisiadau teithio mewn tacsi am deithiau yn
Ninas a Sir Abertawe dim ond os cyflwynir derbynneb berthnasol a chyda
chaniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw (e-bost) gan Bennaeth y Gwasanaethau
Democrataidd, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Adran 151. 2
Caniateir ceisiadau teithio mewn tacsi am deithiau y
tu allan i Ddinas a Sir Abertawe dim ond os cyflwynir derbynneb berthnasol
ac os y bu'n daith resymol i'w gwneud h.y. o ddigwyddiad i orsaf drenau. |
|
Teithio mewn Awyren 1
Trefnir hediadau drwy Swyddfa’r Cabinet/Tîm y GD. Bydd
teithiau cynghorwyr a swyddogion yn rhai dosbarth safonol. Rhaid cael caniatâd i hedfan ymlaen llaw ac
yn ysgrifenedig (e-bost) gan y Pennaeth Gwasanaeth perthnasol. Yr Uned Gwasanaeth perthnasol fydd yn talu am
gost y daith ar yr awyren. Sylwer:
Rhaid i'r Prif Weithredwr gymeradwyo unrhyw daith dramor ymlaen llaw ac yn
ysgrifenedig (e-bost). |
|
Teithio ar gefn Beic 1
Mae lwfans beicio ar gael fel a amlinellir gan Banel
Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. |
|
Teithio ar Fws |
|
Cynhaliaeth 1
Mae cynghorwyr yn gallu hawlio am dreuliau cynnal a
gafwyd wrth ymgymryd â dyletswydd gymeradwy.
Telir cynhaliaeth yn ogystal â'r cyflogau sylfaenol, dinesig ac uwch ac
maent yn destun y rheolau canlynol: 2 Ni thelir treuliau cynnal yn ardal yr awdurdod. 3 Mae treuliau cynnal ar gyfer dyletswyddau cymeradwy y tu allan i ardal yr awdurdod yn daladwy hyd at uchafswm ac yn unol â phenderfyniadau yr IRPW. Ni awdurdodir ceisiadau heb dderbynneb ddilys. 4
Costau Dros Nos 5 Lle bydd dyletswydd gymaradwy'n cynnwys arhosiad dros nos, dylai Swyddfa’r Cabinet/Tîm y GD drefnu'r llety. 6 Mae gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ddisgresiwn yn y maes hwn, ond mae'r penderfyniad yn bennaf yn seiliedig ar: · Lle bydd y daith yn ôl a blaen yn fwy na 250 o filltiroedd a bod y cyfarfod/ddyletswydd berthnasol yn dechrau cyn 12.00 ganol dydd (ar gyfer y noswaith gynt) a/neu lle bydd y cyfarfod/ddyletswydd berthnasol yn dod i ben ar ôl 4.00pm (ar gyfer y noswaith ganlynol); · Lle bydd y daith yn ôl a blaen yn fwy na 500 o filltiroedd a bod y cyfarfod/ddyletswydd berthnasol yn dechrau cyn 1.00pm a/neu'n dod i ben ar ôl 3.00pm. 7
Dylai cynghorwyr gael caniatâd ysgrifenedig (e-bost)
ymlaen llaw gan y Pennaeth Gwasanaeth perthnasol o ran gwariant dros nos. 8
Llety 9 Dylid trefnu llety ymlaen llaw drwy Swyddfa’r Cabinet/Tîm y Gwasanaethau Democrataidd. |
|
Teithio Dramor, Arian Tramor a Chyfathrebiadau Busnes sy'n Ymwneud â'r Cyngor 1
Mae'n RHAID i gynghorwyr gael caniatâd ysgrifenedig
(e-bost) gan y Prif Weithredwr cyn teithio dramor. Hefyd mae'n rhaid darparu
amserlen deithio fanwl sy'n rhoi enwau'r holl bobl sy'n teithio, dulliau
cludiant rhwng lleoliadau ac syn nodi eitemau gwariant y talodd yr awdurdod
amdanynt ymlaen llaw neu y mae'n debygol y bydd yr awdurdod yn talu amdanynt,
neu a ddarparwyd gan gorff allanol, a'i rhoi i'r Prif Weithredwr. Mewn achosion brys, rhaid cael caniatâd dan
bwerau dirprwyedig y Prif Weithredwr, wedi'i arfer ar ôl ymgynghoriad ag
Arweinydd y Cyngor. 2
Arian Tramor. I gael arian tramor, gall cynghorydd gael
arian ymlaen llaw gan yr Arianwyr a threfnu i drosi'r arian i'r arian tramor
priodol eu hunain. Dylid cadw'r
derbynebau gwariant er mwyn eu cyflwyno gyda ffurflen dreuliau Oracle. Nid oes
angen dychwelyd unrhyw arian sydd dros ben ar ôl ymweliad tramor i'r awdurdod
gan fod swm yr arian parod a roddwyd ymlaen llaw eisoes wedi'i ddidynnu o
gyflog y cynghorydd ac wedi'i dalu i'r arianwyr. 3 Cyfathrebiadau busnes sy'n ymwneud â'r cyngor. Bydd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn ystyried yr holl geisiadau rhesymol am gostau busnes dilys eraill sy'n ymwneud â'r daith ar yr amod bod derbynebau perthnasol yn atodedig. |
|
Hawlio 1 Rhaid i gynghorwyr hawlio treuliau drwy system Oracle yr awdurdod. Dylai aelodau cyfetholedig gyflwyno'u ceisiadau'n ysgrifenedig drwy'r Gwasanaethau Democrataidd. www.swansea.gov.uk/staffnet/mileageandexpenses 2 Y cynghorydd/aelod cyfetholedig sy'n gyfrifol am gywirdeb y cais. Mae angen i gynghorwyr gadw cofnod cywir o dreuliau a hawliwyd i osgoi dyblygu ceisiadau. Dylent sicrhau eu bod wedi mynd i'r digwyddiadau y maent yn hawlio treuliau amdanynt neu fel arall gellid ystyried ei fod yn gais twyllodrus. 3 Gall Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Adran 151 hepgor unrhyw reol ar hawlio mewn amgylchiadau eithriadol gan roi caniatâd yn ysgrifenedig (e-bost). 4 Ni roddir taliad heb dderbynneb ddilys. 5
Dylai aelodau cyfetholedig gyflwyno ceisiadau erbyn y 5ed o'r mis am daliad ar y 25ain o'r mis
(neu'r diwrnod gwaith blaenorol os yw hynny ar ddydd Sadwrn, dydd Sul neu ŵyl
y banc). Dylid cyflwyno ceisiadau drwy Oracle. 6
Mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau o fewn 3 mis o'r cyfarfod
yr hawliwyd ar ei gyfer heblaw am unrhyw amgylchiadau eithriadol a fydd yn cael
eu hystyried gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar y cyd â'r Swyddog
Adran 151. Yn ddelfrydol, dylai cynghorwyr gyflwyno'u ffurflenni hawlio'n fisol. 7 Os yw cynghorydd yn ceisio hawlio mwy o filltiredd na'r hyn a bennwyd gan y cyngor, caiff y milltiredd ei ddiwygio i uchafswm a gymeradwyir gan y cyngor. 8
Gwirio Lwfansau Teithio a Chynnal 9 Bydd Swyddfa’r Cabinet/Tîm y Gwasanaethau Democrataidd yn cynnal archwiliad ar hap o 10% o'r ffurflenni hawlio a gyflwynwyd. Serch hynny, mae'r ddyletswydd ar y person sy'n cyflwyno'r cais i sicrhau bod y cais yn ddilys. Gwirir: ·
Milltiroedd
cywir; ·
Bod y
cais yn cyfateb i enw cywir y cyfarfod; ·
Dyddiad
y cyfarfod; ·
Bod y
cynghorydd neu'r aelod cyfetholedig wedi mynd i'r cyfarfod; · Materion eraill yn ôl y gofyn er mwyn egluro unrhyw geisiadau aneglur. 10
Arian Parod Ymlaen Llaw 11 Mae'n rhaid awdurdodi arian parod ymlaen llaw ar gyfer lwfansau teithio a chynhaliaeth gan Swyddog Adran 151 (yn gyffredinol £56 yw'r isafswm, ond gall Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ystyried pob achos yn ôl ei haeddiant). Yna gall Swyddfa'r Arianwyr roi'r arian parod ymlaen llaw. 12 Ni ddylid dychwelyd unrhyw arian na ddefnyddiwyd o'r arian parod a roddwyd ymlaen llaw i'r awdurdod (Arianwyr) ond dylai'r cynghorydd ei gadw gan fod y swm gwreiddiol a roddwyd ymlaen llaw eisoes wedi'i ddidynnu o'i gyflog a'i ad-dalu i'r arianwyr. |
|
Hawlenni Parcio Ceir 1
O ganlyniad i gynllun a gyflwynwyd gan y Cabinet ym mis
Ionawr 2011, bydd rhaid i gynghorwyr wneud cais am hawlen i'w galluogi i barcio
ym meysydd parcio'r cyngor pan fyddant ar ddyletswyddau'r cyngor. 2 Mae hawl gan gynghorwyr i adennill cost eu hawlen parcio ceir drwy ddefnyddio'r ffurflen adennill. Os yw cynghorwyr yn adennill y tâl hwn, caiff ei gynnwys ar daenlen Lwfansau a Threuliau Blynyddol Cynghorwyr a gyflwynir i'r cyngor ac a gyhoeddir ar wefan Dinas a Sir Abertawe. Dylid cyflwyno'r holl geisiadau am hawlenni parcio ceir ac unrhyw ddiwygiadau neu ddiddymiadau drwy'r opsiwn hunanwasanaeth yn Oracle. 3 Os bydd cynghorwyr yn colli hawlen parcio ceir, rhaid iddynt dalu am un newydd yn ei lle. |
|
Buddiannau, Rhoddion a Lletygarwch Cynghorwyr 1
Mae gwybodaeth am Fuddiannau, Rhoddion a Lletygarwch
Cynghorwyr ar gael yng Nghyfansoddiad y Cyngor dan Reolau Gweithdrefnau'r
Cyngor ac yn y Côd Ymddygiad i Gynghorwyr. |
|
Treth Incwm 1
Mae Cyflogau Sylfaenol, Cyflogau Dinesig, Cyflogau Uwch,
Lwfans Band Eang a Ffonau, Lwfans Ffonau Symudol, Lwfans TGCh
ac Ad-dalu Costau Gofal oll yn drethadwy. Trethir cynghorwyr yn awtomatig dan y
system Talu wrth Ennill (PAYE) arferol. Bydd y côd
treth a ddefnyddir yn dibynnu ar y datganiad a diciwyd ar Daflen Gwybodaeth
Bersonol y cynghorydd ar yr adeg y dechreuodd y swydd. Byddai unrhyw newidiadau i'r côd cychwynnol a weithredwyd ar gyfarwyddyd CThEM. 2
Yn ogystal, dylai cynghorwyr gysylltu ag Is-adran
Gyflogres y Ganolfan Gwasanaethau os ydynt yn ymwybodol y dylid eu trethi ar
gyfradd uwch na'r gyfradd sylfaenol. 3
Ar hyn o bryd, nid oes elfen "elw" ar
filltiredd oherwydd y ffaith mai'r cyngor sy'n talu'r gyfradd a bennwyd gan yr
IRPW. Oherwydd yr ystyrir nad oes elw, ni chyflwynir adroddiad diwedd blwyddyn
(P11D). |
|
Cyfraniadau Yswiriant Gwladol 1
Ers i lefelau presennol Lwfansau Cynghorwyr fynd yn uwch
na'r terfyn enillion is i'r holl gynghorwyr dan 65 oed (graddfa symudol o 60
oed i fenywod gan ddibynnu ar ddyddiad geni), mae atebolrwydd am gyfraniadau
Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar y gyfradd safonol. Bydd angen i unrhyw
gynghorwr dros 65 oed (graddfa symudol o 60 oed i fenywod gan ddibynnu ar
ddyddiad geni) ddarparu copi o'i basbort neu dystysgrif geni i'w eithrio rhag
Yswiriant Gwladol. 2
Bydd angen i fenywod priod a rhai gweddwon sydd wedi
arfer eu hawl i beidio â thalu'r gyfradd lawn gyflwyno eu tystysgrif
atebolrwydd is. 3
Ystyrir pob cyflogaeth ar wahân at ddibenion cyfrannu ac
nid ystyrir y ffaith y gall fod gan gynghorydd swydd arall neu ei fod yn
hunangyflogedig. 4
Fodd bynnag, mae uchafswm blynyddol ar gyfer atebolrwydd
cyfrannu ac mewn rhai achosion, gall y cynghorydd gael ad-daliad. Gellir cael
gwybodaeth am hyn gan yr AGPh. |
|
Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1
Mae budd-daliadau nawdd cymdeithasol yn faes o
gymhlethdod cynyddol a rhaid cael cyngor arbenigol manwl gan swyddfa leol yr
asiantaeth budd-daliadau berthnasol. 2 Mae'n rhaid i bob cynghorydd hysbysu Adran y Swyddfa Nawdd Cymdeithasol y mae'n derbyn y budd-daliadau ganddi mai ef yw'r cynghorydd etholedig. 3 Os mai bwriad y cynghorydd yw ymwrthod â'r cyflog sylfaenol, cyflog dinesig neu ei uwch-gyflog oherwydd yr effaith bosib ar ei hawl i fudd-daliadau, dylai ymgynghori â'r Asiantaeth Budd-daliadau cyn gwneud hynny. Yn y rhan fwyaf o achosion, y swm y mae hawl gan gynghorydd ei gael, nid y swm sy'n cael ei hawlio, sy'n cael ei ystyried wrth gyfrifo budd-dal. 4 Mae'r modd y caiff lwfansau cynghorwyr eu trin yn amrywio o fudd-dal i fudd-dal. Ar gyfer rhai budd-daliadau, mae'r ffaith eu bod yn cyflawni dyletswyddau'r cyngor (p'un a ydynt yn cael eu talu amdanynt neu beidio) yn gallu effeithio ar eu hawl i hawlio. Mewn achosion eraill, lefel yr incwm o'r lwfans sy'n effeithio ar hawl. |
|
Yswiriant 1
Dyma fanylion byr y ‘Polisi Damweiniau a Theithio
Personol':
Dan yr adran 'Damweiniau Personol', mae'r yswiriant
hwn yn yswirio'r yswiriedig am wir niwed corfforol i berson wedi'i yswirio,
sy'n arwain at farwolaeth, anabledd parhaol neu anabledd dros dro o fewn 24 mis
i ddamwain. Dan yr adran 'Teithio', mae'r yswiriant hwn yn yswirio'r yswiriedig
am dreuliau meddygol a theithio mewn argyfwng, dychwelyd meddygol, trychineb
wleidyddol a naturiol, treuliau symud o leoliad, atebolrwydd personol, colli
eiddo personol, cyfarpar busnes neu ddifrod iddynt, treuliau canslo, cwtogi a
newid a chostau herwgipio, cipio a phridwerth ar gyfer person sydd wedi'i
yswirio. Mae is-adrannau hefyd sy'n darparu yswiriant ar gyfer treuliau
cyfreithiol, treuliau rheoli argyfyngau a threuliau rhentu cerbydau. 2
Am
fanylion llawn y polisi a chopi o Becyn Teithio Lifeline
Plus i'w ddefnyddio ar deithiau busnes i ffwrdd o'r
swyddfa a thramor, cysylltwch â’r: Prif Swyddog Yswiriant Tîm Yswiriant, Gwasanaethau Ariannol a'r Ganolfan Gwasanaethau, Canolfan
Ddinesig, Abertawe SA1 3SN |