Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan Scrutiny 01792 637314
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Adroddiad Ynni Adnewyddadwy PDF 139 KB Y Cynghorydd Andrea Lewis –
Aelod y Cabinet dros Dai ac Ynni Nigel Williams – Pennaeth y
Gwasanaethau Adeiladau Corfforaethol Terri Shaw – Rheolwr Ynni Cofnodion: Roedd Andrea Lewis, Aelod y Cabinet for dros Dai ac Ynni, Nigel Williams, Pennaeth y Gwasanaethau Adeiladau Corfforaethol a Terri Shaw, Rheolwr Ynni, yn bresennol. Aethon nhw drwy'r adroddiad gan dynnu sylw at y prif faterion ac ateb cwestiynau. Daeth aelod o'r cyhoedd i'r cyfarfod a gofynnodd gwestiwn am ddatblygiadau tai preifat. Holodd a ellid newid rheolau cynllunio fel y byddai'n rhaid cyflawni sgôr effeithlonrwydd safonol a oedd yn cwmpasu ynni solar. Fe'i hysbyswyd mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am reoliadau adeiladu, ac maent yn ystyried cynyddu safonau yn y dyfodol. Nodwyd bod nifer o ddatblygwyr eisoes wedi cyflwyno sgôr effeithlonrwydd ynni uwch nag y mae gofyn iddynt ei wneud. Trafodwyd y prif faterion canlynol: · Adeiladwyr tai preifat - problem ynghylch dichonoldeb a'r gallu i gyflawni gan fod datblygwyr yn y busnes hwn er mwyn gwneud elw. Mae'n gadarnhaol bod modd cynyddu safonau ond rhaid edrych ar hyn ochr yn ochr â gallu datblygwyr i'w cyflawni. · Soniwyd bod yr awdurdod am leihau ei effaith garbon. Fe'i hysbyswyd bod gan yr awdurdod strategaeth carbon ers nifer o flynyddoedd. Sut rydym ym mesur hyn ar hyn o bryd? Mae canllawiau i'w cael mewn deddfwriaeth y mae'n rhaid i bob awdurdod eu dilyn, a chyfrifir ffigurau yn seiliedig ar hyn. Ers 2010, mae Abertawe wedi lleihau ei hôl troed carbon 42% yn seiliedig ar y gofynion a roddwyd. · Nodwyd nad oes cyfeiriad uniongyrchol at gynhesu byd-eang yn yr adroddiad a ddarparwyd. Roedd y Gweithgor wedi synnu at hyn, gan ei fod yn cael ei grybwyll yn y Cynllun Corfforaethol a'r Cynllun Lles a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Cydnabuwyd mai amryfusedd oedd hwn. · Nodwyd bod strategaethau eraill hefyd yn effeithio ar hyn, er enghraifft, strategaeth gweithio hyblyg yr awdurdod. Mae adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru am leihau carbon yn werth ei ddarllen. · Mae perygl y byddai'n aros am ganlyniad y Morlyn Llanw'n unig. Dylai'r awdurdod ystyried ffyrdd eraill o gynhyrchu pŵer dŵr. Cadarnhawyd bod ymchwilio i hyn wedi'i gynnwys yn y Cynllun Ynni Corfforaethol, fodd bynnag, nid yw'n syml ac ychydig iawn o gynnydd sydd wedi'i wneud. Un enghraifft yw tyrbin hydro posib yn y marina. Mae'r awdurdod ar hyn o bryd yn edrych ar opsiynau drwy astudiaeth dichonoldeb ac yn cyfrifo'r gost i weld a fyddai hyn yn bosib. Mae enghraifft o un bach preifat yng Nghoed Cwm Penllergaer. · Mae pryderon am ynni gwynt a'r niwed tymor hir i'r amgylchedd. Mae enghreifftiau'n cynnwys symiau mawr o goncrit yn cael ei rhoi yn y ddaear, cael gwared ar ardaloedd o fawn dilychwin sy'n atal dŵr rhag rhedeg, llygredd o ganlyniad i lorïau'n teithio nôl ac ymlaen o safleoedd. Mae angen archwilio opsiynau eraill i ffermydd gwynt ar ben bryniau. Mae'r posibilrwydd o gael un enfawr ar lan y môr yn cael ei archwilio. Mae'r Gweithgor yn teimlo mai ynni solar yw'r ffordd ymlaen am lawer o resymau. · Hoffai'r Gweithgor weld yr awdurdod yn elwa o ffermydd ynni gwynt a solar. Yr unig fudd ar hyn o bryd yw budd cymunedol. Mae posibilrwydd y gall yr awdurdod gael paneli solar ar ei adeiladau yn y dyfodol ac agor ei ffermydd gwynt a'i ffermydd ynni solar ei hun. Hoffai Aelodau'r Cabinet ddod ag adroddiad yn ôl i'r tîm craffu am hyn yn y dyfodol. · Mae Cynllun Ynni Corfforaethol yr awdurdod yn dweud y bydd yn ystyried cael ei gwmni ynni lleol ei hun. Teimla'r Gweithgor y byddai hyn yn ased mawr i bobl Abertawe. Mae hyn yn ddarn enfawr o waith ac nid yw wedi dechrau eto. · Mae gan y Gweithgor ddiddordeb mewn dysgu mwy am Fenter Ynni'r awdurdod ac mae am wybod a yw hyn yn berthnasol i gartrefi'r cyngor neu i bob eiddo. · Gofynnodd y Gweithgor am amserlen ar gyfer darparu gwybodaeth am brisio asedau. Cytunodd Aelod y Cabinet i ddarparu hyn ar ôl y cyfarfod. · Gofynnodd y Gweithgor pam y mae gan gyn lleied o ysgolion baneli solar ar eu toeon. Eglurwyd bod hyn wedi'i ariannu gan gynllun Ynni Cymunedol y cyngor ac roedd yn dibynnu ar siâp, safle a chyflwr toeon, ac roedd hyn yn cyfyngu ar y nifer. · Trafodwyd strategaeth ynni gyffredinol yr awdurdod - y nod yw peidio â defnyddio tanwydd ffosil. Mae cynllun gweithredu manwl, ond mae'n waith sydd ar y gweill. Mae llawer y gallai'r awdurdod ei wneud pe bai gennym yr adnoddau. Mae ffordd bell i fynd, ond diben y llwybr hwn yw helpu pobl i leihau eu defnydd o danwydd ffosil. ·
Roedd Andrea Lewis, Aelod y Cabinet for dros Dai ac Ynni, Nigel Williams, Pennaeth y Gwasanaethau Adeiladau Corfforaethol a Terri Shaw, Rheolwr
Ynni, yn bresennol. Aethon nhw drwy'r
adroddiad gan dynnu sylw at y prif faterion ac ateb cwestiynau. ·
·
Daeth aelod o'r cyhoedd
i'r cyfarfod a gofynnodd gwestiwn am ddatblygiadau tai preifat. Holodd a ellid newid
rheolau cynllunio fel y byddai'n rhaid cyflawni sgôr effeithlonrwydd safonol a oedd yn cwmpasu ynni
solar. Fe'i hysbyswyd mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol
am reoliadau adeiladu, ac maent yn ystyried
cynyddu safonau yn y dyfodol. Nodwyd bod nifer o ddatblygwyr eisoes wedi cyflwyno
sgôr effeithlonrwydd ynni uwch nag y mae gofyn
iddynt ei wneud. ·
·
Trafodwyd y prif faterion canlynol: ·
·
Adeiladwyr tai preifat - problem ynghylch dichonoldeb
a'r gallu i gyflawni gan
fod datblygwyr yn y busnes hwn
er mwyn gwneud
elw. Mae'n gadarnhaol bod modd cynyddu safonau ond rhaid edrych
ar hyn ochr
yn ochr â gallu datblygwyr i'w cyflawni. ·
Soniwyd bod yr awdurdod am leihau ei effaith
garbon. Fe'i hysbyswyd bod gan yr awdurdod
strategaeth carbon ers nifer o flynyddoedd. Sut rydym ym
mesur hyn ar hyn o bryd?
Mae canllawiau i'w cael mewn deddfwriaeth
y mae'n rhaid i bob awdurdod eu dilyn, a chyfrifir
ffigurau yn seiliedig ar hyn. Ers 2010, mae Abertawe
wedi lleihau ei hôl troed
carbon 42% yn seiliedig ar y gofynion a roddwyd. ·
Nodwyd nad oes cyfeiriad uniongyrchol at gynhesu byd-eang yn yr adroddiad
a ddarparwyd. Roedd y Gweithgor wedi synnu at hyn, gan
ei fod yn
cael ei grybwyll
yn y Cynllun Corfforaethol a'r Cynllun Lles a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Cydnabuwyd mai amryfusedd oedd hwn. ·
Nodwyd bod strategaethau eraill hefyd yn effeithio
ar hyn, er
enghraifft, strategaeth gweithio hyblyg yr awdurdod. Mae adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru am leihau carbon yn werth ei ddarllen. ·
Mae perygl y byddai'n aros am ganlyniad y Morlyn Llanw'n unig. Dylai'r awdurdod ystyried ffyrdd eraill o gynhyrchu pŵer dŵr. Cadarnhawyd bod ymchwilio i hyn wedi'i
gynnwys yn y Cynllun Ynni Corfforaethol,
fodd bynnag, nid yw'n syml
ac ychydig iawn o gynnydd sydd wedi'i
wneud. Un enghraifft yw tyrbin
hydro posib yn y
marina. Mae'r awdurdod ar hyn
o bryd yn edrych ar opsiynau
drwy astudiaeth dichonoldeb ac yn cyfrifo'r gost i weld a fyddai hyn yn bosib. Mae enghraifft o un bach preifat
yng Nghoed Cwm Penllergaer. ·
Mae pryderon am ynni gwynt a'r
niwed tymor hir i'r amgylchedd. Mae enghreifftiau'n
cynnwys symiau mawr o goncrit yn cael ei
rhoi yn y ddaear, cael gwared
ar ardaloedd o fawn dilychwin sy'n atal dŵr rhag
rhedeg, llygredd o ganlyniad i lorïau'n
teithio nôl ac ymlaen o safleoedd. Mae angen archwilio opsiynau eraill i ffermydd
gwynt ar ben bryniau. Mae'r posibilrwydd o gael
un enfawr ar lan y môr yn
cael ei archwilio.
Mae'r Gweithgor yn teimlo mai
ynni solar yw'r ffordd ymlaen am lawer o resymau. ·
Hoffai'r Gweithgor weld yr awdurdod yn elwa
o ffermydd ynni gwynt a solar. Yr unig fudd
ar hyn o bryd yw budd
cymunedol. Mae
posibilrwydd y gall yr awdurdod gael
paneli solar ar ei adeiladau yn
y dyfodol ac agor ei ffermydd gwynt
a'i ffermydd ynni solar ei hun. Hoffai Aelodau'r Cabinet ddod ag adroddiad yn
ôl i'r tîm
craffu am hyn yn y dyfodol. ·
Mae Cynllun Ynni Corfforaethol yr awdurdod yn
dweud y bydd yn ystyried cael
ei gwmni ynni lleol ei
hun. Teimla'r Gweithgor y byddai hyn yn ased
mawr i bobl
Abertawe. Mae hyn yn ddarn
enfawr o waith ac nid yw wedi
dechrau eto. ·
Mae gan y Gweithgor ddiddordeb mewn dysgu mwy
am Fenter Ynni'r awdurdod ac mae
am wybod a yw hyn yn berthnasol
i gartrefi'r cyngor neu i
bob eiddo. ·
Gofynnodd y Gweithgor am amserlen
ar gyfer darparu gwybodaeth am brisio asedau. Cytunodd Aelod y Cabinet i ddarparu hyn
ar ôl y cyfarfod. ·
Gofynnodd y Gweithgor pam y mae
gan gyn lleied
o ysgolion baneli solar ar eu toeon.
Eglurwyd bod hyn wedi'i ariannu gan gynllun Ynni
Cymunedol y cyngor ac roedd yn dibynnu
ar siâp, safle a chyflwr toeon, ac roedd hyn yn cyfyngu
ar y nifer. ·
Trafodwyd strategaeth ynni gyffredinol yr awdurdod - y nod yw peidio â defnyddio tanwydd ffosil. Mae cynllun gweithredu manwl, ond mae'n waith
sydd ar y gweill. Mae llawer y gallai'r awdurdod ei wneud
pe bai gennym
yr adnoddau. Mae ffordd bell i fynd, ond
diben y llwybr hwn
yw helpu pobl i leihau
eu defnydd o danwydd ffosil. · Mae gan yr awdurdod gyllideb ddyranedig fach ar gyfer ynni adnewyddadwy. Dyrannwyd £200,000 i'r tîm corfforaethol yn 2017/18 a oedd yn cynnwys ynni adnewyddadwy. Mae'n rhaid gwerthuso pob prosiect gan fod yn rhaid i'r achos busnes fod yn un da cyn y gellir bwrw ymlaen â hyn. |
|
Trafodaeth a Chwestiynau Gofynnir i Gynghorwyr drafod y casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon i'w cynnwys yn llythyr y Cynullydd at Aelod y Cabinet: a) Beth hoffech ei ddweud am y mater hwn wrth Aelod y Cabinet yn llythyr y Cynullydd (beth yw'ch casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon)? b) Oes gennych unrhyw argymhellion sy'n codi o'r sesiwn hon i Aelod y Cabinet? c) Oes unrhyw faterion eraill sy'n codi o'r sesiwn hon yr hoffech dynnu sylw Pwyllgor y Rhaglen Graffu atynt? Cofnodion: Trafododd y Gweithgor gynnydd a daethpwyd i'r casgliadau canlynol:
Yn dilyn y cyfarfod hwn: · Bydd Cynullydd y Gweithgor yn anfon llythyr at Aelod y Cabinet sy’n crynhoi'r drafodaeth ac yn amlinellu barn ac argymhellion y gweithgor. |
|
Lythyr O Aelod y Cabinet (cyfarfod 26 Mawrth 2018) PDF 312 KB |