Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 636292 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

·         Dim

3.

Nodiadau pdf eicon PDF 116 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

  • Ychwanegu nodiadau ynglŷn â hawliau pori ar dir y cyngor a deddfwriaeth gysylltiedig

 

4.

Sesiwn ar Ddeddfwriaeth

Cyfle i glywed gan asiantaethau sy’n esbonio sut mae deddfwriaeth yn berthnasol i’r amgylchedd naturiol a sut caiff bioamrywiaeth ei dehongli a’i gorfodi

 

·         Amgylchedd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

·         Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

·         Cyfoeth Naturiol Cymru

Cofnodion:

  • Trafododd y Cynghorydd Jones nodau ac amcanion yr ymchwiliad
  • Esboniodd mai nod y sesiwn hon oedd egluro'r goblygiadau cyfreithiol ac ariannol posib o beidio â bodloni gofynion mewn perthynas â bioamrywiaeth a'r amgylchedd o dan y ddeddf.
  • Gofynnwyd i bob sefydliad drafod a chyflwyno yn unol â'r cwestiynau canlynol;

1.    Beth yw'r canlyniadau cyfreithiol ac ariannol yn y tymor hir, canolig a byr, o beidio â bodloni gofynion o dan y ddeddf?

2.    Sut byddwch chi'n mesur llwyddiant (neu ddiffyg llwyddiant) cynghorau o dan y ddeddf? Sut olwg fydd ar y mesurau perfformiad?

3.    Sut mae'r gofynion hyn yn cysylltu â Lloegr ac yn ehangach er mwyn cyfrannu at welliant cyffredinol yr amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth?

4.    A fydd llwyddiant neu fethiant i fodloni gofynion y ddeddf yn golygu mynediad gwell neu fynediad cyfyngedig at grantiau? A fydd ceisiadau grant yn ddibynnol ar lwyddiant?

5.    Beth ydych chi'n ei weld fel y prif rwystrau i gynghorau yn y dyfodol a sut gall cynghorau oresgyn rhwystrau gan ystyried cyni?

6.    A oes unrhyw beth y credwch y gall Cynghorwyr unigol ei wneud yn eu wardiau i gyfrannu at lwyddiant a chynnal a chadw a gwella'r amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth?

  • Gwahoddwyd pob sefydliad i ddarparu cyflwyniad byr ac ateb cwestiynau wedi hynny

Neville Rookes - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

  • Cyflwynwyd PowerPoint
  • Nid oes modd edrych ar brosiectau ar wahân
  • Ar hyn o bryd rydym yn dal i fod yn yr UE ac mae cytundebau rhyngwladol hefyd
  • Mae craffu'n bwysig
  • Rhaid defnyddio'r pum ffordd o weithio i lunio'r strategaeth a'r polisi - dylid eu cynnwys ar y dechrau
  • Yn y tymor byr a chanolig, mae perygl o dorri rheolau cyfreithiol a methiant i fodloni gofynion yr UE, yn y tymor hir, bydd yn groes i ba gyfraith bynnag y bydd y DU wedi'i sefydlu ar ôl Brexit
  • Bydd mesuriadau canlyniadau yn hytrach nag allbynnau. Ystyrir strategaeth a pherfformiad
  • Bydd yn cymryd mwy o amser ond bydd yn fwy ystyrlon
  • Dylai'r ddyletswydd bioamrywiaeth gael ei chynnwys ym mhob cynllun a bod yn rhan o weithgarwch dyddiol y cyngor
  • Mae cyfarfodydd sy'n cynnwys gweinidogion y DU a gweinidogion datganoledig er mwyn creu darlun cenedlaethol
  • Hefyd mae effeithiau mewn cysylltiad â Brexit, newid yn yr hinsawdd a Chynllunio Morol Cenedlaethol
  • Bydd peidio â chyflawni'r gofynion o dan y deddfau'n effeithio ar fynediad at y Grant Refeniw Sengl a'r Grant Amgylcheddol sydd â phwyslais ar weithio cydlynol, traws-sector
  • Bydd gan y grantiau hyn hefyd ffocws ar ganlyniadau a'r defnydd o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
  • Mae angen i gynghorau gynyddu ymwybyddiaeth a chynnwys yr amgylchedd ym mhob polisi
  • Dylai gwariant adrannol arall ymgorffori bioamrywiaeth yn ei gynlluniau
  • Gall cynghorwyr, drwy ffordd leol o weithio, gynyddu ymwybyddiaeth, ymweld a'u cynnwys ysgolion, annog Abertawe heb blastig a chefnogi glanhau traethau
  • Mae CLlLC wedi bod yn darparu cyflwyniadau yn rhanbarthol er mwyn ceisio ymgorffori'r ddyletswydd. Er enghraifft, gall gwasanaethau megis cynllunio a gwasanaethau cymdeithasol gymryd rhan. Ni ddylai fod gwasanaethau ar wahân nad ydynt yn cymryd rhan
  • Mae angen ymagweddau pragmatig ar gyfer cynghorwyr

C: Ydych chi'n credu y bydd gwrthdaro rhwng polisïau e.e. cynllunio a datblygu?

  • Dylai fod 'amgylchedd ym mhob polisi a pholisi ym mhob amgylchedd'
  • Mae angen i brosiectau gynnwys yr amgylchedd yn y cam cynllunio ac mae angen gosod y bwriad hwn ar ddechrau'r prosiectau
  • Mae rhai cynlluniau ar gyfer draenio cynaliadwy eisoes yn cael eu datblygu o'r newydd
  • Mae prosiectau'n dechrau cynnwys yr amgylchedd, iechyd, peirianneg ac ati - mae'r prosiect cyfredol ar afon Taf yn ymgorffori'r holl agweddau hyn
  • Mae angen i gymunedau gymryd rhan
  • Dywedodd Gweinidog Llywodraeth Cymru, hyd yn oed os ydym yn gadael yr UE, bydd Cymru'n cynnal y safonau

Christian Servini – Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

  • Dylai'r sector cyhoeddus geisio sicrhau gwell dyfodol yng Nghymru ac mae hyn yn berthnasol i bopeth y mae'r sector cyhoeddus yn ei wneud
  • Mae nod Cymru Gydnerth wedi ei gamddeall yn llwyr - mae'n ymwneud â chydnerthedd ecolegol a dehonglir hyn yn aml fel cydnerthedd cymdeithasol neu bersonol
  • Mae diffyg pwyslais ar yr amgylchedd
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru'n archwilio sut mae cyrff cyhoeddus yn datblygu amcanion ac yn edrych ar hyn
  • Mae memorandwm o ddealltwriaeth rhwng Swyddfa Archwilio Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol
  • Bydd nod i ddatblygu teclyn hunanwerthuso
  • Mae 'Y gallu i greu' yn gweithio tuag at sicrhau Cymru yr ydym ei heisiau
  • Mae fframweithiau cenedlaethau'r dyfodol yn cael eu datblygu ar hyn o bryd, un yn ymwneud â sut i gynllunio prosiectau ac un yn ymwneud â dylunio gwasanaethau - mae'r rhain ar hyn o bryd yn cael adborth
  • Gall cynghorwyr sy'n llywodraethwyr ysgol gael effaith gadarnhaol yn y rôl honno

C: Beth am gymdeithasau tai?

  • Mae fframwaith trydydd sector hefyd yn cael ei ddatblygu
  • Mae adroddiad Seilwaith Gwyrdd gan Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn bwysig

C: Nid yw arolygwyr cynllunio yn cynrychioli'r nod cydnerthedd. Maent yn ei gamddehongli ac nid ydynt yn cyflawni amcanion y nod.

  • Mae hyn yn digwydd yn aml
  • O ran archwilio perfformiad o dan adran 6 Deddf yr Amgylchedd, mae'n debygol y bydd perfformiad yn hunanasesiad - does dim cynlluniau ar gyfer archwilio adroddiadau'n ffurfiol

C: Mae pethau syml a buddugoliaethau cyflym yn bwysig ond rhaid i ni beidio â meddwl ein bod wedi datrys problemau fel hyn, mae'r atebion yn ddyfnach ac mae angen ymagwedd lefel leol ar bob ward. Dechrau'r daith yn unig yw'r buddugoliaethau cyflym

·         Os na fyddwn yn bodloni'r gofynion o dan y deddfau, gallai sefydliadau fod yn destun adolygiad barnwrol drwy Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol neu Swyddfa Archwilio Cymru, yr Ombwdsmon neu ymyriadau posibl gan Lywodraeth Cymru a chael ein galw i'r cynulliad

C: Mae adran 22 Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn dweud y gall y Comisiynydd roi cyngor ac arweiniad, cyhoeddi'r rhain ac esbonio diffyg cydymffurfio

·         Mae'r rôl yn gefnogol ond nid yw'n plismona

Kerry Rogers - Cyfoeth Naturiol Cymru

·         Mae amrywiaeth o fframweithiau mewn perthynas â'r amgylchedd - Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd

·         Mae'r pum ffordd o weithio a'r saith o nod yn sail i bopeth y mae'r sector cyhoeddus yn ei wneud

·         O ran y gofyniad i adrodd o dan y ddyletswydd, mae angen cynllun ar gyfer sut y bydd cyrff cyhoeddus yn adrodd am y ddyletswydd a sut mae holl ddyletswyddau'r cyngor yn ymateb i ofyniad adran 6

·         Edrychwch ar 'Natur Hanfodol' gan CNC a 'Neilltuo amser ar gyfer natur' gan Ddŵr Cymru

·         Rhaid dod o hyd i ffordd o gynnwys bioamrywiaeth ym mhopeth y mae'r cyngor yn ei wneud - ar draws y sefydliad

·         Dylid ystyried yr Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol, yr Adroddiad Isadeiledd Gwyrdd, asesiadau strategol y CDLl i gyd

·         Dylai'r adroddiad terfynol parthed adran 6 dynnu'r holl wybodaeth hon at ei gilydd

·         Mae angen i Abertawe edrych yn eang ar fioamrywiaeth ac nid fel dyletswydd yn unig

·         Mae angen ymagwedd o'r pen i'r gwaelod

·         Rhaid dod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o ddelio â rhwystrau

·         Bydd y gwaith hwn yn hanfodol i'r modd y caiff gwasanaethau eu darparu o hyn ymlaen

·         Bu Abertawe ar flaen y gad o ran diwydiant ers blynyddoedd lawer ond bu hynny ar draul yr amgylchedd

·         Gelwir y deddfau newydd hyn yn 'ddeddfwriaeth gobaith'

C:  Dylai dyletswydd adran 6 ymwneud â holl swyddogaethau'r cyngor. Mae'n hawdd gweld cysylltiadau â rhai gwasanaethau ond mae eraill megis gwasanaethau cymdeithasol lle mae'n anos gweld y cysylltiad. A oes gan awdurdodau lleol eraill syniadau ac arferion da i'w rhannu?

·         Mae angen dod ag enghreifftiau gorau at ei gilydd. Mae angen i uwch-reolwyr ymrwymo i hyn e.e. mae mannau gwyrdd diogel i chwarae ynddyn nhw/rhandiroedd a phrosiectau garddio wedi cael effaith gadarnhaol ar bobl â phroblemau iechyd meddwl

C:  Mae llawer o bobl yn aelodau o gynghorau cymuned, beth yw rôl y rhain?

·         Bydd cynghorau cymuned yn hanfodol. Fel llawer o grwpiau cymunedol eraill, byddant yn cyflwyno ac ar lawr gwlad. Gall cynghorau roi'r prosiectau ar waith ond pobl fydd yn eu defnyddio

·         Hefyd mae prosiectau cymunedol fel gwerthu ffrwythau a llysiau lleol mewn siopau lleol, gwerthu mêl lleol, darparu mannau cymunedol sy'n dal gwybodaeth am fioamrywiaeth i gynnwys trigolion

·         Mae ffermydd a gerddi cymunedol hefyd yn chwarae rôl enfawr - mae rhagnodi cymdeithasol yn bwysig

·         Nid yw'r atebion ar gyfer iechyd da bob amser yn y sector iechyd

·         Dengys ystadegau fod plant yng Nghymru wedi colli diddordeb yn y byd natur

C: Mae'r gair 'ceisio' yn ymddangos yn wan yn y ddeddfwriaeth

·         Mae'r 'ceisio' yn air cadarnhaol ac yn annog gweithredu - nid yw'n oddefol

·         Mae'n bosib y bydd y cynllunio'n edrych yn swyddogaethol ond mae angen i ddatblygwyr roi'r deddfau a'r rheoliadau ar waith

    1. Atebion gwyrdd
    2. Edrych ar ynni adnewyddadwy
    3. Atebion yn seiliedig ar leoedd
    4. Edrych ar opsiynau gwyrdd ac amgylcheddol gadarn amgen

·         Mae gan Abertawe enghraifft o brosiect llwyddiannus - arbedwyd arian gan y ffensys tywod, creu twyni a phlannu moresg, roedd hefyd wedi datrys problem ac roedd yn ateb gwyrdd

·         Mae angen i'r cyngor symud ymlaen a chymryd rhai risgiau

 

 

5.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 51 KB

Cofnodion:

  • Trafodwyd gweddill y cynllun gwaith
  • Bydd y cyfarfod nesaf yn adolygu'r dystiolaeth hyd yn hyn a fydd yn llunio'r argymhellion