Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 636292 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnodion:

·         Dim

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

·         Dim

3.

Nodiadau pdf eicon PDF 123 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

·         Cymeradwywyd

4.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

·         Dim

5.

Sesiwn Holi ac Ateb - Gwasanaethau Eiddo Corfforaethol a'r Gwasanaethau Adeiladau Corfforaethol pdf eicon PDF 120 KB

·         Geoff Bacon – Ystadau a Chyfleusterau Strategol Gwasanaethau Adeiladau ac Eiddo Corfforaethol

·         Nigel Williams - Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Adeiladu

Cofnodion:

  • Amlinellwyd nod ac amcanion yr ymchwiliad
  • Trosolwg byr o'r cyfarfod gyda'r adran cynllunio

Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo Corfforaethol – Sesiwn Holi ac Ateb

  • Bydd achlysuron pan na fydd tir yn cael ei waredu oherwydd rhesymau ecolegol
  • Yn unol â diwydrwydd dyladwy, cynhelir arolygon ecolegol ar y tir yn y lle cyntaf a bydd hyn yn sefydlu pa mor werthfawr yw'r tir ac a ddylid ei gadw
  • Caiff y tir ei ychwanegu at y rhestr gwaredu ar ôl ymgymryd â'r broses hon yn unig
  • Rhoddir gwerth i dir mewn modd gwahanol gan ddibynnu ar a yw'r tir hwnnw ar werth neu i'w brydlesu
  • Ni roddir Gorchmynion Amddiffyn Coed ar dir y cyngor fel arfer
  • Ystyrir ffactorau amgylcheddol ac yna datblygir amcangyfrif ariannol gan y tîm
  • Mae gwrthdaro uniongyrchol rhwng mwyafu incwm a materion amgylcheddol ac mae hwn yn fater sylfaenol
  • Bydd polisi yn penderfynu ar y gwrthdaro hwn a daw canlyniadau drwy gyd-drafod
  • Bydd unrhyw gyfyngiad statudol yn diystyru unrhyw bolisi gan y cyngor
  • Gall dadleuon godi oherwydd lliniaru amgylcheddol
  • Nid oes llawer o gyswllt ag asiantaethau allanol megis CNC oni bai fod hyn yn angenrheidiol. Yn gyffredinol, cyfeirir unrhyw faterion i'r Tîm Cadwraeth Natur
  • Weithiau, ymgymerir ag arolygon ecolegol allanol ar safleoedd posib ond mae'n rhaid gwrthbwyso cost ymgymryd â'r ymchwiliadau hyn yn erbyn unrhyw incwm – mae'n rhaid i hyn fod yn ddichonadwy'n ariannol
  • Mae gwaith sy'n ymddangos â mwy o bwyslais ar ecosystemau a manteision tir megis lliniaru llifogydd a charbon – mae hwn yn golygu y gallai tir fod yn fwy gwerthfawr nac y meddyliom yn y lle cyntaf
  • A allai incwm tymor hir fod yn ddichonadwy yn hytrach na gwerthu asedau a chadw un swm o arian o'r tir yn unig
  • Rhennir y data a'r arolygon allanol a wneir â'r adran ecoleg
  • Mae argaeledd y tir y gellir ei ddatblygu'n fach iawn – ni fydd y rhan fwyaf o'r tir yn Abertawe byth yn cael ei ddatblygu
  • Byddai creu incwm o ddarn o dir yn dda ond mae angen staff i'w reoli ac nid oes gan adrannau'r adnoddau
  • Mae angen rhywun i reoli tir sydd â phrosiectau creu incwm ac mae'n rhaid cael ymagwedd gydlynol ar gyfer yr holl dir
  • Nid yw'r Gwasanaethau Eiddo Corfforaethol yn rheoli unrhyw orfodaeth ar y tir. Mae gorfodaeth yn cael ei monitro'n unig drwy adrannau eraill megis cynllunio (os yw'n amodol ar gynllunio) a gorfodaeth ecolegol arall
  • Mae pobl yn barod i fentro derbyn cosb ariannol am ddifrodi tir a rhywogaethau os bydd yn gwneud elw/sicrhau datblygiad tir
  • Nid oes adnoddau digonol ar gyfer gorfodi cyfreithlon
  • Mae gan gynghorwyr lleol rôl fawr i'w chwarae wrth adrodd am faterion sy'n gofyn am orfodaeth oherwydd, os bydd digon o gyhoeddusrwydd, dylai hyn atal pobl rhag gwneud hyn
  • Mae’n bosib y bydd swm o arian ychwanegol (adfachu arian) os bydd datblygwr yn ehangu'r safle a roddwyd iddo ac yn adeiladu mwy o eiddo gan wneud y tir yn fwy gwerthfawr yn dilyn hynny
  • Ydy'r broses cyn ymgeisio'n yn addas at y diben? Gan ystyried cysylltedd a materion amgylcheddol eraill – efallai y bydd yn bosib gwella'r broses hon
  • Mae'n rhaid cynnwys y bobl gywir yn gynnar yn y broses i sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys yn y broses yn gywir
  • Gallai fod yn bosib ailfuddsoddi yn y tir sydd â gwerth (y tir a nodwyd i'w werthu) a chreu incwm tymor hir ohono
  • Mae problemau adnoddau gyda phob tîm o ran rheoli problemau a chreu cyfleoedd
  • Mae hyrwyddo a rheoli tir yn costio llawer o arian ac mae hyn yn berthnasol i ben arall nodau'r gwasanaeth – cynyddu incwm uniongyrchol

Gwasanaethau Adeiladau Corfforaethol

  • Mae'r tîm yn cysylltu â Chadwraeth Natur lle bo angen
  • Nid oes rheolwr adeilad/safle sy'n gallu mynd o'r tu arall i gyfreithiau a chysylltu ag ecolegwyr mewn perthynas ag ystlumod pan fydd angen
  • Mae'r tîm yn awyddus i ailgylchu a chynnal yr amgylchedd naturiol
  • Mae'r prentisiaid (yn benodol) yn achub y blaen wrth ailgylchu ac ailddefnyddio ac maent yn chwilio am gyfleoedd i gynyddu'r buddion ar gyfer natur
  • Hoffwn weld ymagwedd 'o'r pen i'r gwaelod' at fioamrywiaeth a sicrhau bod y neges yn rhaeadru drwy'r sefydliad yn yr un modd ag y mae negeseuon pwysig eraill wedi gwneud
  • Hoffai'r gwasanaeth gynnal sgyrsiau â'r gweithlu ynghylch y materion a byddai'n croesawu hyfforddiant a gwybodaeth sy'n ei alluogi i gyfrannu at y mater
  • Ymgymerir ag arolygon ecolegol ar sbardunau e.e. ni wneir gwaith ar y to'n flynyddol er enghraifft
  • Hoffai pob rheolwr safle groesawu cyfleoedd i wella'r bywyd gwyllt ar eu safleoedd a gallai pob un dderbyn hyfforddiant/awgrymiadau da
  • Nid oes diffyg awydd i gyfrannu at y mater pwysig hwn na sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei gynnal ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
  • Mae diffyg gorfodi ac atal unwaith eto'n fater mawr gan fod pobl yn gwybod nad oes effaith negyddol arnynt
  • Byddai o fudd i ni be bai hwn yn amcan corfforaethol fel y gellir codi statws y mater a chryfhau'r neges drwy'r sefydliad

Trafodaeth

  • Gall fod dryswch ynghylch pwy sy'n rheoli darnau o dir ar gyfer y cyhoedd ac yn fewnol
  • Mae darn o waith yn cael ei lunio ar hyn o bryd i geisio gwneud hyn yn haws gan egluro cyfrifoldeb a rheolaeth y tir
  • Nid oes diffyg ewyllys i barchu a chyfrannu at wella bioamrywiaeth
  • Deillir llawer o'r cyfyngiadau o ddiffyg adnoddau
  • Hefyd, mae enghreifftiau o lwyddiant a llawer o waith cadarnhaol
  • Nid yw'r cyngor yn gallu rheoli'r holl safleoedd ac mae'n dibynnu ar aelodau wardiau a phreswylwyr i gysylltu â'r cyngor ynghylch unrhyw faterion maent wedi'u gweld
  • Ystyried ychwanegu bioamrywiaeth fel amcan corfforaethol
  • Mae angen ymgorffori materion bioamrywiaeth ac amgylcheddol ym mhob gwasanaeth a gweithiwr
  • Gwneir hyn ar sail 'o'r pen i'r gwaelod' ac mae'n dechrau digwydd
  • Mae'r mater yn derbyn cefnogaeth sylweddol gan y cyhoedd