Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Scrutiny - 636292
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Ymddiheuriadau
|
2. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
|
3. |
Cofnodion PDF 113 KB
·
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir,
gofnodion y cyfarfod blaenorol.
Cofnodion:
·
Gohiriwyd tan y cyfarfod nesaf
|
4. |
Cylch gorchwyl. PDF 93 KB
|
5. |
Yr Amgylchedd Naturiol - Trafodaeth bord gron
- Gwahoddir
asiantaethau amrywiol i roi eu
barn am yr amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth yn Abertawe o bersbectif eu sefydliadau
Cofnodion:
- Cyflwynodd y
Cynullydd, Peter Jones, gylch gorchwyl a nodau'r ymchwiliad
- Mae dau ddarn o
ddeddfwriaeth newydd yn ysgogi'r angen am yr ymchwiliad
- Y dymuniad i weld
bioamrywiaeth fel rhywbeth annatod ym mhob penderfyniad gan Gyngor
Abertawe sy'n berthnasol
- Diben y sesiwn yw
tynnu sylw at broblemau a datrysiadau
- Colin
Cheesman - Plantlife
- Mae gwirfoddolwyr
yn rhan bwysig iawn o'r maes gwaith hwn
- Mae Abertawe'n amrywiol iawn ac yn bwysig iawn ar gyfer
bywyd planhigion
- Drwy weithio mewn
partneriaeth gallwn lwyddo a goresgyn rhai rhwystrau
- Mae angen i bobl
ddeall bioamrywiaeth a sut mae'n bwysig iddynt
- Mae monitro'n
bwysig iawn fel y gallwn ddeall y sefyllfa a'r tueddiadau
- Kerry
Rogers - Cyfoeth Naturiol Cymru
- Mae gan Cyfoeth
Naturiol Cymru gylch gwaith enfawr
- Mae'n cynnwys yr
holl safleoedd a warchodir. Mae 35 o safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol
Arbennig yn Abertawe, 6 Ardal Cadwraeth Arbennig, 2 Ardal Gwarchodaeth
Arbennig, 2 wlyptir o bwys rhyngwladol (Ramsar) ac un ardal cadwraeth arbennig bosib.
- Mae llai o bori yn Fairwood a phob tir comin yn Abertawe
- Mae ansawdd aer yn
gysylltiedig â rhwydweithiau cludiant
- Mae
partneriaethau'n bwysig iawn (e.e. y Gwasanaeth Tân, Asiantaethau
Dŵr, cyrff trydydd sector etc)
- Mae Cyfoeth
Naturiol Cymru'n rhyngweithio â sawl adran yng Nghyngor Abertawe - mae
awydd i gyfuno hyn yn llawer mwy aml
- Mae mantais o ran
cost yn deillio o weithio ar y cyd e.e. prosiect dal twyni tywod, sy'n
golygu nad oedd angen i'r priffyrdd eu clirio o hyd
- Mae rheoli llwybr
yr arfordir yn annog bioamrywiaeth a thwristiaeth
- Mae blodau gwyllt
yn bwysig (e.e. ar gyfer peillwyr a chynnwys y
cyhoedd) ond mae angen eu clustnodi'n ofalus
- Dylai'r camau gweithredu
ystyried yr effaith ar fioamrywiaeth
- Mae Abertawe'n ddinas werdd iawn â llawer o werth fel
adnodd naturiol
- Adam Rowe -
Canolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru (SEWBREC)
- Rôl SEWBREC yw
arsylwi ar rywogaethau, eu nodi a chadw cofnodion
- Mae'r ganolfan
hefyd yn trefnu digwyddiadau hyfforddi
- Mae llawer o'r
dystiolaeth yn cael ei chasglu gan wirfoddolwyr a hyfforddwyd yn arbennig
- Oherwydd bod
cynifer o rywogaethau pwysig yn Abertawe, nid oes modd cynnal prosiect heb
effeithio ar rywogaeth bwysig
- Nid yw gweithio ar
wahân yn opsiwn
- Mae safle Aderyn yn
caniatáu i bobl gael mynediad at yr wybodaeth hon
- Roedd Cyngor
Abertawe heb gael mynediad at wybodaeth SEWBREC rhwng 2004-2017
- Gellir defnyddio
SEWBREC i greu parthau clustogi o amgylch safleoedd ac i gynnal archwiliad
llawn - ar gyfer rhywogaethau hefyd
- Anfonir gwybodaeth
drwy restrau cynllunio i swyddogion sy'n cynnwys rhywogaethau pwysig
- Mae cael mynediad
yn hanfodol a bydd yn costio £8,000 i £10,000 y flwyddyn
- Heather
Galliford a Chris O'Brien - Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB)
- Mae telor Dartford yn arbennig iawn
- Mae'r amrywiaeth
biolegol yn fyd-eang ac yn bwysig iawn
- Mae'r Cynllun Adfer
Natur (Dogfen Bolisi) yn cael ei adleisio drwy sefydliadau heddiw
- Mae'n bwysig bod
Cyngor Abertawe'n rheoli'n effeithiol
- Hoffai'r RSPB weld Abertawe'n arwain y ffordd wrth wreiddio'r ddogfen
bolisi hon
- Nid yw Cynllun Lles
y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Datganiad Lles Lleol yn cyfateb i'w
gilydd
- Mae Adran 6 Deddf
yr Amgylchedd 2016 yn gofyn am adrodd am gynnydd a'r camau gweithredu cyn
diwedd 2019 - a fydd Cyngor Abertawe'n barod am
hyn?
- Mae angen i
ystadau, parciau, cynllunio ac adfywio fod yn gyson o ran bioamrywiaeth a
chadwraeth natur
- Nigel
Ajax-Lewis - Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru
- Mae Ymddiriedolaeth
Natur De a Gorllewin Cymru yn rheoli tir, yn rhoi gwybod i bobl am eu
gwaith a'u cynnydd ac yn cynyddu ymwybyddiaeth
- Mae rhai pryderon
mewn perthynas ag afonydd yn Abertawe
- Mae rhai o weithgareddau'r
cyngor yn anghyson ac mae angen ymagwedd fwy cydlynol at yr amgylchedd
naturiol a bioamrywiaeth
- Steve Volchover - Partneriaeth Bioamrywiaeth Abertawe a
Chadeirydd Canolfan yr Amgylchedd Abertawe
- Mae'r amgylchedd
naturiol yn bwysig i bobl
- Mae lleoedd megis
Moryd Llwchwr ac Oxwich yn ddwy enghraifft o
safleoedd pwysig
- Mae rhan fawr o Abertawe'n cwmpasu safleoedd pwysig ar gyfer pryfed
- Nid yw Abertawe'n dda iawn o ran cynnal bioamrywiaeth
- Mae'n bwysig
gwarchod safleoedd er mwyn annog cysylltedd
- Mae'r cyngor yn
defnyddio cymysgeddau o hadau estron ar gyfer blodau gwyllt pan ddylid
defnyddio rhai brodorol er lles y gwenyn a'r pryfed
- Byddwch yn
wyliadwrus o ddefnyddio chwynladdwyr cyn plannu blodau newydd
- Mae rhai planhigion
sy'n tyfu'n wyllt ac yn tarfu ar fflora a ffawna brodorol - mae angen rheoli hyn
- Mae tipio
anghyfreithlon a sbwriel yn achosi problemau drwy ymddygiad, arfer a
pholisïau
- Efallai fod biniau
olwynion yn ddatrysiad gwell am eu bod yn lleihau sbwriel ar ochr y ffordd
a'r defnydd o fagiau plastig
- Mae angen i bobl
ddefnyddio deunyddiau addas wrth eu llosgi mewn stofiau llosgi pren
domestig ac osgoi casglu pren marw fel tanwydd, am fod hyn yn gynefin
pwysig i bryfed
- Mae angen bod yn
wydn mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd a thywydd cynhesach a gwlypach.
Mae angen rhoi darpariaethau ar waith ar gyfer problemau llifogydd posib
- Chris Dow -
Ysgol Goedwig Abertawe Castell-nedd Port Talbot
- Nid oes gan yr
ysgolion unrhyw arian i ganolbwyntio ar addysg amgylcheddol a gwneud pobl
ifanc yn hyrwyddwyr amgylcheddol hyd yn oed os ydynt am wneud hynny
- Mae llawer o
sefydliadau gwirfoddol yn methu oherwydd colli arian grant
- Nid yw'n hawdd i
sefydliadau wneud arian o'r maes gwaith hwn
- Mae angen bod yn
gynaliadwy
- Trafodaeth
- Mae rhai
gweithgareddau heb eu rheoleiddio ar yr arfordir megis casglu abwyd a broc
môr at ddefnydd masnachol
- Mae llawer o
rywogaethau morol ymledol a sbwriel sy'n cael effaith negyddol
- Mae'n anodd newid
diwylliant ac ymddygiad pobl
- Mae proses y mae
angen ei dilyn mewn perthynas â cheisiadau cynllunio ac adroddiadau ecoleg
- Mae cynghorau
eraill megis Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Mynwy'n
cynnal gweithgareddau i wella eu hisadeiledd gwyrdd neu i
flaenoriaethu/godi proffil gwaith bioamrywiaeth a'r amgylchedd naturiol yn
unol â'r gofynion deddfwriaethol
- Dylai pob adran y
cyngor wreiddio bioamrywiaeth a rhannu baich y gwaith
- Yr enghreifftiau
gorau o ariannu yw pan fo'r gyllideb yn dod o bob adran y cyngor sy'n
effeithio ar yr amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth neu'n elwa ohonynt
- Mae twristiaeth yn
elwa'n sylweddol o gyflwr yr amgylchedd naturiol ac mae hyn yn lle amlwg i
wneud arian
- Mae
cost-effeithiolrwydd hyfforddi plant am bwysigrwydd yr amgylchedd naturiol
a bioamrywiaeth a sut i ofalu amdanynt yn amhrisiadwy ond mae'n anodd ei
fesur
- Gall cynghorau
wneud pethau'n waeth drwy beidio â sicrhau bod adrannau'n gweithio ar y
cyd ar yr un pryd
- Ar gyfer rhai
pobl/adrannau, mae gan fioamrywiaeth werth negyddol am ei fod yn gallu
atal gwaith rhag cael ei wneud/neu arafu gwaith
- Gellir rheoli
perygl llifogydd yn fwy effeithiol ac yn rhatach drwy ddefnyddio dulliau
naturiol
- Bydd y cymysgedd o
wasanaethau sy'n bwydo'r gwaith hwn yn rhyddhau mwy o gyllid wrth fynd
ymlaen a bydd hyn yn arwain at ddyheadau uwch megis cyllid ychwanegol ar
gyfer addysg a'r gwasanaethau cymdeithasol
- Mae hefyd
fanteision iechyd enfawr yn deillio o gael amgylchfyd naturiol ac mae'r
GIG yn dechrau ei ddefnyddio fel rhan o'i driniaethau
- Mae rhai o'n
rhywogaethau'n ddigon pwysig fel eu bod yn haeddu cyllid ar gyfer gwaith
cynnal a chadw a chadwraeth
- Awgrymiadau
gan sefydliadau ar gyfer Cyngor Abertawe
1.
Ymrwymo i'r Cytundeb Lefel Gwasanaeth â SEWBREC er mwyn
cael mynediad at ddata mapio/rhywogaethau pwysig ar gyfer prosiectau
2.
Glynu wrth y polisïau presennol
3.
Gweithio mewn partneriaeth er mwyn cyflawni prosiectau,
bydd hyn yn lleihau costau ac yn annog arbenigedd
4.
Gwella cyfathrebu o fewn adrannau a herio'r sawl (gan
gynnwys sefydliadau allanol) nad ydynt yn gwneud yr hyn y dylent fod yn ei
wneud
5.
Datblygu cysylltiadau â'r staff cywir ac ymgynghori ar yr
adeg iawn
6.
Peidio ag anwybyddu Dyffryn Lliw Isaf. Rhaid cynnal a
gwella bioamrywiaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn unol â'r Ddeddf
7.
Bod yn gyfrifol am ddatblygu cynlluniau a chael adrannau
i weithio gyda'i gilydd yn hytrach nag yn erbyn ei gilydd
8.
Angen i'r uwch-reolwyr fod yn rhan o hyn ac mae angen
cymryd hyn o ddifri ar y lefel uchaf
9.
Gwerthfawrogi gwirfoddolwyr a chydlynwyr gwirfoddol -
angen rhoi arian ac ymdrech wrth wneud hyn
|