Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 01792 636292 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

  • Gofynnwyd i'r holl gynghorwyr sy'n aelodau o sefydliad sydd â budd yn yr amgylchedd naturiol lenwi ffurflen gysylltiadau ar ôl cael cyngor cyfreithiol. Nodwyd y byddai'r rhain yn gysylltiadau personol ar y mwyaf.

 

3.

Sesiwn Friffio ar Bolisïau Gwasanaethau pdf eicon PDF 333 KB

Trosolwg o sut mae Cyngor Abertawe ar hyn o bryd yn cyflawni ei rwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

 

·         Cllr Mary Sherwood – Aelod y Cabinet - Cenedlaethau’r Dyfodol

·         Deb Hill – Arweinydd Tîm Cadwraeth Natur

·         Paul Mellor – Rheolwr Cynllunio Strategol a’r Amgylchedd Naturiol

Cofnodion:

·         Mae gan y Tîm Cadwraeth Natur dreuliau sydd dros dwywaith swm ei gyllideb flynyddol.

·         Mae'r adran yn dibynnu'n drwm ar grantiau i dalu'r gwahaniaeth ac i ariannu staff a phrosiectau. Mae cyflwyno cais am grantiau'n broses sy'n cymryd llawer o amser, ac mae monitro a gweinyddu'r grantiau hefyd yn cymryd amser ac yn golygu nad yw staff yn cyflawni eu prif rôl, gan adael y tîm mewn sefyllfa ddiamddiffyn iawn.

·         Mae cyfyngiadau amser yn golygu nad yw'r gwaith da a wneir gan staff ar hyn o bryd yn cael ei hyrwyddo na'i hysbysebu, felly nid oes llawer o ymwybyddiaeth o'r camau cadarnhaol a gyflawnwyd.

·         Mae yna oblygiadau cyfreithiol posib o ganlyniad i fethu cydymffurfio â dyletswyddau statudol. Mae ymyriad gan Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r heddlu yn bosib ynghyd ag adolygiad barnwrol neu dorri rheolau Ewropeaidd. Efallai bydd goblygiadau ariannol a gwleidyddol sylweddol hefyd.

·         Mae'r tîm yn annog ac yn hyrwyddo gwirfoddoli sy'n darparu help ychwanegol gyda gwaith rheoli safle, ond mae angen amser staff hefyd er mwyn goruchwylio a chefnogi cyfranogaeth barhaus. Fodd bynnag, ni all gwirfoddolwyr gymryd lle'r cyngor arbenigol/proffesiynol a'r mewnbwn sy'n angenrheidiol yn ddyddiol, e.e. darparu ymatebion i ymgynghoriadau ar geisiadau cynllunio, arweiniad polisi etc.

·         Bydd datblygu Canol y Ddinas yn gyfle mawr i greu Dinas Werdd ac ni ddylwn golli'r cyfle hwn.

·         Dyma gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i fod yn flaenllaw o ran datblygu isadeiledd trefol gwyrdd, i greu 'Dinas Llawn Natur', i ragori, ac i dreialu gwaith Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR) yn drefol.

·         Cafwyd trafodaeth ynghylch aelodau ward yn cyfrannu peth o'u harian at y gweithgareddau hyn a chael gweithgareddau yn eu wardiau o ganlyniad. Tîm Cadwraeth Natur i baratoi a chyflwyno cynnig.

 

4.

Deddf yr Amgylchedd a Throsolwg o Fioamrywiaeth Abertawe

·         Deb Hill – Arweinydd Tîm Cadwraeth Natur

·         Paul Mellor – Rheolwr Cynllunio Strategol a’r Amgylchedd Naturiol

Cofnodion:

·         Mae dyletswydd arnom fel corff cyhoeddus i gydymffurfio ag adran 6 Deddf yr Amgylchedd.

·         Byddai gwneud adran 6 Deddf yr Amgylchedd yn rhan annatod o broses cynllunio busnes a pholisi Cyngor Abertawe yn arfer gorau.

·         Mae'n well i lefel uwch gyflwyno'r rhwymedigaeth hon fel nad oes modd ei cholli a fel bod gan bob adran amcanion bioamrywiaeth yn rhan o'u Cynlluniau Gwasanaeth.

·         Mae gan Abertawe fioamrywiaeth hynod amrywiol ac rydym yn lwcus iawn i gael hwn. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am Adnodd Bioamrywiaeth Abertawe (Cynefinoedd a Rhywogaethau Blaenoriaeth) yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Abertawe.

·         Mae oddeutu 50% o arwynebedd y sir o werth ecolegol sylweddol, a gwarchodir 22% o'r arwynebedd gan ddynodiadau Rhyngwladol a/neu Genedlaethol, e.e. ACA, SoDdGA, AGA, GNG ac AoHNE)

·         Mae cysylltedd rhwng mannau gwyrdd yn bwysig iawn gan ei fod yn helpu i gefnogi cadernid ecolegol.

·         Mae llawer o dir yn Abertawe'n eiddo i Gyngor Abertawe ac yn cynnig cyfle mawr, ond mae hefyd yn gyfrifoldeb mawr i gynnal a chadw a rheoli safleoedd o bwys ecolegol. Ar adegau ystyrir bioamrywiaeth fel rhwystr yn hytrach nag ased.

·         Mae'n hanfodol ein bod yn deall faint rydym yn dibynnu ar ecosystemau ar gyfer darpariaethau, rheoliadau a diwylliant.

·         Mae'n rhaid cydbwyso'r gwerth ecolegol yn erbyn gwerth unrhyw werthiant/datblygiad yn ariannol.

·         Mae'r gallu i fapio safleoedd yn gywir yn golygu bod gwybodaeth ar gael i bobl ymlaen llaw (e.e. Gwasanaethau Cynllunio).

·         Ardaloedd sy'n cefnogi cynefinoedd a rhywogaethau o bwys pennaf ar gyfer cadwraeth bioamrywiaeth yng Nghymru yw SBCN (Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur) (fel a restrwyd o dan adran 7 Deddf Amgylchedd Cymru). Gwarchodir safle sy'n bodloni meini prawf SBNC (fel a amlinellwyd yn Arweiniad Cymru Gyfan) i raddau o dan Ddeddf Amgylchedd Cymru, p'un a yw wedi'i nodi ar fap cyfyngiadau'r CDLl neu beidio. 

·         Mae colli unrhyw safleoedd SBNC cysylltiol yn niweidio cysylltedd safleoedd dynodedig eraill ac felly'n lleihau cadernid ecosystemau.

·         Gallai Abertawe fonitro data bioamrywiaeth yn well ond mae adnoddau'n brin iawn.

·         Mae yna gyfle unigryw yma i ddylanwadu ar bolisïau yn dilyn BREXIT ac i ail-ddychmygu sut gallai rhai safleoedd/gweithgareddau fod yn fwy buddiol i fioamrywiaeth, e.e. tir comin.

·         Mae nifer o gyfleoedd o'n blaenau yn ystod y cyfnod trawsnewid hwn.

·         Mae diffyg rheoli safleoedd yn golygu eu bod yn dirywio ac nid ydym yn eu gwarchod rhag problemau, sydd wedyn yn fwy costus i ni yn y pen draw ac yn y tymor hir.

·         Mae angen i weithio gyda natur fod yn un o brif amcanion y Cynllun Corfforaethol ac, yn y modd hwn, bydd yn cael mwy o ddylanwad ac yn annog mwy o bobl i ystyried y rhwymedigaeth o ddifrif.

 

5.

Trafodaeth

Cyfle i’r panel drafod yr adroddiad