Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny - 637732 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Dim

3.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Dim cwestiynau, sylwadau'n unig - Dywedodd Ms Harry ei bod yn meddwl bod yna ddeddfwriaeth sy'n nodi bod gennych hawl i gadw ceffylau heb eu hysbaddu er mwyn lleihau bridio. Bydd hi'n ymchwilio i hyn ac yn cysylltu â'r adran graffu i roi gwybod am unrhyw ddiweddariadau

4.

Y Diweddaraf am Geffylau ar Dennyn pdf eicon PDF 126 KB

·         Peter Richards MRICS - Rheolwr Uned Rheolaeth Adeiladu, Safonau Masnach, Gwasanaeth Chofrestru a Phrofedigaethau.

·         Mark Thomas - Aelod y Cabinet dros Wasanaethau’r Amgylchedd

Cofnodion:

·         Aeth Aelod y Cabinet Mark Thomas i'r cyfarfod gyda Peter Richards a Simon Clark o Safonau Masnach

·         Hefyd yn bresennol i gynnig y newyddion diweddaraf oedd Neill Manly a Romain DeKerckhove o'r RSPCA a Dave Grimsell ac Uwch-gapten Tracey Brooks o Gyfeillion Ceffylau Abertawe (FOSH)

·         Nododd Mark Thomas y cafwyd llawer o lwyddiant ers sefydlu'r gweithgor craffu gwreiddiol. Mae'r argymhellion a awgrymwyd gan y gweithgor gwreiddiol yn sicr wedi cael eu hystyried a'u cyflawni

·         Mae hyn o ganlyniad i'r gwaith cydweithredol a wnaed rhwng asiantaethau

·         Trafodwyd y ffaith bod masnach geffylau wedi lleihau ac felly roedd y budd-dal ariannol wedi gostwng dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Efallai bod hyn wedi cyfrannu at y nifer is o geffylau sydd ar gael

·         Er i hyn gael ei gydnabod, cydnabuwyd hefyd bod gweithio'n effeithiol mewn partneriaeth er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn hefyd wedi cyfrannu at y canlyniad hwn

·         Trafodaeth am ddiffyg deddfwriaeth mewn perthynas â bridio ceffylau - efallai y bydd yn bosib herio Llywodraeth Cymru am hyn ar gyfer Fforwm Ceffylau Abertawe

·         Os yw swyddogion Cyngor Abertawe'n gweld ceffyl yn cael ei gam-drin neu mewn cyflwr gwael ar dir preifat, byddant yn rhoi gwybod i'r RSPCA

·         Mae'n ymddangos bod cadw ceffylau yn y modd hwn yn ddiwylliannol ac yn ffordd i bobl nad oes ganddynt yr arian i gynnig stabl draddodiadol iddynt eu cadw

·         Mae cyflwr cyffredinol y ceffylau wedi bod yn dda iawn - ni chafwyd unrhyw faterion lles mawr

·         Ni laddwyd unrhyw geffylau er trugaredd y llynedd

·         Cyflwynwyd awgrymiadau am gynnig addysg mewn cymunedau mewn perthynas â lles a gofal ceffylau

·         Elusen diwedd bywyd yw Hillside Sanctuary, ac mae'r ceffylau'n aros ar y safle'n barhaol. Mae'r gweithgor yn hynod ddiolchgar am ymdrechion yr elusen mewn perthynas â cheffylau Abertawe, y mae'r elusen yn gofalu amdanynt

·         Mae'n ymddangos bod un aelod o'r cyhoedd yn parhau i roi ceffylau ar dennyn er gwaethaf yr ymdrechion a wnaed gan y rheiny sy'n cymryd rhan. Mae Cyngor Abertawe a'r RSPCA yn ymwybodol o'r sefyllfa ond nid oeddent yn gallu ei thrafod oherwydd materion diogelu data, fodd bynnag gwnaethant sicrhau'r panel eu bod yn ymdrin â'r sefyllfa

 

5.

Y diweddaraf gan asiantaethau

·         FOSH

·         RSPCA

Cofnodion:

Cyfeillion Ceffylau Abertawe

 

  • Gwnaed cynnydd sylweddol ers sefydlu'r gweithgor gwreiddiol, ac mae wedi bod yn fuddiol i'r gymuned ac i Gyngor Abertawe'n ariannol
  • Roedd ceffylau'n arfer cael eu lladd er trugaredd yn aml ond mae cynnydd yn golygu eu bod yn mynd i Hillside Sanctuary - mae'r ymyriadau wedi helpu i symud y sefyllfa ymlaen
  • Mae angen cynnal momentwm y gwaith a wnaed hyd yn hyn. Os tybiwn nad oes problem bellach, mae yna berygl y bydd y sefyllfa'n gwaethygu
  • Mae angen cadw'r adnoddau ar waith er mwyn ymdrin â sefyllfa o gadw ceffyl ar dennyn yn brydlon ac yn gyson
  • Diolchodd FOSH i bawb am eu cyfraniad a'u hymdrechion a dywedodd wrth y gweithgor y bydd y sefydliad yn dod i ben
  • Diolchodd y gweithgor iddynt am eu gwaith caled, eu hymroddiad a'u hymdrechion, gan roi clod am eu gwaith caled

 

RSPCA

 

  • Cafwyd gwelliannau mawr o ran y mater o geffylau ar dennyn
  • Mae'r ffaith bod y farchnad geffylau wedi lleihau wedi chwarae rhan fawr yn hyn
  • Os yw unrhyw un yn rhoi ceffyl ar dennyn yn y dyfodol, bydd yr RSPCA yn dilyn ymagwedd brydlon a chyson at roi'r gorau i hyn
  • Os nad yw'r RSPCA yn gallu enwi perchennog ceffyl ar dennyn, bydd yn gofyn i Gyngor Abertawe symud y ceffyl os yw amgylchiadau'n caniatáu i'r cyngor wneud hyn
  • Bydd rhaid delio ag unrhyw gam-drin yn unol â hynny
  • Cytunodd yr RSPA fod gweithio fel partneriaeth wedi bod yn llwyddiannus iawn ond mae'n rhaid sicrhau bod yr adnoddau ar gael os yw'r mater yn dechrau cynyddu unwaith eto
  • Diolchodd i bawb am eu cyfraniad

 

6.

Darllen Cefndir pdf eicon PDF 4 MB

1.            Round and Round’ – adroddiad gwreiddiol gan Gyfeillion Ceffylau Abertawe

2.          Llythyr at Aelod y Cabinet, 20 Ebrill 2016

3.          Ymateb gan Aelod y Cabinet, 10 Mai 2016

4.          Llythyr at Aelod y Cabinet, 20 Mehefin 2016

5.          Darnau o lythyr oddi wrth Pwyllgor y Rhaglen Graffu ac ymateb gan Aelod y Cabinet, Mark Child

7.          Llythyr at y Cabinet oddi wrth David Grimsell o FOSH

8.          Ymateb i David Grimsell gan Aelod y Cabinet,Mark Child

 

Dogfennau ychwanegol:

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 114 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 250 KB