Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan, Scrutiny 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

www.abertawe.gov.uk/DatgeliadauBuddiannau

                                                      

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

2.

Adroddiad Cynnal a Chadw Ffyrdd a Throedffyrdd pdf eicon PDF 127 KB

Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau’r Amgylchedd

Stuart Davies, Pennaeth Gwasanaeth, Priffyrdd a Chludiant

Bob Fenwick, Arweinydd Grŵp, Cynnal a Chadw Priffyrdd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Aeth Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd, drwy'r adroddiad, gan amlygu'r prif faterion.  Roedd Stuart Davies, Pennaeth Priffyrdd a Chludiant, a Bob Fenwick, Arweinydd Grŵp Cynnal a Chadw Priffyrdd, hefyd yn bresennol ac atebwyd cwestiynau. 

 

Trafodwyd y prif faterion canlynol:

 

  • Problem gyda ffyrdd heb eu mabwysiadu.  Gweithgor yn bryderus o ran costau i'r cyngor. Gwybod nad oes deddfwriaeth sy'n gorfodi datblygiadau i fabwysiadu ffyrdd newydd ond mae'r awdurdod yn annog datblygwyr i wneud hynny.  Mae'n broblem sy'n wynebu awdurdodau lleol ar draws Cymru.
  • Mae angen i Abertawe edrych ar y dylanwad y gall cynllunio ei gael o ran cynnal a chadw ffyrdd a throedffyrdd.  Mae hefyd angen edrych ar sut mae'r rhwymedigaethau hyn yn cael eu rheoli. Angen annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth. 
  • Angen cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o ffyrdd wedi'u mabwysiadu/heb eu mabwysiadu.  Os bydd mwy na 50% o breswylwyr â thiroedd blaen ar ffordd am iddynt gael eu mabwysiadu, mae'n bosib gwneud hynny, ond codir tâl er mwyn i'r ffordd gyrraedd y safon yn gyntaf. 
  • Nid oes unrhyw ddeddfwriaeth i atal ceir rhag parcio ar lwybrau troed oni bai eu bod yn achosi rhwystr.
  • Ystyrir llwybrau troed a throedffyrdd fel rhan o briffyrdd o ran cyllideb ar gyfer cynnal a chadw.
  • O ran gwariant cyfalaf, mae oddeutu £1.3 miliwn yn cael ei wario ar ffyrdd a £600 mil ar droedffyrdd. Yn gyfannol, mae cynnydd mawr wedi bod yng ngwariant troedffyrdd yn y 5 i 7 mlynedd diwethaf.
  • Mae rhaglen cynnal a chadw gyffredinol ar gyfer troedffyrdd.  Mae'r awdurdod ar y blaen o ran y rhaglen 5 mlynedd.
  • Cynhelir archwiliad diogelwch i droedffyrdd yn rheolaidd (o leiaf unwaith y flwyddyn)
  • Mae gwerth £54 miliwn o waith yn aros i gael ei wneud ar gyfer ffyrdd yn unig.  Y gost yw oddeutu £150 miliwn ar gyfer yr holl waith gan gynnwys pontydd, troedffyrdd etc. Cyflwynwyd tystiolaeth i Lywodraeth Cymru ynghylch gwaith i'w wneud yng Nghymru gan nad yw'r awdurdodau lleol yn gallu mynd i'r afael â'r broblem eu hunain.
  • Wedi derbyn arian grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer nifer o brosiectau gan nad oeddem yn gallu eu cwblhau o fewn cyfnod byr.
  • Os byddai'r draeniad yn cael ei wella, byddai llai yn cael ei wario ar gynnal a chadw ffyrdd.  Ymwybodol bod mwy o ddraeniau a gyliau'n cael eu gosod ar ffyrdd newydd.  Dim ond tri pheiriant ysgubo'r ffyrdd a geir yn Abertawe felly mae'n anodd iawn cadw'r holl ddraeniau'n glir.  Caiff gyliau eu cynnal a'u chadw bob tair blynedd ond rydym yn gwneud ein gorau i glirio'r rhai sy'n peri damweiniau bob 6 mis. Awgrymodd y Gweithgor fod llifogydd dŵr wyneb a draeniad yn rhywbeth y mae'n rhaid i'r rheiny sy'n gorfodi cynllunio fynd i'r afael ag ef os oes angen datblygiadau newydd.
  • Mae rhestr o'r gwaith cynnal a chadw cynlluniedig ar gael i'w weld ar-lein.  Y targed ar gyfer cwblhau'r gwaith yw o fewn 28 niwrnod.  Os bydd difrod yn cael ei gofnodi dan fenter tyllau yn y ffordd, bydd y gwaith yn cael ei gwblhau o fewn 48 awr fel arfer. Mae angen gwell cyhoeddusrwydd o'r fenter hon.
  • Nid yw cael gwared ar chwyn ar ffyrdd a throedffyrdd yn statudol.  Cafwyd problemau gyda thynnu chwyn yr haf diwethaf oherwydd materion â'r contractwyr ac oherwydd bod y tywydd yn wlypach nag arfer yma, roedd mwy o chwyn. Mae gan y Gweithgor bryderon am chwistrellu diystyriol.
  • Anodd trafod y pwnc hwn mewn un Gweithgor.  Awgrymu i'r Pwyllgor Craffu ystyried hyn fel ymchwiliad ar gyfer y dyfodol.

 

 

3.

Trafodaeth a Chwestiynau

Gofynnir i Gynghorwyr drafod y casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon i'w cynnwys yn llythyr y Cynullydd at Aelod y Cabinet:

 

a) Beth hoffech ei ddweud am y mater hwn wrth Aelod y Cabinet yn llythyr y Cynullydd (beth yw'ch casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon)?

 

b) Oes gennych unrhyw argymhellion sy'n codi o'r sesiwn hon i Aelod y Cabinet?

 

c) Oes unrhyw faterion eraill sy'n codi o'r sesiwn hon yr hoffech dynnu sylw Pwyllgor y Rhaglen Graffu atynt?

 

Cofnodion:

Trafododd y Gweithgor gynnydd a daethpwyd i'r casgliadau canlynol:

 

·         Teimla'r Gweithgor y gallai'r Adran Gynllunio wneud mwy ar gyfer datblygiadau newydd o ran sicrhau bod datblygwyr yn ystyried mabwysiadu ffyrdd, cynlluniau ffydd, meysydd parcio etc, naill ai drwy ddeddfwriaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru neu drwy roi pwysau ar ddatblygwyr.  Mae'r Gweithgor yn argymell bod yr awdurdod yn archwilio i weld a oes yna ddulliau ychwanegol y gall eu cyflwyno neu a oes modd i ni bwyso ar Lywodraeth Cymru os nad oes dulliau ar hyn o bryd.

·         Mae'r Gweithgor yn teimlo ei fod yn bwysig bod unrhyw weithdrefnau cynllunio sy'n cael eu cyflwyno i'r Priffyrdd er mwyn rhoi sylw iddynt yn esbonio'r effaith y ceir ar ddraeniad etc.

·         O ran draeniad, hoffai'r Gweithgor wybod a oes unrhyw ddarpariaethau ar gael rhag ofn bydd glawiad yn cynyddu yn y dyfodol h.y. tywydd gwlypach.

·         Mae'r Gweithgor yn teimlo bod gorfodi cynllunio'n bwysig iawn.  Maent yn teimlo y dylai swyddogion gorfodi cynllunio fod yn rhan o gamau cychwynnol unrhyw ddatblygiad newydd a dylent weithio gyda datblygwyr safleoedd er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw broblemau.  Hoffai'r Gweithgor weld Clerc/Arolygydd y gwaith ar safleoedd datblygu newydd er mwyn monitro'r gwaith.

·         Roedd y Gweithgor yn teimlo fel bod menter tyllau yn y ffordd yn gweithio'n dda.  Roeddent yn falch o glywed y bydd aelodau'r cyhoedd, cynghorwyr etc yn derbyn ymateb os darperir cyfeiriadau e-byst, os yw'r mater yn cael ei ddatrys neu beidio. Fodd bynnag, roeddent yn cwestiynu pa mor dda y mae'r fenter hon wedi'i hysbysebu ac nid ydym yn sicr bod aelodau'r cyhoedd yn ymwybodol o ba mor hawdd yw hi i roi gwybod am hyn. Felly, mae'r Gweithgor yn argymell bod y fenter yn cael ei hysbysu'n well.

·         Hoffai'r Gweithgor weld Côd Ymarfer yn cael ei gyflwyno mewn perthynas â ffordd gerbydau'n cael ei rhwystro gan ddatblygwyr/adeiladwyr etc.

·         O ran rhwystro troedffyrdd a draeniau a gyliau wedi'u difrodi a'u blocio, hoffai'r Gweithgor weld rhestr gofrestredig o gwmnïau ar gael i'r datblygwyr/contractwyr yn ardal Abertawe.

·         Mae gan y Gweithgor bryderon ynghylch chwistrellu chwyn yn ddiystyriol a hoffent gael sicrwydd gan Aelod o'r Cabinet fod y gwaith chwistrellu'n cael ei wneud yn rheolaidd a sicrhau nad yw'r cynhyrchion a ddefnyddir yn cynnwys calchyniad. 

·         Mae'r Gweithgor yn teimlo bod angen darn o waith mwy manwl er mwyn cynnwys yr ardal hon yn llawn ac mae'n argymell y dylai Pwyllgor y Rhaglen Graffu ystyried gwaith cynnal a chadw ffyrdd a throedffyrdd fel testun ymchwiliad craffu yn y dyfodol.

 

Yn dilyn y cyfarfod hwn:

 

·         Bydd cynullydd y gweithgor yn anfon llythyr at Aelod y Cabinet gan grynhoi'r drafodaeth ac yn amlinellu barn ac argymhellion y gweithgor.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 148 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 226 KB