Lleoliad: Ystafell Gyfarfod y Siambr - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Dim |
|
Effaith ymchwiliad craffu ar ba mor barod yw plant i ddechrau'r ysgol ac adroddiad dilynol PDF 68 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ailgyfarfu'r Panel
Ymchwilio i edrych ar effaith yr argymhellion a gododd o'r Ymchwiliad Craffu i
Ba mor Barod yw Plant i Ddechrau'r Ysgol a'r cynnydd o ran yr argymhellion
hyn. Aeth y Cynghorydd Mark Child, Sian
Bingham a Sharon Jones i'r cyfarfod i drafod cynnydd. Mae'r panel yn falch o
glywed bod ei waith a'r argymhellion dilynol wedi cael effaith mewn sawl maes a
bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud. Maent yn awyddus i glywed am y newidiadau a
gafwyd ar lefel weithredol a strategol. Bydd y newidiadau strategol yn sicrhau
bod ymrwymiad a strategaeth tymor hwy ar waith, ac ar lefel weithredol, mae
gwasanaethau'n dod yn fwy cyffredin a bod mwy o gydlyniad a chyswllt rhyngddynt
ar draws sefydliadau gwahanol. Roedd ganddynt ddiddordeb
mewn clywed am y gwaith sy'n cael ei wneud i ddefnyddio'r adnodd yn yr
ardaloedd hynny lle na cheir gwasanaeth Dechrau'n Deg drwy ddatblygu'r ethos
hwnnw, lle y bo modd, mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar eraill yn yr ardaloedd
hyn. Mae Cynghorwyr yn hapus i glywed am lwyddiant y Prosiect Jig-so
amlasiantaeth ac estyn Cynllun Peilot y Cynnig Gofal Plant. Mae'r panel yn arbennig o
falch bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno y dylai'r Blynyddoedd
Cynnar barhau i fod yn un o'i flaenoriaethau allweddol yn y dyfodol. Mae'r panel felly'n fodlon
ar y cynnydd a wnaed o ran argymhellion 1, 2, 4 a 9 ac ni fydd yn ymdrin â nhw
ymhellach. Clywsant am yr argymhellion hynny nad ydynt yn
gyflawn eto ond cafwyd cynnydd gyda nifer o'r argymhellion hyn gan gynnwys y
canlynol: ·
Gwnaed cynnydd sylweddol wrth ymateb i ofynion penodol
Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) o ran y
blynyddoedd cynnar. ·
Mae'r Grant Amddifadedd Disgyblion bellach wedi'i fapio
ac mae'r data wedi'i gasglu fel bod y math newydd o wariant yn cael ei fonitro
ac y gellir tynnu sylw at arfer da.
Mae'r panel yn awyddus i weld yr holl arfer da a ganfuwyd yn cael ei
rannu ar draws ysgolion. ·
Mae gweithgor sy'n cynnwys yr holl randdeiliaid allweddol
wedi'i sefydlu i rannu argymhellion a datblygu dealltwriaeth gytûn o'r camau
gweithredu i'w cymryd i ddatblygu gwaelodlin Cyfnod Sylfaen. Roedd y panel yn awyddus i weld hyn yn
datblygu er mwyn helpu i sicrhau cysondeb a chadernid. ·
Mae Arweinydd Strategol newydd y Cyfnod Sylfaen yn dechau
meithrin perthnasoedd gwaith â phobl berthnasol a bydd yn dechrau rhannu arfer
da. Mae'r panel yn awyddus i weld
safonau gofynnol mewn perthynas â throsglwyddo o leoliadau gofal dydd i ysgol
yn cael eu datblygu'n llawn. Mae cynghorwyr yn cydnabod y bydd gan rai o'r
argymhellion amserlen ddatblygu tymor hwy. Byddant felly'n cyfeirio'r
argymhellion hynny sy'n weddill, sef 3, 5, 6 ac 8 at Banel Craffu Perfformiad
Ysgolion er mwyn iddo fynd ar drywydd y rhain mewn 12 mis. Ysgrifennir llythyr at Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles a Phlant, Addysg
a Dysgu Gydol Oes sy'n adlewyrchu barn y panel. Daeth y cyfarfod
i ben am 5.45pm |
|