Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gyfarfod y Siambr - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Dim

2.

Effaith ymchwiliad craffu ar ba mor barod yw plant i ddechrau'r ysgol ac adroddiad dilynol pdf eicon PDF 68 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ailgyfarfu'r Panel Ymchwilio i edrych ar effaith yr argymhellion a gododd o'r Ymchwiliad Craffu i Ba mor Barod yw Plant i Ddechrau'r Ysgol a'r cynnydd o ran yr argymhellion hyn.   Aeth y Cynghorydd Mark Child, Sian Bingham a Sharon Jones i'r cyfarfod i drafod cynnydd.

 

Mae'r panel yn falch o glywed bod ei waith a'r argymhellion dilynol wedi cael effaith mewn sawl maes a bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud. Maent yn awyddus i glywed am y newidiadau a gafwyd ar lefel weithredol a strategol. Bydd y newidiadau strategol yn sicrhau bod ymrwymiad a strategaeth tymor hwy ar waith, ac ar lefel weithredol, mae gwasanaethau'n dod yn fwy cyffredin a bod mwy o gydlyniad a chyswllt rhyngddynt ar draws sefydliadau gwahanol.

 

Roedd ganddynt ddiddordeb mewn clywed am y gwaith sy'n cael ei wneud i ddefnyddio'r adnodd yn yr ardaloedd hynny lle na cheir gwasanaeth Dechrau'n Deg drwy ddatblygu'r ethos hwnnw, lle y bo modd, mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar eraill yn yr ardaloedd hyn. Mae Cynghorwyr yn hapus i glywed am lwyddiant y Prosiect Jig-so amlasiantaeth ac estyn Cynllun Peilot y Cynnig Gofal Plant.

 

Mae'r panel yn arbennig o falch bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno y dylai'r Blynyddoedd Cynnar barhau i fod yn un o'i flaenoriaethau allweddol yn y dyfodol.

 

Mae'r panel felly'n fodlon ar y cynnydd a wnaed o ran argymhellion 1, 2, 4 a 9 ac ni fydd yn ymdrin â nhw ymhellach.

 

Clywsant am yr argymhellion hynny nad ydynt yn gyflawn eto ond cafwyd cynnydd gyda nifer o'r argymhellion hyn gan gynnwys y canlynol:

 

·         Gwnaed cynnydd sylweddol wrth ymateb i ofynion penodol Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) o ran y blynyddoedd cynnar.

·         Mae'r Grant Amddifadedd Disgyblion bellach wedi'i fapio ac mae'r data wedi'i gasglu fel bod y math newydd o wariant yn cael ei fonitro ac y gellir tynnu sylw at arfer da.  Mae'r panel yn awyddus i weld yr holl arfer da a ganfuwyd yn cael ei rannu ar draws ysgolion.

·         Mae gweithgor sy'n cynnwys yr holl randdeiliaid allweddol wedi'i sefydlu i rannu argymhellion a datblygu dealltwriaeth gytûn o'r camau gweithredu i'w cymryd i ddatblygu gwaelodlin Cyfnod Sylfaen.  Roedd y panel yn awyddus i weld hyn yn datblygu er mwyn helpu i sicrhau cysondeb a chadernid.

·         Mae Arweinydd Strategol newydd y Cyfnod Sylfaen yn dechau meithrin perthnasoedd gwaith â phobl berthnasol a bydd yn dechrau rhannu arfer da.  Mae'r panel yn awyddus i weld safonau gofynnol mewn perthynas â throsglwyddo o leoliadau gofal dydd i ysgol yn cael eu datblygu'n llawn.

 

Mae cynghorwyr yn cydnabod y bydd gan rai o'r argymhellion amserlen ddatblygu tymor hwy. Byddant felly'n cyfeirio'r argymhellion hynny sy'n weddill, sef 3, 5, 6 ac 8 at Banel Craffu Perfformiad Ysgolion er mwyn iddo fynd ar drywydd y rhain mewn 12 mis. 

 

Ysgrifennir llythyr at Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles a Phlant, Addysg a Dysgu Gydol Oes sy'n adlewyrchu barn y panel.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 5.45pm

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 162 KB