Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Dim |
|
Adroddiad Effaith Ymchwiliad Trechu Tlodi a gwaith dilynol PDF 490 KB Gwahoddir y canlynol i drafod cynnydd: ·
Y Cynghorydd Mary
Sherwood, Aelod y Cabinet dros
Gymunedau Gwell (Pobl) ·
Rachel Moxey, Pennaeth Tlodi a’i Atal Yn atodedig mae: 1. Adroddiad Effaith gan Aelod o’r
Cabinet 2. Adroddiad Ymchwiliad Gwreiddiol y Gwasanaeth Craffu 3. Ymateb Gwreiddiol y Cabinet Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: ·
Roedd y Cyng. Mary Sherwood, Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell - Pobl,
Rachel Moxey, Pennaeth Tlodi a'i Atal, ac Anthony Richards yn bresennol yng
nghyfarfod y panel i roi'r diweddaraf am yr effaith a'r cynnydd gyda'r
argymhellion cytunedig a ddaeth o'r Ymchwiliad Craffu i Drechu Tlodi. ·
Clywodd y panel mai prif effaith yr ymchwiliad oedd rhoi ffocws clir ar
weithgareddau trechu tlodi. Roedd Aelod y Cabinet yn arbennig o hapus gyda'r
cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r gwaith traws-adrannol/trawsbynciol. Credai y
daw'r gwahaniaeth cadarnhaol bellach o waith Comisiwn y Gwirionedd am Dlodi a
bydd hyn yn helpu i bennu cyfeiriad ar gyfer y dyfodol. ·
Mae'r strategaeth sydd bellach ar waith yn mynd yn llawer pellach nag o'r
blaen. Mae pobl yn fwy parod i ymrwymo a chytuno ar draws adrannau ac yn y
ffordd rydym yn gweithio ar draws yr awdurdod lleol. ·
Roedd y broses graffu yn ddefnyddiol iawn wrth ddatblygu sefyllfa dda i
ddechrau, yn benodol y pwyntiau pwysig a gafodd eu gwneud. Roedd nifer o'r
rhain yn cyd-fynd â'r datblygiadau sydd gan y cyngor ar y gweill. ·
Mae cynnydd da wedi'i wneud ar y rhan fwyaf o'r argymhellion craffu yn y
cynllun gweithredu. ·
Ymgynghoriad ar y Strategaeth Trechu Tlodi - lluniwyd adroddiad cryno'r
ymgynghoriad sy'n uno 11 eitem allweddol o'r ymgynghoriad a fydd yn mynd i'r
afael â'r materion hyn. Datblygwyd cynllun gweithredu i'w cyflwyno. Hoffai'r
panel weld copi o'r crynodeb. Roedd gan y cynghorwyr hefyd ddiddordeb mewn
gweld safbwyntiau gwahanol y bobl a ymatebodd. ·
Cafwyd 128 o ymatebion i'r ymgynghoriad, roedd rhai o'r rhain yn ymatebion
unigol gan sefydliadau ar ran llawer o ddefnyddwyr. Cafodd fersiwn hawdd ei
darllen ei darparu a derbyniwyd nifer mawr o ymatebion trwy hyn. (82 o'r 128). Ymgynghorwyd â phlant a phobl ifanc trwy'r
Sgwrs fawr a Llais y Disgybl. ·
Comisiwn y Gwirionedd am Dlodi - nid yw hwn wedi'i gwblhau ond mae cynnydd
sylweddol wedi'i wneud. Ym mis Gorffennaf, cytunwyd i roi'r astudiaeth
cyfranogiad yn Abertawe ar waith gan ddefnyddio model y comisiwn tlodi, ar ôl
ystyried arfer da mewn mannau eraill. Wrth roi hyn ar waith byddwn yn gweithio
gydag eraill megis Comisiwn Tlodi Leeds i ddatblygu'r
camau pwysig nesaf. Yna, bydd prynu i mewn gan randdeiliaid
yn bwysig. Teimlodd y panel ei fod yn bwysig cynnwys cynghorwyr ward. Teimlodd
y panel y byddai mwy o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd gyda threchu tlodi yn
ddefnyddiol a gofynnwyd i gael cofnodion y Fforwm Partneriaeth Tlodi ar-lein er
mwyn i'r cynghorwyr gael mynediad atynt. ·
Bydd y camau nesaf i'r Comisiwn Tlodi'n cynnwys tair set o bobl 1.
Dirprwy Arweinydd, uwch-arweinwyr busnes, arweinwyr ffydd etc. 2.
Amrywiaeth o sefydliadau rhanddeiliaid 3.
Pobl â phrofiad uniongyrchol o dlodi ·
Teimlai'r cynghorwyr fod sicrhau bod yr aelodau ar y BGC yn prynu i mewn yn
bwysig. Teimlai'r panel hefyd fod rhaid i'r bobl gysylltiedig o'r sefydliadau a
gynrychiolir ar y BGC gael lefel addas o wybodaeth a'r gallu i ymrwymo. Mae
aelodau'r panel hefyd wedi cydnabod nad yw'r holl sefydliadau partner ar y BGC
ac un rhan yn unig o hyn yw'r BGC. ·
Cynllun Cyflawni/Gweithredu - Mae gan y cyngor gynllun cyflawni newydd lle
mae gan bob Aelod y Cabinet gamau gweithredu. Adroddir am gynnydd yn hyn o beth
bob chwarter. Hoffai'r panel weld hyn yn cael ei gyhoeddi ar-lein fel y gallent
ddilyn y cynnydd. Mae'r cynllun yn casglu llawer o wybodaeth, ac yn cyflwyno'r
strategaeth tair blynedd sy'n gysylltiedig â'r Cynllun Corfforaethol a Lles.
Mae ganddo 80+ o amcanion. Hoffai'r panel weld cynlluniau gweithredu'r
strategaethau llawn dros dlodi a'i atal ar gael ar-lein ac yn cael eu diweddaru
gydag unrhyw ddatblygiadau pan fydd Aelodau’r Cabinet a Chyfarwyddwyr yn
cyfrannu at y cynllun. Byddai hyn yn gwella gwelededd i gynghorwyr ac eraill.
Mae'r panel yn cydnabod bod y cynllun yn ddogfen newidiol ac yn falch o glywed
hyn. ·
Mae mesur tlodi yn anodd gan fod mesuriadau'n newid ac mae dylanwadau hefyd
yn newid - esboniodd Aelod y Cabinet mai'r unig fesur cywir sydd gennym yw
lefelau'r Safon Isafswm Incwm. Mae'n bwysig edrych ar y rhwystrau i wella hyn,
fel gall pobl gael mynediad at waith drwy er enghraifft, argaeledd trafnidiaeth
a chost. ·
Gweledigaeth a diffiniad tlodi - Roedd y Cyng. yn falch o glywed bod y
strategaeth bellach yn cynnwys gweledigaeth Abertawe a diffiniad amlwg yn y
strategaeth ei hun. ·
Arian Ewrop ac effaith Brexit - mae nifer o ffrydiau cyllido yn cael eu
hariannu'r ffordd hon. Mae'n bryder ond nid yw'n newid y cysyniad y tu ôl i'r
cynlluniau cysylltiedig. Bydd egwyddorion yr un peth a byddwn yn gweithio
gyda'r arian sydd ar gael. ·
Caffael - Dywedodd y Cyng. Sherwood wrth y panel am waith gan Gyngor Preston i wneud y defnydd mwyaf posibl o gaffael
cymdeithasol yn ei weithgareddau a thrwy ei bartneriaethau. Roedd diddordeb gan
y panel yn y cysyniad hwn, wrth gydnabod bod peth o'r gwaith yn cael ei
gyflawni yn Abertawe yn Y Tu Hwnt i Frics a Morter ond gall y ffordd hon o
weithio gael ei ehangu ymhellach yma. Gall fod yn ysgogwr
allweddol i adfywio'r economi leol. Cytunodd y panel i gyfeirio'r mater hwn at
y panel Craffu Perfformiad Datblygu ac Adfywio i'w ystyried ymhellach. |
|
Y panel i drafod ac i gytuno ar adborth Cofnodion: Cytunodd y panel
i ysgrifennu llythyr at Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell - Pobl gyda'i farn
ar gynnydd ac i ysgrifennu at yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr ynghylch lle mae
Tlodi a'i Atal ar strwythur y cyngor. Daeth y cyfarfod
i ben am 12.45pm |
|