Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Dim

2.

Adroddiad Effaith Ymchwiliad Trechu Tlodi a gwaith dilynol pdf eicon PDF 490 KB

Gwahoddir y canlynol i drafod cynnydd:

·         Y Cynghorydd Mary Sherwood, Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell (Pobl)

·         Rachel Moxey, Pennaeth Tlodi a’i Atal

 

Yn atodedig mae:

1. Adroddiad Effaith gan Aelod o’r Cabinet

2. Adroddiad Ymchwiliad Gwreiddiol y Gwasanaeth Craffu

3. Ymateb Gwreiddiol y Cabinet

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Roedd y Cyng. Mary Sherwood, Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell - Pobl, Rachel Moxey, Pennaeth Tlodi a'i Atal, ac Anthony Richards yn bresennol yng nghyfarfod y panel i roi'r diweddaraf am yr effaith a'r cynnydd gyda'r argymhellion cytunedig a ddaeth o'r Ymchwiliad Craffu i Drechu Tlodi.

·         Clywodd y panel mai prif effaith yr ymchwiliad oedd rhoi ffocws clir ar weithgareddau trechu tlodi. Roedd Aelod y Cabinet yn arbennig o hapus gyda'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r gwaith traws-adrannol/trawsbynciol. Credai y daw'r gwahaniaeth cadarnhaol bellach o waith Comisiwn y Gwirionedd am Dlodi a bydd hyn yn helpu i bennu cyfeiriad ar gyfer y dyfodol.

·         Mae'r strategaeth sydd bellach ar waith yn mynd yn llawer pellach nag o'r blaen. Mae pobl yn fwy parod i ymrwymo a chytuno ar draws adrannau ac yn y ffordd rydym yn gweithio ar draws yr awdurdod lleol.

·         Roedd y broses graffu yn ddefnyddiol iawn wrth ddatblygu sefyllfa dda i ddechrau, yn benodol y pwyntiau pwysig a gafodd eu gwneud. Roedd nifer o'r rhain yn cyd-fynd â'r datblygiadau sydd gan y cyngor ar y gweill.

·         Mae cynnydd da wedi'i wneud ar y rhan fwyaf o'r argymhellion craffu yn y cynllun gweithredu.

·         Ymgynghoriad ar y Strategaeth Trechu Tlodi - lluniwyd adroddiad cryno'r ymgynghoriad sy'n uno 11 eitem allweddol o'r ymgynghoriad a fydd yn mynd i'r afael â'r materion hyn. Datblygwyd cynllun gweithredu i'w cyflwyno. Hoffai'r panel weld copi o'r crynodeb. Roedd gan y cynghorwyr hefyd ddiddordeb mewn gweld safbwyntiau gwahanol y bobl a ymatebodd.

·         Cafwyd 128 o ymatebion i'r ymgynghoriad, roedd rhai o'r rhain yn ymatebion unigol gan sefydliadau ar ran llawer o ddefnyddwyr. Cafodd fersiwn hawdd ei darllen ei darparu a derbyniwyd nifer mawr o ymatebion trwy hyn. (82 o'r 128).  Ymgynghorwyd â phlant a phobl ifanc trwy'r Sgwrs fawr a Llais y Disgybl.

·         Comisiwn y Gwirionedd am Dlodi - nid yw hwn wedi'i gwblhau ond mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud. Ym mis Gorffennaf, cytunwyd i roi'r astudiaeth cyfranogiad yn Abertawe ar waith gan ddefnyddio model y comisiwn tlodi, ar ôl ystyried arfer da mewn mannau eraill. Wrth roi hyn ar waith byddwn yn gweithio gydag eraill megis Comisiwn Tlodi Leeds i ddatblygu'r camau pwysig nesaf. Yna, bydd prynu i mewn gan randdeiliaid yn bwysig. Teimlodd y panel ei fod yn bwysig cynnwys cynghorwyr ward. Teimlodd y panel y byddai mwy o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd gyda threchu tlodi yn ddefnyddiol a gofynnwyd i gael cofnodion y Fforwm Partneriaeth Tlodi ar-lein er mwyn i'r cynghorwyr gael mynediad atynt.

·         Bydd y camau nesaf i'r Comisiwn Tlodi'n cynnwys tair set o bobl

1.    Dirprwy Arweinydd, uwch-arweinwyr busnes, arweinwyr ffydd etc.

2.    Amrywiaeth o sefydliadau rhanddeiliaid

3.    Pobl â phrofiad uniongyrchol o dlodi

·         Teimlai'r cynghorwyr fod sicrhau bod yr aelodau ar y BGC yn prynu i mewn yn bwysig. Teimlai'r panel hefyd fod rhaid i'r bobl gysylltiedig o'r sefydliadau a gynrychiolir ar y BGC gael lefel addas o wybodaeth a'r gallu i ymrwymo. Mae aelodau'r panel hefyd wedi cydnabod nad yw'r holl sefydliadau partner ar y BGC ac un rhan yn unig o hyn yw'r BGC.

·         Cynllun Cyflawni/Gweithredu - Mae gan y cyngor gynllun cyflawni newydd lle mae gan bob Aelod y Cabinet gamau gweithredu. Adroddir am gynnydd yn hyn o beth bob chwarter. Hoffai'r panel weld hyn yn cael ei gyhoeddi ar-lein fel y gallent ddilyn y cynnydd. Mae'r cynllun yn casglu llawer o wybodaeth, ac yn cyflwyno'r strategaeth tair blynedd sy'n gysylltiedig â'r Cynllun Corfforaethol a Lles. Mae ganddo 80+ o amcanion. Hoffai'r panel weld cynlluniau gweithredu'r strategaethau llawn dros dlodi a'i atal ar gael ar-lein ac yn cael eu diweddaru gydag unrhyw ddatblygiadau pan fydd Aelodau’r Cabinet a Chyfarwyddwyr yn cyfrannu at y cynllun. Byddai hyn yn gwella gwelededd i gynghorwyr ac eraill. Mae'r panel yn cydnabod bod y cynllun yn ddogfen newidiol ac yn falch o glywed hyn.

·         Mae mesur tlodi yn anodd gan fod mesuriadau'n newid ac mae dylanwadau hefyd yn newid - esboniodd Aelod y Cabinet mai'r unig fesur cywir sydd gennym yw lefelau'r Safon Isafswm Incwm. Mae'n bwysig edrych ar y rhwystrau i wella hyn, fel gall pobl gael mynediad at waith drwy er enghraifft, argaeledd trafnidiaeth a chost.

·         Gweledigaeth a diffiniad tlodi - Roedd y Cyng. yn falch o glywed bod y strategaeth bellach yn cynnwys gweledigaeth Abertawe a diffiniad amlwg yn y strategaeth ei hun.

·         Arian Ewrop ac effaith Brexit - mae nifer o ffrydiau cyllido yn cael eu hariannu'r ffordd hon. Mae'n bryder ond nid yw'n newid y cysyniad y tu ôl i'r cynlluniau cysylltiedig. Bydd egwyddorion yr un peth a byddwn yn gweithio gyda'r arian sydd ar gael.

·         Caffael - Dywedodd y Cyng. Sherwood wrth y panel am waith gan Gyngor Preston i wneud y defnydd mwyaf posibl o gaffael cymdeithasol yn ei weithgareddau a thrwy ei bartneriaethau. Roedd diddordeb gan y panel yn y cysyniad hwn, wrth gydnabod bod peth o'r gwaith yn cael ei gyflawni yn Abertawe yn Y Tu Hwnt i Frics a Morter ond gall y ffordd hon o weithio gael ei ehangu ymhellach yma. Gall fod yn ysgogwr allweddol i adfywio'r economi leol. Cytunodd y panel i gyfeirio'r mater hwn at y panel Craffu Perfformiad Datblygu ac Adfywio i'w ystyried ymhellach.

 

3.

Y panel i drafod ac i gytuno ar adborth

Cofnodion:

Cytunodd y panel i ysgrifennu llythyr at Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell - Pobl gyda'i farn ar gynnydd ac i ysgrifennu at yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr ynghylch lle mae Tlodi a'i Atal ar strwythur y cyngor.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.45pm

 

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 96 KB