Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim

2.

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Cllr Will Thomas

3.

Ceisiadau Cyhoeddus (30 munud)

Cofnodion:

Roedd pedwar aelod o'r cyhoedd yn bresennol i gyflwyno argymhellion i'r Gweithgor, roeddent o'r gymuned fusnes leol yn y Mwmbwls/Langland/Caswell. Nodwyd y materion canlynol mewn perthynas â'r maes parcio ger y draethlin ym Mae Bracelet, Caswell a Langland:

 

·         Diffyg goleuadau - dywyll yn y gaeaf am 4pm felly mae'n gallu bod yn ddiffaith ac yn ddigroeso.

·         Marciau/llinellau yn enwedig yn/o gwmpas yr ardal ym Mae Bracelet

·         Toiledau Bae Bracelet mewn cyflwr gwael ac nid ydynt wedi'u cloi yn y nos (mae perchnogion busnesau wedi cynnig eu cloi ar ddiwedd y dydd)

·         Symiau mawr o sbwriel

·         Problem gyda beiciau a cheir wedi'u haddasu sy'n cwrdd yn y maes parcio ac yn sgidio a gwneud 'wheelies' o gwmpas yr ardal (Bae Bracelet). Awgrymwyd gosod gât.

·         Cafwyd gwared ar y CCTV felly nid oes modd recordio unrhyw broblemau.

·         Mae cynnydd mewn ffioedd yn ystod y gaeaf wedi effeithio ar fasnach.

·         Yn aml, nid yw'r peiriannau yn y meysydd parcio'n gweithio, gan gynnwys problemau gyda chysylltiad Wi-Fi felly mae'n anodd defnyddio cardiau credyd a phan fydd hi'n bwrw glaw mae'r peirannau'n jamio pan fydd y tocynnau'n wlyb. 

·         Cyflwr y maes parcio, y ffensys a'r gordyfiant ym maes parcio Bae Bracelet.

 

 

4.

Adroddiad Trosolwg - Costau Parcio Ceir a Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 109 KB

Bydd Mark Thomas (Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd) a Stuart Davies (Pennaeth Priffyrdd a Chludiant) yn bresennol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Mark Thomas (Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r  Amgylchedd), Stuart Davies (Pennaeth Cludiant), a Mark Thomas/Richard Mears (Rheolwyr Parcio) yn bresennol i drafod yr adroddiad ac unrhyw gwestiynau cysylltiedig.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Mark Thomas i'r pwyntiau a godwyd gan aelodau'r cyhoedd fel a ganlyn:

 

·         Marciau/llinellau/ffensys/sbwriel a chyflwr y maes parcio ym Mae Bracelet

Dylai'r maes parcio gael ei gynnal a'i gadw'n rheolaidd, mae cyllideb yn broblem ond mae angen i ni sicrhau bod gennym safon sylfaenol dda o ran diogelwch yn enwedig, bydd y Cynghorydd Thomas yn rhoi'r diweddaraf am hyn.

·         Goleuadau ym meysydd parcio'r blaendraeth

Nid oes goleuadau wedi bod yn y meysydd parcio hynny erioed a gall fod yn ddrud eu gosod yn enwedig o ystyried yr hinsawdd ariannol bresennol ond bydd hyn yn cael ei ystyried.

·         Ceir wedi'u haddasu yn cwrdd ym maes parcio Bae Bracelet ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â hyn
 

Roedd y Cynghorydd Thomas yn cydnabod bod hyn hefyd yn fater i'r Heddlu ond cytunodd i ymchwilio i'r posibilrwydd o osod gât wrth y fynedfa.

·         CCTV

Cafwyd gwared ar y CCTV o bob man heblaw am ardal canol y ddinas ychydig flynyddoedd yn ôl - mae'n annhebygol y bydd hyn yn cael ei ailosod.

·         Cynnydd yn ffioedd meysydd parcio yn y gaeaf, peilota gwahanol ffyrdd...

Mae'r cynnydd hwn wedi cynyddu incwm er mwyn helpu gyda'r gwaith cynnal a chadw. Mae wedi cynyddu'r gyllideb a dderbynir. Mae incwm wedi cynyddu ac mae ein defnydd wedi lleihau. Rydym yn cydnabod bod busnesau lleol ar y blaendraeth yn teimlo yr effeithiwyd ar fasnach oherwydd cynnydd yn y ffioedd dros y gaeaf sydd, fel rheol, yn effeithio ar y bobl leol sy'n defnyddio'r meysydd parcio hynny. Mae angen i ni ddod o hyd i ateb sy'n gweithio i'r ddau barti.  Cafwyd nifer o awgrymiadau gan y cyhoedd a'r gweithgor ynghylch ffioedd dros y gaeaf, gan gynnwys: gostwng y tâl i £1 yr awr, neu ganiatáu fwy o amser am y tâl ar hyn o bryd, neu ddim tâl am yr awr gyntaf, er enghraifft. Dywedodd Aelod y Cabinet mai peilota syniadau da yw'r ffordd orau o ddod o hyd i ateb a bydd yn ymchwilio i'r awgrymiadau a wnaed.

·         Problemau gyda'r peiriannau tocynnau

Mae'r problemau gyda'r peiriannau tocynnau wedi'u cydnabod ac mae'r cyngor yn gweithio gyda'r cynhyrchwyr er mwyn dod o hyd i ateb. Roedd gan y cyngor bryderon ynghylch yr amser y mae hyn yn ei gymryd a chytunodd Aelod y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hyn.

·         Ardal chwarae ym Mae Bracelet

Mae'r cyngor wedi ceisio cyllideb gan fusnesau lleol er mwyn gosod llong môr-ladron newydd oherwydd nad oes cyllideb ar ôl i'r cyngor wneud hynny. Os nad oes modd dod o hyd i gyllideb ar ei chyfer, bydd rhaid cael gwared arni. Bydd Aelod y Cabinet yn rhoi'r diweddaraf am hyn.

 

·         Posibilrwydd o brydlesu/gwerthu rhai meysydd parcio

Nid oes gan y cyngor unrhyw gynlluniau ar gyfer prydlesu neu werthu ei feysydd parcio, ond bydd Aelod y Cabinet yn ymchwilio i ddichonoldeb hynny.

 

Yna, aeth Aelod y Cabinet a'r Gweithgor ati i drafod gweddill yr adroddiad ar yr agenda, lle nodwyd y canlynol:

 

·         Mae newid tirwedd parcio yng nghanol y ddinas wedi'i chynllunio. Gofynnodd y Gweithgor am nifer y lleoedd sy'n cael eu lleihau yng nghanol y ddinas wrth i'r prosiectau adfywio ddechrau. Mae adolygiad comisiynu gan gynnwys datblygu ymagwedd strategol at ofynion parcio sy'n cynnwys newidiadau yng nghanol y ddinas ar waith ar hyn o bryd. Bydd hyn yn cael ei graffu fel eitem cyn penderfynu gan y Panel Craffu Gwella Gwasanaethau a Chyllid. Y Gweithgor i holi am raddfa amser.

·         Pa wyddoniaeth sy'n cael ei defnyddio er mwyn pennu'r ffioedd? Clywodd y cynghorwyr fod yr awdurdod yn edrych ar yr hyn y mae awdurdodau eraill yn ei wneud gan gynnwys meincnodi ein ffioedd. Roedd y Gweithgor yn meddwl ei fod yn bwysig pwysleisio a chydnabod yr effeithiau ehangach ar fusnesau a chymunedau yn Abertawe wrth gynyddu'r ffioedd - teimlwyd nad yw'n ymwneud â chostau bob amser, ond gall ymwneud â chanfyddiad hefyd. Mae'r mwyafrif yn gwneud y gorau i sicrhau ein bod yn deall effeithiau ehangach newid ffioedd meysydd parcio.

·         Yr angen i ddefnyddio ffyrdd arloesol o ddenu pobl er mwyn helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr a busnesau ar draws meysydd parcio yn Abertawe. Mae'n bwysig dod o hyd i'r ffioedd gorau posib gyda'r defnydd gorau posib. Mae peilota syniadau mewn rhai meysydd parcio yn ffordd dda o wneud hyn ac yn ffordd o arbrofi ar syniadau.

·         Meysydd parcio aml-lawr a defnydd, gwell defnydd yn enwedig yn y maes parcio aml-lawr ar Y Stryd Fawr. Bydd y meysydd parcio newydd sy'n cael eu hadeiladu yn y datblygiadau newydd yn cael eu dylunio fel eu bod yn fwy deniadol i barcio ynddynt, bydd ganddynt fannau parcio mwy llydan a'u bod wedi'u goleuo'n well.

·         Capasiti maes parcio'r Mwmbwls a'r syniad o adeiladu maes parcio aml-lawr.  Cydnabuodd y Gweithgor fod yna broblem ynghylch capasiti parcio tymhorol yn y Mwmbwls a byddai Aelod y Cabinet yn hapus i edrych ar unrhyw syniadau y gall y Cynghorwyr eu cynnig ynghylch hyn ac anogodd hwy i gysylltu ag ef. Clywodd y Cynghorwyr hefyd y gallai fod cyfle i gael maes parcio Parcio a Theithio yng ngorllewin Abertawe yn y tymor hir.

·         Clywodd y Gweithgor nad oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno ffioedd parcio i breswylwyr yn Abertawe ar hyn o bryd.

·         Rydym yn ystyried cyflwyno ffioedd mewn rhai meysydd parcio mewn lleoliadau maestrefol.

·         Paratoi ar gyfer ceir sy'n gyrru eu hunain a gosod pwyntiau gwefru trydanol yn y dyfodol.  Clywodd y Gweithgor fod y diwydiant yn wynebu her ar hyn o bryd wrth geisio gwneud y pethau hyn, gan gydnabod y bydd y dirwedd o ran trafnidiaeth ar y cyfan yn newid yn sylweddol yn y tymor canolig i hir. Yr hyn rydym yn gallu ei wneud ar hyn o bryd yw derbyn y newyddion diweddaraf gydag arfer gorau a dal ati wrth i bethau ddatblygu.

 

5.

Crynhoi Barnau

Y gweithgor i ystyried tystiolaeth a geir, dod i gasgliadau a chytuno ar unrhyw argymhellion i'w cyflwyno i Aelod y Cabinet trwy lythyr y cynullydd

 

Cofnodion:

Bydd y Gweithgor yn ysgrifennu llythyr drwy'r Cynullydd at Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd yn amlinellu ei farn a'i awgrymiadau.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 46 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 218 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 89 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet 13 Jun 18 pdf eicon PDF 145 KB