Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Scrutiny 637732
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Ymddiheuriadau am absenoldeb
|
2. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
|
3. |
Adroddiad Effaith Ymchwiliad Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy ac adroddiad dilynol PDF 98 KB
Gwahoddir y canlynol i drafod cynnydd:
Sue Reed (Rheolwr
Datblygu Hamdden Cymunedol)
Atodir:
1. Adroddiad
Effaith gan Aelod y
Cabinet
2. Adroddiad
Ymchwiliad Craffu gwreiddiol
3. Ymateb
gwreiddiol y Cabinet
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
- Daeth Sue Reed,
Rheolwr Datblygu Hamdden Cymunedol, i roi'r diweddaraf i'r panel am y
gwaith a wnaed ers yr Ymchwiliad Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy
- Mae rôl Sue yn
cynnwys cefnogi gwirfoddolwyr yn y gymuned i sefydlu grwpiau i hwyluso rheoli
a chynnal a chadw mannau agored ac adeiladau cymunedol. Mae 41 o adeiladau
cymunedol yn cael eu cynnal yn Abertawe.
- Mae'r holl
argymhellion a gynigiwyd ar ôl yr Ymchwiliad Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy
wedi'u cwblhau.
- Mae'r adran wedi
lleihau o 9 aelod o staff i 3, ond yr un yw maint yr anghenion gan fod yr
adran yn gyfrifol am fannau agored a pharciau ac adeiladau cymunedol, ac
yn cefnogi grwpiau presennol ac unrhyw rai newydd sydd am sefydlu eu
hunain.
- Rôl y swyddogion
yw cefnogi gwirfoddolwyr i gynnal prosiectau yn eu cymunedau gyda materion
megis asesiadau risg, gwybodaeth am iechyd a diogelwch, dogfennaeth
briodol a chanllawiau ar sefydlu grwpiau.
- Datblygwyd nifer o
ganllawiau cefnogi, cyfansoddiadau enghreifftiol a phecynnau gwybodaeth
gan yr adran, ac maent ar gael am ddim i'r gymuned.
- Yn ogystal â'r
canllawiau, gall gwirfoddolwyr cymunedol gael mynediad i hyfforddiant
megis Iechyd a Diogelwch a chefnogaeth mewn perthynas â hylendid bwyd ar
gyfer digwyddiadau fel boreau coffi.
- Mae gan Gyngor Abertawe
berthynas wych â'r gwirfoddolwyr mae'n eu cefnogi.
- Bu newid yn y
ffordd y caiff gweithredu yn y gymuned ei fesur. Mae'n anodd iawn ei
gymharu â dangosydd perfformiad allweddol am ei fod yn broses a gefnogir
gan wirfoddolwyr yn hytrach na gwasanaeth. Nid oes awydd i roi pwysau ar
wirfoddolwyr drwy fynnu eu bod yn cyflawni mesurau perfformiad.
- Mae benthyciadau
am ddim ar gael ar gyfer grwpiau cymunedol. Gall y benthyciadau hyn
gynorthwyo gydag amrywiaeth o bethau. Mae angen cyflwyno cais i'r cyngor
am y benthyciadau, a cheir proses ymgeisio lem sy'n cynnwys yr adrannau
cyfreithiol a chyllid.
- Nid yw'r
canolfannau cymunedol yn cael unrhyw gymorth ariannol gan y cyngor. Mae
unrhyw grantiau roeddent yn arfer eu derbyn yn flaenorol a oedd yn helpu
gyda chostau tanwydd bellach wedi dod i ben. Mae hyn yn golygu bod angen
i'r holl ganolfannau ariannu eu hunain yn gyfan gwbl. Nid oes cyfradd
arbennig ar gael ‘chwaith i weithwyr neu aelodau etholedig y cyngor. Mae'n
rhaid i bawb dalu i rentu'r canolfannau cymunedol.
|
4. |
Y Panel i drafod cynnydd ac i gytuno ar adborth
Y Panel i drafod ei farn ar y cynnydd a wnaed ac i gytuno ar
yr adborth yr hoffent ei gyflwyno i Aelod y Cabinet a Phwyllgor y Rhaglen
Graffu drwy ei lythyr gan y Cynullydd.
|
|
LLlythyr at Aelod y Cabinet PDF 107 KB
|