Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiadau.

 

 

2.

Ymchwiliad dilynol ar gynnydd y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc

Gwahoddir y canlynol i drafod y cynnydd:

Cynghorydd Elliott King, Aelod y Cabinet – Gwasanaethau Plant

Cynghorydd Mark Child, Aelod y Cabinet - Gofal, Iechyd a Heneiddio’n Dda

Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 

Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Sian Harrop-Griffiths, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Jo Abbott-Davies, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

 

Papur i’w ddilyn:

·       Cynllun Gweithredu wedi’i Ddiweddaru gan Aelod y Cabinet

 

 

 

Mae papurau eraill ar gael drwy’r ddolen ganlynol:

http://democracy.swansea.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=598&MId=7737&Ver=4&LLL=+1

 

 

 

 

Cofnodion:

Roedd y Cyng. Elliott King, Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Plant, Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a Joanne Abbott-Davies, Sian Harrop-Griffiths ac Isobel Davey o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (PABM) yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno'r adroddiad effaith/dilynol. 

 

Trafodwyd y materion canlynol:

 

·       Mae'r gwasanaeth yn hybu ymagwedd atal ac yn gweithio ar y cynnig ar gyfer y plant hynny nad ydynt yn bodloni'r trothwy ac sy'n syrthio trwy'r bylchau.  Maent yn ymwybodol o'r angen am gontinwwm o gefnogaeth a'r angen i weld dros amser a ydynt yn gwneud gwahaniaeth.  Mae angen edrych ar sut gellir monitro hyn.

·       Mae Bwrdd Iechyd PABM yn teimlo ei fod ef a'r tri awdurdod lleol arall bellach yn gweithio gyda'i gilydd yn well ac yn cael sgyrsiau am sut gallant newid pethau.

·       O ganlyniad i argymhellion gan y tîm craffu, mae PABM wedi newid rhai o'u trefniadau comisiynu.

·       Y targed ar gyfer gweld achosion brys y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc mewn 24 awr yw 100% ac mae PABM yn cyrraedd hwn.

·       Rhoddwyd esboniad i'r panel ynghylch y ffordd y mae'r Ymagwedd Dewis a Phartneriaeth yn gweithio.  Mae'r fenter hon yn ymdrin â rhai o'r materion a godwyd gan y panel.

·       Mynegodd y panel ei bryder ynghylch y Gronfa Gofal Integredig flynyddol a roddir i fyrddau partneriaeth rhanbarthol gan Lywodraeth Cymru.  Nid ydym wedi derbyn cadarnhad ynghylch swm y dyraniad newydd ar ôl i Ben-y-bont ar Ogwr adael PABM.

·       Roedd yr Ymchwiliad Craffu wedi nodi bod pobl yn ei chael hi'n anodd cael mynediad at y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.  Roedd cwynion gan rieni am y ffurflenni yr oedd yn rhaid eu cwblhau a'r ffaith bod y llinell amser yn gallu bod hyd at flwyddyn.  Dywedodd y panel fod y broses wedi'i symleiddio a ffurflenni wedi'u hadolygu gydag ysgolion a gall ysgolion bellach siarad ag aelod o'r tîm Anhwylderau Niwroddatblygiad (ANDd) os oes gennych bryderon.

·       Yr unig ffordd yr oedd rhieni'n arfer gallu cael atgyfeiriad i'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc oedd drwy'r ysgol. Mae proses wedi'i rhoi ar waith sy'n sicrhau y gall rhieni gysylltu â'r Tîm ANDd yn uniongyrchol os na allant gael atgyfeiriad drwy'r ysgol ac maent yn credu bod yr ysgol yn eu rhwystro.

·       Mae'r holl grwpiau bellach yn cynnwys rhieni a chynrychiolwyr y Trydydd Sector.  Cynhaliwyd gweithdy ar ANDd a chymerodd 30 o rieni ran ynddo.  Defnyddiwyd yr wybodaeth a gasglwyd o'r gweithdy hwn i sefydlu'r gwasanaeth ANDd.

 

3.

Y panel i drafod ei farn am gynnydd a chytuno ar adborth

Y panel i drafod ei farn am gynnydd a chytuno ar yr adborth y mae am ei roi i Aelod y Cabinet a Phwyllgor y Rhaglen Graffu drwy ei lythyr gan y Cynullydd.

 

Cofnodion:

Trafododd y panel gynnydd, a daethpwyd i'r casgliadau canlynol:

 

·       Mae'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc mewn sefyllfa well na phan ddechreuodd y panel yr ymchwiliad. Llongyfarchodd y panel bawb a fu'n rhan o hyn.

·       Mae trefniadau hen sefydledig bellach ar waith i ysgogi gwelliant yn y maes hwn. 

·       Mae cynnydd wedi'i wneud ar y rhan fwyaf o'r argymhellion yn y cynllun gweithredu.   Fodd bynnag, mae ffordd bell i fynd o hyd i gyflawni'r holl argymhellion yn llawn.

·       Mae'r panel wedi gorffen monitro'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, ond bydd monitro perfformiad yn parhau drwy Banel Craffu Perfformiad y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd.

 

Yn dilyn y cyfarfod hwn:

 

a)    Bydd Cynullydd y panel yn anfon llythyr at Aelod y Cabinet gan grynhoi'r drafodaeth ac yn amlinellu barn ac argymhellion y panel.

b)    Eir i'r afael ag unrhyw faterion sy'n weddill mewn perthynas â'r darn hwn o waith drwy Banel Craffu Perfformiad y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 21 Tachwedd 2018) pdf eicon PDF 279 KB

Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 21 Tachwedd 2018) pdf eicon PDF 249 KB