Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan, Scrutiny 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

2.

Adroddiad Effaith Ymchwiliad Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc a'r diweddaraf ar y cynnydd a wnaed pdf eicon PDF 139 KB

Rhoddwyd gwahoddiad i'r canlynol drafod cynnydd:

Y Cyng. Mark Child, Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles

Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

 

 

Yn atodedig ceir:

1. Adroddiad Effaith gan Aelod y Cabinet

2. Ymateb Gwreiddiol y Cabinet

3. Adroddiad Ymchwilio Gwreiddiol y Pwyllgor Craffu

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles a Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno'r adroddiad effaith/dilynol. 

 

Trafodwyd y materion canlynol:

 

·         Roedd y panel yn pryderu am nad oedd yr arweinydd iechyd yn gallu dod i'r cyfarfod.

·         Cytunodd Bae'r Gorllewin fod y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yn flaenoriaeth ar y cyd i'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.  Croesewir hyn gan y panel.

·         Bydd y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (PABM) unwaith eto o fis Ebrill 2018 fel y gellir eu hintegreiddio â darpariaeth leol.  Mae angen i'r gwasanaethau hyn gyd-fynd yn agosach â gwasanaethau eraill gan gynnwys ysgolion, addysg a'r  gwasanaethau cymdeithasol.  Gwnaed rhywfaint o gynnydd, ond mae'n fach iawn.

·         Sefydlwyd Grŵp Tasg a Gorffen i edrych ar ba fodel o ofal sylfaenol i'w ddatblygu pan ddaw yn ôl i PABM.

·         Mae Llywodraeth Cymru'n ariannu 3 swydd cyswllt gofal sylfaenol y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc ar draws y rhanbarth.  Mae'r swyddi wedi'u hysbysebu, ond un ymgeisydd y flwyddyn gaiff ei benodi.  Croesawodd y panel y cyllid hwn ond mae'n pryderu ynghylch y cyllid cyfyngedig ac a yw'n gynaliadwy

·         Effaith gadarnhaol yr ymchwiliad yw bod y drws blaen yn cael ei reoli'n fwy effeithiol drwy reoli'r rhestr aros o blant i'w hasesu, fodd bynnag, ni fwriedir iddo fod yn wasanaeth porthor ac mae'n rhaid i blant aros o hyd i gael eu gweld.  Roedd y panel yn pryderu bod problem o ran drws blaen y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.

·         Tudalen 28 o'r adroddiad, Atodiad 1 Cynllun Cyflawni Bwrdd Iechyd PABM 2017-19 CAMHS ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - roedd y panel yn pryderu ynghylch rhai o'r ffigurau. Cyrhaeddodd Mesur 2 100% ym mis Mawrth 2017, ond 37.1% oedd y ffigur ym mis Gorffennaf. Roedd Mesur 3 yn 50% ym mis Mawrth 2017 ond mae wedi bod yn sero ers hynny.  Byddai'n ddefnyddiol gweld y niferoedd y tu ôl i'r canrannau ar gyfer y mesurau hyn.

 

3.

Panel i drafod syniadau am gynnydd a chytuno ar adborth

Bydd y panel yn trafod ei farn am y cynnydd a wnaed ac yna'n cytuno ar yr adborth y mae am ei gyflwyno i Aelod y Cabinet a Phwyllgor y Rhaglen Graffu.

 

 

Cofnodion:

Trafododd y panel a daethpwyd i'r casgliadau canlynol:

 

·         Mae 5 o'r argymhellion wedi'u rhoi ar waith yn llawn, mae 6 wedi'u rhoi ar waith yn rhannol ac mae 3 heb eu rhoi ar waith. 

·         Roedd y panel yn siomedig â chyflymder y broses roi ar waith a'r cynnydd. Fodd bynnag, mae'n cydnabod y cafwyd peth cynnydd wrth i rai o'r argymhellion gael eu bodloni. 

·         Cytunodd y panel y byddai'n ailgynnull mewn 9 i 12 mis i adolygu cynnydd gan nad yw pob argymhelliad wedi'i fodloni, cyn y gellir cwblhau'r gwaith monitro. Bydd y panel yn chwilio am welliannau a chanlyniadau cyflym.  

 

 

Yn dilyn y cyfarfod hwn:

 

a)    Bydd Cynullydd y panel yn anfon llythyr at Aelod y Cabinet gan grynhoi'r drafodaeth ac yn amlinellu barn ac argymhellion y panel.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 284 KB