Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 4 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Craffu - 01792 637256
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb |
|
Datgeliadau O Fuddiannau Personol A Rhagfarnol Cofnodion: Heb ei ddatgan |
|
Adroddiad Effaith Ymchwiliad Llywodraethu Ysgolion a'r diweddaraf ar y cynnydd a wnaed PDF 70 KB Rhoddwyd gwahoddiad i'r canlynol drafod cynnydd: Y
Cyng. Jennifer Raynor (Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol
Oes) a Kathryn Thomas (Pennaeth y Gwasanaeth Cefnogi Dysgwyr) Atodiadau: 1. Adroddiad Effaith gan Aelod y Cabinet 2. Ymateb Gwreiddiol y Cabinet 3. Adroddiad Ymchwilio Gwreiddiol y Pwyllgor Craffu Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd y Cynghorydd
Jennifer Raynor, Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes a Kathryn
Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cefnogi Dysgwyr yn bresennol yn y cyfarfod i
gyflwyno adroddiad effaith/dilynol ar Lywodraethu Ysgolion. Codwyd a thrafodwyd
y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad: ·
Argymhelliad 1 - Datblygu dull cyngor eang ar gyfer llenwi'r bylchau mewn sgiliau a
nodwyd gan gyrff llywodraethu, naill ai drwy drosglwyddiadau, cyfnewidiadau neu
drwy baru llywodraethwyr newydd â sgiliau a phrofiad penodol. Roedd y panel yn cydnabod na chytunwyd ar yr argymhelliad
hwn ond fe'u hysbyswyd y cafwyd gweithredu y maes hwn. Mae'r Uned
Llywodraethwyr wedi creu pecyn cymorth hunanwerthuso sydd ar gael i ysgolion er
mwyn nodi bylchau mewn sgiliau. Gwnaed cyrff llywodraethu'n ymwybodol o declyn
hunanwerthuso Llywodraethwyr Cymru ac fe'u cynghorwyd i gynnal hunanwerthusiad. Roedd y panel yn meddwl ei bod yn bwysig sicrhau ein bod
yn rhoi gwybod am yr hyn y gallent ei gynnig er mwyn cynorthwyo cyrff
llywodraethu. Ar hyn o bryd mae'r awdurdod lleol yn adolygu'r broses benodi
ar gyfer llywodraethwyr awdurdodau lleol ac mae adroddiad yn cael ei baratoi i
Aelod y Cabinet ei gyflwyno i'r cyngor. Wrth ystyried cynigion, bydd angen i
gyrff llywodraethu ddarparu asesiad hunanwerthuso i nodi'r bwlch mewn sgiliau
er mwyn aildrefnu penodi llywodraethwyr yr awdurdod lleol gyda'r sgiliau a
nodwyd gan bob corff llywodraethu unigol. ·
Argymhelliad 2 - Llunio llyfryn bach ar gyfer llywodraethwyr sy'n darparu arweiniad
syml ar gyfer eu rôl. Credwyd bod ERW wedi darparu un ond nid yw'r llyfryn
wedi'i gwblhau eto felly mae'r Uned Llywodraethwyr wedi creu llyfryn bach.
Dosbarthwyd enghraifft o'r llyfryn ar gyfer llywodraethwyr ysgolion i aelodau'r
panel yn y cyfarfod. Roedd y panel yn hapus i weld bod hyn wedi'i ddatblygu a
bydd yn cael ei anfon at lywodraethwyr newydd ac yn cael ei gynnwys ar wefan y
cyngor. ·
Argymhelliad 3 - Adolygu'r wybodaeth a ddarperir i lywodraethwyr ysgolion gydag ERW,
Estyn a Llywodraethwyr Cymru gyda'r bwriad o sicrhau ymagwedd a rennir sy'n
osgoi dyblygu. Hysbyswyd y panel fod ERW wedi cynnal adolygiad a bod
Abertawe wedi cymryd rhan ynddo. Hefyd,
mae Llywodraethwyr Cymru wedi cynnal adolygiad yn dilyn ymgynghoriad gan
Lywodraeth Cymru ar Ddiwygio Llywodraethu Ysgolion: Fframwaith Rheoleiddio. Mae
canlyniad yr ymgynghoriad hwn wedi'i ohirio ar hyn o bryd o ganlyniad i lefelau
uchel yr ymatebion. Mae Abertawe yn aros am ganlyniad ac argymhellion yr
arolygiad hwn cyn gall yr agwedd hon ddatblygu.
Dywedodd y panel fod ganddynt adolygiad o wybodaeth gan
Abertawe gyda 'a' fach. Roeddent yn falch bod dolenni ar ein gwefan i ERW,
Llywodraethwyr Cymru a Fy Ysgol Leol ond yn meddwl bod angen mwy o esboniad yn
y dolenni i helpu llywodraethwyr i ddeall eu pwrpas a sut gallent fod o gymorth
iddynt. ·
Argymhelliad 4 - Darparu templed data safonol i benaethiaid a'u hannog i'w ddefnyddio. Roedd y panel yn cydnabod bod pecynnau data cyffredinol
ar gael ac yn falch o glywed bod gan ERW enghraifft o adroddiad y Pennaeth.
Roedd y panel yn teimlo y byddai mynediad i'r fath hon o wybodaeth yn helpu i
rymuso llywodraethwyr drwy ddatblygu gwell ddealltwriaeth o wybodaeth gymhleth.
Hoffai'r panel weld hyn yn cael ei nodi ar wefan y cyngor gyda dolen sy'n
dangos lle i gael hyd i'r wybodaeth hon. ·
Argymhelliad 5 - Gweithio gydag ERW i ddarparu gwybodaeth am yr holl gyfleoedd
hyfforddi sydd ar gael i lywodraethwyr mewn un lle. Hoffai'r panel weld hyn yn cael ei nodi a dolen i
dudalennau perthnasol ERW o wefan y cyngor. Sylweddolodd y panel hefyd nad oes
gan ERW ardal benodol ar y wefan ar gyfer llywodraethwyr. ·
Argymhelliad 6 - Symud o hyfforddiant yn y Ganolfan Ddinesig i fodel hyblyg sy'n
cyfuno corff llywodraethu cyfan, ysgolion clwstwr ac e-ddysgu. Croesawodd y panel y pecyn hyblyg o hyfforddiant a oedd
ar gael a'r hyfforddiant pwrpasol y gellir ei drefnu ar gyfer ysgolion ac ar
draws clystyrau. Roedd y panel yn falch o glywed bod cyfarfodydd tymhorol
wedi'u cynnal gydag ymgynghorydd herio dros Lywodraethu Ysgolion a'r Pennaeth
Cefnogi Ysgolion er mwyn nodi cyrff llywodraethu yr oedd angen cymorth arnynt. Roedd y panel yn teimlo nad oedd llawer o lywodraethwyr
yn ymwybodol o hyn, yn enwedig yr ymagweddau hyfforddi pwrpasol wedi'u targedu
sydd ar gael at ddibenion penodol a hefyd fod hyn yn gallu cael ei nodi ar
wefan y cyngor. ·
Argymhelliad 7 - Datblygu log dysgu ar-lein i lywodraethwyr fel eu bod yn gallu rheoli
eu hyfforddiant a'u datblygiad eu hunain. ac ·
Argymhelliad 8 - Ystyried sut gallai hyfforddiant gorfodol newydd i lywodraethwyr helpu
llywodraethwyr i feddwl am sut i reoli eu hyfforddiant a'u datblygiad eu
hunain. ·
Clywodd y panel fod cronfa ddata'r llywodraethwyr wedi'i hadolygu a'i bod
yn cael ei rheoli drwy system wahanol, a bod llawer o'r gwaith wedi'i gyflawni
i drosglwyddo data o'r cronfeydd data blaenorol a bod angen gwneud mwy o waith
er mwyn datblygu log dysgu ar-lein i lywodraethwyr er mwyn iddynt allu rheoli
hyfforddiant a datblygiad eu hunain. Roedd y panel yn falch o glywed bod y
system newydd bellach yn cael ei gweithredu a'i bod yn llawer mwy hwylus i'w
defnyddio. Rydym bellach yn awyddus i weld cam nesaf y datblygiad: y log dysgu
ar-lein ar gyfer llywodraethwyr. ·
Argymhelliad 9 - Annog yr holl lywodraethwyr i ymwneud ag ymweliadau craidd yr hydref.
Clywodd y panel na chytunwyd ar hyn oherwydd nad oedd yn bosib
cynnwys yr holl lywodraethwyr yn ymweliadau craidd yr hydref. Fodd bynnag,
mae'r uned llywodraethwyr yn bwriadu cyflwyno hyfforddiant i lywodraethwyr yn
yr hydref fel bod llywodraethwyr yn deall proses yr ymweliad craidd yn well.
Roedd y panel yn falch o glywed bod Ymgynghorwyr Herio yn mynd i gyfarfod corff
llywodraethu'r holl ysgolion coch ac ambr. ·
Argymhelliad 10 - Cynnal ymgyrch i hyrwyddo rôl y llywodraethwyr ar gyfer gweithwyr y
sector preifat a phartneriaid y sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Clywodd aelodau'r panel fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu
cynnal ymgyrch i dargedu gweithwyr o'r sector preifat a'r sector cyhoeddus.
Bydd Abertawe'n defnyddio'r ymgyrch hon ac yn cynnal ymgyrch leol ar y cyd. ·
Argymhelliad 11 - Ysgrifennu at Gadeirydd y Llywodraethwyr a Phenaethiaid bob ysgol i
hyrwyddo'r pwyntiau arfer da sy'n cael eu cynnwys yn yr adroddiad hwn. Hoffai'r panel weld dull lle gellir rhannu arfer rhwng y
llywodraethwyr a'r cyrff llywodraethu. ·
Argymhelliad 12 - Ysgrifennu at bob llywodraethwr ysgol gan ddiolch iddynt am ei waith
ar ran y cyngor ac amlygu'r rhestr o'r hyn y dylai llywodraethwyr ysgol ei
ddisgwyl'. Gofynnodd yr aelodau a oedd hyn wedi'i gylchredeg i'r holl
lywodraethwyr gan nad oeddent wedi'i weld. Awgrymodd y panel fod hwn yn cael ei
gylchredeg i lywodraethwyr yn flynyddol a'i fod yn ffurfio rhan o'r llyfryn (yn
Argymhelliad 2) ar gyfer llywodraethwyr newydd. Hoffai'r panel hefyd weld copi
o'r llyfryn ar-lein. ·
Argymhelliad 13 - Cymryd camau ychwanegol i hysbysebu'r gwaith da a wneir gan
lywodraethwyr a chyrff llywodraethu. Roedd aelodau'r panel yn teimlo bod hyn yn bwysig
oherwydd ei fod yn ymwneud â rhannu arfer cadarnhaol. Dywedodd Pennaeth yr Uned
Llywodraethwyr y bydd hi'n ymchwilio i ffordd o sicrhau bod deilliannau cadarnhaol
arolygiadau Estyn sy'n berthnasol i gyrff llywodraethu ar gael ar wefan y
cyngor. ·
Argymhelliad 14 - Symleiddio'r wybodaeth am lywodraethwyr ysgol ar wefan y cyngor a
ddylai ddarparu'r dolenni ar gyfer yr holl wybodaeth gyffredinol i wefan
Llywodraethwyr Cymru. Roedd y panel yn teimlo y dylai gwefan y cyngor gael ei
defnyddio i nodi ffynonellau gwybodaeth defnyddiol ar gyfer llywodraethwyr er
mwyn arbed amser iddynt orfod chwilio am yr wybodaeth hon eu hunain. ·
Argymhelliad 15 - Atgoffa pob ysgol y gallai'r hyfforddiant ar gyfer corff llywodraethu
llawn ac ysgolion clwstwr gael ei drefnu ar gais. Gweler ateb yn argymhelliad 6 ·
Argymhelliad 16 - Cynnal seminar ar gyfer llywodraethwyr awdurdodau lleol i archwilio'u
rolau wrth rannu arfer. Hysbyswyd y panel nad yw'n addas i dargedu grŵp
penodol o lywodraethwyr i dderbyn hyfforddiant llywodraethwyr yn annibynnol.
Gellir trefnu hyfforddiant pwrpasol ar gyfer aelodau etholedig sy'n
llywodraethwyr ysgol os bydd angen. |
|
Y Panel i drafod cynnydd ac i gytuno ar adborth Y Panel i drafod ei farn ar y cynnydd a wnaed ac i
gytuno ar yr adborth yr hoffent ei gyflwyno i Aelod y Cabinet a Phwyllgor y
Rhaglen Graffu drwy ei lythyr gan y Cynullydd. Cofnodion: Trafododd y panel a
daethpwyd i'r casgliadau canlynol: ·
Roedd
y panel yn teimlo bod cynnydd da wedi'i wneud gyda llawer o'r argymhellion ond
mae angen i'r wybodaeth hon gael ei nodi'n well. ·
Roedd
y panel yn cydnabod bod llawer o wybodaeth ar gael ar gyfer llywodraethwyr felly
roedd hyn yn pwysleisio'r angen i'w helpu a'u cyfeirio at yr wybodaeth
bwysicaf. Mae hyn yn cynnwys dolenni gwell ar gyfer y wefan a bod gwybodaeth
ddefnyddiol ar gyfer y llywodraethwyr yn cael ei nodi'n well, ar y wefan ac ar
gyfer cyrff allanol. ·
Gofynnodd
y panel i Aelod y Cabinet sicrhau bod yr eitemau canlynol wedi cael ac yn cael
eu cylchredeg i lywodraethwyr a'u bod ar gael ar wefan y cyngor. ―
Llyfryn
ar gyfer llywodraethwyr ―
Yr
hyn y dylai llywodraethwyr ei ddisgwyl (Atodiad B yr adroddiad gwreiddiol) ― Sicrhau her effeithiol: Cyngor arfer da i
gadeiryddion llywodraethwyr a phenaethiaid ·
Roedd
y panel yn falch o glywed bod yr Ymgynghorwyr Herio'n mynd i gyrff llywodraethu
ysgolion sydd wedi'u nodi'n goch neu'n ambr yn nhymor yr hydref. Yn dilyn y cyfarfod
hwn: a)
Bydd
Cynullydd y panel yn anfon llythyr at aelod y cabinet gan grynhoi'r drafodaeth
ac yn amlinellu barn ac argymhellion y panel. b)
Bydd
unrhyw faterion sy'n weddill mewn perthynas â'r darn hwn o waith yn cael eu hategu drwy Banel Craffu Perfformiad
Ysgolion. |
|