Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 4 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: None |
|
Atebion a dderbyniwyd ar gyfer cwestiynau a holwyd yn y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Anfonwyd y cwestiynau canlynol a derbyniwyd
ymateb ar gyfer y panel gan Bennaeth y Gwasanaethau Ariannol: 1. Roedd y panel am wybod os cafwyd asesiad o gost ariannol
o'r amser a dreuliwyd gan swyddogion ar weithgareddau gweithio rhanbarthol. Nid oes unrhyw gofnodi systematig o amser a
dreulir gan swyddogion ar waith rhanbarthol ac nid ydym yn cadw taflenni
cofnodi amser ar gyfer prosiectau ac, i ryw raddau, rydym yn derbyn yr agenda
ranbarthol fel rhan o'r 'swydd leol'. Arferai'r is-adran gyfreithiol wneud y
fath waith yn seiliedig ar amseru aseiniadau. Gallai rhai swyddogion dreulio
10% o'u hamser yn rheolaidd, ac yn aml hyd at 20% ar waith
rhanbarthol/cenedlaethol. 2. Sut caiff trefniadau ariannol y partneriaethau gwaith
rhanbarthol gwahanol eu harchwilio? ·
Bae'r Gorllewin
– mae adnoddau ar y cyd yn cael eu harchwilio ym mhob awdurdod lleol gan
archwilwyr allanol unigol fel rhan o hawliadau grant archwilio pob cyngor, ond
gan mai Abertawe yw'r partner arweiniol ac awdurdod cynnal y cyllid, rydym yn
cael golwg ychwanegol ar y sefyllfa ariannol. ·
ERW – ardystiad
mewnol gan archwilwyr mewnol pob awdurdod cyfansoddol. ·
Archwiliad
allanol a chyfrifon a gyhoeddir gan archwilwyr allanol yr awdurdod cynnal, Sir
Benfro. Mae ganddo hefyd ei drefniadau ei hun ar gyfer craffu. ·
Y Fargen
Ddinesig – ar ffurf gysgodol yn unig, ond cynllunnir trefniadau sy'n debyg i
drefniadau ERW, er y bydd archwilwyr allanol Sir Gâr yn arwain. Bydd ganddo ei
drefniadau ei hun ar gyfer craffu. ·
Awdurdod Iechyd
Porthladd Bae Abertawe (AIPBA) – darperir archwiliad mewnol gan Abertawe,
archwiliad allanol gan ein harchwilwyr allanol oherwydd ein bod ni'n awdurdod
cynnal er, yn swyddogol caiff yr archwiliad ei wneud gan AIPBA ei hun fel corff
ar wahân yn gyfreithiol. |
|
Gweithio Rhanbarthol: Cyfarwyddiaeth Lleoedd PDF 103 KB Bydd y Cyfarwyddwr
Lleoedd, Martin Nicholls, yn bresennol yn y cyfarfod a bydd yn darparu
adroddiad i’r panel sy’n amlinellu gweithgareddau Gweithio Rhanbarthol yn y
Gyfarwyddiaeth Lleoedd. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Daeth Martin Nicholls, Cyfarwyddwr Lleoedd,
i'r cyfarfod er mwyn amlinellu sefyllfa gweithio rhanbarthol yn y
Gyfarwyddiaeth Lleoedd. ·
Ceir nifer mawr
o drefniadau rhanbarthol a chydweithredol sy'n bodoli ar draws y
Cyfarwyddiaethau ac amrywiaeth eang o wasanaethau, ac adlewyrchir y rhain yn y
meysydd gwasanaeth canlynol: ― Gwasanaethau Adeiladau ac Eiddo Corfforaethol ― Tai a Diogelu'r Cyhoedd ― Gwasanaethau Diwylliant a Hamdden ― Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas ― Rheoli Gwastraff, Parciau a Glanhau ― Priffyrdd a Chludiant ·
Darparwyd
crynodeb yn yr adroddiad o'r gweithio rhanbarthol a chydweithredol
presennol, sy'n gymysgedd o drefniadau ffurfiol ac anffurfiol. Mae rhai
enghreifftiau'n cynnwys: ― Cyflwyno'r Fargen Ddinesig ― Cludiant Ranbarthol De-orllewin Cymru ― Adfywio Economaidd ·
Nododd y panel
fod yna 51 o weithgareddau gwahanol a restrwyd ar hyn o bryd, gan gydnabod y
gallai hynny gymryd llawer o amser swyddogion. Maent yn cydnabod bod rhai
ohonynt yn llawer llai dwys nag eraill. Teimlodd y panel ei fod yn bwysig
adolygu ein hymrwymiadau i weithgareddau gwahanol yn rheolaidd er mwyn sicrhau
eu bod yn hanfodol ac yn cynnig gwerth am yr amser a dreulier gan swyddogion
(gan gydnabod y bod yn rhaid ymgymryd â rhai ohonynt). ·
Mae agenda
ddiwygio Llywodraeth Cymru yn darparu arwyddion clir o ran tueddiadau'r
dyfodol, gyda meysydd cydweithredol mwy 'ffurfiol' mewn nifer mwy o feysydd
gwasanaeth. Cytunodd y panel fod hyn yn cynnig cyfleoedd yn ogystal â
pheryglon. ― Cyflwyno Rhanbarthol - gall rhai meysydd gael
eu cyflwyno'n rhanbarthol yn unig, megis cynllunio cludiant strategol neu
strategaethau datblygu economaidd, gan eu bod yn cael eu cyflwyno eisoes ar y
sail hon. ― Effeithlonrwydd - gall rhai meysydd gynnig
cyfleoedd ar gyfer gwell effeithlonrwydd, gan gyflwyno drwy gynsail
rhanbarthol. Fodd bynnag, nes y bydd modd nodi ac asesu cyfleoedd clir ar gyfer
rhesymoli, mae'n beryglus i gymryd yn ganiataol fod mwy bob amser yn well. ― Ataliaeth yn y Dyfodol - er bod hyn yn fwy
perthnasol i wasanaethau i bobl, dylid ystyried yr agenda Ataliaeth yn y
Dyfodol a Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol lle ni all cynghorau ddatrys yr heriau
mwyaf anodd boed yn unigol neu hyd yn oed ar y cyd heb gydweithio'n ehangach. ― Cadernid - wrth i gyllidebau leihau, mae
pryderon cynyddol bod rhai gwasanaethau, yn enwedig mewn cynghorau llai, yn
anghynaladwy i gynghorau unigol ar eu pennau eu hunain, ac mae mwy o gydweithio
yn un ffordd o fynd i'r afael â hyn. ·
Esboniodd y
Cyfarwyddwr er bod y drafodaeth ynghylch mwy o weithio rhanbarthol yn anochel,
mae'n bwysig i'r cyngor fod yn weithgar o ran sut dylai unrhyw ddarlun
ymddangos a rhannu ei ddyfodol. Bydd angen deall buddion cyflwyno lleol ond
hefyd fod yn ofalus o'r darlun cenedlaethol a rhanbarthol a lle y ceir y
buddion hynny. ·
Mae'r panel yn
cydnabod mai nid trafodaeth ymhlith swyddogion yn unig oedd hon, gan fynegi
bodlonrwydd am hynny, ac roeddent yn cytuno y bydd angen gwybodaeth leol ac
atebolrwydd lleol er mwyn cyflwyno'r canlyniadau gorau i gymunedau lleol. ·
Ar hyn o bryd,
ni cheir trefniadau craffu rhanbarthol ar waith ar gyfer unrhyw un o'r
partneriaethau hyn, ond rhagwelir y cânt eu cynnwys yn nhrefniadau
llywodraethu'r Fargen Ddinesig fwy. Gofynnod y panel am ragor o wybodaeth atodol
i'r wybodaeth a ddarparwyd eisoes sy'n manylu'n fras amcan amser a dreulir ar
weithgareddau rhanbarthol gan swyddogion a rhai enghreifftiau o'r canlyniadau
sy'n deillio o rai o'r partneriaethau a restrir. Bydd y Swyddog Craffu yn
cysylltu â Phrif Swyddogion Addysg a'r Gwasanaethau Cymdeithasol i sicrhau y
caiff hyn hefyd ei gynnwys yn eu hadroddiadau i'r panel. |
|
Rhaglen Waith Cynllun y Prosiect PDF 74 KB Cofnodion: Trefnwyd cyfarfod nesaf y panel ar 1 Rhagfyr
2017 am 10.30am, lle bydd y panel yn siarad â'r Prif Swyddog Addysg am y darlun
yn y Gwasanaethau Addysg. |