Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim |
|
Ymateb y Cabinet i Ymchwiliad Craffu i Waith Ranbarthol dilyn i fyny PDF 256 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparodd
y Cyng. Rob Stewart (Arweinydd) a'r Prif Weithredwr, Phil Roberts, adroddiad
effaith ac roeddent yng nghyfarfod y panel i drafod cynnydd o ran yr
argymhellion a gytunwyd gan y Cabinet ar 18 Awst 2018 a ddeilliodd o’r
Ymchwiliad Craffu Gweithio Rhanbarthol. Ers i'r ymchwiliad ddod i ben, cafwyd y newidiadau canlynol: ·
Mae manylion cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer gwell
cydweithio a gweithrediad Cyd-bwyllgorau yn dod yn gliriach. ·
Mae CLlLC wedi bod mewn
trafodaethau manwl â Llywodraeth Cymru ·
Mae'n debygol y cyhoeddir Bil ym mis Tachwedd. ·
Mae'r Prif Weithredwr wedi cynnal sesiynau anffurfiol â'r
Gweinidog a chydag uwch-weision sifil gyda golwg ar baratoi cynnig rhanbarthol
yn dilyn trafodaeth â chynghorau cyfagos. Mae'r ymchwiliad wedi: ·
codi proffil y mater dan sylw ·
helpu i hysbysu a darparu eglurder ynghylch ymagwedd y cyngor at
gydweithio rhanbarthol Cynnydd
gyda'r argymhellion Arg 1 Wedi'i gwblhau'n rhannol - Mae'r adolygiad o uwch-reolwyr wedi darparu rhagor o allu. Mae'r Prif Weithredwr wedi'i benodi fel Prif
Swyddog Gweithredol ERW. Mae'r Arweinydd a'r Prif Weithredwr wedi cynnal
sesiynau anffurfiol â'r Gweinidog a chydag uwch-weision sifil gyda golwg ar
baratoi cynnig rhanbarthol yn dilyn trafodaeth â chynghorau cyfagos. Arg 2 Wedi'i gwblhau - Mae'r tri phrif bartneriaeth cydweithio (ERW,
Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Phartneriaeth Gorllewin Morgannwg) wedi cynnal
adolygiadau systematig i sicrhau bod adnoddau ar gael a rhwystrau wedi'u dileu. Arg 3 Wedi'i gwblhau'n rhannol - Mae adolygiadau'r trefniadau presennol wedi cyfeirio'r strategaeth
sy'n cael ei datblygu ar gyfer cydweithio, a'r dewis o batrwm cydweithredu
pedwar cyngor fel sail ar gyfer trefniadau partneriaeth yn y dyfodol. Cynnydd
Arg 4 wedi'i gwblhau - Adolygwyd pob partneriaeth ac mae trefniadau
llywodraethu gwell ar waith. Cynnydd
Arg 5 wedi'i gwblhau - Mae'r Arweinydd a'r Prif Weithredwr yn arwain
pob partneriaeth ac wrth gyfathrebu â'r tîm craffu. Cynnydd
Arg 6 wedi'i gwblhau'n rhannol - Mae'r holl
bartneriaethau wedi'u hadolygu ond erys rhai anghysondebau yn y trefniadau
gweinyddol rhyngddynt. Cynnydd
Arg 7 wedi'i gwblhau'n rhannol - cynhaliwyd adolygiadau ar
wahân ar yr holl bartneriaethau, ond gyda themâu cyffredin ar lywodraethu,
rheoli a gwerth am arian. Bydd angen i unrhyw gynnig rhanbarthol fynd i'r afael
â'r angen am resymoli neu uno. Cynnydd
Arg 8 heb ei gwblhau - er bod y
defnydd o Skype yn cynyddu, mae lefel y gallu a'r adnoddau technolegol yn
amrywio rhwng cynghorau. Bydd cynnig ar gyfer cydweithio
rhanbarthol yn ceisio mynd i'r
afael â hyn a cheisir cyllid gan Lywodraeth Cymru i wneud
hynny. Cynnydd Arg 9 wedi'i
gwblhau -
caiff y trydydd sector a chyrff preifat eu cynnwys wrth gydweithio yn y meysydd
gofal cymdeithasol a datblygu economaidd. Cynnydd Arg 10 wedi'i
gwblhau -
gwnaed sylwadau helaeth a rheolaidd ar bob un o ardaloedd y tair partneriaeth. Cynnydd Arg 11 wedi'i
gwblhau -
mae pob partneriaeth wedi cynnal adolygiadau manwl. Cytunwyd ar adroddiad
cynnydd yng nghyfarfod y cyngor ar 25 Gorffennaf 2019. Nodwyd
y pwyntiau canlynol o'r drafodaeth: Clywodd y Panel, ers i'r ymchwiliad ddod i ben yn 2018, y bu peth
datblygiad o ran gweithio rhanbarthol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys manylion
mwy clir gan Lywodraeth Cymru ar y cynnig am well cydweithio a gweithredu
cydbwyllgorau. Mae CLlLC wedi bod yn rhan o'r
trafodaethau manwl â Llywodraeth Cymru, ac mae Bil ar gyfer Cymru sy'n manylu
ar y rhain a newidiadau eraill ar ddod. Roedd y Panel yn falch o glywed bod y Prif Weithredwr wedi bod yn cynnal
trafodaethau anffurfiol â'r gweinidog a chydag uwch-weision sifil er mwyn
paratoi cynnig rhanbarthol yn dilyn trafodaethau â chynghorau cyfagos. Clywodd y Panel fod adolygiadau o'r trefniadau presennol wedi cyfeirio'r
strategaeth sy'n cael ei datblygu ar gyfer cydweithio, a'r dewis o batrwm
cydweithredu pedwar cyngor fel sail ar gyfer trefniadau partneriaeth yn y
dyfodol. Eglurwyd mai'r ardal fwyaf
rhesymegol i Abertawe yw ardal y Dinas-ranbarth, sy'n cynnwys y pedwar awdurdod
lleol sef Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Sir Gâr ac Abertawe. Er ni fyddai hyn yn cynnwys Iechyd ar hyn o
bryd gan fod ystyriaethau ynghylch hyn dipyn yn fwy cymhleth. Roedd y Panel yn teimlo ei bod hi'n
gadarnhaol iawn fod gennym eglurder ymysg y pedwar awdurdod lleol ynghylch y
ffordd i symud ymlaen. Mae cynghorwyr yn
cydnabod bod gan y pedwar awdurdod hwn brofiad o gyflwyno prosiectau gyda'i
gilydd, ac mae ganddynt strategaethau cyffredin, yn enwedig o ran datblygiad
economaidd a gwella addysg. Roedd
y Panel yn falch o glywed y cynhaliwyd adolygiadau ar wahân ar y tair partneriaeth
ranbarthol ac yn falch o glywed bod y themâu cyffredin llywodraethu, rheoli a
gwerth am arian yn cael sylw arbennig. Eglurwyd mai ychydig o gynnydd a wnaed o ran ein hargymhelliad am wella
technoleg fodern er mwyn lleihau teithio i gyfarfodydd. Er bod y defnydd o Skype yn cynyddu, mae lefel
y gallu a'r adnoddau technolegol yn amrywio rhwng cynghorau. Bydd cynnig ar gyfer cydweithio rhanbarthol yn ceisio mynd i'r
afael â hyn a cheisir cyllid gan Lywodraeth Cymru i wneud
hynny. Cytunodd y Panel fod angen safoni'r isadeiledd ar draws cynghorau
yng Nghymru a buddsoddi ynddo er mwyn datblygu hyn, a chytunwn i ysgrifennu at
y Gweinidog i gefnogi'r cynnig hwn. Clywodd
y Panel am y gwersi a ddysgwyd o'n gweithgareddau cydweithredol a sut bydd yr
hyn a ddysgwyd yn fuddiol i ni mewn gweithgareddau cydweithredol yn y dyfodol
yn enwedig yr angen am reoli rhaglenni'n dda, llywodraethu clir a chadarn a
rhannu cyfrifoldeb, gan ddangos diddordeb mawr yn hyn. Clywodd y Panel y bydd y Bil i Gymru'n debygol o
gael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2019 a bydd yn amlinellu'r pwerau a'r
cyfrifoldebau newydd i gynghorau lleol.
Bydd yn creu heriau a manteision.
Bydd pŵer cymhwyster cyffredinol yn hynod bwysig a bydd yn dileu
biwrocratiaeth ddiangen sy'n ymwneud ag archwilio parhaus, a chyflwynir
adolygiadau gan gynghreiriaid yn lle.
Cytunodd cynghorwyr fod yn rhaid cael adnoddau ariannol gyda'r pwerau
a'r cyfrifoldebau newydd i sicrhau y gellir eu cyflawni'n wirioneddol. Roedd
y Panel yn falch o glywed bod yr ymchwiliad wedi helpu i godi proffil gweithio
rhanbarthol a'i fod wedi hysbysu pobl a darparu eglurder ar ymagwedd y cyngor
at gydweithio rhanbarthol. Cytunodd y Panel fod yr ymchwiliad hwn yn gyflawn. Cytunodd
y Panel:
|
|