Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gyfarfod y Cynghorwyr 235, Neuadd y Ddinas

Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

2.

Cyfarfod Bord Gron gyda phartneriaid sy'n gysylltiedig â'r Gyfarwyddiaeth Pobl pdf eicon PDF 118 KB

Gwahoddwyd:

Sara Harvey, Cyfarwyddwr Rhaglen, Bae’r Gorllewin

Betsan O’Connor, Rheolwr-gyfarwyddwr, ERW

Cofnodion:

Gwahoddodd y panel gynrychiolwyr o rai o sefydliadau partner allanol y cyngor sy'n rhan o faes y Gyfarwyddiaeth Pobl i rannu eu barn am faterion mewn perthynas â gweithio rhanbarthol. Siaradodd y panel â Sara Harvey (Cyfarwyddwr Rhaglen Bae'r Gorllewin) ac Alan Edwards (Pennaeth Dysgu ac Addysgu ERW). Nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

Manteision gweithio rhanbarthol ar gyfer Abertawe

 

Bae'r Gorllewin

·         Dyma'r rheswm go iawn pam rydym yn gwneud hyn ... er mwyn gwella gwasanaethau drwy weithio gyda'n gilydd.

·         Bu rhai manteision ariannol o ran arbedion maint, dileu dyblygu prosesau a gwaith.

·         Mae gwelliannau go iawn wedi bod o ran ansawdd. Defnyddio fframwaith ansawdd rhanbarthol, sef cyfres o safonau ansawdd a ddefnyddir ar draws holl ddarparwyr gofal Bae'r Gorllewin.

·         Datblygwyd Panel y Dinasyddion

·         Annog rhannu arfer gorau ar draws y rhanbarth

·         Bu adolygu prosesau ac asesu gwasanaethau ar draws y rhanbarth yn her i bawb

·         Ar ôl cyfnod prawf, mae Cydlynwyr Ardaloedd Lleol wedi'u cyflwyno mewn rhai mannau eraill o'r rhanbarth

·         Yn y broses frocera, mae sefydliad mwy'n cael bargeinion gwell, gan allu siarad â darparwyr gydag un llais.

 

ERW

·         Dylanwad gwell o ganlyniad i faint yn genedlaethol. Gall y pedwar rhanbarth gael dylanwad cryfach pan fydd polisi cenedlaethol yn cael ei ddatblygu.

·         Gellir clustnodi adnoddau'n seiliedig ar angen a gallu galw ar wybodaeth ac arbenigedd o'r holl ranbarth.

·         Bu rhai arbedion ond nid i'r un graddau â'r rhanbarthau eraill eto.

·         Ansawdd a chysondeb wedi gwella, er enghraifft: ymgynghorwyr herio.

·         Gallu gweithio gyda'n gilydd i ddatblygu adnoddau a deunyddiau i ysgolion y gellir eu defnyddio ar draws y rhanbarth.

 

Cwestiynau gan y panel

·         Sut asesir cartrefi gofal a gwelliannau? Mae'r fframwaith ansawdd yn cyflwyno efydd, arian neu aur i ddarparwyr yn seiliedig ar eu hansawdd yn ogystal â'r gwasanaethau y maent yn eu darparu. 

·         Sut ydych yn cyflawni blaenoriaethau lleol pan fo sefyllfaoedd yn wahanol iawn mewn awdurdodau, fel dylanwadau gwledig a threfol, er enghraifft? Mae tîm Gwella Addysg pob awdurdod lleol yn teilwra'r gwasanaethau i'r anghenion lleol. Hefyd, mae gan Gynllun Busnes ERW atodiad lle gall pob awdurdod lleol amlinellu ei flaenoriaethau. Bu peth gwelliant, yn enwedig o ran ysgolion yn cefnogi ei gilydd ar draws y rhanbarthau pan nodir problemau cyffredin. 

·         A yw'r un problemau'n cael eu nodi ar draws pob un o'r chwe awdurdod lleol? Mae llawer o bryderon tebyg ar draws y rhanbarthau, yn ogystal â gwahaniaethau.

 

 

Rhwystrau i Weithio Rhanbarthol

Mae'r rhwystrau i integreiddio Bae Gorllewin yn fwy'n cynnwys y canlynol:

·         Mae undebau llafur yn bwysig ac mae llawer o amodau a thelerau gwahanol ar draws y sefydliadau i'w hintegreiddio. Nid yw hyn wedi'i wneud eto ac mae'r rhan fwyaf o staff yn y bartneriaeth yn gweithio dan eu contractau gwreiddiol, a all achosi drwgdeimlad, yn enwedig os oes gan un person dâl ac amodau mwy ffafriol na pherson arall.

·         Systemau TGCH gwahanol na allant rannu gwybodaeth neu sy'n cael anawsterau wrth wneud hynny. Mae system newydd yn cael ei chyflwyno a fydd yn gwella ac yn rhoi'r gallu i edrych ar y cyd ar ddata. Nid yw maes iechyd wedi'i gynnwys eto. Bydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn pan fydd angen rhannu gwybodaeth.

·         Efallai fod rhai partneriaid yn pryderu nad yw'r system yn eu gwasanaethu hwy cystal ag eraill.  Mae pob ALl yn gwasanaethu ei ddinasyddion ei hun ac yn atebol iddynt. Oherwydd hyn, mae'n bwysig bod pob ALl yn llofnodi cynllun ar y cyd sy'n nodi blaenoriaethau'r rhanbarth.

·         Gall yr amgylchedd ariannu presennol wneud i bobl edrych yn fewnol yn hytrach nag yn allanol ond gall newid ac ailystyried sut rydym yn cynnal gwasanaethau fod yn gadarnhaol a darparu manteision o ran gweithio'n rhanbarthol.

·         Sicrhau bod pob un o'r chwe awdurdod lleol yn defnyddio arferion gweithio cyffredin.

·         Gall nodi risgiau cyffredin fod yn her.

·         Bu rhai problemau o ran atebolrwydd oherwydd ansicrwydd staff ynghylch a ydynt yn gweithio i'r ALl, y rhanbarth neu'r ddau (ERW).

·         Y strwythur llywodraethu, yn enwedig wrth sicrhau eglurder.

·         Iaith gyffredin ar draws y partneriaid gan y gall fod gan bethau ystyron gwahanol mewn sefydliadau gwahanol.

 

Trefniadau Craffu a Llywodraethu

 

ERW

·         Mae Grŵp Cynghorwyr Craffu ERW ar waith (dyma banel anffurfiol yn hytrach na phwyllgor ffurfiol) sy'n craffu ar waith Cyd-bwyllgor ERW. Mae'n cynnwys cadeiryddion ac is-gadeiryddion cyrff craffu sy'n ymwneud ag addysg ar draws y rhanbarth. Mae manylion gwaith y panel craffu a'r argymhellion sy'n deillio ohono'n cael eu hanfon drwy lythyr oddi wrth Gadeirydd y Grŵp i'r cyd-bwyllgor. Mae'r cyd-bwyllgor yn eu hystyried yn ei gyfarfod ac yna'n ymateb i'r grŵp yn ysgrifenedig. Mae'n profi'n llwyddiannus ac mae'r model hwn yn cael ei fabwysiadu gan rai o'r rhanbarthau eraill.

·         Mae ERW hefyd yn herio drwy nifer o ffynonellau eraill fel, er enghraifft, Estyn ac archwilio (4 gwaith y flwyddyn).

·         Mae Grŵp Cynghorwyr Craffu ERW yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn, cyn y cyd-bwyllgor. Gofynnodd y panel a oedd dwywaith y flwyddyn yn ddigon a dywedwyd bod y drefn hon yn gweithio ar hyn o bryd ond bydd angen ei monitro'n barhaus.

 

Bae'r Gorllewin

·         Nid oes cytundeb craffu ar y cyd ar hyn o bryd. Nid oedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot am ei roi ar waith ar hyn o bryd er bod Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe'n awyddus. Rhaid i'r pedwar partner gytuno. 

·         Mae pob awdurdod lleol unigol yn craffu ar yr agweddau sy'n berthnasol iddynt hwy ond ni chreffir ar y bartneriaeth yn ei chyfanrwydd.

·         Pan all aelodau graffu ar y rhaglen, rydym yn teimlo bod hynny'n sicrhau llywodraethu da ac yn ei gwneud yn fwy gweladwy.

·         Ar hyn o bryd, os oes angen gwneud penderfyniad, rhaid iddo fynd gerbron Cabinet pob cyngor a'r bwrdd iechyd cyn y gellir ei roi ar waith. Petai trefn gan y cyd-bwyllgor, gellid gwneud penderfyniadau'n gyflymach o lawer.

·         Petai'r bartneriaeth yn ailystyried y strwythur llywodraethu, yn ffurfio cyd-bwyllgor a threfn graffu gysylltiedig ... argymhelliad posib

 

Egwyddorion allweddol ar gyfer cydweithio effeithiol

·         Arweinyddiaeth gref gan swyddogion ac yn wleidyddol

·         Systemau cyffredin ar draws y bartneriaeth (er enghraifft, fframwaith ansawdd)

·         Cyfathrebu da ar bob lefel ac â rhanddeiliaid

·         Llywodraethu da, clir a gweladwy a gwneud penderfyniadau ar y cyd

·         Datblygu perthnasoedd da a meithrin ymddiriedolaeth mewn perthnasoedd

·         Cydnerthedd cynwysedig (nid yw'n hawdd gan fod angen sgiliau penodol)

·         Hyrwyddwyr, noddwyr ac arweinwyr ym mhob sefydliad partner a all weld y darlun mwy a chynnal diddordeb yn y bartneriaeth

 

 

 

Eglurder gan Lywodraeth Cymru a mandadu

·         Yn aml, mae angen mandadu er mwyn i chi ddeall yn glir beth yw'r disgwyliadau. Yna rydym hefyd yn cael arweiniad statudol clir. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2012 yn enghraifft dda. Mae mandadu'n cyflwyno heriau gwahanol ac ni fydd pawb yn ei hoffi.

·         Mae mandadu'n sicrhau bod rolau'n gliriach, er enghraifft, os nad yw partneriaid am gymryd rhan mewn rhai agweddau, bydd rhaid iddynt ailystyried.

 

Gweithio gyda'r trydydd sector a'r sector preifat

·         Nid ydym yn gweithio'n llawn gyda'r trydydd sector eto, ond byddwn yn ceisio gwneud hyn yn fwy pan fo'n briodol (ERW).

·         Gweithio gyda'r sector preifat ym maes addysg a datblygu sgiliau y mae eu hangen ar ddiwydiant yn lleol (drwy'r Bartneriaeth Ddysgu).

 

A yw diffyndollaeth yn rhwystro cydweithio rhanbarthol?

·         Ydy a gall gael effeithiau sylweddol ar rai lefelau.

·         Mae hyn yn ddiangen gan y dylid canolbwyntio ar y dysgwr/dinesydd.

·         Gofynnodd y panel sut gellid mynd i'r afael â hyn a'i wella?  Clywodd y panel yr atebion canlynol:

o   Arweinyddiaeth a chyfarwyddyd cryf gan wleidyddion ac uwch-reolwyr (mae uwch-reolwyr yn chwarae rôl hanfodol wrth lunio ethos y bartneriaeth)

o   Dathlu pobl a'r gwaith y maent yn ei wneud

o   Cyfathrebu o'r brig i'r gwaelod, yn enwedig mewn adrannau bloc fel rheolwyr canol

o   Diben cyffredin a gweledigaeth a rennir

·         Mae trawsnewid prosesau a gofyn i bobl wneud pethau'n wahanol yn gallu bod yn anodd. Nid yw'n hawdd newid ac mae angen rheoli cadarnhaol a gofalus.

 

3.

Rhaglen Waith Cynllun y Prosiect pdf eicon PDF 81 KB

Cofnodion:

Cynhelir cyfarfod nesaf y bwrdd ar 15 Mawrth lle bydd yr aelodau'n trafod eu canfyddiadau ac yn dechrau dod â'r gwaith hwn i ben.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.30am