Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gyfarfod y Cynghorwyr 235, Neuadd y Ddinas

Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Y Cynghorydd Mike White (Budd Personol yn Eitem 3 ar yr Agenda)

 

2.

Cyfarfod Bord Gron gyda phartneriaid sy'n gysylltiedig â'r Gyfarwyddiaeth Lleoedd pdf eicon PDF 117 KB

Gwahoddwyd:

·         Helen Morgan, Arweinydd y Fargen Ddinesig yn Sir Gâr

·         Ben George, Partneriaeth Trafnidiaeth Rhanbarthol De-orllewin Cymru

·         Zack Shell, Partneriaeth Gwastraff (Pen-y-bont ar Ogwr)

·         Judith Oakley, Grŵp Awdurdodau Perthnasol Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Caerfyrddin

 

Cofnodion:

Gwahoddodd y panel gynrychiolwyr o rai o sefydliadau partner allanol y cyngor sy'n rhan o faes y Gyfarwyddiaeth Lleoedd i rannu eu barn am faterion mewn perthynas â gweithio rhanbarthol a'i bartneriaethau. Nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

Cynrychiolwr o Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr - Partneriaeth Wastraff De-orllewin Cymru

·         Mae gweithio ar draws y rhanbarth, yn enwedig ar faterion caffael, yn dda ar gyfer arbedion maint, ac mae Llywodraeth Cymru'n annog awdurdodau lleol i weithio ar y cyd o ran gwastraff. 

·         Mantais bendant y llynedd: caffael gwastraff bwyd newydd gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe. Cafwyd cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru gyda chyllid gwerth 25%.  Mae'n fuddiol yn ariannol i'r ddau ALl.  Adeiladwyd y cyfleuster ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan arwain at gyfleoedd cyflogaeth.

·         Cadarnhaol iawn ond cymerodd amser sylweddol i'w gyflwyno. Dechreuodd y broses gychwynnol yn 2008 gyda nifer o awdurdodau lleol eraill yn rhan ohoni, a thynnodd yr ymgeisydd a ffafriwyd yn ôl o'r broses. Ar ôl y sefyllfa gaffael aflwyddiannus, collodd rai o'r awdurdodau lleol awydd dros fod yn rhan ohoni, neu daethpwyd o hyd i ddatrysiadau eraill. Felly ar ôl rhoi cynnig arall arni gyda'r dulliau caffael presennol, mae llai o awdurdodau lleol yn cymryd rhan ond mae wedi bod yn llwyddiannus er hynny. Mae wedi bod yn brosiect estynedig a hirwyntog ond yn un llwyddiannus beth bynnag.

·         Mae rhai o'r rhwystrau/heriau'n cynnwys: yr amser a'r ymdrech sy'n angenrheidiol er mwyn cyflawni'r gweithgaredd caffael hwn, a hefyd yr heriau o ran cael pawb i'w gefnogi.

·         Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru'n gadarnhaol ond mae'r systemau y mae angen eu cwblhau er mwyn cael y cyllid yn drwm ac yn cymryd cryn amser. Mae'r achos busnes a chaffael yn heriol iawn ond mae'n ganlyniad da i Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr.

·         Roedd yn broses araf a arweiniwyd gan Abertawe (a oedd o'r farn y byddai awdurdodau llai yn ei chael hi'n anodd arwain proses o'r fath gyda llai o adnoddau ac arbenigedd i'w cefnogi).

·         Mae'n bwysig bod yr holl adrannau angenrheidiol yn eich cyngor yn gweithio ar y cyd ac yn gefnogol pan rydych yn rhan o broses ranbarthol.

·         A fyddai wedi bod hyd yn oed yn fwy llwyddiannus gyda mwy na 2 ALl?  Clywodd y panel ei fod yn anodd dweud oherwydd bod angen strwythur lleol ar rai agweddau. Ond o safbwynt caffael, bydd prynu mwy'n arwain at gynigion gwell ac yn arbed arian i bawb o ganlyniad.

·         Teimlwyd y byddai gwell arweiniad a gwasanaeth wedi eu symleiddio gan Lywodraeth Cymru'n fuddiol.  Mae cyflwyno cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru'n broses hir a thrwm.  Mae'r panel yn cydnabod ei fod yn bwysig bod y sector cyhoeddus yn mynd gam ymhellach o ran diwydrwydd dyladwy a llywodraethu wrth wario arian y cyhoedd, ond mae'n awyddus i weld y broses yn cael ei symleiddio os bwriedir i waith rhanbarthol gael ei ddatblygu ar raddfa fwy.  Teimlwyd bod angen cydbwysedd gwell rhwng dwysedd y broses, yr angen am ddiwydrwydd dyladwy a'r amser mae'n ei gymryd/y fiwrocratiaeth sy'n ei dilyn.

 

Arweinydd y Fargen Ddinesig ar gyfer Sir Gâr

·         Mae gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe 11 o brosiectau ar draws y rhanbarth gyda chyfanswm cyllid gwerth £1.3 biliwn. 

·         Clustnodir 241 miliwn ar gyfer prosiect Bargen Ddinesig Bae Abertawe'n gyffredinol, sydd wedi'i ariannu gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a'r sector preifat. Llofnodwyd y fargen ar 20 Mawrth 2017 ac mae'n nodi cytundeb mewn egwyddor ar gyfer yr 11 o brosiectau dros y 15 mlynedd nesaf:  5 mlynedd i'w cyflwyno a 10 mlynedd i'w cyflawni. Sir Gâr yw'r cyngor arweiniol.

·         Defnyddiwyd model busnes 5 achos Llywodraeth Cymru, sydd wedi bod yn drwm ar amser ac adnoddau.

·         Cyflwynwyd 8 o'r 11 o achosion busnes i'r ddwy lywodraeth. Mae'n broses gymhleth oherwydd bydd yr achosion busnes hyn wedyn yn cael eu trosglwyddo i 3 adran wahanol yn y llywodraeth.

·         Mae gan Abertawe ddau brosiect: y Fargen Ddinesig a Dinas a Glannau Abertawe. Mae'r holl achosion busnes ar ffurf ddrafft ar hyn o bryd.

·         Cyfanswm y ddau brosiect hyn yw 168 miliwn, sy'n cynnwys 50 miliwn a roddwyd ar y cyd gan Lywodraeth y DU/Lywodraeth Cymru, 94 miliwn gan y sector cyhoeddus a 24 miliwn gan y sector preifat.

·         Disgwylir i werth ychwanegol gros economi Abertawe elwa o gynnydd gwerth 64 miliwn ar ôl 5 mlynedd, 190 miliwn ar ôl 10 mlynedd a 319 miliwn ar ôl 15 mlynedd, gyda 265 o swyddi'n cael eu creu ar ôl 5 mlynedd, 1178 ar ôl 10 mlynedd a 1323 ar ôl 15 mlynedd.  Er hynny, mae angen gwneud mwy o waith ar werth arfaethedig y swyddi hyn. Mae'r panel yn teimlo ei fod yn bwysig sicrhau bod nifer o'r swyddi hyn yn swyddi â mwy o dâl.

·         Clywodd y panel am y fenter talent a sgiliau lle mae pobl yn yr ardal leol yn ennill sgiliau er mwyn iddynt allu cyflawni'r swyddi a fydd yn deillio o'r 11 o brosiectau hyn. Gweithio gyda phrifysgolion, colegau ac ysgolion gan gynnwys ysgolion cynradd.

·         Gweithio gydag arweinwyr a phrif weithredwyr ar draws y rhanbarth ar hyn o bryd i lunio strwythur llywodraethu cyfreithiol. Mae rhai materion i'w datrys gyda'r ddwy lywodraeth ar hyn o bryd, gydag un ohonynt yn ymwneud â chyfalafu.

·         Anfonwyd llythyrau sy'n trafod cyfalafu i'r llywodraethau: hynny yw, gallu newid peth o arian cyfalaf y prosiect yn wariant refeniw. Mae Caerdydd wedi llwyddo i wneud hyn, ond nid yw wedi cael ei dderbyn ar gyfer Bargen Ddinesig Abertawe hyd yn hyn. Roedd y panel yn gefnogol o'r sylwadau a wnaed o ran gallu defnyddio peth o'r arian at ddibenion refeniw.

·         Soniodd y panel am y rhan o'r fargen sy'n cynnwys cyllid Ewropeaidd. Clywodd y panel ei fod yn bosib blaenlwytho'r agweddau a ariennir gan ERDF lle y bo'n bosib. Ni chafwyd unrhyw gytundeb o ran sut i adennill unrhyw arian a gollir o ganlyniad i beidio â bod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd bellach. Mae arian gan yr UE wedi'i gynnwys yn y £94 miliwn o arian cyhoeddus.

·         Gall un o'r rhwystrau gynnwys yr ymarferoldeb o weithio ar draws y 4 awdurdod lleol. Ond, ar gyfer y Fargen Ddinesig, mae'r berthynas wedi aeddfedu ac mae materion megis diffyndollaeth wedi gwella gan fod yr holl bartneriaid yn gweld y manteision cyffredinol o weithio ar draws y rhanbarth.

 

Swyddog Strategaeth Trafnidiaeth Abertawe (Partneriaeth Trafnidiaeth Ranbarthol De-orllewin Cymru)

·         Mae llywodraethu partneriaeth yn bwysig iawn. Nid oes gan Bartneriaeth Trafnidiaeth Ranbarthol De-orllewin Cymru strwythur llywodraethu ffurfiol ar hyn o bryd gan y diddymwyd y Consortia yn 2014.  Mae partneriaid ar draws y rhanbarth wedi cytuno ei fod yn bwysig cynnal y bartneriaeth gan nad ydynt am golli gwaith partneriaeth, sgiliau a gwybodaeth ei haelodau na gorfod dechrau o'r dechrau wrth weithio ar y cyd yn ffurfiol unwaith eto, felly mae'n gweithio ar y cyd yn anffurfiol ar hyn o bryd.  Roedd yr awdurdodau a oedd yn rhan o'r bartneriaeth yn ymwybodol o'i gwerth. Mae'r strwythur mandadedig cyfreithiol rhanbarthol ar gyfer trafnidiaeth wedi'i ddiddymu'n llwyr. Tybiwyd y byddai'n cael ei gynnwys yn natblygiadau'r Fargen Ddinesig newydd ond nid yw hyn wedi digwydd.  Nid oes llais ar lefel genedlaethol ar hyn o bryd oherwydd tynnwyd y strwythur llywodraethu i ffwrdd.

·         Mae angen ffurfio partneriaeth ffurfiol â mandad gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Trafnidiaeth yn y rhanbarth. Ni allwn ailwampio SWITCH gan y cafwyd datblygiadau, ac mae angen ffurfio partneriaeth yn ei rhinwedd ei hun a/neu ei chynnwys yn y Fargen Ddinesig. Mae angen i Lywodraeth Cymru egluro'r mater llywodraethu sy'n berthnasol i'r polisi trafnidiaeth.

·         Mae cysylltiadau agos â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yn enwedig o ran materion megis lleihau allyriadau carbon etc.

 

3.

Rhaglen Waith Cynllun y Prosiect pdf eicon PDF 81 KB

Cofnodion:

Yng nghyfarfod nesaf y panel ar 16 Chwefror bydd y panel yn siarad â phartneriaid y Gyfarwyddiaeth Pobl, gan gynnwys Bae'r Gorllewin ac Ein Rhanbarth ar Waith.