Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

2.

Nodiadau o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 12 2017 pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd y nodiadau gan y panel.

3.

Gweithio Rhanbarthol: Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Chris Sivers (Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol), Helen Morgan Rees (Pennaeth Hwb y Gwasanaeth Gwella Addysg) a Sara Harvey (Cyfarwyddwr Rhaglen Bae'r Gorllewin) adroddiad a oedd yn amlinellu gweithio rhanbarthol yn y Gyfarwyddiaeth hon ynghyd â gwybodaeth am y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Roedd hyn yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

 

·         Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)

·         Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bae'r Gorllewin

·         Bwrdd CONTEST Rhanbarthol Bae'r Gorllewin

·         Bwrdd y Gwasanaethau Lleol

·         Rhaglen Cydlyniant Cymunedol

 

Mae risgiau posib yn y dyfodol i gydweithio wedi'u nodi:

 

·         Mae newidiadau i ôl troed y Bwrdd Iechyd (er enghraifft dileu/symud partner ac effaith hynny ar brosiectau a chyfraniad ariannol priodol)

·         Proffiliau poblogaeth (amddifadedd trefol yn erbyn cefn gwlad gwasgaredig, poblogaethau BME)

·         Colled bosib ar ffocws ardal a/neu ddyblygu (rhaid cael sicrwydd lleol)

·         Gwydnwch a maint awdurdod lleol i gyflawni swyddogaethau

 

Mae'r pwyntiau allweddol ar gyfer yr ymchwiliad o waith rhanbarthol a gafwyd o'r drafodaeth ddilynol wedi'u nodi fel a ganlyn:

 

ERW

·         Rhaid ystyried anghenion a chyd-destun lleol mewn partneriaethau rhanbarthol. Er enghraifft, gydag ERW caiff cynllun busnes ei lunio lle caiff cyfarwyddebau cenedlaethol ac amcanion cyffredin ar draws y rhanbarth eu cefnogi ond mae'n cynnwys amcanion lleol pob awdurdod lleol. Mae hyn yn bwysig oherwydd bydd gan bob awdurdod lleol gyd-destun gwahanol ac felly anghenion gwahanol a hefyd pan fydd rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau bod ERW yn atebol ar lefel leol. Gweithio ar draws y rhanbarth gyda chyswllt agos â blaenoriaethau lleol yw'r ateb gorau.

·         Gall blaenoriaethau gwahanol fod yn broblem i ranbarth, er enghraifft yn ôl troed ERW lle mae rhan fwyaf y rhanbarth yn wledig, gall materion gwledig ragori a gall hyn gael ei adlewyrchu yn y dyraniad arian ar draws y rhanbarth.

·         Y gwahaniaeth rhwng SWAMWAC, y bartneriaeth addysg ranbarthol flaenorol ac ERW. Mae gan ERW drefniant cydweithredol cyfreithiol â strwythur llywodraethu cysylltiol.

·         Un o rolau ERW a'r manteision cadarnhaol posib yw bod awdurdodau lleol yn helpu ei gilydd. Clywodd y panel fod rhannu sgiliau ac arbenigedd ar draws awdurdodau'n gweithio'n dda, er enghraifft rydym wedi helpu Sir Benfro ac yn cynorthwyo ysgolion Powys ac rydym wedi cael cymorth hefyd. Mae hyn hefyd yn dda i ddileu rhwystrau rhwng awdurdodau lleol. Mae hyn yn gweithio os nad yw un awdurdod ar golled oherwydd y trefniant.

·         Gofynnodd y panel a oedd ERW yn haen o sefydliadau sy'n dal i fod yn berthnasol ac a oes ei angen? Clywodd y panel y bu'n gadarnhaol iawn ac mae wedi cyflwyno manteision go iawn wrth fabwysiadu model cenedlaethol sydd wedi cyflwyno gwell cysondeb yng ngwaith ymgynghorwyr herio a phenaethiaid.  Mae hefyd wedi galluogi cyfleoedd hyfforddi ehangach a mwy cyson i ysgolion a staff addysg ar draws y rhanbarth. Mae gweithio'n agosach â Chastell-nedd Port Talbot, er enghraifft i ddysgu a rhannu arfer da wedi bod o fudd mawr. Er bod cysyniad ein bod yn un o'r ardaloedd perfformio cryfaf, mae'n debygol y byddwn yn gwneud mwy i eraill.

·         Ar hyn o bryd, mae ERW yn cael ei ddiwygio a'i ailfodelu. Phil Roberts, Prif Weithredwr Abertawe, yw'r swyddog arweiniol ac mae arweinydd cyngor newydd o Geredigon, a rhagwelir y bydd ymagwedd fodern newydd wrth symud ymlaen.

·         Ydym ni wedi dysgu unrhyw beth gan Gonsortia eraill yng Nghymru?  Clywodd y panel fod ERW wedi gweithio gyda chonsortia eraill ar bethau y mae angen cymorth i'w datblygu, fel y maent wedi gwneud gydag ERW.

·         Mae gan ERW strwythur llywodraethu da gyda threfniant craffu cysylltiol.

·         Clywodd y panel y bu rhai ysgolion yn herio eu canfyddiad o ERW.  Gan fod ERW yn ymgymryd â'r rôl o ystyried/herio perfformiad o ran arweinyddiaeth, mae ysgolion yn teimlo bod hyn yn creu mwy o waith.  Mae ERW wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i helpu i ddatblygu gwybodaeth i ysgolion ynghylch lleihau llwythi gwaith.

 

Bae'r Gorllewin

·         Mae Llywodraeth Cymru'n cyfeirio arian yn fwyfwy drwy bartneriaethau rhanbarthol gan annog cydweithio, ond rhaid i bartneriaid brofi eu bod yn gweithio gyda'i gilydd.

·         Mae gan Fae'r Gorllewin hanes da o gyflwyno, felly mae nifer cynyddol o fentrau'n cael eu creu drwy'r trefniant partneriaeth hwn.

·         Rhaid i'r holl waith rhanbarthol dan Fae'r Gorllewin gael (Rhan 9) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn sylfaen iddo.

·         Caiff arian ei gronni i greu tîm a gynhelir gan Abertawe.

·         Daw rhan helaeth o'r arian o'r Gronfa Gofal Integredig (Canolraddol gynt) sy'n ymwneud yn bennaf â gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn.

·         Gofynnodd aelodau'r panel pam nad oedd trefniant craffu rhanbarthol ar waith.  Clywodd y cynghorwyr fod y rhan fwyaf o bartneriaid sy'n rhan o'r bartneriaeth yn awyddus i ddatblygu trefniant craffu ond nid oedd un partner am wneud hynny.  Rhaid i'r holl bartneriaid gytuno ar unrhyw ddatblygiadau drwy eu pwyllgorau Cabinet unigol.  Teimlai'r panel ei bod hi'n bwysig ac yn briodol i gael trefniant craffu rhanbarthol yn rhan o'r trefniadau llywodraethu ar gyfer Bae'r Gorllewin gan gytuno y gallai hyn fod yn argymhelliad sy'n deillio o'i ymchwiliad.

·         Gall gwneud penderfyniadau ar gyfer Bae'r Gorllewin fod yn hir ac yn feichus, oherwydd ni all y cydbwyllgor wneud penderfyniadau dim ond argymell yn unig, ac yna rhaid i bob awdurdod lleol yn y bartneriaeth ynghyd â PABM fynd yn ôl a dwyn yr argymhelliad gerbron y Cabinet.  Gofynnodd y panel a ddylai'r trefniadau llywodraethu hyn gael eu hailfodelu a'u symleiddio, fel y gellir gwneud penderfyniadau mewn modd mwy effeithlon ac amserol.  Teimlwyd y gallai hyn hefyd fod yn argymhelliad posib ar gyfer y panel.

·         Mae gwasanaethau ymyrryd yn gynnar cyfiawnder ieuenctid wedi bod yn hynod fuddiol.  Rhaid bod yn ymwybodol o'r hyn sy'n gweithio'n dda pan fyddwn yn gwneud newidiadau rhanbarthol i sicrhau nad yw arferion da'n cael eu colli.

·         Pan fyddwn yn gweithio ar draws y rhanbarth, mae'n bwysig bod yn glir am flaenoriaethau pob awdurdod lleol.

 

Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus

·         Mae rhai aelodau o'r bartneriaeth hon yn awyddus i weld y BGC yn symud i fodel rhanbarthol sy'n debyg i Fae'r Gorllewin.  Mae manteision hyn i rai partneriaid yn glir, er enghraifft dim mwy o bresenoldeb lluosog mewn ALl gwahanol.

·         Mae Llywodraeth Cymru'n annog gweithio'n rhanbarthol.

·         Ar hyn o bryd, mae Abertawe'n gweithio ar ei Gynllun Lles, ond bydd trafodaeth am waith rhanbarthol yn ailddechrau unwaith bydd hyn wedi'i gwblhau.  Y cynllun yw'r ffocws ar hyn o bryd, ond gwelir gwaith rhanbarthol gan rai fel y ffordd naturiol ymlaen.

·         Mae meysydd dysgu cychwynnol posib o brofiad BGC Abertawe wrth lunio'r cynllun lles gyda phartneriaid yn cynnwys:

o   Cytuno ar weledigaeth a meddwl tymor hir, gall defnyddio brwdfrydedd a diddordeb wir ddatblygu gweithio mewn partneriaeth.

o   Erys yn her i gynnal perchnogaeth ac ysgogiad ar draws yr holl sefydliadau partner.

o   Wrth wraidd partneriaethau sylfaenol cryf mae datblygu perthnasoedd sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth. Mae cymaint yn dibynnu ar yr unigolion sy'n rhan o hyn a'u hymagwedd bersonol i'r bartneriaeth.

o   Erys yn her i gynnal ffocws ar gyflawni nifer llai o brif flaenoriaethau, heb gael ein llethu gan y manylion.

o   Ceir cydbwysedd priodol rhwng ymagweddau o'r gwaelod i fyny ac o'r brig i lawr er mwyn cael cytundeb ar gyflwyno.

o   Mae trefniadau llywodraethu'n helpu i ddarparu sicrwydd ond nid ydynt yn gwarantu canlyniadau llwyddiannus.

 

Partneriaethau eraill

·         Mae'n bwysig sicrhau bod y bobl gywir yn rhan o gytundeb partneriaeth.  Cafwyd trafodaeth gan y panel nad yw'r Gwasanaethau Tân ac Ambiwlans yn rhan o'r Bwrdd CONTEST ac a oedd hyn yn briodol neu beidio.

 

4.

Rhaglen Waith Cynllun y Prosiect pdf eicon PDF 81 KB

Cofnodion:

Yn y ddau gyfarfod nesaf ar 2 ac 16 Chwefror, bydd y panel yn cwrdd â sefydliadau partner.