Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 4 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer 

Eitemau
Rhif Eitem

5.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

None

6.

Atebion a dderbyniwyd ar gyfer cwestiynau a holwyd yn y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Anfonwyd y cwestiynau canlynol a derbyniwyd ymateb ar gyfer y panel gan Bennaeth y Gwasanaethau Ariannol:

1. Roedd y panel am wybod os cafwyd asesiad o gost ariannol o'r amser a dreuliwyd gan swyddogion ar weithgareddau gweithio rhanbarthol. Nid oes unrhyw gofnodi systematig o amser a dreulir gan swyddogion ar waith rhanbarthol ac nid ydym yn cadw taflenni cofnodi amser ar gyfer prosiectau ac, i ryw raddau, rydym yn derbyn yr agenda ranbarthol fel rhan o'r 'swydd leol'. Arferai'r is-adran gyfreithiol wneud y fath waith yn seiliedig ar amseru aseiniadau. Gallai rhai swyddogion dreulio 10% o'u hamser yn rheolaidd, ac yn aml hyd at 20% ar waith rhanbarthol/cenedlaethol.

2. Sut caiff trefniadau ariannol y partneriaethau gwaith rhanbarthol gwahanol eu harchwilio?

·         Bae'r Gorllewin – mae adnoddau ar y cyd yn cael eu harchwilio ym mhob awdurdod lleol gan archwilwyr allanol unigol fel rhan o hawliadau grant archwilio pob cyngor, ond gan mai Abertawe yw'r partner arweiniol ac awdurdod cynnal y cyllid, rydym yn cael golwg ychwanegol ar y sefyllfa ariannol.

·         ERW – ardystiad mewnol gan archwilwyr mewnol pob awdurdod cyfansoddol.

·         Archwiliad allanol a chyfrifon a gyhoeddir gan archwilwyr allanol yr awdurdod cynnal, Sir Benfro. Mae ganddo hefyd ei drefniadau ei hun ar gyfer craffu.

·         Y Fargen Ddinesig – ar ffurf gysgodol yn unig, ond cynllunnir trefniadau sy'n debyg i drefniadau ERW, er y bydd archwilwyr allanol Sir Gâr yn arwain. Bydd ganddo ei drefniadau ei hun ar gyfer craffu.

·         Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe (AIPBA) – darperir archwiliad mewnol gan Abertawe, archwiliad allanol gan ein harchwilwyr allanol oherwydd ein bod ni'n awdurdod cynnal er, yn swyddogol caiff yr archwiliad ei wneud gan AIPBA ei hun fel corff ar wahân yn gyfreithiol.

 

7.

Gweithio Rhanbarthol: Cyfarwyddiaeth Lleoedd pdf eicon PDF 103 KB

Bydd y Cyfarwyddwr Lleoedd, Martin Nicholls, yn bresennol yn y cyfarfod a bydd yn darparu adroddiad i’r panel sy’n amlinellu gweithgareddau Gweithio Rhanbarthol yn y Gyfarwyddiaeth Lleoedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Daeth Martin Nicholls, Cyfarwyddwr Lleoedd, i'r cyfarfod er mwyn amlinellu

sefyllfa gweithio rhanbarthol yn y Gyfarwyddiaeth Lleoedd.

 

·         Ceir nifer mawr o drefniadau rhanbarthol a chydweithredol sy'n bodoli ar draws y Cyfarwyddiaethau ac amrywiaeth eang o wasanaethau, ac adlewyrchir y rhain yn y meysydd gwasanaeth canlynol:

Gwasanaethau Adeiladau ac Eiddo Corfforaethol

Tai a Diogelu'r Cyhoedd

Gwasanaethau Diwylliant a Hamdden

Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas

Rheoli Gwastraff, Parciau a Glanhau

Priffyrdd a Chludiant

·         Darparwyd crynodeb yn yr adroddiad o'r gweithio rhanbarthol a chydweithredol presennol, sy'n gymysgedd o drefniadau ffurfiol ac anffurfiol. Mae rhai enghreifftiau'n cynnwys:

Cyflwyno'r Fargen Ddinesig

Cludiant Ranbarthol De-orllewin Cymru

Adfywio Economaidd

·         Nododd y panel fod yna 51 o weithgareddau gwahanol a restrwyd ar hyn o bryd, gan gydnabod y gallai hynny gymryd llawer o amser swyddogion. Maent yn cydnabod bod rhai ohonynt yn llawer llai dwys nag eraill. Teimlodd y panel ei fod yn bwysig adolygu ein hymrwymiadau i weithgareddau gwahanol yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn hanfodol ac yn cynnig gwerth am yr amser a dreulier gan swyddogion (gan gydnabod y bod yn rhaid ymgymryd â rhai ohonynt).

·         Mae agenda ddiwygio Llywodraeth Cymru yn darparu arwyddion clir o ran tueddiadau'r dyfodol, gyda meysydd cydweithredol mwy 'ffurfiol' mewn nifer mwy o feysydd gwasanaeth. Cytunodd y panel fod hyn yn cynnig cyfleoedd yn ogystal â pheryglon.

Cyflwyno Rhanbarthol - gall rhai meysydd gael eu cyflwyno'n rhanbarthol yn unig, megis cynllunio cludiant strategol neu strategaethau datblygu economaidd, gan eu bod yn cael eu cyflwyno eisoes ar y sail hon.

Effeithlonrwydd - gall rhai meysydd gynnig cyfleoedd ar gyfer gwell effeithlonrwydd, gan gyflwyno drwy gynsail rhanbarthol. Fodd bynnag, nes y bydd modd nodi ac asesu cyfleoedd clir ar gyfer rhesymoli, mae'n beryglus i gymryd yn ganiataol fod mwy bob amser yn well.

Ataliaeth yn y Dyfodol - er bod hyn yn fwy perthnasol i wasanaethau i bobl, dylid ystyried yr agenda Ataliaeth yn y Dyfodol a Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol lle ni all cynghorau ddatrys yr heriau mwyaf anodd boed yn unigol neu hyd yn oed ar y cyd heb gydweithio'n ehangach.

Cadernid - wrth i gyllidebau leihau, mae pryderon cynyddol bod rhai gwasanaethau, yn enwedig mewn cynghorau llai, yn anghynaladwy i gynghorau unigol ar eu pennau eu hunain, ac mae mwy o gydweithio yn un ffordd o fynd i'r afael â hyn.

·         Esboniodd y Cyfarwyddwr er bod y drafodaeth ynghylch mwy o weithio rhanbarthol yn anochel, mae'n bwysig i'r cyngor fod yn weithgar o ran sut dylai unrhyw ddarlun ymddangos a rhannu ei ddyfodol. Bydd angen deall buddion cyflwyno lleol ond hefyd fod yn ofalus o'r darlun cenedlaethol a rhanbarthol a lle y ceir y buddion hynny.

·         Mae'r panel yn cydnabod mai nid trafodaeth ymhlith swyddogion yn unig oedd hon, gan fynegi bodlonrwydd am hynny, ac roeddent yn cytuno y bydd angen gwybodaeth leol ac atebolrwydd lleol er mwyn cyflwyno'r canlyniadau gorau i gymunedau lleol.

·         Ar hyn o bryd, ni cheir trefniadau craffu rhanbarthol ar waith ar gyfer unrhyw un o'r partneriaethau hyn, ond rhagwelir y cânt eu cynnwys yn nhrefniadau llywodraethu'r Fargen Ddinesig fwy.

 

Gofynnod y panel am ragor o wybodaeth atodol i'r wybodaeth a ddarparwyd eisoes sy'n manylu'n fras amcan amser a dreulir ar weithgareddau rhanbarthol gan swyddogion a rhai enghreifftiau o'r canlyniadau sy'n deillio o rai o'r partneriaethau a restrir. Bydd y Swyddog Craffu yn cysylltu â Phrif Swyddogion Addysg a'r Gwasanaethau Cymdeithasol i sicrhau y caiff hyn hefyd ei gynnwys yn eu hadroddiadau i'r panel.

 

8.

Rhaglen Waith Cynllun y Prosiect pdf eicon PDF 74 KB

Cofnodion:

Trefnwyd cyfarfod nesaf y panel ar 1 Rhagfyr 2017 am 10.30am, lle bydd y panel yn siarad â'r Prif Swyddog Addysg am y darlun yn y Gwasanaethau Addysg.