Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

2.

Nodiadau a Llythyr y Cynullydd pdf eicon PDF 248 KB

Nodiadau a llythyr y Cynullydd o’r cyfarfod blaenorol ar 14 Tachwedd 2017

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd y nodiadau blaenorol a llythyr y Cynullydd.

 

3.

Cydlyniant Cymunedol yn Abertawe - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 129 KB

Sesiwn holi ac ateb gyda

·         Y Cyng. Will Evans, Aelod y Cabinet dros Gymunedau Cryfach

·         Declan Cahill, Heddlu De Cymru

·         Paul Thomas, Cydnerthedd

·         Jane Whitmore, Tlodi a’i Atal Abertawe

·         Riaz Hassan, Cydlynydd Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol (Abertawe, CNPT, Pen-y-bont ar Ogwr)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddwyd Jane Whitmore o'r Adran Tlodi a'i Atal, Declan Cahill o Heddlu De Cymru a Riaz Hassan, sef Cydlynydd Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol Bae'r Gorllewin.  Rhoddwyd cyflwyniad ganddynt a thrafodwyd y materion â'r cynghorwyr.

 

Trafodwyd y materion canlynol:

 

·         Swydd Cydlynydd Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol Bae'r Gorllewin.  Ariennir 8 Cydlynydd ar draws Cymru gan Lywodraeth Cymru, er mwyn datblygu'r broses o brif ffrydio gwaith cydlyniant cymunedol ar draws y rhanbarth.  Mae'r rôl yn annog gweithio mewn partneriaeth ac yn rhoi amcanion cenedlaethol ar waith ar lefel leol.  Mae rôl y Cydlynydd yn un strategol yn hytrach na bod yn weithredol.  Dyma'r unig gyllid sydd ar gael ar gyfer gwaith cydlyniant cymunedol.

·         Nid oes unrhyw adnoddau ar gael yn benodol ar gyfer cydlyniant cymunedol.  Felly, y nod yw prif ffrydio cydlyniant ym mhopeth rydym yn ei wneud a'i wreiddio yn ein gweithgareddau.

·         Galluogi grwpiau gwahanol o bobl i gyd-dynnu â'i gilydd yn dda a datblygu ymateb i wahaniaethau yn ein cymdeithas.  Enghreifftiau o brosiectau sy'n gwneud hyn:

   "Our Abertawe" – Dathlu Abertawe gyda'n Gilydd

   Cynlluniau cyflogadwyedd lleol

   Grŵp Cydgysylltu Anableddau

   Fforwm LGBT Abertawe

   Fforwm BAME Rhanbarthol

   Mentrau myfyrwyr a phreswylwyr

   EID yn y Parc

·         Gall fod camsyniad mewn cymunedau. Mae dysgu o arferion diwylliannol gwahanol a'u rhannu'n helpu gyda chydlyniant.  Mae angen datblygu a hyrwyddo delweddau cadarnhaol a mynd i'r afael â chamsyniadau. Roedd y panel o'r farn fod taflenni chwalu chwedlau'n syniad arbennig ac y dylid eu rhannu a'u defnyddio'n ehangach, ar ffurf copi caled ac ar-lein hefyd.  Gall Cynghorwyr eu rhannu trwy eu proffiliau cyfryngau cymdeithasol megis Twitter neu Facebook.

·         Mae angen rhoi negeseuon cyfredol i gymunedau, nid rhai sydd wedi'u seilio ar hen gyfryngau.

·         Yr hyn sy'n cael ei wneud ynghylch canfyddiadau plant a phobl ifanc, a'r hyn y gellir ei wneud:

   Cyflwyno sesiynau mewn ysgolion, mynd â phant i fosg

   Cyflwyno addysg grefyddol dda gyda grwpiau lleol

   Cyflwyno'r rhan hon o'r cwricwlwm mewn ffordd gadarnhaol trwy ddefnyddio dulliau chwalu chwedlau

·         Galluogi grwpiau gwahanol o bobl i gyd-dynnu â'i gilydd yn dda a datblygu parch at wahaniaethau yn ein cymdeithas. Enghreifftiau ymarferol o brosiectau sy'n gweithredu ar y datganiad:

   Rhwydwaith Dinasoedd Rhyngddiwylliannol

   Hyfforddiant ar-lein ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb

   Ymwybyddiaeth o wrthgaethwasiaeth/fasnachu pobl

   Diwrnod Agored Mosg

   Mentrau ysgolion megis Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth

   Cynllun Adsefydlu Syriaid, cefnogaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.  Ceir adborth cadarnhaol iawn am adsefydlu teuluoedd o Syria.

·         Rhwystrau i wella cydlyniant cymunedol a'r hyn rydym yn ei wneud er mwyn mynd i'r afael â hwy a'r canlyniadau.

   Hyrwyddo'r Gymraeg

   Colli rhaglen Cymunedau'n Gyntaf

   Hyrwyddo a chynyddu ymwybyddiaeth - cytunodd Llywodraeth Cymru fod angen gwneud mwy ohono.

   Dinas Noddfa Abertawe

   Hyfforddiant corfforaethol trwy raglenni e-ddysgu

   Pride Abertawe

   Diffyg ymddiriedolaeth yn yr Heddlu a'r sefydliad.  Sefydlwyd tîm heddlu cydlyniant cymunedol lleol yn ddiweddar â ffyrdd newydd o weithio ac sy'n canolbwyntio'n benodol ar faterion cydlyniant

   Straeon negyddol a chamarweiniol yn y cyfryngau.  Bydd angen i Abertawe a'i bartneriaid ddefnyddio'r cyfryngau a'i systemau cyfathrebu ei hun megis y cyfryngau cymdeithasol er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth, chwalu chwedlau a thynnu sylw at straeon cadarnhaol. Gallem wahodd y cyfryngau lleol i ddigwyddiadau er mwyn gweld a fyddant yn cyhoeddi straeon sy'n chwalu chwedlau

·         Monitro llwyddiant a thystiolaeth o gynnydd a chanlyniadau

   Asesiadau Effaith Cydraddoldeb

   Adolygiad blynyddol o'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol

   Monitro canlyniadau dysgu a chyflogaeth

   Grŵp Cydgysylltu Anableddau

   Gwerthuso hyfforddiant staff

   Monitro troseddau casineb

·         Gweithio mewn partneriaeth yn ymarferol ac esiamplau o feysydd i'w gwella

   Mae partneriaid proffesiynol yn tueddu i weithio'n dda gyda'i gilydd.  Mae angen gwella cydweithrediad sefydliadau trydydd sector pan fyddant yn gweithio tuag at yr un amcanion neu ganlyniadau.

   Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)

   Mae angen i ragor o fentrau geisio cynnwys trawstoriad o'r gymuned yn hytrach na BAME/ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn unig er enghraifft, gan y byddai hyn yn parhau i wahanu pobl

   Dylid canolbwyntio ar sefydliadau sy'n gweithio gyda'i gilydd â'r nod o chwalu rhwystrau a gwella cydlyniant cymunedol.

   Mae Pride Abertawe'n cynnal digwyddiad cadarnhaol a phleserus.

·         Amcanion cenedlaethol ac enghreifftiau lleol yn Abertawe

   Ymgyrchoedd radio ar thema Diogelwch Cymunedol.  Negeseuon misol am ddiogelwch cymunedol, gyda Heart Radio ar hyn o bryd.

   Wythnosau ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb/Gwrthgaethwasiaeth/ LGBT

   Digwyddiadau a hyfforddiant ymwybyddiaeth o Sipsiwn a Theithwyr a Masnachu Pobl

   Gweithdy cynyddu ymwybyddiaeth o PREVENT

·         Trafod â chynghorwyr ward a'r math o waith cefnogi a chynnwys sydd ar gael

   Cynnwys pobl mewn rhaglenni cyflogadwyedd lleol

   Briffio aelodau ward ar gyflogadwyedd (wardiau Cymunedau'n Gyntaf)

   Cyfarfodydd PACT

   Briffio Aelodau'r Cabinet un-i-un

   Byddai hyfforddiant Camau Bach yn ddefnyddiol i gynghorwyr (bydd Jane Whitmore yn holi er mwyn darganfod a all Llywodraeth Cymru ddychwelyd a chynnal rhagor o sesiynau yn Abertawe

   Cytunodd y gweithgor y gellid gwneud mwy gyda chynghorwyr gan gynnwys:  Sut y gellir gwella cydlyniant cymunedol trwy gynnwys cynghorwyr wardiau lleol

§  Gall cynghorwyr fod yn hyrwyddwyr cydlyniant cymunedol yn eu cymunedau

§  Mae angen ffyrdd ymarferol o wneud hyn, er enghraifft cael mynediad i wybodaeth am chwalu chwedlau a'i defnyddio

§  Gallent helpu i gyfleu negeseuon i gymunedau, a chanddynt hefyd

§  Mynediad i wybodaeth/sesiwn ddatblygu am wrthgaethwasiaeth, er enghraifft.  Efallai y gellid cynnal sesiynau wyneb yn wyneb yn ogystal â'r rhai sydd ar-lein?

·         Llwyddiannau allweddol wrth brif ffrydio cydlyniant cymunedol, ac esiamplau sy'n llesol i'r preswylwyr lleol/cymunedau

   Cydweithio rhwng yr awdurdod lleol a Heddlu De Cymru ar weithwyr rhyw

   Cynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg ar gyfer pobl sy'n ddiamddiffyn ar y stryd.  Gall yr Heddlu arwain hyn. Byddai'r Heddlu'n casglu gwybodaeth am y rhai sy'n ddiamddiffyn ac yn achosi problemau yng nghanol dinasoedd.  Gellir trafod y rhai a nodir yn y gynhadledd er mwyn dod o hyd i'w gwendidau a gobeithio gwella'r materion hyn yng nghanol y dref.  Nid yw arestio bob tro'n helpu'r bobl hyn, felly mae angen gwneud pethau'n DDOETHACH.  Mae'n well i ymateb i broblemau sylfaenol yr unigolion lle y bo'n bosibl.

   Menter ar y cyd gan fyfyrwyr a phreswylwyr yn Brynmill

   Ymwybyddiaeth gynyddol o Wrthgaethwasiaeth a Masnachu Pobl

   Mae gan y Rhaglen Adsefydlu Syriaid linyn cyflogaeth sy'n rhan o brosiect Gweithffyrdd

 

4.

Camau Nesaf

Bydd y gweithgor yn trafod, yn dod i gasgliadau ac yn gwneud argymhellion a gaiff eu rhoi mewn llythyr at Aelod y Cabinet dros Gymunedau Cryfach.

Cofnodion:

 

Anfonir llythyr at Aelodau'r Cabinet dros Gymunedau Gwell sy'n dangos barn ac argymhellion y gweithgor.

 

Lythyr at Aerod y Cabinet pdf eicon PDF 107 KB

Llythyr Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 303 KB