Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Craffu 637732 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

2.

Trosolwg Cynllunio ar gyfer Argyfyngau a Chydnerthedd pdf eicon PDF 96 KB

·         Craig Gimblett - Rheolwr Iechyd, Diogelwch, Rheoli mewn Argyfwng a Lles Corfforaethol

 

 

Cofnodion:

  • Daeth Craig Gimblett, Rheolwr Iechyd, Diogelwch, Argyfyngau a Lles Corfforaethol, i roi trosolwg i'r panel yn ogystal â'r diweddaraf am ei wasanaeth. 
  • Nododd aelodau'r panel eu siom bod yr hen Gydbwyllgor Cydnerthu gyda Chastell-nedd Port Talbot wedi cael ei ddiddymu heb ymgynghoriad
  • Roedd y panel o'r farn y dylai pwyllgor fod ar waith i ymwneud â phwnc mor bwysig
  • Nododd Craig fod gan Abertawe heriau gwahanol o ran perygl
  • Mae Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn rhannu rhai gwasanaethau a byddai'r ddau'n cynorthwyo ei gilydd mewn argyfwng
  • Mae'r adran yn cyflawni amrywiaeth o weithgareddau bwrdd gwaith ac ymarferol
  • Mae'r adran yn cydgysylltu â Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru a Heddlu De Cymru ac mae ganddi berthnasoedd da â rhanddeiliaid eraill
  • Petai digwyddiad, byddai'r adran yn cefnogi gwasanaethau argyfwng eraill a byddai ganddi bresenoldeb amlwg yn y gymuned
  • Mae'r adran hefyd yn cynllunio ac yn asesu peryglon parhaus a newydd
  • Gwneir peth buddsoddiad di-oed yn yr adran er mwyn hwyluso symudiadau a chyfarpar newydd ond cyllideb fach ydyw ar y cyfan
  • Trafodwyd sut caiff gwybodaeth ei dosbarthu i gynghorwyr o ran yr hyn i'w wneud mewn argyfwng. Nid yw rhai cynghorwyr wedi cael unrhyw wybodaeth o gwbl
  • Trafodwyd cynlluniau Abertawe ynglŷn â pharhad busnes petai digwyddiad
  • Dywedodd Craig wrth y panel am ychydig o'r gwaith sydd wedi cael ei wneud gydag ysgolion, ceidwaid nos a staff canol y ddinas
  • Cafodd gwybodaeth am reoli argyfyngau a chydnerthu ei dosbarthu i gynghorwyr yn flaenorol ond nid yw wedi cael ei hanfon at bob cynghorydd fel trefniad safonol
  • Disgwylir i'r Ddyletswydd Argyfyngau Sifil Posib gael ei datganoli i Lywodraeth Cymru ar 1 Ebrill 2018. Gallai hyn effeithio ar gymorth ariannol ar gyfer digwyddiadau, ond bydd mwy o wybodaeth ar gael yn ddiweddarach
  • Trafododd cynghorwyr faterion ac argymhellion arfaethedig

 

3.

Trafodaeth a Chwestiynau

Cofnodion:

Bu’r Cynghorwyr yn trafod materion ac yn cynnig argymhellion

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 114 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 109 KB