Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Media
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
Ni ddatgelwyd
unrhyw fuddiannau.
|
2. |
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni wnaethpwyd unrhyw
ddatganiadau.
|
3. |
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 326 KB
Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno
eu bod yn gofnod
cywir.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Ystyriodd y Panel lythyrau a chofnodion o gyfarfodydd blaenorol a chytunodd ar gofnodion
y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 27 Ionawr, 2020 a 18 Chwefror 2020 fel cofnod cywir.
|
4. |
Cwestiynau gan y cyhoedd
Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd
ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag
eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.
Cofnodion:
Ni ofynnwyd
unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd.
|
5. |
Adroddiad Diweddaraf am y Prosiect PDF 210 KB
Gwahodd i
fynychu:
Y Cyng. Rob
Stewart - Aelod y Cabinet dros
yr Economi a Strategaeth (Arweinydd)
Phil Homes – Pennaeth Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas
Huw Mowbray - Gwasanaeth Adfywio Economaidd A Chynllunio
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddodd Huw
Mowbray, y Rheolwr Datblygu Eiddo, y diweddaraf i'r panel ynghylch y prosiectau
adfywio yn Abertawe. Roedd Aelod y Cabinet
dros yr Economi a Strategaeth (Arweinydd), y Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r
Ddinas a'r Prif Swyddog Ariannol hefyd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon ac
atebon nhw gwestiynau'r Panel.
Abertawe
Ganolog - Cam 1
- Cafodd y Panel eglurhad bod tocynnau ATG yn
gwerthu'n dda ar gyfer cyngherddau mewn lleoliadau eraill ledled y byd.
- Mae Cairns, datblygwr y gwesty penodedig, yn
ddatblygwr gwestai mawr yn y DU ac yn fuddsoddwr sy'n berchen ar 40 gwesty
arwyddocaol ledled y DU.
- Mae gwaith dur yr arena, craidd preswyl ochr
y gogledd a'r maes parcio aml lawr wedi'u cwblhau. Gofynnodd y Panel am ddelweddau.
- Holodd y panel a ellid trefnu ymweliad i
safle'r arena. Wedi cadarnhau y
gellir trefnu hyn maes o law.
- Mae cais Cairns am arian grant i Croeso Cymru
yn parhau. Mae'r cyngor yn
gobeithio cwrdd â Cairns a Llywodraeth Cymru'r wythnos nesaf i
drafod. O dan y rheoliadau
presennol, ni all y cyngor adeiladu'r gwesty ei hun.
- Holodd y Panel nifer a math yr unedau
masnachol a fydd yn yr ardal o amgylch yr arena.
- Ymgymerwyd â'r broses dendro lawn ar gyfer
dod o hyd i ddatblygwr gwesty.
Derbyniwyd pedwar i bump o geisiadau cystadleuol.
- Panel yn holi a ymgynghorwyd â thrigolion y
marina ynghylch lleoliad datblygiad y gwesty? Mae safle gwesty hysbysedig wedi'i symud o ganlyniad i adborth gan
breswylwyr y marina.
- Cadarnhad nad oes angen cwblhau'r arena cyn
i'r gwaith o adeiladu gwesty ddechrau ond mae angen iddi gyrraedd pwynt
penodol, felly bydd y gwaith i adeiladu'r gwesty'n dechrau rywbryd y
flwyddyn nesaf.
- Holodd y Panel ynghylch effaith pandemig COVID-19 ar y cyflenwad. Cafwyd gwybod bod
rhai problemau o ran cyflenwad concrit a gweithio gyda choncrit (oherwydd
y rheoliadau cadw pellter cymdeithasol), gan achosi oedi o 4 i 6
wythnos. Yn gyffredinol, ychydig
iawn o effaith a gafwyd.
- Holodd y Panel am berfformiad sefyllfa
gyllidebol Cam 1 a dywedwyd wrthynt fod y gwariant o fewn terfynau.
Gogledd
Abertawe Ganolog
- Holodd y panel a yw'r adroddiad sy'n dod i'r
Cabinet yn ddiweddarach yn y flwyddyn ar y Ganolfan Ddinesig yn
gysylltiedig â hyn. Cafwyd
cadarnhad ei fod. Mae'r amserlen ar
gyfer symud o'r Ganolfan Ddinesig yn dibynnu ar yr amserlen ar gyfer y
bloc swyddfeydd arfaethedig.
- Mae'r bloc swyddfeydd arfaethedig yn rhan o
gynllun cam dau. Byddai'n cael ei
feddiannu'n rhannol gan y cyngor ac yn rhannol gan Lywodraeth y DU. Y nod
yw trosglwyddo swyddi o safon o Lundain a rhannau eraill o'r DU i
Abertawe.
- Mae opsiynau ar gyfer ariannu ar hyn o bryd –
yr opsiwn a ffefrir fyddai i ddatblygwr
ariannu'r prosiect, os nad yw hyn yn bosib byddai'r cyngor yn gwneud
hynny. Nid yw swm y benthyca sydd ei angen yn hysbys eto ond y bwriad yw y
bydd incwm yn talu am y gost fenthyca.
- Mynegodd nifer o adrannau'r llywodraeth
ddiddordeb mewn lleoli canolfannau yn Abertawe. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei rhoi i'r
Panel.
Ffordd y
Brenin - Isadeiledd a Mannau Cyhoeddus
- Isadeiledd gwyrdd yw plannu a mannau
glaswelltog yn bennaf. Mae'r cyngor yn annog datblygiadau yno i gael
waliau gwyrdd. Hefyd gwelliannau i fannau cyhoeddus
- Roedd difrod i ardaloedd gwyrdd yn nyddiau
cynnar y prosiect yn bennaf. Bydd
yn rhaid i'r contractwr wneud iawn am unrhyw ddifrod a wneir i fannau
gwyrdd a chael gwared ar unrhyw goed marw o dan y gyfundrefn cynnal a
chadw.
- Bydd y cyngor yn parhau i gyflwyno ceisiadau
am isadeiledd gwyrdd.
- Traffig – arwyddion cychwynnol bod y system
yn gweithio'n dda ac yn dosbarthu traffig.
- Cadarnhaodd Aelod y Cabinet dros Economi a
Strategaeth nad ydym ar bwynt lle gallwn ddarparu canol y ddinas heb
geir. Bydd y cyngor yn parhau i
fuddsoddi mewn strategaeth gwefru trydan a datblygu gwaith SW metro ac annog mathau eraill o drafnidiaeth.
Ffordd y
Brenin - Strategaeth a Phentref Digidol
- Holodd y panel am yr angen am swyddfeydd
ychwanegol o ystyried faint o swyddfeydd gwag sydd yn Abertawe ar hyn o
bryd a'r effaith yr oedd Coronafeirws yn ei
chael o ran rhagor o weithio gartref.
- Holodd y panel ynghylch cyfradd
meddiannaeth swyddfeydd er mwyn ei gwneud
yn hyfyw i adeiladu. Hysbyswyd bod
y pandemig wedi effeithio ar nifer y tenantiaid
sy'n llenwi swyddfeydd ond mae llawer o ddiddordeb. Mae trafodaeth yn mynd rhagddi.
Adroddiad terfynol i'r Cabinet ym mis Hydref/Tachwedd ar gyfer penderfynu
ar fwrw ymlaen â'r gwaith adeiladu.
- Bydd yn un o'r ychydig adeiladau yn y DU a
fydd yn gwrthsefyll y pandemig
- Ar hyn o bryd, mae'r cynllun o fewn y
gyllideb ar gyfer yr hyn sy'n hysbys ar hyn o bryd.
Marchnata
Safleoedd Strategol yng nghanol y ddinas
- Aeth y lansiad yn dda. Llawer o ddiddordeb a
fydd, gobeithio, yn arwain at geisiadau ffurfiol.
- Asesiadau Canlyniadau Llifogydd –
Cydymffurfio â pholisïau Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r Panel yn teimlo bod y meddylfryd
hirdymor hwn yn galonogol.
- Diweddaru Safonau Parcio – mae hyn yn edrych
ar ddulliau parcio priodol ar gyfer canol y ddinas a sut mae'n cysylltu â
thrafnidiaeth gyhoeddus er mwyn sicrhau ei fod yn addas at y diben. Bydd
angen cynllun trafnidiaeth yn y dyfodol.
- Mae saith safle yn y broses gaffael ar hyn o
bryd. Chwilio am un partner neu
gonsortiwm o bartneriaid.
Safleoedd
Strategol a Throsolwg o'r Prosiect
- Wind Street – mae sawl
llety a holodd y Panel a ymgynghorwyd â thenantiaid anabl i sicrhau bod
datblygiadau'n gydnaws â'u hanghenion.
Hysbyswyd y bydd yr un broses yn cael ei chynnal ar gyfer Ffordd y
Brenin gan gynnwys ymgynghori â grwpiau anabledd a Coastal
Housing fel landlord
- Gwaith Copr yr Hafod – Dylid cwblhau'r
adeilad o fewn 12 mis ac mae'n debyg y bydd 18 mis cyn iddo agor. Cadarnhad i'w ddarparu ar nifer y swyddi
a gaiff eu creu.
- Bro Tawe - Gofynnodd y Panel am ragor o
wybodaeth am fesurau lliniaru a'r hyn sy'n gysylltiedig â datblygu cynllun
rheoli bywyd gwyllt. Trafodaeth
uniongyrchol i'w chynnal rhwng y Cynghorydd Peter Jones ac aelod o dîm
Rheolwr Datblygu'r Prosiect.
- Felindre – Panel yn siomedig mai dim ond un
busnes sy'n gweithredu o'r safle hwn o hyd o ystyried y buddsoddiad
sylweddol. Mae cwmni allanol yn
cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i farchnata'r safle. Mae angen adolygu'r strategaeth
farchnata. Panel i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am farchnata'r safle
hwn.
- Mae nifer o safleoedd yn bwysig fel safleoedd
hanesyddol, er enghraifft Sgwâr y Castell a Gwaith Copr yr Hafod. Hoffai'r Panel weld digon o fyrddau dehongli ar y safle ar gyfer y cynlluniau
hyn. Cytunodd y Rheolwr Datblygu
Eiddo ystyried yr awgrym hwn.
- Mae'r gyllideb yn ymddangos yn wyrdd ar gyfer
pob cynllun ond maent yn y cam dichonoldeb ar hyn o bryd. Nid yw'r gwaith
o'u hadeiladu yn cael ei ariannu ar hyn o bryd a bydd yn benderfyniad i'r
Cabinet a'r Cyngor maes o law.
Camau Gweithredu:
- Delweddau o'r arena, rhan breswyl ochr y
gogledd a'r maes parcio aml lawr i'w dosbarthu i'r Panel
- Trefnu i'r Panel ymweld â safle'r arena
unwaith y bydd dyddiadau posib yn cael eu darparu ac y bydd yn ddiogel i
wneud hynny.
- Gwybodaeth am adrannau'r llywodraeth sydd â
diddordeb mewn lleoli canolfannau yn Abertawe a nifer y swyddi sydd i'w
trosglwyddo i Abertawe i'w darparu i'r Panel.
- Manylion am nifer y swyddi sydd i'w creu yn y
distyllfa i'w dosbarthu i'r Panel
- Y Cynghorydd Peter Jones i gael trafodaeth
uniongyrchol ag aelod o dîm y Rheolwr Datblygu Eiddo ynghylch Bro Tawe.
|
|
Lythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 14 Medi 2020) PDF 190 KB
|
|
Ymateb Aelod y Cabinet PDF 579 KB
Dogfennau ychwanegol:
|