Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 637732 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

  • Y Cynghorydd Paxton Hood-Williams yw Cadeirydd y Fforwm Mynediad Lleol. Mae'n ymwneud ag Eitem 5 ac Eitem 6.

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 111 KB

Cymeradwyo a llofnodifel cofnod cywirgofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Cymeradwywyd

 

4.

Adroddiad Diweddaraf am y Prosiect pdf eicon PDF 104 KB

·          Phil Homes – Pennaeth Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas

·          Huw Mowbray -  Gwasanaeth Adfywio Economaidd A Chynllunio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cam 1

  • Mae'r achosion busnes yn symud tuag at y cam cyllid
  • Mae llawer o waith yn cael ei wneud i gael prisiau terfynol
  • Aros am gynigion am y gwesty
  • Mae gan ATG y dyluniadau terfynol i'w cymeradwyo
  • Wedi bod mewn trafodaeth am gysylltiad BT ers y diwrnod cyntaf yr oeddent ar agor - lefel uchel o gysylltedd
  • Mwy o leoedd i bobl anabl ar y cynllun
  • Disgwylir yr amodau a thelerau safonol yn fuan
  • Ni fydd FPR7 yn mynd i'r Cabinet nes y cwblheir amodau a thelerau'r llythyr cynnig
  • Eir ati i graffu cyn penderfynu ar FPR7 cyn cyfarfod y Cabinet

 

Cam 2

  • Edrych ar yr hyn y gellir ei ddarparu ar ôl yr Arena - catalydd
  • Mae cyfarfodydd yn helpu sefydliadau'r sector cyhoeddus gyda syniadau ynghylch canolfannau'r sector cyhoeddus
  • Edrych ar fwyd/ddiod/hamdden i greu mannau preswyl a chyhoeddus
  • Rhan o gymeradwyaeth ariannol sydd eisoes yn bodoli - ceisio hyrwyddo buddsoddiad yng nghanol y ddinas
  • Pryderon y bydd cystadleuaeth o gwmnïau manwerthu y tu allan i'r dref a'r gwaith yng nghanol y ddinas yn atal llwyddiant
  • Mae'n rhaid creu man cyhoeddus cryf i annog pobl
  • Ceisio newid patrwm, defnydd a swyddogaethau mannau
  • Bydd y meysydd parcio newydd yng nghanol y ddinas o'r radd flaenaf
  • Mae Abertawe hefyd yn cynnig twristiaeth a digwyddiadau, nid canol dinas yn unig

 

Ffordd y Brenin

  • Gwaith yn datblygu, yn penodi ar hyn o bryd
  • Mae'r cyngor wedi bod yn cadw'r ardal yn ddiogel ac yn gweithio ar y safle yn y cyfamser
  • Mwy cymhleth y tro hwn gan fod y gwaith wedi'i orffen yn rhannol ac felly mae'n rhaid i'r contractwr newydd ymgymryd â'r gwaith hwnnw
  • Lleihawyd yr effaith ariannol o ganlyniad i'r cytundeb bond ariannol
  • Mae'r cynllun gwreiddiol yn aros
  • Disgwylir dyddiad cwblhau yn fuan
  • Nid oes disgwyl i'r cyngor fod yn gyfrifol am ddyledion Dawnus
  • Mae lle ar gyfer mannau caeëdig yn broblem gyffredinol
  • Nid yw Ffordd y Brenin yn effeithio ar y pentref digidol

 

Marchnata Safleoedd Strategol

  • Edrych ar bartneriaethau a chyfleoedd i ysgogi adfywio
  • Mae'r golled ariannol i'r cyngor yn gyfyngedig

 

Safleoedd Strategol

  • Cynnydd yn cael ei wneud o ran cynigion Sgwâr y Castell a Stryd y Gwynt
  • Mae'n rhaid cynnwys costau cynnal a chadw ar gyfer prosiectau yn y cyllidebau
  • Bydd gan adroddiad FPR7 adroddiad a ariennir yn llawn gyda chostau cynnal a chadw gwyrdd a chynnal a chadw adeiladu ar gyfer prosiectau
  • Mae angen cynyddu cyllideb glanhau canol y ddinas ynghyd â'r datblygiad
  • Mae safle gorsaf drenau Felindre'n cael ei drafod - diffyg isadeiledd
  • Croesewir buddsoddiad mewn dulliau cludiant cywir
  • Mae angen cefnogaeth yr holl ddarparwyr ar unrhyw brosiect.

 

Coridor Tawe

·         Uwchgynllun newydd ar gyfer y gwaith copr

·         Mae Prosiect Skyline yn datblygu

·         Mae angen sicrhau bod mynedfeydd i'r llwybrau cerdded yn eu lle

 

Arall

  • Aros am y diweddaraf am Theatr y Palace a Neuadd Albert

 

5.

Y Diweddaraf am Briffyrdd a Thrafnidiaeth pdf eicon PDF 130 KB

Y diweddaraf am strategaethau priffyrdd a thrafnidiaeth sy’n gysylltiedig â datblygiad canol y ddinas

 

·         Cynghor Mark Thomas - Aelod y Cabinet - Rheoli’r Amgylchedd ac Isadeiledd

·         Stuart Davies – Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth

Cofnodion:

  • Bydd y Cynllun Trafnidiaeth Lleol yn cael ei adolygu dros 12 mis
  • Rydym yn disgwyl Strategaeth Trafnidiaeth gan Lywodraeth Cymru
  • Hyrwyddo teithio llesol yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
  • Prosiectau'r model trafnidiaeth strategol a rhwydweithiau traffig ac effaith
  • Mae gwelliannau telematig yn lleihau oedi
  • Mae angen amserlenni effeithiol ar gyfer y rhwydwaith bysus
  • Gweithio'n agos gyda'r adran adfywio
  • Mae 26-30% yn llai o draffig yn yr Hafod o ganlyniad i'r ffordd ddosbarthu
  • 20% yn llai o garbon monocsid ar hen Heol Castell-nedd - rydym yn gobeithio lleihau'r targedau hyd yn oed yn fwy
  • Grantiau teithio llesol gan LlC - bellach yn edrych ar grantiau i gysylltu pobl â chanolfannau cyflogaeth, byddwn yn lobïo er mwyn cael llwybrau hamdden hefyd - roedd craffu ar dwristiaeth wedi cynnig llwybr hamdden ym Mhenryn Gŵyr
  • Mae cyflwyno ceisiadau am grant yn cymryd llawer o amser ac mae angen dargyfeirio adnoddau gyda chyllidebau sy'n lleihau
  • Mae grantiau'n gofyn am wariant mewn cyfnodau byr - nid yw hyn bob amser yn realistig
  • Mae angen cymryd camau radical i wella ansawdd aer
  • Ystyried gwella'r gwasanaeth parcio a theithio
  • Edrych ar system Metro Bae Abertawe, mae angen tyfu a gwella cludiant cyhoeddus
  • Cwblhau'r strategaeth parcio ceir
  • Mae angen cydbwysedd wrth annog nifer yr ymwelwyr yng nghanol y ddinas a chadw ceir allan o ganol y ddinas
  • Mae ceir trydan yn lleihau allyriadau ond nid tagfeydd
  • Edrych ar gysylltu cymunedau ac integreiddio gyda theithio llesol
  • Er bod SWITCH wedi dod i ben mae'r 4 awdurdod yn cydweithio o hyd
  • Mae'r ddogfen ymgynghori yn dweud bod yr anghenion yn cael eu bodloni orau trwy drenau a bysus
  • Caiff Dyfaty ei ddominyddu gan gerbydau ac nad yw'n cydweddu â model y dyfodol - ni fyddai beicwyr yn ei ddefnyddio
  • Mae rhai o'r trafodaethau a'r pynciau wedi cael eu trafod ers blynyddoedd lawer
  • Roedd ffocws y Fargen Ddinesig yn ymwneud â thechnoleg drawsnewidiol ond mae cydnabod pwysigrwydd trafnidiaeth yn flaenoriaeth

 

 

6.

Cynllun Gwaith 2019/20 pdf eicon PDF 48 KB

Cofnodion:

·         Gwahodd Swyddog Adran 151 i'r cyfarfod nesaf

 

Llythyr at Aelod y Cabinet - Economi a Strategaeth pdf eicon PDF 328 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd pdf eicon PDF 160 KB