Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Scrutiny 636292
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
|
2. |
Cwestiynau gan y Cyhoedd
·
Rhaid i gwestiynau ymwneud
â materion yn rhan agored agenda'r
cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod
o 10 munud.
Cofnodion:
·
Gofynnodd
Mr Colin Jones am fforddadwyedd a chwestiynodd hygyrchedd
y broses ariannol
·
Esboniodd
y Cynghorydd Rob Stewart fod adroddiadau am gyllid yn cael eu cyhoeddi a gellir
cael mynediad at yr wybodaeth ar unrhyw adeg ar-lein a thrwy fynd i gyfarfodydd
cyhoeddus
|
3. |
Diweddariad ar Gam 1 Cynllun Abertawe Ganolog a'r FPR7 PDF 106 KB
·
Rob Stewart – Aelod y Cabinet - Economi a Strategaeth (Arweinydd)
·
Ben Smith - Pennaeth Gwasanaethau Ariannol a’r Ganolfan Wasanaeth
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
- Nid oedd yr achos busnes
wedi cael ei gymeradwyo er gwaethaf addewidion y byddai'n cael ei gymeradwyo
ym mis Mehefin a mis Hydref. Nododd y pwyllgor y byddai'n cael ei
gymeradwyo'n gynnar ym mis Rhagfyr.
- Mae'r adroddiad yn egluro
rhai o'r goblygiadau ariannol
- Yn ôl yr adroddiad roedd
yn fforddiadwy ond byddai aelodau'n wynebu penderfyniadau anodd ar
gyllidebau'r dyfodol ynghylch yr effaith bosib ar wasanaethau eraill.
- Angen elfen o gymhorthdal
gan y sector cyhoeddus
- Mae risgiau'n hysbys ac
yn bosib eu rheoli
- Bydd cyfle i graffu fel
bydd y broses yn mynd rhagddi
- Gobeithio bydd achos
busnes y Fargen Ddinesig yn cael ei gymeradwyo'n gynnar ym mis Rhagfyr
gydag arian yn llifo wedyn
- Bydd yr arian yn mynd i'r
swyddfa ranbarthol (Sir Gâr) ac yna i'r prosiectau a gymeradwywyd
- Gweithdrefnau llym ar
waith i gynnal safon ac amserlenni gan gynnwys fframwaith Y Tu Hwnt i
Frics a Morter
- Mae rhai cymariaethau â
dinasoedd mwy yn annheg gan fod meintiau poblogaeth a gwerth ychwanegol
crynswth yn wahanol iawn
- Mae'r Fargen Ddinesig yn
gatalydd - gyda'r nod o greu prosiectau a chyfleoedd yn y dyfodol.
- Mae mwy o fyfyrwyr yng
nghanol y ddinas yn rhyddhau ardaloedd cyfagos o dai amlfeddiannaeth.
- Cynlluniwyd peth llety
preifat er mwyn helpu i ysgogi bwytai a siopau
- Mae bioamrywiaeth ac
isadeiledd gwyrdd yn agweddau pwysig iawn ar y datblygiad
- Pont newydd fwy addas
sy'n cydymffurfio â'r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd
- Y bwriad yw cau'r bwlch
rhwng perfformiad ariannol rhanbarthol
- Anhawster os nad yw'r
arena yn gwneud elw - risg ariannol fawr. Pryderon am gystadleuaeth a
dichonoldeb yr arena
- Bydd costau ariannu
cyfalaf yn cynyddu ond y gobaith yw cyfyngu'r effaith ar wasanaethau rheng
flaen
- Cwestiynau ynghylch fforddadwyedd
- Eglurdeb o ran union
leoliad yr arena.
·
Mae'r Fargen Ddinesig yn cyfrannu £22.5 miliwn dros 15 mlynedd ac felly
mae'n gyfrannwr ariannol bach at y prosiect adeiladu gwerth £130 miliwn i'w
gwblhau yn 21/22
|
4. |
Gwahardd y cyhoedd PDF 112 KB
|
5. |
Diweddariad ar Gam 1 Cynllun Abertawe Ganolog a'r FPR7
- Rob Stewart – Aelod y
Cabinet - Economi a Strategaeth
(Arweinydd)
- Ben Smith - Pennaeth Gwasanaethau Ariannol a’r Ganolfan Wasanaeth
Cofnodion:
·
Trafodwyd
yr eitemau eithriedig
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet PDF 98 KB
|
|
Ymateb gan Aelod y Cabinet PDF 308 KB
|