Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Scrutiny 636292
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: · Dim |
|
To approve & sign the Notes of the previous meeting(s) as a correct record. Cofnodion: · Cymeradwywyd |
|
Adroddiad Diweddaraf am y Prosiect PDF 214 KB · Huw Mowbray - Gwasanaeth Adfywio Economaidd A Chynllunio Cofnodion: · Ychydig o fanylion technegol yn cael eu hystyried ar gyfer dyluniadau cynlluniau yn Abertawe Ganolog - Cam 1 · Datrys materion 'hawl i oleuo' ar gyfer preswylwyr y Marina · Gwella mynediad i'r Marina wrth symud ymlaen · Mae dau berson wedi gadael y tîm ac mae hyn yn effeithio ar adnoddau · Mae cynigion tai yn rhai Cymdeithas Tai · 13 o bartïon â diddordeb yn y gwesty - rhaid bod yn 4 seren · Bydd gan y bont newydd lethr graddol a bydd yn hygyrch iawn ac yn ganolbwynt yn y dylunio · Mae materion cyllidebol yn cael eu datrys ond bydd hon yn broses barhaus · Cynllun mawr sy'n cynnwys Y Tu Hwnt i Frics a Morter · Ffordd y Brenin yn symud ymlaen yn ôl y cynllun · Paratoi ar gyfer y dyfodol drwy ganiatáu gosod ceblau ffeibr optig · Ffordd y Brenin o fewn y gyllideb - ychydig o gyllid gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru · Awgrymu erthygl yn amlinellu ystyr 'arena ddigidol' er lles y cyhoedd · Awgrymu edrych ar Safonau Gwydnwch y Ddinas · Bydd Isadeiledd Gwyrdd yn ffurfio rhan o'r cynllun - mae creu awyrgylch ac amrywiaeth yn hanfodol · CNC yn arwain ar bolisi Isadeiledd Gwyrdd · Un o fanteision Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol · Creu cysylltiad newydd â Stryd Rhydychen ger hen safle Oceana · Dylid edrych ar strategaeth gosod yr adeilad yn ei chyfanrwydd · Angen strategaeth cylch oes ar gyfer busnesau yn Abertawe · Aros am ymateb ar achos busnes gan y llywodraeth · Mae'r cyngor yn benthyca arian ymlaen llaw er mwyn i'r prosiectau gael eu rhoi ar waith · Mae'r Fargen Ddinesig yn fecanwaith er mwyn darparu blaenoriaethau · Yr amserlen ar gyfer cyflawni'r gwaith yw 2020 a'r arena yn 2021 · Cysylltiad posib trwy'r arcêd sydd eisoes yn bodoli i'r pentref digidol - risg posib i'r siopau presennol · Prosiect Skyline yn symud ymlaen · Mae Cyngor Abertawe'n darparu gwasanaethau i ffiniau'r prosiect · Dim trafodaeth eto gyda Dug Beaufort dros ffïoedd ar gyfer mynediad · Rhai materion o ran perygl llifogydd sydd bellach yn cael eu hystyried gan CNC · Bydd yr ystlumod yn yr adeilad Gwaith Copr presennol yn cael eu hailgartrefu'n briodol mewn tai ystlumod cyn bydd unrhyw waith yn cael ei wneud - hefyd yn ystyried materion goleuo yma · Datrys materion carthffosiaeth ar gyfer Penderyn - bydd datblygiad mwy ar y safle yn gofyn am waith carthffosiaeth pellach · Mae gan Skyline gynrychiolwyr amgylcheddol da · Disgwyl Ch1 2019 ar gyfer apwyntiad Sgwâr y Castell · Wedi trafod prydlesi ar gyfer Felindre a ddylai annog datblygu pellach · Creu swyddi a bydd dyluniad yr adeilad o safon · Bydd meysydd parcio tymor hir yn aros i ddechrau ond yn cael eu symud os bydd y safle yn datblygu yn y dyfodol · Wedi derbyn cais cynllunio Felindre |
|
Datblygiad Penderyn - Trosolwg PDF 138 KB · Paul Relf - Rheolwr Datblygiad Economaidd a Chyllid Allanol Cofnodion: · Roedd copr yn rhan bwysig o ddatblygiad Abertawe · Nifer o adeiladau rhestredig Gradd 2 ar y safle · Mae waliau adeilad y Tŷ Pŵer mewn cyflwr da ac yn gallu cael eu hadfer · Mae'r Cynllun Menter Treftadaeth yn ariannu'r diffyg cadwraeth ar yr adeilad a disgwylir i breswylydd preifat fod ar y safle · Catalydd i ddatblygu adeiladau eraill · Aros am gadarnhad ynghylch cyllid · Dylai greu swyddi - 19.5 o swyddi · Distyllfa weithredol, siop, ardal arddangos, storfa casgenni a dosbarthiadau meistr ar gael · Arian cyfatebol gan y cyngor ar waith · Ar y safle ddechrau Hydref 2019 · Bu perchnogion Penderyn yn ymwybodol o'r safle ers cryn amser · Bydd angen elfen fasnachol er mwyn cynnal y prosiect · Cyfrannodd y cyngor £1.7m i'r cynllun a chodir tâl ar ymwelwyr sy'n ymweld â'r cyfleuster. Cytunir ar amrywiaeth y taliadau rhwng Penderyn a'r awdurdod lleol |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 57 KB Cofnodion: · Eitemau archwilio i'w cynnwys ar ôl i'r adroddiad fynd at Bwyllgor y Rhaglen Graffu |
|
Datblygiad Penderyn - Trosolwg · Paul Relf - Rheolwr Datblygiad Economaidd a Chyllid Allanol Cofnodion: ·
Trafodwyd yr eitemau eithriedig |
|