Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Scrutiny 637732
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim |
|
Cofnodion: Trafododd y Cynullydd rôl y panel a nodwyd y Cylch Gorchwyl, fel y'i pennwyd gan y Pwyllgor Craffu. |
|
Phil Holmes - Pennaeth Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas Cofnodion: Rhoddodd Phil Holmes, Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, drosolwg o'r
gwasanaeth. Rhododd wybodaeth i’r panel am strwythur, cyllid a pherfformiad y
gwasanaeth a phrosiectau sydd ar y gweill. Amlinellodd hefyd ei rôl yn y
gwasanaeth a sut mae ei staff a'r timau yn cysylltu â meysydd gwaith penodol. Cyfeiriodd at nifer o brosiectau datblygu ac adfywio. ·
Bargen Ddinesig Bae
Abertawe ·
Abertawe Ganolog
(Cynllun Ailddatblygu Canol y Ddinas) ·
Ardal Ddigidol Ffordd y
Brenin ·
Gwaith Copr yr
Hafod-Morfa Cyfeiriodd hefyd at welliannau o ran: ·
Tîm Rheolaeth Canol y
Ddinas ·
Prosiectau Cronfa
Gymdeithasol Ewrop ·
Cynllun Ynni a Menter
Gymunedol Abertawe ·
Rhaglen Partneriaeth
Tirwedd Gŵyr ·
Rhaglen Fuddsoddi Lleoedd
Llewyrchus Llawn Addewid ·
Cynlluniau Datblygu
Gwledig Pwyntiau allweddol a godwyd: ·
Mae'r prosiectau y
cyfeiriwyd atynt yn rhai blaenllaw ac yn effeithio'n uniongyrchol ar fywydau
pobl ·
Mae cyllideb cyfalaf yr
adran yn amrywio bob blwyddyn gan ddibynnu ar grantiau a'r incwm allanol a
gyflawnwyd ar gyfer y flwyddyn honno ·
Nod y prosiectau
datblygu ac adfywio yw dod â busnesau i Abertawe a'u cynnal. Roedd y Pennaeth Gwasanaeth yn falch iawn fod craffu'n edrych ar agenda mor
fawr a diddorol. Roedd cwestiynau aelodau'n canolbwyntio ar: ·
Effeithiau ariannol
Brexit ·
Mae dadansoddiad o
gyllid Cyngor Abertawe'n cyfrannu at y prosiectau, gan gynnwys y rhai
cydweithredol ·
Marchnata a hyrwyddo'r
prosiectau sy'n cael eu cyflawni ·
Gwybodaeth am yr
achosion busnes sy'n cael eu datblygu ar gyfer prosiectau unigol |
|
Cynllun Gwaith 2017/2018 PDF 55 KB Cofnodion: Trafodwyd cynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. I gefnogi ei rôl fonitro, cytunwyd y byddai'r panel yn canolbwyntio'n syth
ar sefydlu gwybodaeth am yr holl brosiectau mawr presennol i greu trosolwg o
ddatblygiad ac adfywio. Nodwyd y materion canlynol: ·
Byddai'r achosion busnes
yn rhan fawr o'r gwaith ·
Byddai cyfarfodydd y
dyfodol yn cynnwys tai ·
Bydd y cynllun gwaith yn
datblygu dros amser ·
Bydd agendâu'n datblygu
fel y bydd gwybodaeth ar gael. |