Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Swyddog Craffu 01792 636292
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Cofnodion: Cytunodd y Panel ar y cofnodion o
gyfarfodydd blaenorol. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan
aelodau'r cyhoedd. |
|
Adroddiad Archwilio Cymru - Adfywio Canol Trefi PDF 176 KB Gwahoddwyd: Y Cynghorydd Robert Francis-Davies – Aelod
y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth Paul Relf – Rheolwr Datblygu Economaidd a Chyllid Allanol Cofnodion: Roedd Robert Francis-Davies, Aelod y
Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth a Paul Relf, Rheolwr Datblygu
Economaidd a Chyllid Allanol yn bresennol i drafod yr eitem hon. Gwnaed y pwyntiau canlynol – ·
Mae
adroddiad Archwilio Cymru yn myfyrio ar nifer o ddegawdau ac yn nodi anghenion
a defnyddiau newidiol canol dinasoedd ar draws Cymru. Nid yw'r adroddiad yn
ymdrin ag unrhyw beth oedd yn anhysbys neu'n anghyfarwydd i Aelodau a
swyddogion y cyngor. ·
Mae'r
cynnydd yng nghanol dinas Abertawe yn gadarnhaol o'i gymharu â dinasoedd
eraill, ac mae uchelgais i Abertawe barhau i dyfu a datblygu. ·
Mae
mwy a mwy o gynlluniau yn y sector preifat gyda chyllid ychwanegol i lenwi'r
bwlch dichonoldeb a all fod yn gymysgedd o fenthyciadau a grantiau. Mae hyn yn
helpu i leihau risg a galluogi buddsoddiadau yn y sector preifat. ·
Mae
95% o'r busnesau yn Abertawe'n microfusnesau, sy'n
cael eu diffinio fel y busnesau hynny sy'n cyflogi llai na 250 o staff. ·
Mae
angen newid canol y ddinas dros amser ac mae cael y cydbwysedd iawn yn
allweddol. Wrth symud ymlaen bydd canol y ddinas yn darparu cymysgedd o
ddefnyddiau gyda mannau hyblyg y gellir eu newid wrth i anghenion newid. Mae
unedau llai wedi bod yn boblogaidd. Ychwanegwyd tai uwchben siopau gan ffurfio
cymunedau newydd a chynyddu masnach. ·
Mae
sianeli cyfathrebu gyda chyrff cyhoeddus yn bwysig gyda deialog ar draws pob
sector yn rhoi ystyriaeth i fframweithiau caffael, yn enwedig pan fo adnoddau'n
brin. Mae hyn yn caniatáu i benderfyniadau gael eu gwneud yn gyflym pan fo
angen. ·
Mae
canol y ddinas a'r canolfannau ardal yn gymwys am gymorth gan y grant creu
lleoedd ac i greu Cynllun Cynefin. Mae gan Gynlluniau Cynefin dempled y
cytunwyd arno ar gyfer llunio sy'n cymryd ymagwedd sy'n seiliedig ar weithredu. ·
Abertawe
yw'r defnyddiwr mwyaf o'r Gronfa Benthyciadau Canol Trefi yng Nghymru ·
Caiff
Cynlluniau Camau Gorfodi eu creu gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, sy'n
cefnogi penderfyniad cyn gorfodi. ·
Mae'r
Gronfa Adferiad Economaidd hefyd wedi bod yn ffynhonnell cyllid defnyddiol ac
mae'n cefnogi microfusnesau ar draws y sir. ·
Mae'r
adroddiad archwilio'n tynnu sylw at y ffaith nad yw'r Polisi Canol Trefi yn
Gyntaf wedi'i wreiddio'n llawn eto. Mae'r cyngor yn defnyddio Cynlluniau
Cynefin i dynnu holl wahanol linynnau'r polisi hwn at ei gilydd. Mae hon yn
daith barhaus i gadw'r holl bethau hyn yn gytbwys, i wrando ar yr hyn y mae
pobl am ei gael a symud pethau ymlaen i'r cyfeiriad cywir. ·
Archwiliad
Cymru Gyfan yw hwn, yr un cyntaf a gynhaliwyd ers tro yn y sector hwn. Byddai
cymariaethau yn erbyn Awdurdodau Lleol eraill mewn perthynas â'r archwiliad yn
ddefnyddiol ond nid ydynt ar gael. ·
Byddai
canllawiau a strategaeth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Awdurdodau Lleol yn
ddefnyddiol i liniaru'r ymagwedd anghyson ar draws Cymru, y sonnir amdano yn yr
Adroddiad Archwilio. · Mae'r
buddsoddiad sylweddol yn Abertawe yn unigryw ac mae angen ei drin felly, mae
angen newid mawr ac mae angen gwario llawer o arian i gyflawni hyn. |
|
Adroddiad Monitro Rhaglenni/Prosiectau Adfywio PDF 203 KB Gwahoddwyd: Y Cynghorydd Robert Francis-Davies – Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth
Phillip Holmes - Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas Huw Mowbray – Rheolwr Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisego Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad monitro
rheolaidd diweddaraf ar y rhaglen / prosiectau adfywio i'r Panel, ar gyfer
unrhyw sylwadau / safbwyntiau ar gynnydd a chyflawniadau. Rhoddodd Huw Mowbray,
Rheolwr Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisegol, ddiweddariadau perthnasol am y
canlynol: Bae Copr: · Mae
gwaith i nodi mân broblemau’n cael ei gwblhau ar hyn o bryd gyda chostau'n cael
eu talu gan y contractwr. · Mae
gwerthiant tocynnau yn yr Arena wedi cynyddu i dros 200,000. Mae gwerthiannau’n
gadarnhaol ac mae cynlluniau i ddod yn rhan o'r farchnad gynadleddau. · Mae
penderfyniadau'n parhau ar Floc y Gogledd, mewn perthynas â'r paent ar y gwaith
dur. · Mae’r lle
a ddelir gan y lleoliad yn amrywio gan ddibynnu ar nifer y bobl sy'n eistedd
neu'n sefyll. · Cafwyd
problemau ariannol gyda'r gwesty fodd bynnag mae ganddo ddatblygwr yn awr. Mae
benthyciad canol trefi wedi'i sicrhau i helpu i gyflwyno'r gwesty, a chaiff
adroddiad ei gyflwyno i'r Cabinet maes o law. · Bydd
gwestai eraill yn y ddinas yn helpu gwerthiannau tocynnau yn yr Arena yn y
dyfodol. Adnewyddwyd y Marriott yn ddiweddar hefyd. · Mae'r
bont newydd gyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr gynllunio. · Nodwyd
gwaith cynnal a chadw ar gyfer y parc chwarae ac rydym yn aros am adnoddau. Adfywio Abertawe:
· Gan y
bu’r cais i Gronfa Codi'r Gwastad yn aflwyddiannus, mae trafodaeth yn parhau â
Llywodraeth Cymru ynghylch ffynonellau ariannu eraill. Bydd rownd arall o
ymgeisio ar gyfer Cronfa Codi'r Gwastad. Gogledd Abertawe
Ganolog · Mae
sgyrsiau'n mynd rhagddynt gydag Urban Splash ynglŷn â'r rhaglen gyflawni a'r strategaeth ar
gyfer cam cyntaf y datblygiad. · Mae
trafodaethau'n mynd rhagddynt â Llywodraeth Cymru ynglŷn ag elfen fach o
gyllid llenwi bwlch lle byddai mwyafrif y cyllid yn cael ei ddarparu gan y
sector preifat drwy gwmni Urban Splash.
· Mae
ceisiadau i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a'r gronfa Trawsnewid Trefi hefyd yn
cael eu datblygu. 71-72 Ffordd y Brenin: · Mae'r
gwaith adeiladu'n datblygu'n dda. Mae'r gwaith adeiladu bellach wedi cyrraedd
lefel y llawr cyntaf. · Mae
25,000 troedfedd sgwâr wedi’i osod ar hyn o bryd, ac mae gwaith yn mynd rhagddo
i gaffael asiantiaid gosod a brandio i farchnata'r
gweddill. · Cafwyd
rhai problemau yn y gadwyn gyflenwi ond mae gan y cyngor gontract pris
sefydlog, a gwneir cyfaddawdau gyda'r datblygwr pan fo'n briodol. Ailddatblygiad y
Ganolfan Ddinesig. · Mae
cyfarfodydd yn cael eu cynnal gyda Cadw ynghylch y posibilrwydd o wneud y
Ganolfan Ddinesig yn adeilad rhestredig. · Mae Urban Splash yn gweithio ar
ddyluniadau. TAN 15 Datblygu a
Pherygl o Lifogydd: · Mae
Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymgynghoriad eto ac mae'r drafft gwreiddiol
wedi’i atal. · Bu rhai
newidiadau sylweddol yn ymagwedd Llywodraeth Cymru ac mae ymdeimlad cadarnhaol
y bydd y drafft newydd yn sicrhau cydbwysedd gwell rhwng perygl llifogydd a
datblygiad. · Bydd TAN
15 yn effeithio ar y trefi a’r dinasoedd arfordirol niferus yng Nghymru ac nid
Abertawe yn unig. · Mae
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a swyddogion cynllunio wedi gwneud nifer o
argymhellion. Skyline · Mae'r
ymgynghoriad cyhoeddus cychwynnol wedi'i gwblhau gyda nifer mawr o bobl yn
pleidleisio gydag ymateb cadarnhaol ar y cyfan. Bydd adroddiadau ymgynghori'n
cael eu cyflwyno fel rhan o'r cais cynllunio gyda nod o gyflwyno'r cais ym mis
Gorffennaf 2023. · Yn
ogystal â grant o £3 miliwn gan Lywodraeth Cymru, mae trafodaeth am gyllid yn
parhau gyda Skyline. Mae Skyline
yn cyfrannu tua £36m, fodd bynnag er mwyn bodloni eu cyfradd enillion fewnol,
efallai y bydd angen buddsoddiad pellach. · Bydd pàs
blynyddol i breswylwyr Abertawe ar gael am £40. · Mae
disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau tua Rhagfyr 2023/Ionawr 2024. · Mae'r
adran Briffyrdd yn parhau i edrych ar opsiynau ar gyfer y safle parcio a
theithio ac yn parhau i gael trafodaethau parhaus â'r stadiwm. Ailddatblygu
Pwerdy Gwaith Copr yr Hafod: · Mae
Penderyn wedi meddiannu'r safle'n rhannol. Dechreuodd y gwaith gosod unedau ym
mis Chwefror. · Disgwylir
penderfyniad ynghylch cyllid pellach i dalu costau ychwanegol cyn bo hir. Adeilad y
labordy: · Mae hyn
yn barod i'w adnewyddu. Gan fod y cais i Gronfa Codi'r Gwastad wedi'i
gadarnhau, mae trafodaethau'n cael eu cynnal i symud y datblygiad hwn yn ei
flaen. Cwm Tawe Isaf · Mae
timau'n dechrau cael eu sefydlu ar gyfer y datblygiad hwn a chanddo ddyddiad
cwblhau amcangyfrifedig o fis Mawrth 2023. · Bydd
rhagor o fanylion am y datblygiad hwn yn cael eu darparu maes o law. Theatr y Palace. · Y dyddiad
cwblhau amcangyfrifedig yw diwedd 2023. · Mae'r
rhaglen yn dal i gael ei datblygu fodd bynnag y targed ar gyfer ei chwblhau yw
Rhagfyr 23/Ionawr 24. · Mae'r
datblygiad hwn wedi cael adborth cadarnhaol gan yr Ymddiriedolaeth Theatrau. · Mae Tramshed wedi cytuno i brydlesu'r adeilad. Mewnfuddsoddi · Cynhaliodd
y cyngor ddiwrnod gyda Thîm Buddsoddi Llywodraeth Cymru er mwyn tynnu sylw at
gynnig Abertawe. Pontŵn y Gwaith Copr: · Mae
canllawiau ochr yn cael eu gosod ar hyn o bryd. Bydd y gwaith o osod goleuadau
ar hyd rhan o'r llwybr troed yn cael ei gwblhau cyn bo hir. · Mae’r
brydles ar Ystâd Dug Beaufort wedi’i chwblhau. · Mae
ymchwiliadau safle'n cael eu cynnal. · Mae
gwaith arolygu wedi cychwyn ar y rhodfa tuag at ardal Yr Hafod. · Mae tri
phontŵn arall hefyd yn cael eu datblygu. Mae Urban
Splash yn datblygu un ar ochr St Thomas o'r afon, a
bydd dau bontŵn arall ar y Stryd Fawr a ger y Stadiwm. Nid oes unrhyw
amserlen ar gyfer y rhain ar hyn o bryd a byddant yn rhan o gam datblygu
hwyrach. · Mae
gwaith atgyweirio ar y Bont Wrthbwys gerllaw yn mynd yn ei flaen. |
|
Cynllun Gwaith 2022/23 PDF 234 KB Cofnodion: Nododd y
panel y Cynllun Gwaith. Daeth y cyfarfod
i ben am 11.31am |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth PDF 228 KB |