Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams
Cyswllt: Scrutiny Officer - 07980757686
Media
Eitemau
Rhif |
Eitem |
33. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol
www.abertawe.gov.uk/DatgeluCysylltiadau
Cofnodion:
Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau
|
34. |
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni wnaed unrhyw ddatganiadau
|
35. |
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 407 KB
Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.
Cofnodion:
Ystyriodd y panel gofnodion o gyfarfodydd blaenorol a chytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2021 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.
|
36. |
Cwestiynau gan y Cyhoedd
Rhaid cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd
ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod
fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar
yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau
o fewn cyfnod 10 munud.
Cofnodion:
Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd
|
37. |
Ardal Gwella Busnes Abertawe (BID) - Trosolwg PDF 408 KB
Gwahodd i fynychu:
Russell Greenslade – Prif Weithredwr, BID Abertawe
Cofnodion:
Derbyniodd y panel gyflwyniad trosolwg, a
gyflwynwyd gan Russell Greenslade, Prif Weithredwr BID Abertawe. Roedd y
trafodaethau'n canolbwyntio ar y pwyntiau canlynol:
- Mae BID Abertawe’n un o Ranbarthau Gwella Busnes gwreiddiol y
DU, a'r cyntaf yng Nghymru. Fe'i sefydlwyd ym mis Awst 2006, ar ôl cael
mandad cadarnhaol drwy bleidlais o fusnesau/sefydliadau yn ardal
ddynodedig y BID.
- Mae BID
Abertawe yn gweithredu o fewn yr 20% uchaf o Ranbarthau Gwella Busnes yn y
DU yn seiliedig ar ei berfformiad a'i reolaeth.
- Holodd yr
aelodau sut y caiff y perfformiad hwn ei fesur. Clywodd y panel fod hwn yn
cael ei gyfrifo gan gorff annibynnol o randdeiliaid
cenedlaethol.
- Esboniwyd
bod BID Abertawe yn gwmni sector preifat nid er elw, a chanddo ei Fwrdd
Cyfarwyddwyr ei hun sy'n cynnwys cynrychiolwyr Preifat, Cyhoeddus a'r
Trydydd Sector sy'n cyfrannu'n ariannol tuag at gwmni'r BID.
- Tynnwyd
sylw'r panel at y ffaith fod yr Awdurdod Lleol yn bartner strategol
allweddol.
- Gofynnodd
yr aelodau a yw unrhyw fusnesau bellach wedi tynnu'n ôl neu wedi dewis
peidio â chyfrannu at ardoll y BID. Clywodd y panel fod pob busnes yn
cyfrannu, sy'n cyfateb i tua 813 o fewn ardal BID Abertawe.
- Holodd yr
aelodau am yr union ardal a gwmpesir gan BID Abertawe.
- Clywodd yr
aelodau fod llawer o siopau newydd sydd wedi agor yn fanwerthwyr
annibynnol, sy'n dangos cynnydd yn nifer y bobl sy'n prynu dillad ddoe a
chynnydd mewn manwerthu moesegol, gan gysylltu â'r farchnad myfyrwyr.
- Mae
masnachwyr cenedlaethol hefyd wedi agor yn ogystal â masnachwyr
annibynnol, gan helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr.
- Holodd yr
aelodau a ellid cynnwys unrhyw ardaloedd eraill y tu allan i ardal ganolog
y BID. Clywodd y panel fod y Mwmbwls, er enghraifft, wedi dechrau ystyried
sefydlu Rhanbarth Gwella Busnes ar
wahân cyn y pandemig.
- O safbwynt
y BID, clywodd y panel fod y datblygiadau yng Nghanol y Ddinas wedi creu
agwedd gadarnhaol newydd am yr ardal ac maent yn cael eu croesawu a'u
cefnogi gan gymuned fusnes Canol y Ddinas.
- Soniodd yr
aelodau am waith blaenorol BID Abertawe a natur werthfawr y gwaith a
wnaed.
- Gwnaeth y
panel sylwadau ar yr heriau a wynebir gan ganol dinasoedd ledled y wlad.
- Clywodd y
panel fod BID Llundain wedi sôn am brosiectau adfywio Abertawe, mewn
perthynas â chynnydd a chyflymder y prosiectau.
- Tynnwyd
sylw at y ffaith fod busnesau'n addasu i gynnydd yn nifer y bobl sy'n byw
yng Nghanol y Ddinas, a bod angen hyrwyddo economi'r nos.
- Holodd yr
aelodau am effaith cau manwerthwyr mawr ar
fasnach ganol y ddinas a sut y caiff y lle gwag hwn ei hyrwyddo.
- Clywodd y
panel mai Abertawe oedd y lle cyntaf yn y DU i osod mannau parcio clicio a
chasglu dynodedig yng Nghanol y Ddinas.
- Gwnaeth yr
aelodau sylwadau cadarnhaol ar y syniad o roi arddangosfeydd mewn
ffenestri siopau gwag, yn hytrach na gadael ffenestri siopau'n wag.
- Cododd y
panel ymholiadau ynghylch a oedd siop fwyd Marks
& Spencer yn y Mwmbwls wedi cael effaith ar Ganol y Ddinas. Esboniwyd
bod Marks & Spencer wedi disgwyl yr effaith
hon ac wedi ystyried hyn wrth benderfynu eu cynnyrch a'u gweithrediadau.
|
38. |
Datblygiadau Blaendraeth (Diweddariad Llafar)
Gwahodd i fynychu:
Cllr Robert Francis-Davies – Aelod y Cabinet - Buddsoddi,
Adfywio a Thwristiaeth
David Hopkins – Aelod y Cabinet - Cyflawni a Gweithrediadau
(Y Ddirprwy Arweinydd)
Geoff Bacon – Pennaeth Gwasanaethau Eiddo
Cofnodion:
Clywodd y panel drosolwg cyfyngedig
o'r sefyllfa bresennol, mewn perthynas â strategaeth bresennol Bae
Abertawe. Cytunwyd bod y panel yn ysgrifennu
at Aelod y Cabinet yn amlinellu
meysydd diddordeb penodol, ac yna gellid cyflwyno ymateb i'r panel
in camera os yw'n briodol.
|
39. |
Adroddiad Diweddaraf am y Prosiect PDF 211 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Nododd y panel yr adroddiad, er gwybodaeth.
|
40. |
Cynllun Gwaith PDF 126 KB
Cofnodion:
Nododd y panel y cynllun gwaith.
|
41. |
Llythyrau PDF 278 KB
Dogfennau ychwanegol:
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet PDF 166 KB
|
|
Ymateb Aelod y Cabinet PDF 414 KB
|