Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Remotely via MS Teams

Cyswllt: Scrutiny Officer - 07980 757686 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

17.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

www.abertawe.gov.uk/DatgeluCysylltiadau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau

 

18.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau

 

19.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 318 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel gofnodion o gyfarfodydd blaenorol a chytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2021 yn gofnod cywir o'r cyfarfod. 

20.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd

21.

Prif Ysgol Abertawe pdf eicon PDF 17 KB

Yr Athro Steve Wilks – Profost Prifysgol Abertawe

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Daeth yr Athro Keith Lloyd a'r Athro Steve Wilks i'r cyfarfod i gyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Panel am ddatblygiadau'r Brifysgol ochr yn ochr â'r Fargen Ddinesig. Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar:

 

  • Brosiect y Fargen Ddinesig, sy'n ymwneud â'r bartneriaeth rhwng Cyngor Abertawe, y Bwrdd Iechyd Lleol a Phrifysgol Abertawe
  • Galluoedd unigryw'r rhanbarth, dyheadau i dyfu clwstwr sylweddol o ddiwydiannau Technoleg Feddygol a Thechnoleg Chwaraeon.
  • Sefydliad Gwyddor Bywyd – dros y blynyddoedd mae wedi creu cyfuniad unigryw o ddiwydiant a'r GIG.
  • Buddsoddi mewn Technoleg Feddygol – dyfeisiau meddygol a thriniaethau newydd. Mae'r galw wedi cynyddu am le i ddarparu ar gyfer gwaith newydd/rhagor o waith.
  • Mae cwmnïau'n gwerthfawrogi cael eu lleoli o fewn y Brifysgol a chael cyfleoedd i gydweithio.
  • Cyfle i gynyddu presenoldeb rhanbarthol mewn chwaraeon, gan ganolbwyntio ar  Dechnoleg Chwaraeon.
  • Disgwylir iddo dyfu clwstwr o oddeutu 300 o gwmnïau, a thua 1000 o swyddi o ganlyniad.
  • Mae partneriaid masnachol yn eu lle, i'w cadarnhau, gan gynnwys Chwaraeon Cymru. 
  • Safle Treforys – creu lle i gwmnïau weithio ochr yn ochr â chlinigwyr i weithio ar ddyfeisiau meddygol, gan hyrwyddo triniaethau a thechnoleg newydd.
  • Bydd Prifysgol Abertawe hefyd yn gweithio gyda'r Bwrdd Iechyd Lleol a Chyngor Abertawe i wella mynediad ffyrdd ac isadeiledd o amgylch safle Treforys.
  • Ailddatblygu safle Sketty Lane - uchelgeisiau i ddatblygu cyfleusterau chwaraeon eraill, ar gyfer y gymuned ac sy'n cynnig cyfleoedd ar gyfer chwaraeon elît.
  • Amlinelliad o'r cynnydd hyd yma, gan gynnwys y statws cymeradwyo cyfredol.
  • Cododd yr Aelodau gwestiynau cyffredinol ynghylch yr wybodaeth a'r cynlluniau a rannwyd a diolchwyd i'r Brifysgol am y cyflwyniad diddorol a chyffrous.

 

22.

Adroddiad Diweddaraf am y Prosiect pdf eicon PDF 1 MB

Robert Francis-Davies - Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth

Phil Homes – Pennaeth Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas

Huw Mowbray - Gwasanaeth Adfywio Economaidd A Chynllunio

Cofnodion:

Rhoddodd Huw Mowbray, Rheolwr Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisegol yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Panel am y prosiectau adfywio yn Abertawe.  Roedd Phil Holmes, Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, hefyd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.  Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol:

 

Cam 1 Bae Copr

  • Mae'r paneli LED bron â bod yn barod ac mae profion yn dechau ar y ffasâd.
  • Mae gwaith ar y parcdir/gwaith tirlunio'n parhau.
  • Bydd unedau dros dro yn cael eu hychwanegu at y safle ar gyfer bwyd/diod yn ardal y parc.
  • Mae Hysbysiad Cwblhau wedi'i gyflwyno i ATG, a disgwylir cyhoeddiadau am ddigwyddiadau yn yr wythnosau i ddod.
  • Holodd yr Aelodau am y cynnydd o ran datblygu'r Gwesty. Esboniodd swyddogion fod trafodaethau cyllid ac ariannu'n parhau, ac maent yn ystyried opsiynau wrth gefn os oes angen.
  • Mae pwyntiau gwefru trydan wedi'u cynyddu yng nghyffiniau'r Arena.

 

Gogledd Abertawe Ganolog

  • Asiantaeth Eiddo Llywodraeth y DU yn ystyried cynigion.
  • Bydd safle'r Hwb yn cael ei laswelltu a chaiff (unedau masnachol) dros dro eu gosod yno wrth i'r cynllun terfynol gael ei gadarnhau.

 

Ffordd y Brenin

  • Mae'r gwaith bron â'i gwblhau.
  • Mae triniaeth croesfan i gerddwyr yn yr arfaeth.
  • Costau terfynol i'w clymu, gan gynnwys bondiau.

 

71-72 Ffordd y Brenin

  • Dewiswyd y contractwr ac mae trafodaethau contract yn parhau.
  • Ceir diddordeb da yn y safle, mae swyddogion yn gobeithio cael newyddion cadarnhaol am hyn maes o law.
  • Mae cyflenwi deunyddiau adeiladu'n agwedd barhaus ac arwyddocaol ar y rhan fwyaf o brosiectau adeiladu cyfredol.
  • Holodd yr Aelodau am yr effeithiau ar gostau'r materion hyn. Esboniodd swyddogion nad effeithir ar gontractau prisiau sefydlog.

 

Wind St

  • Mae cynnydd da'n cael ei wneud gyda'r 'fideo o'r awyr' o'r prosiect gorffenedig.
  • Bwriedir cwblhau'r gwaith erbyn canol mis Tachwedd o hyd, yn barod ar gyfer cyfnod y Nadolig.
  • Mae'r gwaith i lanhau ac ailosod cerrig yn symud yn ei flaen.
  • Croesfannau Enfys – cynnig i'r Cabinet ar gyfer 3 o'r croesfannau hyn i gerddwyr, sy'n cwmpasu croesfan i gerddwyr gyda lliwiau'r enfys.
  • Holodd yr Aelodau a oes gwelliannau wedi'u gwneud i du blaenau adeiladau a chynllun celfi stryd. Esboniodd swyddogion y gallai grantiau fod ar gael i ddeiliaid drwy gynlluniau eraill, er mwyn gwella'r tu blaenau. Cadarnhaodd swyddogion fod ymgynghoriad yn mynd rhagddo ynghylch cynllun celfi stryd, nid i rwystro busnes ond i sicrhau llif da o bobl ar hyd y stryd.
  • Holodd y Panel a fyddai presenoldeb diogelwch gweladwy ar Wind Street. Cadarnhaodd swyddogion fod y cyngor yn ystyried y posibilrwydd o gyflogi rhagor o Geidwaid Canol y Ddinas. 

 

Sgwâr y Castell

  • Mae cynigion tirlunio ar droed; bydd angen i'r Cabinet gymeradwyo'r dyluniad cyn symud ymlaen i'r cam caniatâd cynllunio.
  • Mae cynigion i newid adeiledd y ffynhonnau fel nodweddion parhaol, ond i allu defnyddio'r lle drwy droi nodweddion dŵr i ffwrdd.
  • Nid yw'r sefyllfa gostau wedi'i chytuno eto.
  • Cododd yr Aelodau ymholiadau ynghylch diddordeb archeolegol posib yn safle Sgwâr y Castell. Esboniodd swyddogion fod y rhan fwyaf o archaeoleg wedi'i symud yn ystod oes Fictoria.

 

Adfywio Abertawe

  • Prosiect graddfa hirdymor, sy'n cynnwys 7 prif safle cychwynnol.
  • Bydd datblygwr o'r sector preifat yn gweithio gyda'r cyngor i symud pethau ymlaen. Mae swyddogion yn rhagweld y caiff cynnydd sylweddol ei wneud o fewn 12 mis.

 

Y Fargen Ddinesig

  • Holodd Aelodau'r Panel ynghylch y swm o £15m ar gyfer prosiect Iechyd Prifysgol Abertawe, a'r ffaith ei fod wedi'i gynnwys yn nyraniad gwreiddiol y Fargen Ddinesig. Esboniodd swyddogion y neilltuwyd ffigur i'r prosiect Iechyd oedd yn debyg, ond ar wahân i'r un a gafodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Cytunodd y Panel i ofyn am ragor o wybodaeth am y pwynt hwn.
  • Mae'r Drindod Dewi Sant (DDS) wedi gwneud cais am newid i'r Matrics Arloesi (SA1). Bwriedir i'r ail brosiect, yr Ardal Arloesedd, symud i ganol y ddinas.
  • Holodd yr Aelodau ym mhle yng nghanol y ddinas y bydd yr ardal hon. Esboniodd swyddogion nad yw hyn wedi'i gadarnhau eto. Mae achos busnes yn cael ei ddiweddaru i'w ailgyflwyno.

 

Y Pwerdy a'r Tŷ Allan

  • Mae contractwyr yn rhannu timau i liniaru'r risg o gael COVID-19.
  • Derbyniwyd ceisiadau am fwy o amser gan y Contractwr ar y safle llai hwn.
  • Mae'r tîm yn symud ymlaen mor gyflym â phosib.

 

Safleoedd Strategol

  • Ymgynghoriad CNC: bwriedir plannu coed yn lle'r hen rai ger safle Skyline, gan ganolbwyntio ar rywogaethau lleol.
  • Mae trafodaethau cadarnhaol yn mynd rhagddynt gyda Skyline, ar ôl neilltuo'u harian i gyflwyno achos busnes i Lywodraeth Cymru.
  • Mae swyddogion wedi'u boddi gan ddiddordeb yn safle Felindre, ac yn gobeithio am newyddion am hyn dros y misoedd nesaf.
  • Perygl o Lifogydd: Cynhyrchwyd dogfen Nodyn Cyngor Technegol (TAN 15) newydd gan Lywodraeth Cymru, sy'n ystyried newid yn yr hinsawdd. Mae gwaith i'w wneud ar safleoedd y mae TAN 15 yn effeithio arnynt.

 

23.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 277 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd y rhaglen waith

24.

Llythyrau pdf eicon PDF 388 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 202 KB