14. |
Adroddiad Diweddaraf am y Prosiect PDF 1 MB
Robert Francis-Davies - Aelod y
Cabinet - Buddsoddi, Adfywio
a Thwristiaeth
Phil Homes – Pennaeth Cynllunio ac
Adfywio’r Ddinas
Huw Mowbray - Gwasanaeth Adfywio Economaidd A Chynllunio
Cofnodion:
Rhoddodd Huw Mowbray, Rheolwr Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisegol, yr
wybodaeth ddiweddaraf i'r Panel am y prosiectau adfywio yn Abertawe. Roedd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio
a Thwristiaeth, y Cynghorydd Robert Francis-Davies, a Phil Holmes, Pennaeth
Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, hefyd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.
Canolbwyntiodd y prif drafodaethau ar y canlynol:
Bae Copr – Cam 1
- Rhywfaint o fân
oedi, er ei fod yn mynd rhagddo'n dda gan
ystyried yr oedi mewn cyflenwadau deunydd a llafur.
- Mae bloc preswyl yn
cael ei osod yn llawn ac mae bron wedi'i gwblhau.
- Mae'r parcdir
arfordirol/tirlunio'n datblygu'n dda cyn ychwanegu gwyrddni. Mae gwaith yn
mynd rhagddo ar yr ychwanegiadau chwarae â dŵr.
- Y Bont – mae gwaith
terfynol yn cael ei wneud i'r llawr a'r rheiliau. Holodd yr Aelodau a
ymgynghorwyd â grwpiau anfantais weledol? Cadarnhaodd swyddogion fod
ymgynghoriadau wedi'u cynnal a byddai rheiliau tapio'n cael eu gosod i
helpu i arwain defnyddwyr.
- Y Gwesty – Mae
swyddogion yn edrych ar opsiynau i symud cyllid yn ei flaen. Holodd yr
Aelodau a fyddai hyn yn cael ei wneud drwy gwmni yn y DU. Cadarnhaodd
swyddogion mai brand enwog yw'r gweithredwr a ffefrir
presennol, a chanddo gysylltiadau rhyngwladol. Mae swyddogion yn parhau i
drafod opsiynau ar gyfer y cyllid gyda Croeso Cymru.
- Esboniodd
swyddogion y byddai datblygiad y Gwesty yn cael ei adeiladu gyda mynediad
ochr yn ochr â'r Arena, ar ôl cael ei gynllunio i ddarparu mynediad gwaith
pan fo angen.
- Cydweithwyr yn y
cyngor sy'n ymdrin ag agweddau gweithredol/cyllidebol ar gynnal safonau
gwaith pensaernïol a thirlunio.
- Amlinellodd
swyddogion fod prydlesu'n datblygu'n dda, y gwnaed cynigion ar gyfer yr
holl unedau a bod swyddogion yn agos at gwblhau cytundebau cyfreithiol ar
gyfer gweithredwr y Pafiliwn. Holodd yr Aelodau ai cwmnïau lleol fyddai'r
rhain? Cadarnhaodd swyddogion mai busnesau lleol fyddai'n rheoli pob uned
a osodir gan y cyngor, gan nad oedd y cyngor wedi targedu gweithredwyr
cenedlaethol yn bwrpasol.
- Gofynnodd yr
Aelodau am ragor o wybodaeth am y math o weithredwyr a fyddai'n prydlesu
unedau. Cadarnhaodd swyddogion mai gweithredwyr bwyd/diodydd o'r ardal
leol oeddent.
- Bydd y panel
treftadaeth yn diogelu preswylwyr ardal y Marina.
- Mae ardaloedd â
bylbiau LED dwysedd isel ac uchel, y gellir eu diffodd os oes angen.
- Holodd yr Aelodau
ynghylch cynnal a chadw'r bylbiau LED a phwy fydd yn gyfrifol am gynnal a
chadw. Cadarnhaodd swyddogion fod hyn yn y cynllun busnes ac mai'r cyngor
sy'n gyfrifol am reoli'r ffasâd allanol.
Gogledd Abertawe Ganolog:
- Mae Asiantaeth
Eiddo'r Llywodraeth yn edrych ar ganolfannau, ar ôl nodi nifer o gyrff a
all ddymuno eu meddiannu.
- Holodd yr Aelodau
ble yn union y byddai'r ganolfan yn cael ei lleoli. Eglurodd swyddogion y
byddai drws nesaf i’r maes parcio aml-lawr.
- Gofynnodd yr
Aelodau a fyddai'r swyddi'n rhai newydd neu a fyddant yn cael eu hadleoli.
Esboniodd swyddogion y gall rhai swyddi symud, a byddai rhai yn gwbl
newydd. Awgrymodd swyddogion y byddai hyn hefyd o fudd i Ganol y Ddinas
drwy ddod â màs critigol o weithwyr i ganol y ddinas.
Wind Street
- Esboniodd
swyddogion fod trafodaethau wedi'u cynnal gyda masnachwyr allweddol, er
nad oes presenoldeb da mewn cyfarfodydd yn gyffredinol, er gwaethaf
ymdrechion gorau'r cyngor i ymgysylltu â masnachwyr.
- Mae'r rhan fwyaf o'r
palmant wedi'i ail-osod/ddisodli.
- Mae angen gosod
celfi stryd, ac mae'r elfennau tirlunio yn datblygu.
- Cytunwyd bellach ar
gynllun croesawus o ran ardaloedd eistedd cyfagos, fel y cytunwyd rhwng
grwpiau ymgynghori.
- Trafododd Aelodau'r
defnydd o lwybrau gwybodaeth a chodau QR ledled yr ardal, fel ffynhonnell
wybodaeth ddefnyddiol i ymwelwyr.
Adfywio Abertawe
- Derbyniwyd ac
aseswyd ceisiadau, cyflwynir adroddiad i'r cabinet ar 15 Gorffennaf i
amlinellu'r opsiynau a ffefrir.
- Cynhelir cyfarfod
CADW â swyddogion yn fuan i drafod adeiladau rhestredig.
- Amlinellodd
swyddogion 3 cham y broses ddeialog gystadleuol, gan gynnwys gwahoddiad i
dendro, llunio rhestr fer, a gwahoddiad am dendr terfynol, ynghyd â
mecanweithiau sgorio. Amlinellodd swyddogion fod y cyngor, drwy gydol y
broses hon, yn pennu'r nodau a'r amcanion i ddarpar gynigwyr.
- Byddai unrhyw
bartner datblygu a ffefrir yn ymwneud â nifer o
wahanol safleoedd ledled Abertawe.
Ail-bwrpasu Abertawe
- I grynhoi, mae
swyddogion yn llunio adroddiad ar gyfer y cabinet ym mis Medi.
Theatr y Palace
- Mae caniatâd
cynllunio ac adeilad rhestredig ar waith.
- Cwmni ffilm yn
debygol o gofnodi adfywiad Theatr y Palace.
- Aros am
ddadansoddiad o geisiadau contractwyr.
Pwerdy ac Adeiladau Allanol
- Rhoddwyd estyniad
amser o bythefnos. Mae dyddiad cwblhau mis Hydref yn parhau ar y trywydd
iawn.
- Mae Cyfrif Banc
Prosiectau (PBA) bellach ar waith.
- Mae hawddfreintiau
nwy a dŵr yn cael eu datrys.
- Holodd yr Aelodau
am amserlen gosod safle wisgi Penderyn.
- Mae'r cyngor wedi
cyflwyno cais codi'r gwastad i Lywodraeth y DU - os bydd yn llwyddiannus,
byddai rhywfaint o arian yn cael ei ddyrannu i'r prosiect hwn i'w helpu i
symud ymlaen.
Safleoedd Strategol
- Skyline – yn cynnal trafodaethau o hyd. Mae swyddogion yn
obeithiol y bydd cynnydd yn parhau ac yn gadarnhaol ynghylch rhagolygon.
- Felindre – Soniodd
y Panel am farchnata'r safle yn y tymor hir. Esboniodd swyddogion fod
ymholiadau hapfasnachol yn cael eu gwneud yn rheolaidd, ond mae swyddogion
hefyd wedi ystyried opsiwn posib o brosiect adeiladu hapfasnachol ar gyfer
y dyfodol.
Coridor Glannau'r Tawe
- Pont Wrthbwys –
holodd yr aelodau ai grant oedd yn talu'r gost. Cadarnhaodd swyddogion y
bu cynnydd mewn costau a bod trafodaeth yn parhau.
|