Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Swyddog Craffu - E-bost: emily-jayne.davies@swansea.gov.uk 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau

 

3.

Cofnodion y Cyfarfodydd Blaenorol pdf eicon PDF 343 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(yddblaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel lythyrau a chofnodion o gyfarfodydd blaenorol a chytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2021 yn gofnod cywir o'r cyfarfod. 

 

4.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedigcyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellafRhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd.

 

5.

Cyflwyniad: The Ambassador Theatre Group (ATG)

Gwahodd i fynychu:

Stuart Beeby - Cyfarwyddwr Gweithrediadau Grŵp

Claire Dixon - Rheolwr Busnes ATG UK

Cofnodion:

Roedd Stuart Beeby, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Grŵp ATG, a Claire Dixon, Rheolwr Busnes ATG UK, yn bresennol i gyflwyno ar ran The Ambassador Theatre Group (ATG). Clywyd:

  • Bod ATG yn fusnes integredig fertigol; sy'n gweithredu lleoliadau, yn cynhyrchu sioeau ac yn gwerthu tocynnau.
  • Mae gan ATG 46 safle mewn 3 gwlad, gan groesawu dros 13 miliwn o bobl i gyd.
  • Lleoliadau eiconig fel Theatr Savoy yn Llundain, The Colonial yn Boston, a'r Smart Financial Centre yn Houston. Gwnaed gwaith adnewyddu gwerth £36m i Theatr Lyric ar Broadway yn ddiweddar ar gyfer tymor newydd Harry Potter.
  • Cynnwys – gweithio gyda rhai o'r cynhyrchwyr a'r dalent orau. Mae ein tîm cynyrchiadau ATG a'n partneriaid cynhyrchu, Sonia Friedman Productions, rhyngddynt wedi ennill 60 o wobrau Tony ac Olivier gyda'i gilydd.
  • Partneriaid proffil uchel megis Disney - yn darparu cynnyrch a sioeau, er enghraifft y Lion King.
  • Tîm Tocynnau – yn fewnol a hefyd yn cael eu gwerthu gan asiantaethau eraill. Mae ein platfform ATG yn gwerthu dros 12 miliwn o docynnau ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau. Mae gennym hefyd sefydliad arbenigol ar gyfer ymdrin â grwpiau.
  • Arena – tîm dylunio a chontractwyr i ddarparu uned gwbl weithredol i'w throsglwyddo i Claire er mwyn creu uned fusnes fasnachol.
  • Mae Buckingham yn gwneud gwaith da o ran gwneud cynnydd wrth ddilyn protocolau COVID.
  • Er gwaethaf heriau, mae'r gwaith adeiladu ar y trywydd iawn a rhagwelir y bydd ATG yn cymryd yr awenau yn Ch4 2021.
  • Canolbwyntio yn awr ar osod offer technegol theatr fel offer sain a goleuadau, isadeiledd TG etc. Gweithio gyda'n partneriaid a hefyd Vodafone.
  • Paratoi ac alinio cyflenwyr yn barod ar gyfer comisiynu systemau.
  • Yn ddiweddar, cynhaliom alwad am gyflenwyr lleol a ddaeth i ben ddiwedd mis Chwefror. Derbyniwyd dros 100 o hysbysiadau, yn uniongyrchol i'n gwefan yn bennaf. Mae'r broses dethol a holiadur bellach yn rhan o ddilyniant a diwydrwydd dyladwy.
  • Rydym yn disgwyl penodi gwasanaethau adeiladu megis cyflenwyr diogelwch a bwyd/diod drwy'r ymarfer hwn. 
  • Uchafbwyntiau ein taith ATG/Abertawe ers cael ein penodi yn 2017 – gwnaethom benodi cwmni marchnata arbenigol i weithio ar gysylltiadau cyhoeddus, digwyddiadau a chyfryngau cymdeithasol. Nid ar sail ranbarthol yn unig, ond hefyd i greu effaith genedlaethol. Mae Sundae Communications wedi cyflawni hynny, er enghraifft drwy gyhoeddi penodiad ein Rheolwr Cyffredinol newydd, Lisa Mart. 
  • Rydym yn cynnal cysylltiad agos â'r asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus a benodwyd gan y cyngor ar gyfer Bae Copr, gan weithio'n agos gyda hwy i gynllunio a gweithredu strategaeth ar gyfer lansio'r arena.
  • Rydym wedi gwneud gwaith cychwynnol i edrych ar hawliau enwi. Mae hwn yn waith parhaus, y mae'r pandemig wedi effeithio arno. Disgwyliwn fwy o ddiddordeb wrth i'r diwydiant wella.
  • Y mis diwethaf, gwnaethom alw am gyflenwyr a phartneriaid busnes lleol. Rhan nesaf y broses yw cyflwyno holiaduron a chyfarfod ag unigolion.
  • Y ffocws cyntaf fydd cyflenwyr diogelwch a bwyd/diod.
  • Roedd penodi Lisa Mart, Rheolwr Cyffredinol (RhC), yn ddigwyddiad arwyddocaol ar gyfer y prosiect a'r camau nesaf. Bydd Lisa nawr yn edrych ar berthnasoedd cychwynnol ac yn eu datblygu.
  • Recriwtio – nifer y swyddi allweddol i'w recriwtio dros y misoedd nesaf. Rydym yn awyddus i ddefnyddio cronfeydd talent lleol. Rydym yn rhagweld y bydd 20 aelod o staff amser llawn yn ogystal â 100 o staff achlysurol amcangyfrifedig, ac rydym yn anelu at recriwtio 70% ohonynt yn lleol.
  • Mae'r tîm marchnata yn gweithio ar ddelweddau cyfrifiadurol (CGI) – prosiect modelu sy'n ein galluogi i weld y lleoliad mewn modd rhithwir (VR), gan ganolbwyntio ar hyblygrwydd awditoriwm. Bydd hyn yn caniatáu i gwsmeriaid/gynhyrchwyr gamu i mewn i'r adeilad tra ei fod yn dal i gael ei adeiladu. Offeryn ymgysylltu allweddol cyn lansio.
  • Penodi asiantaeth ddylunio Kneath Associates o Abertawe i ymgymryd â brandio'r Arena (gwnaethant hefyd frandio Bae Copr y llynedd).
  • Mae sefydlu'r arena fel cyrchfan ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau yn gynllun pwysig – credwn eu bod yn offeryn allweddol i'n galluogi i ddechrau gwerthu lleoedd.
  • Y Rheolwr Cynadledda a Digwyddiadau yw un o'r swyddi allweddol nesaf i'w recriwtio.
  • Rhaglen lansio meddal – mae cynnwys a rhaglennu yn parhau i fod yn flaenllaw.
  • Rhaglen gymunedol sy'n seiliedig ar raglenni adloniant, gan ganiatáu integreiddio yn y gymuned leol. Bydd y RhC yn datblygu hyn, megis digwyddiadau rhagflas, teithiau, gweithdai, gan alluogi'r gymuned leol i ymgysylltu cyn y lansiad swyddogol.
  • Bwrw ymlaen â thwristiaeth busnes.
  • Holodd y panel am ddyheadau ynghylch digwyddiadau a chynadledda. Esboniodd ATG, fel y nodir yn y cynllun busnes, eu bod yn disgwyl cymysgedd ar draws dwy ardal. Rhwng 100-125 o berfformiadau adloniant a drefnwyd, a thua 60 o ddigwyddiadau cynadledda. Un dyddiadur i'w gynnal, gan reoli digwyddiadau a pherfformiadau.
  • Holodd yr Aelodau pa alw lleol sydd wedi'i nodi. Esboniodd ATG eu bod yn gweithio gydag asiantaethau i ddod ag archebion rhyngwladol i'r DU. Disgwylir llawer o archebion ar lefel leol i ddechrau. Gwnaed gwaith ymchwil yn ystod y cam tendro, megis sgyrsiau gyda'r Brifysgol etc., y galw am leoliad o'i faint gyda hyblygrwydd a wal symudadwy ar gyfer sesiwn lawn i 750 o bobl neu gyfanswm o 2,200 o bobl pe bai'n llawn. Dim lleoliad tebyg ar hyn o bryd i gyflawni hynny.
  • Rydym yn awyddus i'r Rheolwr Cynadledda a Digwyddiadau newydd ymchwilio i'r maes hwn a pha mor gyflym y bydd y rhan hon o'r busnes yn adfer o'r pandemig.
  • Mae gofod hyblyg yn bwynt gwerthu, ar gyfer cynadledda a sioeau masnach yn ogystal ag e-chwarae, digwyddiadau comic-con, sydd ar gynnydd.
  • Cystadleuaeth – cododd y panel ymholiadau ynghylch a fydd ATG yn ffitio i’r bwlch yn y farchnad neu'n arwain y farchnad bresennol. Cred ATG y byddant yn cydfodoli. Mae llawer o leoliadau yn y DU yn debyg, yn aml yn cerfio gwahanol ardal arbenigol ar gyfer pob lleoliad.  Rydym yn gweithio'n hapus gyda sefydliadau diwylliannol eraill. Cyfle i raglennu digwyddiadau sydd ychydig yn wahanol. Nid oes unrhyw un am drefnu digwyddiadau a fydd yn gwrthdaro. Byddwn yn cynnig rhywbeth sydd ar goll ar hyn o bryd, ac yn cydlynu rhywfaint â lleoliadau eraill yn Abertawe.
  • Canolfan Mileniwm Caerdydd (lleoliad tebyg) – mae'r agwedd gystadleuaeth hon yn ymwneud â rhaglennu o safbwynt cynhyrchwyr.
  • Cyflogaeth – mae ATG yn ystyried defnyddio llwybrau lleol i recriwtio swyddi allweddol. Ymrwymo i ddefnyddio cronfeydd talent lleol lle bo hynny'n bosib.
  • Unigryw i Abertawe – lleoliad hyblyg iawn ar garreg y drws, gwahanol gynlluniau a dyluniad seddi, yn hytrach na rhai sefydlog. Mae llawer o gyfleusterau gwahanol yn golygu rhaglennu nad yw wedi'i gyfyngu i 1-2 genre penodol. Mae cynhyrchwyr yn gyffrous am y lleoliad hwn. Bydd hyn yn helpu i gadw pobl yn lleol.
  • Llawer o ddylunio o safbwynt logisteg mewn perthynas â'r adeilad er mwyn gallu mynd i mewn/allan ohono, a'r gallu i dimau/gynorthwywyr gael mynediad i'r lleoliad yn effeithlon.

 

 

6.

Adroddiad Diweddaraf am y Prosiect pdf eicon PDF 1 MB

Gwahodd i fynychu:

Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth (yr Arweinydd)

Robert Francis-Davies - Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth

Phil Homes – Pennaeth Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas

Huw Mowbray - Gwasanaeth Adfywio Economaidd A Chynllunio

 

Cofnodion:

Rhoddodd Huw Mowbray, y Rheolwr Datblygu Eiddo, y diweddaraf i'r panel ynghylch y prosiectau adfywio yn Abertawe.  Roedd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth (Arweinydd), a'r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, a Thwristiaeth hefyd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.  Clywyd:

 

Bod elfen adeiladu Bae Copr

  •  yn mynd yn dda, yn amodol ar ychydig o oedi oherwydd y pandemig. Disgwylir cwblhau'r gwaith erbyn diwedd Awst/dechrau Medi.
  • Mae'r arena bellach yn ddwrglos, mae'r cladin wedi'i gwblhau a disgwylir i'r cladin aur gael ei osod er mwyn paratoi ar gyfer y goleuadau LED.
  • Y bont – bwriedir ei gosod y penwythnos hwn, cam mawr ymlaen. Bydd yn ychwanegiad cadarnhaol iawn i Abertawe, y mae'n elfen wych o'r cynllun.
  • Defnydd dros dro ar yr ochr ogleddol cyn cwblhau Gogledd Abertawe Ganolog.
  • Gwesty – mae'r cyngor yn parhau i fod mewn trafodaethau â thîm ariannu Llywodraeth Cymru.
  • Cladin preswyl/teilsio wedi'u cwblhau. Mae fflat arddangos a grëwyd gan Buckingham wedi cael ei ganmol gan Pobl ac mae'n rhoi arwydd clir o faint o le sydd ar gael.
  • Ymatebion cadarnhaol i farchnata unedau bach o amgylch yr arena – mae hyn yn gyfrinachol o hyd, ond mewn trafodaethau cyfreithiol gyda nifer o weithredwyr. Roedd y strategaeth brydlesu yn seiliedig ar feddianwyr lleol.
  • Mae'r Tîm Diwylliant yn edrych ar y ffordd orau o raglennu elfennau LED yr arena.
  • Holodd y panel am symiau ariannu'r Fargen Ddinesig ac a dderbyniwyd ail gyfran o gyllid. Sicrhaodd yr Arweinydd fod hyn yn llifo drwodd, ac mae'n rhagweld effaith gadarnhaol ar broffil ariannu.
  • Bydd y Prif Swyddog Cyllid yn cadarnhau symiau nas derbyniwyd yn gorfforol, sy'n ddyledus erbyn diwedd y flwyddyn.
  • Holodd yr aelodau a yw £1.3m am bob £18m wedi'i gadarnhau. Mae'n debygol o fod yn fwy arwyddocaol, wedi'i ariannu ar gyflymder sy'n adlewyrchu gwariant prosiectau. Mae Cyngor Abertawe'n parhau â gwaith a phrosiectau adeiladu; mae swyddogion yn disgwyl iddo fod yn sylweddol fwy na £1.3m.
  • Y targed o ran y strategaeth osod (unedau bach) oedd busnesau lleol.
  • Holodd yr aelodau sut y cafodd y tendr ei gyflwyno? Nid drwy Gwerthwch i Gymru gan nad yw'n addas i'r diben. Lluniodd y cyngor wefan gosod i ennyn diddordeb, ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus ac mae wedi siarad yn uniongyrchol â meddianwyr lleol. Cafwyd mwy o ddiddordeb na nifer yr unedau sydd ar gael.
  • Disgwylir deiliadaeth Pobl ym mis Medi 2021.
  • Eglurodd yr Arweinydd na fyddai'r unedau'n rhai 'dros dro' ond unedau cwbl adeiledig, wedi'u targedu at fasnachwyr lleol. Unedau mwy ar gyfer cymysgedd o fasnachwyr lleol a chenedlaethol.

 

Gogledd Abertawe Ganolog

  • Mae trafodaethau hwb y sector cyhoeddus yn parhau. Mae datblygiadau newydd yn cael eu hystyried gan weithredwyr y Llywodraeth, disgwylir cyhoeddiadau maes o law.
  • Unedau dros dro posib wrth aros i'r cynllun gael ei gyflwyno. Mewn trafodaethau â'r Tîm Diwylliant o ran digwyddiadau dros dro.
  • Y posibilrwydd o gynnal 1,000 o bobl, amrywiaeth o safleoedd ar gael a chanddynt le i nifer sylweddol o bobl. Cam 2 neu 3 posib y prosiect hwn. Mae'r potensial ar gyfer meddianwyr ychwanegol yn y sector preifat yn agwedd gadarnhaol arall.
  • Diddordeb sylweddol gan adrannau Llywodraeth y DU ac adrannau Llywodraeth Cymru.
  • Y nod yw clystyru cyflogaeth sy'n talu'n dda a swyddi tymor hir.

 

Ffordd y Brenin

  • Diffygion yn cael eu cwblhau.
  • Gosodwyd rhai sianeli draenio yn wael gan gontractwr blaenorol, ac rydym yn eu cywiro yn awr gan nad yw llif y traffig yn drwm. Mae'r gwaith diffygiol yn berthnasol i fond y contractwr blaenorol, ac rydym yn obeithiol y bydd hyn yn talu am y rhan fwyaf o'r gwaith.

 

71 a 72 Ffordd y Brenin

·         Roedd angen eglurhad ar y tendr. Mae'n cael ei ddadansoddi gan y tîm.

·         Adroddiad posib gan y Cabinet maes o law, o ran agweddau costau tendro.

·         Panel yn gofyn am ddadansoddiad ar gyfer pob ffynhonnell ariannu prosiect.

 

Wind Street

  • Ni chafwyd presenoldeb arbennig o ddau mewn cyfarfodydd rhanddeiliaid. Rhai trafodaethau unigol gyda meddianwyr presennol.
  • Agwedd lletygarwch y tu allan i adeiladau – arweiniodd trafodaeth gyda gweithredwyr at ofyniad clir iddo fod wrth ymyl yr adeilad. Cynhaliwyd trafodaethau gyda grwpiau mynediad, mae palmant cyffyrddol hefyd yn rhan o'r gwaith dylunio.
  • Mae'r heddlu wedi bod yn rhan o'r broses ymgynghori, a hefyd Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru (WECTU), sy'n hapus gyda chynigion Wind Street.
  • Mae agweddau gwrthderfysgaeth hefyd yn cael eu hystyried wrth ddylunio naill ben y stryd.
  • Holodd yr aelodau a yw gwrthderfysgaeth bellach yn ymgynghorai safonol ym mhob cynllun? Ydy – ar gyfer y arena, Ffordd y Brenin etc., gan leihau bygythiad terfysgol. Mae mewnbwn yn allweddol. Ymgysylltu â'r tîm yn gynnar er mwyn sicrhau cyfranogiad – dylunio seddau etc. i ddiogelu, ffyrdd amrywiol o liniaru risg.

 

Adfywio Abertawe

·         Sesiynau deialog – mewn trafodaethau ar gyflawni a masnach.

·         Cyfarfodydd dilynol gyda chydweithwyr eraill yn y cyngor; cynnwys y cyngor yn eang.

·         Ansawdd y cynigwyr sy'n deillio o negeseuon cysylltiadau cyhoeddus da mewn perthynas â'r arena. Rydym yn cystadlu yn erbyn llawer o ddinasoedd eraill. Mae prosiectau mawr Abertawe yn agweddau allweddol ar gyfer pam ein bod wedi derbyn ceisiadau o ansawdd uchel.

·         Mae'r arena yn gatalydd ar gyfer cynlluniau pellach a bydd yn creu buddsoddiad pellach.

 

Ail-bwrpasu Abertawe

·         Sefyllfa economaidd anodd ledled y DU.  Llawer o fethiannau manwerthu, ac mae mwy yn debygol o ddod.

·         O edrych ar ardaloedd craidd y ddinas, beth yw’r ymyriadau allweddol ar gyfer symud Canol y Ddinas yn ei flaen?

·         Angen creu hafan yn y Cwadrant.

·         Bydd uwchgynllun yn nodi prosiectau allweddol. Rydym ar y camau cynnar o hyd, penodwyd BDP yn ddylunwyr (2-3 mis cyn rhyddhau cynlluniau).

·         Ariennir yn bennaf gan Lywodraeth Cymru.

·         Grwpiau swyddogion i weithio gyda'r tîm a benodwyd i ddechrau, gan arwain at strategaeth mewn uwchgynllun diwygiedig a chynllun gweithredu newydd sy'n ceisio cyflawni amcanion.

·         Darn pwysig o waith i sicrhau bod Abertawe'n symud ymlaen ac y gallwn roi ymyriadau cywir ar waith i helpu gyda'r adferiad.

·         Bydd swyddogion yn adrodd yn fanylach pan fo hynny'n bosib.

·         Holodd y panel am gyfleoedd i aelodau gyfrannu – hoffent gymryd rhan yn y gwaith pwysig hwn.

·         Mae gweithdai yn debygol yn ystod y broses hon, er bod hyn yn gyfyngedig o ran amser ac mae angen ei gorffen erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Theatr y Palace

·         Gwneud cynnydd da ar gyfer ei chwblhau erbyn mis Mehefin 2022.

·         Cyflwynwyd cais am statws adeilad rhestredig. Cafwyd caniatâd cynllunio.

·         Mewn trafodaethau â'r darpar denant.

·         Bwriadu penodi contractwr a phrif dendr ar ddiwedd mis Chwefror.

 

Pwerdy

·         Cyfarfodydd rheolaidd gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL), y prif ariannwr.

·         Mae contractwyr wedi gofyn am estyniad amser oherwydd problemau COVID. Y cyngor wedi cymeradwyo estyniad rhannol.

·         Mae swm enfawr o archaeoleg yn y ddaear wedi bod yn broblem. Mae cymhlethdodau yma, er eu bod bellach yn hysbys, gall y tîm gynllunio ymlaen llaw yn awr.

·         Problemau mewn perthynas â chyfrifon banc prosiectau (CBP), sydd bellach yn un o ofynion y cyngor.

·         Nid oes unrhyw fanciau'n sefydlu CBP ar hyn o bryd, oherwydd y pandemig.

·         Bydd y cyngor yn gweithio gyda chontractwyr yn absenoldeb CBP i symud ymlaen.

·         Gobeithio adeiladu ar hyn gyda Skyline er mwyn creu cyrchfan hamdden fawr.

·         Holodd y panel am faterion CBP – esboniodd swyddogion fod hon yn broses eithaf newydd a gall y cyngor ddelio â hyn mewn ffordd draddodiadol er mwyn sicrhau bod is-gontractwyr yn cael eu talu'n brydlon. Parhau i fonitro.

·         Holodd yr aelodau am broblemau ynghylch diffyg cyllideb i gwblhau'r cynllun – trafodaeth barhaus gyda CDL. Caniatâd i ryddhau rhywfaint o arian wrth gefn.

·         3 adeilad rhestredig, cyfanswm o 11 ar y safle. Mae ansawdd y gwaith yn rhagorol. Mae gwaith archaeoleg wedi oedi pethau, ond mae potensial mawr i ychwanegu at y gyrchfan. Cydnabuwyd gwaith caled swyddogion.

·         Holodd y Panel am Lan yr afon Tawe – mae trafodaethau'n parhau â pherchnogion tir ac mae'r ateb ymarferol posib i greu troedffordd gantilifer yn ateb drud. Mae trafodaethau â Llywodraeth Cymru yn parhau o ran cyllid. Nid yw cynlluniau y tu allan i ganol dinasoedd craidd yn cael eu hariannu ar hyn o bryd.

·         Holodd aelodau am y diweddaraf am Bontynau – gwnaed ceisiadau am gyllid er mwyn ceisio cysylltu Canol y Ddinas â'r Hafod a'r Stadiwm y tu hwnt i'r bont wrthbwys.

 

Camau Gweithredu:

  1. Gofynnodd y panel am ddadansoddiad o wybodaeth mewn perthynas â ffynonellau ariannu ar gyfer pob prosiect.
  2. Hoffai'r panel gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau newydd ar gyfer Ail-bwrpasu Abertawe, gan gynnwys gwybodaeth am sut/pryd y gall aelodau fod yn rhan o'r broses hon.

 

7.

Cynllun Gwaith 2020-21 pdf eicon PDF 511 KB

8.

Llythyrau pdf eicon PDF 319 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd llythyrau eu derbyn a'u hystyried gan y panel.

Llythyr at Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth pdf eicon PDF 324 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Economi, Cyllid a Strategaeth pdf eicon PDF 337 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Economi, Cyllid a Strategaeth pdf eicon PDF 309 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Economi, Cyllid a Strategaeth - Atodiad pdf eicon PDF 39 KB