Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emily Davies 07980 757686  E-bost: emily-jayne.davies@swansea.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cadarnhau Cynullydd

Cofnodion:

Cytunodd y Panel y byddai'r Cynghorydd Jeff Jones yn cael ei ailbenodi'n Gynullydd.

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

3.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

4.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 316 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel lythyrau a chofnodion o gyfarfodydd blaenorol a chytunodd fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Medi 2020 yn gofnod cywir o'r cyfarfod. 

5.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd.

6.

Adroddiad Diweddaraf am y Prosiect pdf eicon PDF 208 KB

Gwahodd i fynychu:

Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth (yr Arweinydd)

Robert Francis-Davies - Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth

Phil Homes – Pennaeth Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas

Huw Mowbray - Gwasanaeth Adfywio Economaidd A Chynllunio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Huw Mowbray, y Rheolwr Datblygu Eiddo, y diweddaraf i'r panel ynghylch y prosiectau adfywio yn Abertawe.  Roedd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth (Arweinydd), a Phennaeth Cynllunio ac Adfywio Dinasoedd hefyd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. 

 

Abertawe Ganolog - Cam 1

Hysbyswyd y panel fod achosion o COVID-19 wedi'u cadarnhau ar safle'r Arena, fodd bynnag, roedd gwaith yn parhau i ddatblygu’n dda o dan yr amgylchiadau. Yn unol â chanllawiau cenedlaethol, anfonir contractwyr adref i hunanynysu am bedwar diwrnod ar ddeg.

• Mae to'r Arena bellach wedi'i gwblhau ac mae'r cladin allanol hefyd wedi'i gwblhau sy'n golygu bod yr Arena bellach yn ddwrglos.

Holodd y panel faint o gontractwyr a phrentisiaid oedd yn lleol a faint oedd yn dod o bell.

Caiff fideo drôn o'r Arena ei ddarparu, gan nad yw ymweliad safle’n ymarferol ar hyn o bryd.

Disgrifiodd swyddogion gynlluniau ar gyfer y 'Man oedi' a'r dodrefn digidol disgwyliedig a fydd yn cael eu gosod yn fuan, gan gynnwys gogls digidol i weld y datblygiadau a'r wybodaeth am hanes yr ardal.

Mynegodd y panel rai pryderon ynghylch datblygiadau Wellington

Street o ran plannu coed ac ymgynghori â Fforwm Coed Abertawe. Dywedodd swyddogion wrth y Panel y bu digon o ymgynghori â'r holl gyrff priodol o ran plannu coed.

Mae'r bloc preswyl bellach wedi'i gwblhau o ran ei uchder, ac mae cytundebau gyda Pobl hefyd wedi'u cwblhau. Bydd pethau mewnol yn cael eu gosod yn yr adeilad hwn yn nawr.

Bu'n rhaid i ATG ddiswyddo rhai gweithwyr ar draws y cwmni, fodd bynnag, maent wedi diogelu'r busnes craidd ac wedi derbyn buddsoddiadau ecwiti. Cadarnhaodd swyddogion fod y busnes craidd yn gadarn ac nad oes unrhyw bryderon am brosiect ATG yn Abertawe ar hyn o bryd.

Ar hyn o bryd, mae ATG yn bwriadu recriwtio rheolwr ar gyfer Arena Abertawe.

 

Gogledd Abertawe Ganolog

• Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt o ran darpar ddeiliaid.

Gofynnodd y Panel am ragor o wybodaeth ar ffurf diagramau er mwyn rhoi gwybod i bobl mewn ffordd well am ddatblygiad Gogledd Abertawe.

Cytunwyd y byddai cyflwyniad byr ar y delweddau hyn yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod nesaf ym mis Ionawr 2021.

 

Ffordd y Brenin

Holodd y Panel a oedd cynllun palmant yn Ffordd y Brenin yn cydymffurfio â Chanllawiau Dylunio Teithio Llesol (Llywodraeth Cymru 2014) er mwyn gwahanu beicwyr a cherddwyr yn briodol.

Esboniodd swyddogion fod ymgynghori helaeth wedi digwydd gyda grwpiau beicio a grwpiau symudedd, gan arwain at ddyluniad cytbwys a oedd yn ystyried amrywiaeth o nodweddion.

Gofynnodd y panel a oedd safleoedd bysus ar hyd Ffordd y Brenin yn cael eu cau neu eu hadleoli er mwyn osgoi tagfeydd traffig pan fyddai bws yn aros wrth safle dynodedig. Roedd gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i gywiro unrhyw ddiffygion tra bod llif y traffig ar ei isaf, ond nid oedd lleoliadau arosfannau bysus wedi newid.

• O ran Iard Picton, roedd gwaith wedi'i gwblhau i gysylltu rhan isaf Oxford Street â'r ardal hon, fodd bynnag, mae'r gwaith adeiladu'n parhau ac felly mae'r ardal hon yn aros ar gau.  Mae cyswllt rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin hefyd yn ddyhead ac mae'r prosiect hwn yn cael ei archwilio, er nad oes unrhyw gyllid pendant hyd yma.

 

71 a 72 Ffordd y Brenin

• Bydd hysbysfyrddau â graffeg newydd yn cael eu codi yr wythnos hon, yn dilyn oedi oherwydd tywydd garw.

Mynegwyd pryder ynghylch dychwelyd i swyddfeydd ac unedau masnachol yn dilyn pandemig COVID-19. Holodd y Panel beth ddylai'r ganran isaf o ddeiliadaeth fod er mwyn cyfiawnhau'r gwariant ar y datblygiad hwn. Fe’i hysbyswyd bod galw da gan fusnesau 'Technolegol' yn arbennig sy'n gwerthfawrogi swyddfeydd cydweithredol a hyblyg.

• Bydd swyddogion yn darparu rhagor o wybodaeth am gyllideb y datblygiad hwn, ac effeithiau COVID-19 ar y gyllideb honno, unwaith y bydd y ffigurau hyn ar gael.

Gofynnodd y panel am gyfradd llwyddiant y Grantiau Preswyl Parth (yng nghyd-destun Ffordd y Brenin. Fe’i hysbyswyd bod y rhaglen yn hynod lwyddiannus ac roedd ôl-groniad o brosiectau eraill yn aros am arian.  Bydd swyddogion yn darparu adroddiad pellach ar y ffigurau hyn yn y cyfarfod nesaf.

 

 Wind Street

Holodd y panel pam y torrwyd coed yn Wind Street. Esboniodd swyddogion mai ychydig iawn o goed a gafodd eu torri, yn dilyn grwpiau ymgynghori.

Mynegodd y panel bryder ynghylch y polisi torri coed cyffredinol ar draws y ddinas. Dywedodd swyddogion fod cynifer o goed aeddfed â phosibl yn cael eu gwarchod. Ar draws y Sir mae'r ffigurau'n gadarnhaol net o ran plannu coed, a'r nod bob amser yw plannu mwy o goed nag sy'n cael eu torri.

Mynegwyd pryderon ynghylch effaith COVID-19 ar Wind Street fel economi nos ac yn ystod y dydd, a chynlluniau i helpu i gefnogi adferiad busnesau yma. Dywedodd swyddogion wrth y panel fod y Cyngor wedi darparu grantiau o fwy nag £1m i fusnesau i'w galluogi i ehangu i fannau agored.

 

 

 

Marchnata Safleoedd Strategol yng Nghanol y Ddinas

Amlinellodd swyddogion yr ymateb enfawr i'r broses hon o ran y lansiad marchnata, yr oedd dros 2000 wedi cael cipolwg arni’n genedlaethol.

Soniodd swyddogion am ansawdd uchel cyflwyniadau.

Mae'r broses yn mynd rhagddi ac mae'r rhestr fer wedi'i chymeradwyo i hysbysu partïon.

 

Safleoedd Strategol a Throsolwg o'r Prosiect

 

Codwyd pryderon ynghylch prosiect Skyline, gan fod yr amserlen ar gyfer hyn wedi'i nodi fel 2026, ac a oedd y tîm gweithrediadau’n debygol o dynnu'n ôl o'r prosiect hwn. Sicrhaodd swyddogion y panel fod nifer o alwadau cynhadledd gyda Skyline yn Seland Newydd wedi'u cynnal yn ddiweddar ac felly roeddent yn obeithiol.

Mae'r tîm proffesiynol a benodwyd ar gyfer Sgwâr y Castell ar y cam cwblhau astudiaethau dichonoldeb gyda'r bwriad o gyflwyno cynllun manwl er mwyn symud ymlaen. Nid yw'r Cyngor wedi neilltuo cyfalaf i ariannu datblygiad Sgwâr y Castell eto. Mae'r panel yn awyddus i weld cynlluniau terfynol ar gyfer y prosiect hwn i sicrhau bod yr amcan yn cael ei gyflawni ar gyfer ardal wyrddach.

 

Trafnidiaeth a Phriffyrdd

Holwyd a yw cynlluniau'n cael eu gwthio ymlaen dan y cynllun metro ar gyfer Glandŵr; yn benodol, darparu ar gyfer mynediad i barc manwerthu Morfa, y Stadiwm a'r ddistyllfa sydd newydd ei datblygu. Dywedwyd wrth y panel fod gwaith yn mynd yn ei flaen o hyd ar y system metro fel syniad.

Gofynnodd y panel am yr wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau tir Coridor Arloesedd Fabian Way.

Mynegwyd pryderon ynghylch yr ymchwil a'r dystiolaeth a oedd yn cyfiawnhau rhai llwybrau beicio newydd, ac a oedd y galw'n ddigon uchel i gyfiawnhau'r costau.

Trafodwyd llwybr beicio Mayals Road y trefnwyd iddo gael ei adeiladu'n fuan a holodd a oedd hyn wedi mynd i dendr. Awgrymodd swyddogion y gellid gofyn am ragor o wybodaeth gan y Pennaeth Priffyrdd a Chludiant.

 

 

Camau Gweithredu:

Gofynnwyd am ffigurau ar gyfer nifer y contractwyr (a'r prentisiaid) a gyflogir ar safle’r Arena (lleol ar wahân i'r rheini a ddaw o bell) ar ddechrau'r contract a hefyd ar hyn o bryd.

Gofynnodd am ddiagramau/ddelweddau o Ogledd Abertawe

Ganolog ar gyfer y cyfarfod nesaf ar 12 Ionawr 2021 (y cydnabyddir bellach ei fod wedi dod i law yn dilyn y cyfarfod hwn).

Gofynnwyd am wybodaeth am nifer y coed, a rhywogaethau, sy'n cael eu dadleoli dan ddatblygiadau Wellington Street.

• 71-72 Ffordd y Brenin: gofynnwyd am wybodaeth bellach am gyllideb y datblygiad hwn, ac effeithiau COVID-19 ar y gyllideb honno

Grantiau Preswyl Parth: Bydd swyddogion yn darparu adroddiad pellach ar y ffigurau hyn yn y cyfarfod nesaf

7.

Cynllun Gwaith 2020-21 pdf eicon PDF 10 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trafododd y panel y cynllun gwaith drafft a chytunwyd y canlynol:

 

• Ychwanegu eitem ychwanegol am ddatblygiadau blaendraethau.

• Trafod 'Effaith Brexit ar Gyfleoedd Masnachol mewn Ardaloedd Gwledig' yng nghyfarfod mis Ionawr os yw'n bosib ac yn briodol.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 336 KB

Dogfennau ychwanegol:

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 335 KB

Ymateb Aelod y Cabinet (RS) pdf eicon PDF 560 KB

Dogfennau ychwanegol: