Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 326 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel lythyrau a chofnodion o gyfarfodydd blaenorol a chytunodd ar gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 27 Ionawr, 2020 a 18 Chwefror 2020 fel cofnod cywir. 

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd.

5.

Adroddiad Diweddaraf am y Prosiect pdf eicon PDF 210 KB

 

Gwahodd i fynychu:

 

Y Cyng. Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth (Arweinydd)

Phil Homes – Pennaeth Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas

Huw Mowbray - Gwasanaeth Adfywio Economaidd A Chynllunio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Huw Mowbray, y Rheolwr Datblygu Eiddo, y diweddaraf i'r panel ynghylch y prosiectau adfywio yn Abertawe.  Roedd Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth (Arweinydd), y Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas a'r Prif Swyddog Ariannol hefyd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon ac atebon nhw gwestiynau'r Panel.  

 

Abertawe Ganolog - Cam 1

  • Cafodd y Panel eglurhad bod tocynnau ATG yn gwerthu'n dda ar gyfer cyngherddau mewn lleoliadau eraill ledled y byd.
  • Mae Cairns, datblygwr y gwesty penodedig, yn ddatblygwr gwestai mawr yn y DU ac yn fuddsoddwr sy'n berchen ar 40 gwesty arwyddocaol ledled y DU.
  • Mae gwaith dur yr arena, craidd preswyl ochr y gogledd a'r maes parcio aml lawr wedi'u cwblhau.  Gofynnodd y Panel am ddelweddau.
  • Holodd y panel a ellid trefnu ymweliad i safle'r arena.  Wedi cadarnhau y gellir trefnu hyn maes o law.
  • Mae cais Cairns am arian grant i Croeso Cymru yn parhau.  Mae'r cyngor yn gobeithio cwrdd â Cairns a Llywodraeth Cymru'r wythnos nesaf i drafod.  O dan y rheoliadau presennol, ni all y cyngor adeiladu'r gwesty ei hun. 
  • Holodd y Panel nifer a math yr unedau masnachol a fydd yn yr ardal o amgylch yr arena. 
  • Ymgymerwyd â'r broses dendro lawn ar gyfer dod o hyd i ddatblygwr gwesty.  Derbyniwyd pedwar i bump o geisiadau cystadleuol.
  • Panel yn holi a ymgynghorwyd â thrigolion y marina ynghylch lleoliad datblygiad y gwesty? Mae safle gwesty hysbysedig wedi'i symud o ganlyniad i adborth gan breswylwyr y marina.
  • Cadarnhad nad oes angen cwblhau'r arena cyn i'r gwaith o adeiladu gwesty ddechrau ond mae angen iddi gyrraedd pwynt penodol, felly bydd y gwaith i adeiladu'r gwesty'n dechrau rywbryd y flwyddyn nesaf.
  • Holodd y Panel ynghylch effaith pandemig COVID-19 ar y cyflenwad. Cafwyd gwybod bod rhai problemau o ran cyflenwad concrit a gweithio gyda choncrit (oherwydd y rheoliadau cadw pellter cymdeithasol), gan achosi oedi o 4 i 6 wythnos.  Yn gyffredinol, ychydig iawn o effaith a gafwyd.
  • Holodd y Panel am berfformiad sefyllfa gyllidebol Cam 1 a dywedwyd wrthynt fod y gwariant o fewn terfynau.

 

Gogledd Abertawe Ganolog

  • Holodd y panel a yw'r adroddiad sy'n dod i'r Cabinet yn ddiweddarach yn y flwyddyn ar y Ganolfan Ddinesig yn gysylltiedig â hyn.  Cafwyd cadarnhad ei fod.  Mae'r amserlen ar gyfer symud o'r Ganolfan Ddinesig yn dibynnu ar yr amserlen ar gyfer y bloc swyddfeydd arfaethedig.
  • Mae'r bloc swyddfeydd arfaethedig yn rhan o gynllun cam dau.  Byddai'n cael ei feddiannu'n rhannol gan y cyngor ac yn rhannol gan Lywodraeth y DU. Y nod yw trosglwyddo swyddi o safon o Lundain a rhannau eraill o'r DU i Abertawe.
  • Mae opsiynau ar gyfer ariannu ar hyn o bryd – yr opsiwn a ffefrir fyddai i ddatblygwr ariannu'r prosiect, os nad yw hyn yn bosib byddai'r cyngor yn gwneud hynny. Nid yw swm y benthyca sydd ei angen yn hysbys eto ond y bwriad yw y bydd incwm yn talu am y gost fenthyca. 
  • Mynegodd nifer o adrannau'r llywodraeth ddiddordeb mewn lleoli canolfannau yn Abertawe.  Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei rhoi i'r Panel.

 

Ffordd y Brenin - Isadeiledd a Mannau Cyhoeddus

  • Isadeiledd gwyrdd yw plannu a mannau glaswelltog yn bennaf. Mae'r cyngor yn annog datblygiadau yno i gael waliau gwyrdd. Hefyd gwelliannau i fannau cyhoeddus
  • Roedd difrod i ardaloedd gwyrdd yn nyddiau cynnar y prosiect yn bennaf.  Bydd yn rhaid i'r contractwr wneud iawn am unrhyw ddifrod a wneir i fannau gwyrdd a chael gwared ar unrhyw goed marw o dan y gyfundrefn cynnal a chadw. 
  • Bydd y cyngor yn parhau i gyflwyno ceisiadau am isadeiledd gwyrdd.
  • Traffig – arwyddion cychwynnol bod y system yn gweithio'n dda ac yn dosbarthu traffig.
  • Cadarnhaodd Aelod y Cabinet dros Economi a Strategaeth nad ydym ar bwynt lle gallwn ddarparu canol y ddinas heb geir.  Bydd y cyngor yn parhau i fuddsoddi mewn strategaeth gwefru trydan a datblygu gwaith SW metro ac annog mathau eraill o drafnidiaeth.

 

Ffordd y Brenin - Strategaeth a Phentref Digidol

  • Holodd y panel am yr angen am swyddfeydd ychwanegol o ystyried faint o swyddfeydd gwag sydd yn Abertawe ar hyn o bryd a'r effaith yr oedd Coronafeirws yn ei chael o ran rhagor o weithio gartref.
  • Holodd y panel ynghylch cyfradd meddiannaeth  swyddfeydd er mwyn ei gwneud yn hyfyw i adeiladu.  Hysbyswyd bod y pandemig wedi effeithio ar nifer y tenantiaid sy'n llenwi swyddfeydd ond mae llawer o ddiddordeb.  Mae trafodaeth yn mynd rhagddi. Adroddiad terfynol i'r Cabinet ym mis Hydref/Tachwedd ar gyfer penderfynu ar fwrw ymlaen â'r gwaith adeiladu.
  • Bydd yn un o'r ychydig adeiladau yn y DU a fydd yn gwrthsefyll y pandemig
  • Ar hyn o bryd, mae'r cynllun o fewn y gyllideb ar gyfer yr hyn sy'n hysbys ar hyn o bryd.

 

Marchnata Safleoedd Strategol yng nghanol y ddinas

  • Aeth y lansiad yn dda. Llawer o ddiddordeb a fydd, gobeithio, yn arwain at geisiadau ffurfiol.
  • Asesiadau Canlyniadau Llifogydd – Cydymffurfio â pholisïau Cyfoeth Naturiol Cymru.  Mae'r Panel yn teimlo bod y meddylfryd hirdymor hwn yn galonogol.
  • Diweddaru Safonau Parcio – mae hyn yn edrych ar ddulliau parcio priodol ar gyfer canol y ddinas a sut mae'n cysylltu â thrafnidiaeth gyhoeddus er mwyn sicrhau ei fod yn addas at y diben. Bydd angen cynllun trafnidiaeth yn y dyfodol.
  • Mae saith safle yn y broses gaffael ar hyn o bryd.  Chwilio am un partner neu gonsortiwm o bartneriaid.

 

Safleoedd Strategol a Throsolwg o'r Prosiect

  • Wind Street – mae sawl llety a holodd y Panel a ymgynghorwyd â thenantiaid anabl i sicrhau bod datblygiadau'n gydnaws â'u hanghenion.  Hysbyswyd y bydd yr un broses yn cael ei chynnal ar gyfer Ffordd y Brenin gan gynnwys ymgynghori â grwpiau anabledd a Coastal Housing fel landlord
  • Gwaith Copr yr Hafod – Dylid cwblhau'r adeilad o fewn 12 mis ac mae'n debyg y bydd 18 mis cyn iddo agor.  Cadarnhad i'w ddarparu ar nifer y swyddi a gaiff eu creu.
  • Bro Tawe - Gofynnodd y Panel am ragor o wybodaeth am fesurau lliniaru a'r hyn sy'n gysylltiedig â datblygu cynllun rheoli bywyd gwyllt.  Trafodaeth uniongyrchol i'w chynnal rhwng y Cynghorydd Peter Jones ac aelod o dîm Rheolwr Datblygu'r Prosiect.
  • Felindre – Panel yn siomedig mai dim ond un busnes sy'n gweithredu o'r safle hwn o hyd o ystyried y buddsoddiad sylweddol.   Mae cwmni allanol yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i farchnata'r safle.  Mae angen adolygu'r strategaeth farchnata. Panel i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am farchnata'r safle hwn.    
  • Mae nifer o safleoedd yn bwysig fel safleoedd hanesyddol, er enghraifft Sgwâr y Castell a Gwaith Copr yr Hafod.  Hoffai'r Panel weld digon o fyrddau dehongli ar y safle ar gyfer y cynlluniau hyn.  Cytunodd y Rheolwr Datblygu Eiddo ystyried yr awgrym hwn.
  • Mae'r gyllideb yn ymddangos yn wyrdd ar gyfer pob cynllun ond maent yn y cam dichonoldeb ar hyn o bryd. Nid yw'r gwaith o'u hadeiladu yn cael ei ariannu ar hyn o bryd a bydd yn benderfyniad i'r Cabinet a'r Cyngor maes o law.

 

Camau Gweithredu:

  • Delweddau o'r arena, rhan breswyl ochr y gogledd a'r maes parcio aml lawr i'w dosbarthu i'r Panel
  • Trefnu i'r Panel ymweld â safle'r arena unwaith y bydd dyddiadau posib yn cael eu darparu ac y bydd yn ddiogel i wneud hynny.
  • Gwybodaeth am adrannau'r llywodraeth sydd â diddordeb mewn lleoli canolfannau yn Abertawe a nifer y swyddi sydd i'w trosglwyddo i Abertawe i'w darparu i'r Panel.
  • Manylion am nifer y swyddi sydd i'w creu yn y distyllfa i'w dosbarthu i'r Panel
  • Y Cynghorydd Peter Jones i gael trafodaeth uniongyrchol ag aelod o dîm y Rheolwr Datblygu Eiddo ynghylch Bro Tawe.

 

Lythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 14 Medi 2020) pdf eicon PDF 190 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 579 KB

Dogfennau ychwanegol: